Newyddion
Medr yn lansio ymgynghoriad ar raglen brentisiaethau
23 Sep 2025
Mae Medr yn gwahodd darparwyr, dysgwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar raglen brentisiaethau newydd i Gymru.
Caiff yr ymgynghoriad, a fydd yn llywio dyfodol prentisiaethau o fis Awst 2027 ymlaen, ei gynnal o 15 Medi 2025 tan 31 Hydref 2025.
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr: “Mae hwn yn gyfle unigryw i helpu i lywio system brentisiaethau sy’n hyblyg, yn ymatebol, ac yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi wrth iddynt ddatblygu.
“Uchelgais Medr yw sicrhau bod darpariaeth prentisiaethau’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn helpu pob unigolyn i ddysgu’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd eu hangen ar gyfer byd gwaith sy’n newid.
“Rydyn ni am weld rhaglen brentisiaethau sy’n sicrhau rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltu i bawb. Rydyn ni’n annog pawb sydd â diddordeb mewn prentisiaethau i ymateb i’r ymgynghoriad a dod i un o’r digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal.”
I gael gwybod mwy am sut i lywio dyfodol prentisiaethau yng Nghymru:
Rhaglen brentisiaethau yng Nghymru: ymgynghoriad Fideo: Medr yn lansio ymgynghoriad ar raglen brentisiaethauRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio