Cyhoeddiadau
Sta/Medr/05/2026: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2024 – Gorffennaf 2025
10 Mar 2026
Prif bwyntiau
Trosolwg
Mae deilliannau ar gyfer addysg uwch yr un fath fwy neu lai â ffigyrau 2023/24, tra bo deilliannau galwedigaethol wedi cynyddu
Ffigur 1.1: Crynodeb o fesurau cyflawniad yn ôl blwyddyn academaidd, rhwng mis Awst 2023 a mis Gorffennaf 2025
Disgrifiad: Fe gwblhaodd 76% o ddysgwyr Safon Uwch eu rhaglen ddwy flynedd ym mlwyddyn academaidd 2024/25. Fe gwblhaodd 90% o ddysgwyr galwedigaethol eu rhaglen. Fe wnaeth 70% o ddysgwyr Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch gwblhau’r cymhwyster.
[Nodyn 1] Cymhwyster dwy flynedd yw Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch a gyflwynwyd ym mis Medi 2023 ac a ddyfarnwyd am y tro cyntaf yn haf 2025. Dim ond ar gyfer 2024/25 y mae deilliannau ar gael.
Addysg gyffredinol (Safon Uwch)
- Mae’r graddau a enillwyd yn dal i fod yn uwch na lefelau cyn y pandemig, ond bu lleihad yng nghyfran y dysgwyr a enillodd o leiaf dair A o’i gymharu â 2023/24.
- Bu lleihad bychan yn y gyfran a gwblhaodd Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a chynnydd bach yng nghyfran y dysgwyr a aeth ymlaen i’w hail flwyddyn Safon uwch yn 2024/25.
- Roedd gan ddysgwyr benywaidd ddeilliannau gwell na dysgwyr gwrywaidd mewn rhaglenni addysg gyffredinol, heblaw am ddysgwyr a enillodd dair A*.
- Aeth 52% o’r dysgwyr benywaidd a wnaeth UG ymlaen i ennill o leiaf tair C mewn Safon Uwch, o’i gymharu â 40% o ddysgwyr gwrywaidd.
- Aeth 48% o ddysgwyr UG 16 oed ymlaen i ennill o leiaf tair C mewn Safon Uwch, o’i gymharu â 24% o ddysgwyr hŷn.
- Roedd dysgwyr o gefndiroedd amddifadus yn llai tebygol o gwblhau eu Safon Uwch ac yn llai tebygol o gael graddau uchel os oeddent yn gwneud.
- Roedd dysgwyr o Grwpiau Ethnig Eraill yn fwy tebygol o ennill o leiaf dri chymhwyster Safon Uwch yn 2024/25. Grwpiau Ethnig Lluosog, Cymysg oedd yr unig grŵp ethnig lle gwelwyd cynnydd yn y gyfran a enillodd o leiaf dri chymhwyster Safon Uwch o’i gymharu â 2023/24.
Addysg alwedigaethol
- Fe wellodd deilliannau galwedigaethol ar bob lefel rhaglen yn 2024/25, ac eithrio ar gyfer Lefel Mynediad sydd wedi gostwng.
- Mae’r deilliannau galwedigaethol ar Lefelau 1 i 3 bellach yr un fath â’r ffigyrau cyn y pandemig neu’n uwch na hwy.
- Mae cyfraddau llwyddo ar gyfer cyrsiau a wnaed fel rhan o raglenni Cyfrif Dysgu Personol yn amrywio yn ôl maes sector pwnc, o 97% mewn Manwerthu a Menter Fasnachol i 47% mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.
- Bu cynnydd bach mewn dysgwyr na wnaethant gwblhau eu rhaglen oherwydd eu bod ‘Wedi mynd i gyflogaeth’ ac oherwydd ‘Rhesymau ariannol’ yn 2024/25.
- Roedd gan ddysgwyr galwedigaethol a oedd yn gysylltiedig â phrofiadau o amddifadedd ddeilliannau is na’r rhai nad oeddent yn gysylltiedig â’r profiadau hynny, ond roedd y berthynas yn llai cryf nag mewn addysg gyffredinol.
Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
- Cyflawnodd dysgwyr a astudiodd raglenni addysg gyffredinol ddeilliannau uwch ym Magloriaeth Sgiliau Cymru Uwch na dysgwyr a astudiodd raglenni galwedigaethol.
Sta/Medr/05/2026: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2024 – Gorffennaf 2025
Ystadegau swyddogol
Cyfeirnod yr ystadegau: Sta/Medr/05/2026
Dyddiad: 10 Mawrth 2026
Crynodeb: Deilliannau ar gyfer addysg gyffredinol, addysg alwedigaethol a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch mewn lleoliadau chweched dosbarth a cholegau.
Thema: Addysg uwch, chweched dosbarth
Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR), Casgliad data ôl-16, Cronfa Ddata Arholiadau Cymru (WED)
Sta/Medr/05/2026 Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: Cyflawniad, Awst 2024 – Gorffennaf 2025Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio