Cyhoeddiadau
Medr/2025/33: Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2025/26
27 Nov 2025
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn gofyn i sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch (a elwir ar y cyd yn ddarparwyr addysg uwch) a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer ddarpariaeth addysg uwch ddychwelyd data cyfanredol ar fyfyrwyr er mwyn galluogi Medr i wneud y canlynol:
a) Cael syniad cynnar o niferoedd y myfyrwyr yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26;
b) Monitro prosesau recriwtio myfyrwyr israddedig a myfyrwyr Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) amser llawn a gwmpesir gan y cynlluniau ffioedd a mynediad;
c) Ariannu a monitro darpariaeth gradd-brentisiaethau o dan gynllun gradd-brentisiaethau Medr.
Noder nad yw’r cais hwn yn cynnwys y pedwar tanysgrifiwr i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) sy’n cynnig darpariaeth cyrsiau addysg uwch sydd wedi’i dynodi’n benodol.
Prif newidiadau ar gyfer 2025/26
2. Mae’r prif newidiadau a wnaed ers Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2024 fel a ganlyn:
a) Dim ond un dyddiad dychwelyd arolwg sydd eleni, a dylai’r holl dablau, gan gynnwys Tabl 3, gael eu dychwelyd erbyn 28 Ionawr 2026;
b) Mae’r terfynau ffioedd uchaf ar gyfer cyrsiau israddedig a TAR amser llawn wedi cael eu diweddaru. Gweler Atodiad F;
c) Mae Atodiad K wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r gwaith mapio a ddefnyddir wrth echdynnu data i wneud gwaith monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2024/25;
d) Mae Tabl 3, sy’n casglu gwybodaeth am radd-brentisiaethau, bellach yn gofyn am amcangyfrifon o’r holl ddechreuwyr newydd ym mlwyddyn academaidd 2025/26, ac nid dim ond y rhai rhwng 1 Awst ac 1 Tachwedd. Gweler Atodiad I.
Data’r arolwg
3. Gofynnir i ddarparwyr addysg uwch a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch ddychwelyd niferoedd myfyrwyr addysg uwch yn Nhablau 1 a 2. Myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar gyrsiau addysg uwch rhagnodedig sy’n arwain at gymwysterau addysg uwch cydnabyddedig yw’r rhain (gweler Atodiad B). Gofynnir i ddarparwyr addysg uwch sy’n cynnig gradd-brentisiaethau a ariennir o dan gynllun Medr (cynllun CCAUC gynt) ddychwelyd niferoedd myfyrwyr a gwerthoedd credydau sy’n gysylltiedig â’r prentisiaethau hynny yn Nhabl 3.
Cynnwys
4. Mae’r cylchlythyr hwn yn rhoi:
a) Canllawiau a diffiniadau ar gyfer yr amrywiol gategorïau a ddefnyddir i ddosbarthu myfyrwyr;
b) Rheolau ar gyfer cyfrif cofrestriadau;
c) Rheolau ar gyfer cyfrif gwerthoedd credydau sy’n gysylltiedig â gradd-brentisiaethau;
d) Manylion y meini prawf y byddwn yn eu defnyddio i echdynnu data o gofnod myfyrwyr HESA ar gyfer gwaith monitro diwedd blwyddyn ac i gael gwybodaeth a gasglwyd mewn arolygon Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch blaenorol;
e) Copïau o dablau’r arolwg a gaiff eu dosbarthu mewn llyfrau gwaith Excel er mwyn i ddarparwyr eu cwblhau a’u dychwelyd.
5. Mae cynnwys yr atodiadau fel a ganlyn:
| Atodiad | Rhif tudalen | |
|---|---|---|
| Atodiad A | Canllaw cryno ar arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2025/26 | 5 |
| Atodiad B | Diffiniad o gymhwyster addysg uwch cydnabyddedig | 14 |
| Atodiad C | Dysgu o bell, campysau, is-sefydliadau, trefniadau breinio a threfniadau cydweithredol eraill | 15 |
| Atodiad D | Diffiniad o statws preswyl a statws cyllid | 21 |
| Atodiad E | Diffiniad o gategorïau pynciau academaidd | 25 |
| Atodiad F | Diffiniad o ddull astudio | 27 |
| Atodiad G | Diffiniad o lefel astudio | 30 |
| Atodiad H | Rheolau ar gyfer cyfrif cofrestriadau | 31 |
| Atodiad I | Canllawiau ar ddychwelyd data gradd-brentisiaethau | 39 |
| Atodiad J | Disgrifiadau o’r tablau a’r colofnau | 45 |
| Atodiad K | Mapiadau HESA/Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch a meini prawf echdynnu data monitro diwedd blwyddyn | 48 |
| Atodiad L | Nodiadau ar y llyfrau gwaith | 58 |
| Atodiad M | Gwiriadau dilysu | 59 |
| Atodiad N | Defnydd o ddata gan Medr | 61 |
| Atodiad O | Grid cyfeirio statws cyllid | 62 |
| Atodiad P | Copïau enghreifftiol o dablau i bob darparwr a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer darpariaeth addysg uwch eu cwblhau | 64 |
Dychwelyd data
6. Mae’n ofynnol i ddarparwyr roi gwybod i Medr am gofrestriadau myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfan.
7. Dylai llyfrau gwaith wedi’u cwblhau ar gyfer yr arolwg cyfan, gan gynnwys y tabl sy’n ymwneud â gradd-brentisiaethau, gael eu dychwelyd drwy e-bost i Andrea Thomas yn [email protected] erbyn 28 Ionawr 2026 fan bellaf.
8. Nid yw’n ofynnol i ddarparwyr nad ydynt yn cynnig darpariaeth gradd-brentisiaethau a ariennir o dan gynllun Medr ddychwelyd Tabl 3.
9. Anogir darparwyr i ddechrau paratoi’r data y byddant yn eu dychwelyd ymhell cyn y dyddiad dychwelyd fel mai dim ond addasiadau terfynol y bydd angen eu gwneud cyn i’r data wedi’u cwblhau gael eu hanfon.
10. Mae’n bwysig dychwelyd holl ddata’r arolwg yn brydlon fel y bydd modd cael syniad cynnar o niferoedd myfyrwyr ar gyfer 2025/26 ac er mwyn sicrhau y bydd gan Medr ddigon o amser i gwblhau’r broses wirio cyn anfon y gwiriadau er mwyn eu cymeradwyo.
11. Gofynnwn i ddarparwyr roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl, a chyn y dyddiad dychwelyd, sef 28 Ionawr 2026, os byddant yn rhagweld y byddant yn cael anhawster dychwelyd y wybodaeth ofynnol neu y byddant yn cael anhawster bodloni’r amserlen a roddir ym mharagraff 12. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y llofnodwr awdurdodedig, neu’r llofnodwr awdurdodedig amgen, ar gael i gymeradwyo’r gwiriadau erbyn y dyddiadau gofynnol. Ceidw Medr yr hawl i fewnbynnu ei amcangyfrifon ei hun o gofrestriadau myfyrwyr a gwerthoedd credydau ar gyfer darparwyr nad ydynt yn dychwelyd yr arolwg neu’n cymeradwyo’r data’n brydlon, neu os ystyrir bod y data o ansawdd annigonol.
12. Pan gaiff data eu dychwelyd, byddwn yn cynnal proses dilysu a gwirio hygrededd. Pan fydd unrhyw ymholiadau dilynol wedi’u datrys, caiff y data eu hanfon at lofnodwyr awdurdodedig darparwyr i’w gwirio. Bydd y broses yn dilyn yr amserlen a amlinellir isod.
Holl dablau’r arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch:
| 28 Ionawr 2026 | Dyddiad dychwelyd |
| 6 Chwefror 2026 | Anfon gwiriadau at ddarparwyr |
| 16 Chwefror 2026 | Dyddiad dychwelyd gwiriadau |
13. Os caiff dyddiad dychwelyd ei golli heb gytundeb ymlaen llaw, byddwn yn cysylltu â’r pwynt cyswllt ar gyfer data Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch a/neu’r llofnodwr awdurdodedig i ofyn am esboniad. Os caiff dyddiad dychwelyd ei golli o fwy na thri diwrnod gwaith heb gytundeb ymlaen llaw, byddwn yn e-bostio pennaeth y darparwr i’w atgoffa bod Medr yn cadw’r hawl i fewnbynnu ei amcangyfrifon ei hun o gofrestriadau myfyrwyr ar gyfer darparwyr nad ydynt yn dychwelyd yr arolwg yn brydlon a nodi bod Medr yn bwriadu gwneud hynny os na chymerir camau ar unwaith. Os na ddychwelir y data neu’r adroddiad gwirio o fewn dau ddiwrnod gwaith i’r neges e-bost, bydd Prif Weithredwr Medr yn anfon llythyr at bennaeth y darparwr yn datgan y ffigurau a gaiff eu defnyddio yn lle data’r darparwr ei hun.
14. Dylid dychwelyd y gwiriadau wedi’u llofnodi drwy e-bost at Andrea Thomas yn [email protected]. Cyn dychwelyd y gwiriadau wedi’u llofnodi i Medr, rhaid i ddarparwyr fod wedi cynnal gwiriadau digonol er mwyn bod yn fodlon bod y data a ddychwelir yn gywir. Rhaid i anomaleddau data sy’n destun ymholiadau gan Medr fod wedi’u cywiro neu, os ydynt yn ddilys, rhaid cyflwyno esboniad cysylltiedig. Dylai unrhyw newidiadau a wneir i’r gwiriadau cyn eu llofnodi a’u dychwelyd, nad ydynt eisoes wedi’u gwneud i’r fformat Excel, hefyd gael eu cyflwyno mewn fformat Excel.
15. Dylai pob dyddiad dychwelyd dilynol gael ei fodloni hyd yn oed os bu oedi cyn i’r dyddiad dychwelyd blaenorol gael ei fodloni.
16. Caiff data a echdynnir ac a gymeradwyir fel rhan o broses Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) 2024/25 pan fydd darparwyr yn cyflwyno data i HESA ei defnyddio mewn dyraniadau cyllid. Dylai darparwyr nodi y gall fod angen i’r echdyniadau data yn IRIS gael eu hategu gan echdyniadau data ychwanegol pan fydd y dulliau ar gyfer cyllid addysgu ar gyfer 2026/27 wedi’u pennu’n derfynol. Os felly, byddwn yn cysylltu â darparwyr ynglŷn â’r broses gymeradwyo ar gyfer unrhyw ddata ychwanegol sy’n ofynnol ac na fyddant eisoes wedi’u cymeradwyo fel rhan o broses echdynnu data IRIS. Ceir rhagor o fanylion yn y cyhoeddiad ynghylch monitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2024/25 a’r cyhoeddiad ynghylch gofynion data ar gyfer 2025/26.
17. Atgoffir darparwyr y gall data a ddychwelir i Medr yn yr arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch, gan gynnwys dulliau a ddefnyddir i gyfrifo unrhyw amcangyfrifon a gaiff eu cynnwys yn y ffigurau a ddychwelir, fod yn destun archwiliad allanol a gynhelir gan Medr neu gan gontractwyr ar ran Medr. Mae’r systemau a’r prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu data Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch o fewn cwmpas archwiliadau mewnol darparwyr.
Datblygiadau yn y dyfodol
18. Mae adran Ystadegau a Data gwefan Medr yn cynnwys gwybodaeth am gasglu data. Os bydd gan ddarparwyr unrhyw awgrymiadau ynglŷn ag unrhyw beth ychwanegol yr hoffent ei weld yn cael ei gynnwys, dylent gysylltu â Medr yn [email protected].
Rhagor o wybodaeth
19. Dylid anfon unrhyw ymholiadau at Andrea Thomas yn [email protected].
Medr/2025/33: Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2025/26
Dyddiad: 27 Tachwedd 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/33
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach a ariennir gan Medr ar gyfer darpariaeth addysg uwch
Ymateb erbyn: 28 Ionawr 2026
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn gofyn i ddarparwyr addysg uwch ddychwelyd data cyfanredol ar fyfyrwyr er mwyn galluogi Medr i gael syniad cynnar o niferoedd myfyrwyr; monitro prosesau recriwtio myfyrwyr a gwmpesir gan y cynlluniau ffioedd a mynediad; a chyllido a monitro darpariaeth gradd-brentisiaethau.
Medr/2025/33 Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch 2025/26Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio