Cyhoeddiadau
Medr/2026/04: Pynciau astudio – y galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a’u dosbarthiad ar draws addysg uwch yng Nghymru
06 Feb 2026
Cyflwyniad
1. Fe wnaed y darn hwn o waith mewn ymateb i gais gan Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ar ddechrau 2025, i Medr ddarparu trosolwg o’r galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a’u dosbarthiad ar draws addysg uwch (AU) yng Nghymru. Mae’r dadansoddiad yn crynhoi darpariaeth pynciau AU yng Nghymru ac yn cynnwys dadansoddiad o’r cofrestriadau cyfredol yn ôl grŵp pynciau yn narparwyr addysg uwch (DAUwyr) Cymru, y duedd mewn cofrestriadau, cymhariaeth â’r DU, dadansoddiad rhanbarthol, dadansoddiad o astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, dadansoddiad o’r llif Safon Uwch i AU, ceisiadau UCAS a derbyniadau i AU yng Nghymru a chanlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021.
Crynodeb gweithredol
2. Ar y cyfan, mae dosbarthiad pynciau’r cofrestriadau AU yng Nghymru ar gyfer 2023/24 yn debyg i’r dosbarthiad pynciau ar gyfer y DU gyfan, a’r grwpiau pynciau lefel uwch â’r nifer uchaf o gofrestriadau yw Busnes a Rheoli, Pynciau perthynol i feddygaeth a’r Gwyddorau cymdeithasol ar gyfer Cymru a’r DU.
3. Ceir dosbarthiadau pynciau gwahanol ar gyfer dulliau a lefelau astudio gwahanol. Mae pynciau israddedig amser llawn poblogaidd yn cynnwys Busnes a rheoli, Y Gyfraith, Cyfrifiadura, Peirianneg, Nyrsio a bydwreigiaeth a Biowyddorau, tra bo Astudiaethau cyfunol a chyffredinol, Addysg ac addysgu, Iechyd a gofal cymdeithasol, Seicoleg a Pheirianneg yn boblogaidd ar gyfer astudio israddedig rhan-amser. Ar gyfer astudio ôl-radd amser llawn, Busnes a rheoli yw’r grŵp pynciau mwyaf poblogaidd o bell ffordd. Ar gyfer astudio ôl-radd rhan-amser, Busnes a rheoli, Addysg ac addysgu, Nyrsio a bydwreigiaeth a Pherthynol i iechyd sydd â’r mwyaf o gofrestriadau.
4. Ceir cyfrannau uwch o lawer o fyfyrwyr sy’n hanu o dramor ar gyfer darpariaeth ôl-radd, nag ar gyfer darpariaeth israddedig. Ar gyfer grwpiau pynciau â thros 1,000 o gofrestriadau yn 2023/24, gwelir cyfrannau arbennig o fawr ar gyfer darpariaeth ôl-radd amser llawn mewn Busnes a rheoli (94%), Cyfrifiadura (84%), Peirianneg (79%) a Pherthynol i iechyd (72%).
5. Mae gan rai grwpiau pynciau gyfrannau uchel o gofrestriadau o weddill y DU, megis Ieithoedd ac astudiaethau ardal, Economeg, Daearyddiaeth, astudiaethau’r ddaear ac amgylcheddol a Gwleidyddiaeth, Ffiseg a seryddiaeth a’r Biowyddorau, mae y rhain oll a dros 70% o fyfyrwyr o weddill y DU ar gyfer darpariaeth gradd israddedig amser llawn.
6. Y Brifysgol Agored yng Nghymru sy’n dominyddu darpariaeth israddedig ran-amser gan roi cyfrif am dros hanner o’r holl ddarpariaeth israddedig ran-amser yn 2023/24. Roedd darpariaeth israddedig nad yw’n radd yn fwyaf tebygol o gael ei hastudio’n rhan-amser, ac roedd rhai pynciau’n llawer mwy tebygol o gael eu hastudio’n rhan-amser, megis Astudiaethau cyfunol a chyffredinol.
7. Ar y cyfan, fe gynyddodd nifer y cofrestriadau yn DAUwyr Cymru 14% dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Mae hyn yn is na ffigwr y DU, sef 25%. Fodd bynnag, mae cofrestriadau mewn rhai meysydd pwnc wedi gostwng yn sylweddol dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Mae meysydd sy’n achos pryder arbennig ar gyfer darpariaeth gradd israddedig amser llawn yn cynnwys Ieithoedd ac astudiaethau ardal, Addysg ac addysgu, Dylunio, a’r celfyddydau creadigol a pherfformio, Gwyddorau ffisegol a Gwyddorau mathemategol, oll a gostyniadau o 20% neu fwy yn y cofrestriadau. Mewn cyferbyniad, mae cofrestriadau ar gyfer gradd israddedig amser llawn mewn Meddygaeth a deintyddiaeth, Pynciau perthynol i feddygaeth, Cyfrifiadura, Pensaernïaeth, adeiladu a chynllunio, Gwyddorau cymdeithasol a’r Gyfraith wedi cynyddu o dros 20% neu fwy o gofrestriadau.
8. Ar gyfer darpariaeth ôl-radd a addysgir amser llawn, gwelwyd cynnydd cyfrannol mawr mewn cofrestriadau mewn Pynciau perthynol i feddygaeth, Gwyddorau ffisegol, Gwyddorau mathemategol a Chyfrifiadura. Gwelwyd gostyngiadau mewn Ieithoedd ac astudiaethau ardal ac Astudiaethau hanesyddol, athronyddol a chrefyddol.
9. O’i gymharu â’r DU gyfan, mae gan Gymru gyfrannau is o gofrestriadau gan fyfyrwyr tramor, a chyfrannau uwch nag y gellid eu disgwyl o ddarpariaeth ran-amser ac israddedig nad yw’n radd.
10. Mae cyfran Cymru o gofrestriadau ymchwil ôl-radd amser llawn yn DAUwyr y DU wedi gostwng ar y cyfan rhwng 2019/20 a 2023/24, er bod cofrestriadau ymchwil ôl-radd ran-amser wedi cynyddu dros yr un cyfnod. Ar gyfer darpariaeth ymchwil ôl-radd amser llawn, mae’r gyfran o gofrestriadau yn DAUwyr y DU wedi bod islaw 4% am y pedair blynedd ddiwethaf, pan fo gan gofrestriadau ar y cyfan yn DAUwyr Cymru gyfran o ychydig dros 5%. Caiff y gyfran isel o gofrestriadau ymchwil ôl-radd amser llawn a niferoedd bychain y myfyrwyr ymchwil ôl-radd mewn rhai grwpiau pynciau eu hadlewyrchu i ryw raddau yng nghanlyniadau REF 2021 ar gyfer Cymru.
11. Mae gan Gymru gyfran uwch na’r disgwyl o gofrestriadau yn DAUwyr y DU mewn rhai pynciau, gan gynnwys Gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff, Astudiaethau cyfunol a chyffredinol, Iechyd a gofal cymdeithasol a Biowyddorau.
12. Ar gyfer y rhan fwyaf o bynciau, roedd nifer y myfyrwyr sy’n hanu o Gymru a oedd yn aros yng Nghymru i astudio yn fwy na niferoedd y rhai a oedd yn astudio yng ngweddill y DU. Mae’r eithriadau’n cynnwys Meddygaeth a deintyddiaeth, Gwyddorau milfeddygol, Cerddoriaeth a Chelfyddydau perfformio eraill.
13. Ceir ardaloedd lle mae’r galw am ddarpariaeth israddedig amser llawn gan fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru’n fwy na’r cyflenwad yn DAUwyr Cymru o leoedd ar gyfer myfyrwyr cartref. Mae’r rhain yn cynnwys y Gwyddorau milfeddygol, Celfyddydau creadigol a dylunio, Cerddoriaeth, Celfyddydau perfformio eraill, Gwyddorau cyffredinol, cymhwysol a fforensig, a Deunyddiau a thechnoleg.
14. Mae darpariaeth yng Nghymru wedi’i chrynhoi yn ne’r wlad, ac fe geir rhai pynciau sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd yn unig. Mae poblogaeth Cymru hefyd yn fwy yn y de, ond nid yw’r ddarpariaeth wedi’i dosbarthu’n gyfartal yn ôl y boblogaeth leol. Mae rhai pynciau, megis Peirianneg a Deunyddiau a thechnoleg yn Ne Orllewin Cymru, wedi’u crynhoi mewn lleoliadau penodol. Mae rhai pynciau bregus wedi’u lleoli mewn darparwyr bychain megis Ieithoedd ac astudiaethau ardal ym Mhrifysgol Aberystwyth.
15. Mae’r rhan fwyaf o ddarpariaeth wedi’i lleoli yn y naw prifysgol yng Nghymru, a Phrifysgol Caerdydd yw’r DAU mwyaf. Mae symiau llai o ddarpariaeth ar gael mewn colegau addysg bellach a darparwyr amgen. Mae’r ddarpariaeth hon ar gael naill ai’n uniongyrchol gan y coleg neu ddarparwr amgen, gyda phrifysgol neu sefydliad arall yn dyfarnu’r cymhwyster, neu mae’n cael ei chynnig yn y darparwr trwy drefniant breiniol gyda phrifysgol. Mae’r trefniadau hyn yn darparu cyfleoedd lleol ar gyfer rhai pynciau mewn ardaloedd nad oes ganddynt brifysgol ac maent yn cynnig cyfleoedd dilyniant i’r rhai sy’n astudio ar lefel 3 mewn colegau.
16. Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi’i chrynhoi mewn rhaglenni astudio israddedig amser llawn, heb ryw lawer o ddarpariaeth ar lefel ôl-radd. Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi’i chrynhoi mewn pynciau penodol hefyd megis Astudiaethau Celtaidd (fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl o ystyried bod hyn yn cynnwys y Gymraeg a llenyddiaeth Cymru), Addysg ac addysgu, Amaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig a Dylunio, a’r celfyddydau creadigol a pherfformio. Fodd bynnag, mae’r niferoedd yn isel ac mae cyfrannau’r siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n dewis peth darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn fach mewn rhai meysydd pwnc.
17. Mae’r llif i AU o blith y rhai sy’n cwblhau Safon Uwch yn adlewyrchu rhai o’r gostyngiadau a welwyd mewn cofrestriadau ar lefel israddedig. Mae gwaith yn cael ei wneud yn Medr i archwilio’r lleihad mewn dilyniant rhwng cymwysterau Uwch Gyfrannol ac A2 a allai ddarparu peth mewnwelediad i hyn.
18. Ar gyfer newydd-ddyfodiaid israddedig sy’n gwneud cais trwy UCAS, mae myfyrwyr sy’n hanu o Gymru’n fwy tebygol o gael eu derbyn i DAUwyr Cymru ar gyfer y rhan fwyaf o bynciau, sy’n debygol o fod i’w briodoli i’r ffaith bod myfyrwyr sy’n hanu o Gymru’n ffafrio DAUwyr Cymru yn eu ceisiadau. Fodd bynnag, mae nifer y derbyniadau mewn rhai pynciau’n golygu bod rhai pynciau’n cael eu dominyddu gan newydd-ddyfodiaid o weddill y DU. Mae hyn yn cynnwys Economeg, Ieithoedd ac astudiaethau ardal, Biowyddorau, Cemeg a Daearyddiaeth, astudiaethau’r ddaear ac amgylcheddol lle gwelir dros 70% wedi eu derbyn o weddill y DU.
19. Roedd niferoedd y staff cyfwerth ag amser llawn (CagALl) a gyflwynwyd i ymarfer REF 2021 ar gyfer Cymru’n rhoi cyfrif am 3.9% o gyfanswm y DU, sy’n is nag a ddisgwylid o bosibl, ac mewn rhai meysydd pwnc roedd niferoedd y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflwynwyd yn fach iawn.
Medr/2026/04: Pynciau astudio – y galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a’u dosbarthiad ar draws addysg uwch yng Nghymru
Dyddiad: 06 Chwefror 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/04
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol
Crynodeb: Mae’r adroddiad yn darparu trosolwg o’r galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a’u dosbarthiad ar draws addysg uwch (AU) yng Nghymru.
Medr/2026/04 Pynciau astudio – y galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a'u dosbarthiad ar draws addysg uwch yng NghymruRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio