Cyhoeddiadau
Medr/2026/01: Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr – Prentisiaid Anabl a Chymorth Dysgu Ychwanegol ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26
07 Jan 2026
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth am gyllid y cynllun cyfunol EIS/ALS prentisiaethau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, gan gynnwys dyrannu cyfanswm cyllid o £600,000 i ddeiliaid contract a gomisiynwyd, ac mae’n nodi’r meini prawf y bydd angen iddynt hwy a phrentisiaid eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid. Anfonwyd llythyrau cyllid ar wahân hefyd at ddeiliaid contract a gomisiynwyd sy’n cael cyllid.
2. Darperir cyllid EIS ac ALS prentisiaethau Medr i gynorthwyo cyflogwyr i ddarparu cyfleoedd i brentisiaid anabl ac i ddarparwyr hyfforddiant gefnogi anghenion dysgu ychwanegol prentisiaid.
3. Anogir darparwyr i hysbysebu’r cyllid sydd ar gael i gynorthwyo cyflogwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill i gynyddu i’r eithaf nifer y prentisiaid anabl sy’n gallu cael budd ac yna’n gallu cofrestru ar raglen brentisiaeth.
Dull cyllido
4. Mae Medr wedi adnabod blaenoriaethau strategol ar gyfer cyllid ym mlwyddyn ariannol 2025-26 sy’n ystyried data cydraddoldeb gan ddangos ble y gellid gwella deilliannau ac i wneud y defnydd gorau o’r gyllideb sydd ar gael.
5. Blaenoriaethau cyllid EIS/ALS prentisiaethau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 yw:
- Prentisiaid anabl;
- Prentisiaid ag anghenion dysgu ychwanegol.
6. Mae’r trefniadau cyllid fel a ganlyn:
- Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar werthoedd canrannol y prif gontract prentisiaethau ar gyfer 2025/2026.
- Dangosir cymhwystra, prosesau cyllido a gwerthoedd cyllido yn Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru.
Cyllid ym mlwyddyn ariannol 2025-26
7. Mae’r gyllideb EIS/ALS prentisiaethau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, rhwng 1 Tachwedd 2025 a 31 Mawrth 2026, yn £600,000; gellir defnyddio dyraniadau’n hyblyg ar draws EIS ac ALS hyd at yr uchafswm cyllid a ddyrennir i bob darparwr ar gyfer y cynllun cyfunol.
8. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael rhwng 1 Tachwedd 2025 a 31 Mawrth 2026 yw £600,000. Fe’i dyrennir fel a ganlyn:
| Darparwr | Cyfanswm cyllid (£) |
|---|---|
| Associated Community Training Ltd | 109,860 |
| Cambrian Training | 33,660 |
| Coleg Caerdydd a’r Fro | 56,040 |
| Coleg Cambria | 52,980 |
| Educ8 Training Group Ltd | 51,600 |
| Coleg Gŵyr Abertawe | 40,560 |
| Grŵp Llandrillo Menai | 53,100 |
| ITEC Training Solutions | 31,800 |
| Coleg Castell-nedd Port Talbot | 76,440 |
| Coleg Sir Benfro | 93,960 |
| Cyfanswm | 600,000 |
Gofynion a thalu’r cyllid
9. Caiff manylion llawn sut y bydd taliadau’n cael eu gwneud a gofynion y cynllun cyfunol EIS/ALS eu dangos yn Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru.
Monitro’r cyllid
10. Bydd hawliadau deiliaid contract a gomisiynwyd yn erbyn y cyllid a ddyrannwyd yn cael eu monitro’n chwarterol ac os yw’n ofynnol gall cyllid gael ei ailddyrannu i ystyried hawliadau gwirioneddol a rhagamcanol deiliaid contract unigol a gomisiynwyd.
Amodau’r cyllid
11. Mae Manyleb Fframwaith Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau Cymru’n rhan o’r Cytundeb ar gyfer darparu a chyllido Prentisiaethau ac yn nodi gofynion penodol y mae’n rhaid ymlynu wrthynt wrth gyflawni’r rhaglen brentisiaethau.
Hyrwyddo prentisiaethau
12. Rydym yn disgwyl i ddeiliaid contract a gomisiynwyd hyrwyddo’r cyfleoedd hyn i ystod o ddysgwyr, yn enwedig y rhai ag anabledd a/neu anghenion dysgu ychwanegol.
13. Ceir disgwyliad y bydd deiliaid contract a gomisiynwyd ar gyfer prentisiaethau’n cyfranogi yn y canlynol:
- Gweithgareddau marchnata Medr ac ymgyrchoedd cenedlaethol;
- Cystadlaethau sgiliau fel World Skills. Mae’r cystadlaethau hyn yn darparu profiadau a heriau ychwanegol i brentisiaid a fydd o gymorth iddynt yn eu gyrfaoedd. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd i ddangos cryfder sector addysg drydyddol Cymru trwy gystadlaethau ledled y DU a chystadlaethau rhyngwladol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o WorldSkills UK.
Asesu effaith ein polisïau
14. Rydym yn cynnal ymarfer sgrinio sy’n asesu effeithiau i helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb. Fe wnaethom hefyd ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg a darpariaeth prentisiaethau Cymraeg yng Nghymru ac effeithiau posibl tuag at y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys ein Hamcanion Llesiant ni. Cysylltwch âg [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am asesiadau effaith. Darparwyr sy’n gyfrifol am adolygu eu hasesiadau effaith hwy eu hunain mewn perthynas â phrentisiaethau.
15. Ar gyfer yr holl ymholiadau cysylltwch â Kelly Hillard neu Ceri Sullivan ([email protected]).
Medr/2026/01: Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr – Prentisiaid Anabl a Chymorth Dysgu Ychwanegol ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26
Dyddiad: 07 Ionawr 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/01
At: Ddeiliaid Contract a Gomisiynwyd ar gyfer Prentisiaethau
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi dyraniadau cyllid Medr i ddeiliaid contract a gomisiynwyd (CCH) ar gyfer prentisiaethau dan y cynllun a gyfunwyd yn ddiweddar sy’n cynnwys y Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr – Prentisiaid Anabl (EIS) a Chymorth Dysgu Ychwanegol (ALS) ar gyfer prentisiaethau. Mae’r dyraniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26. Mae’r ddogfen yn darparu canllawiau ynghylch y gofynion ar gyfer y cyllid a sut i’w weinyddu.
Medr/2026/01 Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr – Prentisiaid Anabl a Chymorth Dysgu Ychwanegol ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru: dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio