Cyhoeddiadau
Sta/Medr/06/2025: Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: Awst 2023 i Orffennaf 2024
27 Feb 2025
Nodyn
Mae’r datganiad hwn wedi’i ddiweddaru i gynnwys ystadegau awdurdodau lleol ar gyfer dysgu yn y gymuned. Roedd y rhain yn cael eu hepgor yn y gorffennol oherwydd problemau’n gysylltiedig ag ansawdd data.
Roedd un awdurdod lleol wedi bod yn cyflwyno data dysgu i Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) na ddylid bod wedi’u cynnwys. Mae’r awdurdod lleol wedi mynd ati’n fanwl i ganfod y data cywir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 ac rydym wedi dileu’r data anghywir o’n hystadegau. Datgelodd yr ymchwiliad fod y problemau ansawdd data hyn hefyd yn bodoli mewn blynyddoedd blaenorol, ond nid yw’r blynyddoedd hynny wedi cael eu cywiro.
Gweler yr wybodaeth am Ansawdd a methodoleg am fanylion.
Mae’n debygol y bydd ystadegau Awdurdodau Lleol ar gyfer Dysgu yn y Gymuned ar gyfer yr holl flynyddoedd cyn 2023/24 wedi’u gorgyfrif. O ganlyniad i hynny, ni ellir cymharu ffigurau o 2023/24 sy’n cynnwys data Awdurdodau Lleol ar gyfer Dysgu yn y Gymuned â blynyddoedd blaenorol.
Bydd y diwygiad yn effeithio ar ffigurau “pob dysgwr” sy’n cynnwys dysgwyr ar draws addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned. Cysylltwch â ni os oes angen dadansoddiadau arnoch o’r ystadegau blaenorol ar gyfer yr holl ddysgwyr nad ydynt yn cynnwys dysgu oedolion yn y gymuned.
Prif bwyntiau
- Roedd 166,385 o ddysgwyr mewn addysg bellach, dysgu cymunedol awdurdodau lleol, prentisiaethau neu ddarpariaeth dysgu arall seiliedig ar waith yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24 (diwygiwyd).
- Mae niferoedd dysgu rhan-amser yn gwella, ar ôl dirywiad hir.
- Bu gostyngiad o 5% yn nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â’r flwyddyn gynt.
- Mae prentisiaethau Lefel 3 ar gynnydd, a phrentisiaethau sylfaen yn gostwng, o gymharu â’r flwyddyn gynt.
- Mae mwy o ddysgwyr yn astudio o leiaf yn rhannol yn Gymraeg.
- Bu cynnydd mewn gweithgareddau Paratoi am Fywyd a Gwaith.
- Bu cynnydd yng nghanran y cyrsiau dysgu seiliedig ar waith a ddilynwyd gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig heblaw Gwyn.
- Mae dysgwyr a gafodd brofiad o amddifadedd yn ystod yr ysgol uwchradd yn llai tebygol o ddilyn cymwysterau Safon Uwch.
Dysgwyr yn ôl math o ddysgu a darparydd (diwygiwyd)

Ffigur 1: Awst 2023 i Orffennaf 2024, Dysgwyr yn ôl math o ddysgu a darparydd
- Disgrifiad: Roedd 130,745 o ddysgwyr mewn colegau. Roedd yna 47,855 o brentisiaid, wedi’u rhannu rhwng colegau a darparwyr hyfforddiant eraill. Roedd 13,035 o ddysgwyr mewn dysgu cymunedol awdurdodau lleol.
- [Nodyn 1]: Bydd rhai dysgwyr wedi astudio gyda sawl math o ddarparydd.
- Data yn Nhabl 1.1 ar y daenlen atodol.
Mae addysg bellach yn cynnwys dysgwyr sy’n astudio Safon Uwch a chymwysterau cyffredinol eraill, yn ogystal â dysgwyr sy’n astudio cymwysterau galwedigaethol (er enghraifft cymwysterau BTEC).
Mae ‘dysgu arall seiliedig ar waith’ yn cynnwys cymwysterau pontio i bobl sy’n gweithio gyda phlant mewn lleoliadau chwarae neu ofal plant.
Sta/Medr/06/2025: Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: Awst 2023 i Orffennaf 2024
Ystadegau Medr
Cyfeirnod ystadegau: Sta/Medr/06/2025
Dyddiad: 27 Chwefror 2025; diweddarwyd ar 03 Hydref 2025
Dynodiad: Ystadegau swyddogol
E-bost: [email protected]
Crynodeb: Ystadegau ar nifer y dysgwyr, y rhaglenni a’r gweithgareddau a gyflawnir mewn colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a darpariaeth dysgu cymunedol awdurdodau lleol.
Sta/Medr/06/2025 Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol Awst i Orffennaf 2024 v2Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio