Newyddion
Prifysgol Bangor yw’r drydedd o Gymru i gael ei chydnabod am arferion gorau ym maes cwmnïau deillio
16 Dec 2025
Mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â rhestr fawreddog o brifysgolion yn y DU sydd wedi cael eu cydnabod am fabwysiadu polisïau sy’n seiliedig ar yr arferion gorau ym maes cwmnïau deillio, yn dilyn argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad Annibynnol o Gwmnïau Deillio Prifysgolion yn 2023.
Mae’r rhestr hon bellach yn cynnwys tair prifysgol yng Nghymru, gan fod Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe eisoes wedi cael eu cydnabod ers mis Tachwedd 2024.
Egin gwmnïau a gaiff eu sefydlu ar sail eiddo deallusol a grëwyd drwy waith ymchwil prifysgol yw cwmnïau deillio. Maent yn rhan allweddol o’r dirwedd ymchwil ac arloesi ledled y byd, gan drawsnewid darganfyddiadau academaidd yn fentrau masnachol sy’n ysgogi twf economaidd, datblygiadau technolegol, ac effaith gymdeithasol.
Mae’r gydnabyddiaeth i Brifysgol Bangor, a gymeradwywyd gan Medr, yn dangos yr arferion gorau o ran mabwysiadu arferion a chanllawiau sy’n addas ar gyfer arloesi ac y gall prifysgolion, buddsoddwyr a sylfaenwyr i gyd eu defnyddio.
Mae cwmnïau deillio’n cyflawni rôl bwysig i Gymru o ran ysgogi partneriaethau newydd a sicrhau twf economaidd. Mae gan brifysgolion yng Nghymru restr hir o lwyddiannau ym maes cwmnïau deillio, gan gynnwys buddsoddiad diweddar yn un o gwmnïau deillio Prifysgol Caerdydd, sef Draig Therapeutics, a ddenodd fuddsoddiad gwerth dros £100 miliwn er mwyn datblygu therapïau newydd ar gyfer anhwylderau niwroseiciatrig.
Wrth siarad am y gydnabyddiaeth, dywedodd Prif Weithredwr Medr, James Owen:
“Yn fuan ar ôl i Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe gael eu hychwanegu at y rhestr y llynedd, mae hyn yn newyddion gwych i’n rhwydwaith ymchwil ac arloesi toreithiog. Mae cwmnïau deillio yn ffordd bwysig o fesur llwyddiant wrth ystyried masnacheiddio ac effaith economaidd ac mae bob amser yn braf gweld rhagoriaeth yn ein prifysgolion yn cael ei chydnabod fel hyn. Rydyn ni wrth ein bodd dros Brifysgol Bangor a’r diwylliant o arloesi sy’n cael ei feithrin yno.
“Mae llwyddiant yn magu llwyddiant ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gyllido a chefnogi gwaith ymchwil ac arloesi yn ein prifysgolion a’r effeithiau cadarnhaol sy’n deillio o hynny.”
Mae’r rhestr, sydd i’w gweld yn Spin-outs review implementation: best practice adoption list, wedi cael ei llunio gan Adran yr Economi Gogledd Iwerddon, Medr, Research England a Chyngor Cyllido’r Alban, yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd gan sefydliadau.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio