Cyhoeddiadau
Medr/2025/32: Cronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) 2025-26
27 Nov 2025
Rhagair
1. Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) wedi cadarnhau y bydd yn darparu £1,182,247 i ariannu Dyfarniadau Cefnogi Sefydliadau ar ffurf Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) o dan y Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.
Defnydd o’r cyllid
2. Ni cheir ond defnyddio’r cyllid grant a ddarperir o dan yr ISPF i ariannu gweithgareddau sy’n cydymffurfio â’r ODA, fel y diffinnir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), gyda’r prif ddiben o dargedu llesiant a datblygiad economaidd gwledydd sydd ar restr derbynwyr Pwyllgor Cymorth Datblygu’r OECD. Yn unol â pholisi DSIT, ni cheir defnyddio’r cyllid i gyflawni gweithgareddau sydd oddi mewn i Tsieina, mewn partneriaeth â Tsieina, neu a fyddai o fudd i Tsieina mewn unrhyw ffordd arall.
3. Rhaid i weithgareddau a ariennir drwy Grant Cefnogi Sefydliadau (ODA) yr ISPF i Sefydliadau hefyd gadw at y ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu cyllid ODA y DU:
- Deddf Datblygu Rhyngwladol 2002 fel y’i diwygiwyd
- Deddf Datblygu Rhyngwladol (Cydraddoldeb Rhywiol) 2014. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gymorth “fod yn debygol o gyfrannu at leihau tlodi mewn modd sy’n debygol o gyfrannu at leihau anghydraddoldeb rhwng personau o wahanol rywedd”.
4. Mae’r cyllid yn darparu cyllid sefydliadol hyblyg y gellir ei ddefnyddio’n strategol i gefnogi Gweithgareddau ODA cymwys. Gall hyn gynnwys ategu gweithgarwch yr ISPF a ariennir drwy bartneriaid cyflawni eraill, neu drwy roi cefnogaeth uniongyrchol i ymchwil sy’n trafod y problemau o flaen gwledydd sy’n datblygu nad yw’n erbyn cyllid drwy grantiau’r ISPF na phartneriaid cyflawni eraill.
5. Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg yn disgwyl y bydd dyraniadau grant cymorth sefydliadol y Gronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol ar gyfer 2025-26 yn cael eu gwario erbyn 31 Mawrth 2026. Gellir ôl-ddyddio cyllid i 1 Ebrill 2025.
6. Gall sefydliadau ddefnyddio’r cyllid hwn i gefnogi gweithgarwch sy’n digwydd ar ôl 31 Mawrth 2026, ar yr amod bod hynny yn unol â rheolau a gweithdrefnau cyfrifyddu’r sefydliad ac y bydd y gwariant yn cael ei gofnodi ym mlwyddyn ariannol 2025-26. Dylai gweithgareddau fod wedi’u cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn academaidd a ddaw i ben ar 31 Gorffennaf 2026.
7. Ceidw Medr yr hawl i adfer unrhyw ran o ddyraniad SAU nad yw’n cael ei gwario ar weithgareddau Cymorth Datblygu Swyddogol a bydd unrhyw gyllid a gaiff ei adhawlio yn y ffordd yma’n cael ei ddychwelyd at yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg.
Dyraniadau
8. Dyrennir cyllid ar sail cyllid ODA a dderbyniwyd gan SAUau yn y gorffennol, gan gynnwys y Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang (GCRF) a Chronfa Newton, yn ogystal â grantiau cystadleuol Cyngor Ymchwil UKRI na chawsant eu dynodi’n ODA yn wreiddiol ond y cafwyd yn ddiweddarach eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer ODA. Darparwyd data gan UKRI yn 2023/24.
9. Gan y byddai dyraniad pro rata uniongyrchol yn arwain at ddyraniadau bach mewn rhai achosion, mae Medr wedi penderfynu na fydd ond yn darparu cyllid i’r sefydliadau hynny a fyddai’n derbyn dyraniad blynyddol isafswm o £50k, gweler Atodiad A. Mae hyn yn gyson â’r dull a fabwysiadwyd ar gyfer dyraniadau blaenorol y GCRF (gweler cylchlythyr W18/02HE CCAUC) ac yn rhoi cyfrif am y gorbenion gweinyddol posibl er mwyn rheoli gweithgareddau ODA.
10. Bydd dyraniadau sefydliadol ar gyfer 2025/26 yn cael eu talu ym mis Tachwedd 2025.
Trefniadau monitro
11. Bydd yn ofynnol i SAUau sy’n derbyn cyllid gadw cofnodion priodol yn manylu ar y gweithgareddau a gefnogwyd, gan gynnwys gwybodaeth berthnasol sy’n gysylltiedig â chydymffurfiaeth ag ODA.
12. Mae Medr wedi darparu templed monitro (Atodiad B) sy’n cynnwys:
- Teitl y prosiect
- Crynodeb byr o weithgareddau unigol
- Rhestr derbynwyr Pwyllgor Cymorth Datblygu’r OECD. Y gwledydd dan sylw, gan gynnwys unrhyw bartneriaid ar restr y Pwyllgor Cymorth Datblygu a heb fod ar y rhestr honno.
- Cadarnhad bod y gweithgaredd yn cydymffurfio ag ODA fel y’i diffinnir gan yr OECD
- Dyraniad cyllidebol ar gyfer pob gweithgaredd
- Adroddiad cynnydd byr
- Deilliannau’r prosiect
13. Mae’n ofynnol i SAUau gyflwyno eu ffurflenni monitro i Hayley Moss, [email protected] erbyn 31 Mawrth 2026.
14. Gall DSIT dderbyn ymholiadau ad hoc gan y Swyddfa Dramor, Y Gymanwlad a Datblygu (FCDO), y Fenter Tryloywder Cymorth Rhyngwladol (IATI) neu’r OECD. Os oes angen rhagor o wybodaeth, disgwylir i SAUau weithio gyda Medr i ymateb i ymholiadau gan DSIT am ddata ychwanegol.
15. Gall DSIT gynnal gwiriadau ar hap i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymhwysedd ODA. Bydd y gwiriadau hyn yn gymesur ac yn canolbwyntio ar y gwerth a geir gan y sefydliad. Bydd DSIT yn pennu’r wybodaeth sydd ei hangen a’r broses ar gyfer dewis sefydliadau, gyda chefnogaeth gan Medr. Gall Medr hefyd gasglu gwybodaeth am astudiaethau achos i ddangos effaith gweithgareddau a gyllidir. Mae Medr ar hyn o bryd yn gweithio gyda DSIT i gwblhau gofynion monitro pellach a bydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf i sefydliadau cyn gynted ag y bydd unrhyw rwymedigaethau ychwanegol wedi’u cadarnhau.
Asesu effaith
16. Fel perchennog y gronfa, DSIT sy’n gyfrifol am asesu effaith. Nid ydym wedi nodi effeithiau andwyol posibl na gwahaniaethu yn ein rheolaeth ar y gronfa.
Trefniadau talu
17. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu i SAUau drwy un taliad ym mis Tachwedd 2025.
Rhagor o wybodaeth
18. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).
Medr/2025/32: Cronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) 2025-26
Dyddiad: 27 Tachwedd 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/32
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch
Ymateb erbyn: 31 Mawrth 2026
Crynodeb: Mae Medr wedi derbyn cyllid gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) i gefnogi gweithgareddau Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) o fewn sefydliadau addysg uwch (SAUau) cymwys yng Nghymru 2025/26. Mae’r cyhoeddiad hwn yn egluro sut y caiff y cyllid ei ddyrannu i’r SAUau.
Medr/2025/32 Cronfa Partneriaethau Gwyddoniaeth Rhyngwladol (ISPF) 2025-26Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio