Newyddion
Medr yn darparu bron i £5 miliwn ar gyfer 12 o brosiectau cydweithredol ledled Cymru
30 Jan 2026
Bydd 12 o brosiectau ledled Cymru yn cael budd o werth £4.75 miliwn o gyllid gan Medr ar gyfer archwilio ffyrdd newydd o weithio ar draws sefydliadau addysg drydyddol a ffiniau daearyddol, gan arwain at sector mwy cydlynol a chydweithredol.
Cyhoeddwyd y Gronfa Datblygu Strategol ym mis Hydref gan Medr, sy’n cyllido ac yn rheoleiddio’r sector addysg drydyddol yng Nghymru, er mwyn annog mwy o gydweithio a chefnogi prosiectau sy’n cyfrannu at o leiaf un o nodau strategol Medr. Gwahoddwyd ceisiadau gan brifysgolion, colegau addysg bellach, awdurdodau lleol neu ddarparwyr prentisiaethau a gyllidir yn uniongyrchol gan Medr ac a allai gydweithio ag eraill yn ehangach fel partneriaid arweiniol.
Cafwyd cryn dipyn o ddiddordeb o bob cwr o Gymru ac, yn dilyn gwerthusiad cadarn, y prosiectau sydd wedi llwyddo i gael cyllid yw:
| Arweinydd | Partneriaid | Prosiect |
| Coleg Cambria | Prifysgol Wrecsam | Partneriaeth Sgiliau Gogledd-ddwyrain Cymru Hyb Sgiliau Uwch – prosiect i gynnal cyrsiau byr er mwyn mynd i’r afael â phrinder sgiliau rhanbarthol ym meysydd technolegau digidol, sgiliau gwyrdd, technolegau sy’n datblygu, gweithgynhyrchu uwch a’r sector cyhoeddus. |
| Grŵp Colegau NPTC | Pedwar coleg; darparwyr dysgu seiliedig ar waith; partneriaid mewn diwydiant | Partneriaeth y Porthladd Rhydd Celtaidd – prosiect rhanbarthol i drawsnewid y cwricwlwm mewn perthynas ag ynni glân. |
| Cyngor Caerdydd | Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Catholig Dewi Sant a Chyngor Bro Morgannwg | Datgloi Potensial Ôl-16 – prosiect i ddatblygu cynnig addysg ôl-16 unedig drwy gyflwyno cydweithredol gan nifer o bartneriaid yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. |
| Prifysgol Metropolitan Caerdydd | Coleg Penybont ac ALS Training | Llwybrau Addysg Drydyddol Hyblyg ar gyfer Uwchsgilio ac Ailsgilio Dysgwyr yng Nghymru – prosiect i dreialu microgymwysterau ar gyfer y diwydiant technoleg ariannol a’r diwydiannau creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. |
| Prifysgol De Cymru | Coleg Penybont, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Gwent, Y Coleg Merthyr Tudful a Chynghrair Sgrin Cymru | Mynd i’r Afael â Bylchau o ran Sgiliau a Phrinder Llafur mewn Ardaloedd Cyflogaeth Allweddol – dull cydlynol integredig o ymgysylltu â darpar ddysgwyr mewn ardaloedd o angen economaidd. |
| Prifysgol Wrecsam | Prifysgol Bangor, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai | Llwybrau Llwyddiant – prosiect i wella cyfraddau cyfranogiad a chynnydd dysgwyr mewn addysg bellach ac addysg uwch drwy hyrwyddo gyrfaoedd a chyfleoedd addysgol i ddysgwyr. |
| Coleg Catholig Dewi Sant | Archesgobaeth Caerdydd-Mynyw a Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig | Y Coleg Catholig Cenedlaethol – prosiect i ffurfioli strwythur y Coleg Cenedlaethol fel rhwydwaith cydweithredol o ddarparwyr addysg ôl-16 Gatholig, dan arweiniad Coleg Dewi Sant, ac ehangu mynediad at sefydliadau nad ydynt yn Gatholig a sefydliadau gwledig, yn enwedig y rhai â dewis neu leoedd cyfyngedig o ran cymwysterau Safon Uwch. |
| Coleg Gŵyr Abertawe | Coleg Sir Benfro, Coleg Gwent, Stable a Microsoft | Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Sgiliau Digidol – prosiect i hyfforddi staff addysgu i gyflwyno cymwysterau technoleg ddigidol a gydnabyddir gan ddiwydiant a datblygu hyb cydweithio digidol, a gynhelir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Sgiliau Digidol, er mwyn bodloni’r gofynion o fewn swyddi a hwylusir gan dechnoleg, a hwyluso partneriaethau cryfach â chyflogwyr mewn diwydiannau ledled Cymru. |
| Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Y Brifysgol Agored yng Nghymru; Y Sefydliad Dysgu a Gwaith; Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Cymdeithas Dai Trivallis; Addysg Oedolion Cymru; ALS Training Ltd; Prifysgol De Cymru; TUC Cymru | Llwybrau – gan ddefnyddio model gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar gyd-ddylunio llwybr ehangu cyfranogiad y bydd y dysgwr yn greiddiol iddo, ac yn profi model asesu ac atgyfeirio. |
| Coleg Gwent | Y Brifysgol Agored yng Nghymru | Gain4Growth Cymru: Grymuso Dysgwyr, Gwella Deilliannau – bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar brosiect llwyddiannus gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, gan dreialu rhaglen gydweithredol ar gyfer Cymru gyfan i wella deilliannau, cymorth academaidd a gwaith datblygu sgiliau ar gyfer myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar raglenni gradd a gyflwynir mewn amgylcheddau addysg uwch mewn colegau. |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | Nifer o ysgolion yng Nghymru | Cyfleoedd+ – prosiect i wella arweinyddiaeth strategol a dewis a phrofiad i ddysgwyr ym maes addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg ledled ardaloedd cynghorau bwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr. |
| Mae cais 12 wedi’i gymeradwyo ond yn ddibynnol ar wiriadau pellach. | Manylion i ddilyn |
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“A ninnau’n un o’r cyrff addysg drydyddol cyntaf yn y byd, mae’n newyddion gwych ein bod wedi llwyddo i gefnogi amrywiaeth o brosiectau cydweithredol arloesol er budd dysgwyr ledled Cymru.
“Gwnaeth amrywiaeth, uchelgais ac ansawdd y cynigion a gawsom gryn argraff arnom, ac edrychwn ymlaen at werthuso effaith y prosiectau llwyddiannus.
“Mae’r prosiectau hefyd yn dangos yr awydd am fwy o gydweithio, gan helpu i ddatgloi potensial sector sy’n fwy na chyfanswm ei rannau.”
Ychwanegodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:
“Sefydlwyd Medr yn 2024 gyda mandad clir i gyflawni ar gyfer dysgwyr a gwneud y gorau o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil rheoleiddio a chyllido’r sector ôl-16 cyfan. Mae helpu darparwyr addysg drydyddol i gydweithio’n fwy effeithiol yn amcan allweddol i Medr ei gyflawni.
Cronfa Datblygu Strategol Ôl-16 – ceisiadau llwyddiannus“Mae’r prosiectau hyn yn dangos beth yn union y gall y dull hwnnw ei gyflawni: prifysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn cydweithio â’i gilydd i greu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgwyr ym mhob cwr o Gymru. Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r partneriaethau hyn.”
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio