This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Blog

Prifysgolion Cymru yn cyflawni Siarteri Cydraddoldeb Hiliol: Prifysgolion yn chwarae eu rhan mewn Cymru wrth-hiliol

Eleni dyfarnwyd Gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hiliol AU Ymlaen i brifysgolion yng Nghymru. Mae’r cyflawniad hwn, a anogwyd yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn dangos ymrwymiad ein sector addysg uwch i ddod yn brifysgolion gwrth-hiliol. Roedd cyflawni’r Siarter yn gydnabyddiaeth bwysig o’r gwaith y mae prifysgolion wedi’i wneud hyd yma, ac mae’n creu’r sylfaen ar gyfer y camau nesaf. Er mwyn llwyddo i ennill y Siarter, roedd yn rhaid i brifysgolion sicrhau ymagwedd sefydliad cyfan wedi’i llywio gan dystiolaeth, data a lleisiau staff a myfyrwyr â phrofiad bywyd. Drwy ddeall profiadau staff a myfyrwyr, mae prifysgolion wedi gallu adeiladu’n well ar eu gwaith presennol i wneud prifysgolion yn fannau diogel a chynhwysol i ddysgu, gweithio a byw ynddynt.

Cyflawnodd yr wyth prifysgol y siarter yn yr amser cyflymaf a welwyd hyd yma, gyda chefnogaeth ariannol gan Medr. Roedd y cyllid yn galluogi prifysgolion i wneud cynnydd cyflym tuag at ymdrin â gwrth-hiliaeth, yn unol â disgwyliadau gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru. Mae’r camau yn canolbwyntio’n glir ar rwystrau i recriwtio, arweinyddiaeth, dyrchafiad a chyfraddau cadw. Mae’r conglfeini hyn yn rhan bwysig o gyflawni er budd cenedlaethau o fyfyrwyr y dyfodol ac i greu Cymru sy’n fwy cyfartal.

A beth sydd wedi newid?

Mae’r siarter yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad prifysgolion i fynd i’r afael â hiliaeth. Nid yw siarteri yn nod ynddynt eu hunain. Yn hytrach, maent yn cadarnhau bwriadau sydd wedi’u cefnogi gan gynlluniau gweithredu y mae’n rhaid eu cyflawni yn rhan o’r garreg filltir adolygu nesaf.

Drwy ddefnyddio safbwynt gwrth-hiliol, fel y cynghorir drwy’r Siarter, caiff systemau llywodraethu a rheoli eu herio i fodloni disgwyliadau, i nodi a chraffu ar wahaniaethau, i goladu data ac asesu anghenion cymorth staff a myfyrwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig. Mae’r ymagwedd prifysgol gyfan hon yn ail gadarnhau bod gan bawb ran i’w chwarae er mwyn sicrhau Cymru gyfartal.

Beth nesaf?

Mae Medr wedi ymrwymo i gefnogi’r sector addysg drydyddol ar ei daith tuag at wrth-hiliaeth. Rydym yn croesawu ymrwymiad parhaus darparwyr y sector trydyddol i fynd i’r afael â gwrth-hiliaeth a’u cyfraniad at Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Mae Medr, sy’n goruchwylio addysg drydyddol yn ymgynghori ar ei amodau rheoleiddio newydd, gan gynnwys yr agweddau ynddynt sy’n berthnasol i gyfle cyfartal, lles staff a dysgwyr a llais y dysgwr. Byddwn yn parhau i sicrhau bod y sector addysg drydyddol yn chwarae ei ran yn llawn er mwyn bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio