Cyhoeddiadau
Medr/2025/30: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2025/26
18 Nov 2025
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein bwriadau yn 2025/26 i ddyrannu:
- £2,350,000 o gyllid i brifysgolion er mwyn rhoi strategaethau llesiant ac iechyd ar waith (prifysgolion yn unig);
- £2,000,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer cymorth llesiant ac iechyd i ddysgwyr (prifysgolion a Darparwyr Addysg Bellach sy’n cael cyllid Addysg Uwch yn uniongyrchol gan Medr);
- Swm ychwanegol o £400,000 er mwyn cefnogi mentrau llesiant emosiynol a meddyliol ar gyfer staff a myfyrwyr addysg uwch ar lefel genedlaethol;
- Cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi prosiectau addysg bellach ac uwch ar y cyd.
2. Mae dyletswydd strategol ar Medr i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg drydyddol a bydd yn cyflwyno amod cofrestru sy’n ymwneud â lles staff a myfyrwyr/dysgwyr. Noda Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Memorandwm Esboniadol:
‘Bydd yr amodau cychwynnol a pharhaus yn ymwneud â chefnogaeth ar gyfer a hyrwyddo lles myfyrwyr a staff yn cyflwyno gofynion rheoleiddiol newydd i ddarparwyr y rhagwelwyd y byddent yn cwmpasu materion fel iechyd meddwl, llesiant a diogelwch dysgwyr a staff yn y darparwr. Bydd yn ofynnol i’r Comisiwn nodi a chyhoeddi gofynion y mae’n rhaid i ddarparwyr cofrestredig eu bodloni o ran eu trefniadau mewn perthynas â’r amodau cychwynnol a pharhaus. O ran lles myfyrwyr a staff, rhagwelir y byddai’r ‘trefniadau’ yn cynnwys polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau cymorth ar gyfer llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘llesiant’ yn golygu llesiant emosiynol ac iechyd meddwl. Mae ‘diogelwch’ yn golygu rhyddid rhag niwed gan gynnwys aflonyddu, camymddwyn, trais (gan gynnwys trais rhywiol), a throseddau casineb.’
3. Yn 2024, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru eu datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi sy’n cynnwys blaenoriaeth i Medr greu fframwaith cyffredin ar gyfer cymorth iechyd meddwl a llesiant ar draws addysg drydyddol.
4. Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddodd Medr ei Gynllun Strategol ar gyfer 2025-30 ac ym mis Mehefin 2025 cyhoeddodd ei gynllun gweithredol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.
5. Mae’r Cynllun Strategol yn cynnwys ymrwymiad sylfaenol i Medr ddatblygu fframwaith cyffredin ar gyfer iechyd meddwl a llesiant erbyn 1 Awst 2026, a fydd yn cadarnhau cyfle cyfartal ac a gaiff ei atgyfnerthu gan amodau rheoleiddio i gefnogi lles staff a dysgwyr.
Llesiant ac iechyd emosiynol a meddyliol addysg uwch, gan gynnwys polisi iechyd meddwl, diweddariad a’n disgwyliadau sy’n deillio ohonynt
6. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol 2025 i 2035. Mae Medr yn disgwyl i’r holl ddarparwyr addysg uwch ystyried y strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol genedlaethol wrth ddatblygu a diwygio eu strategaethau llesiant ac iechyd, eu dulliau atal hunanladdiad a hunan-niweidio a’u polisïau llesiant, a chynnwys camau gweithredu cysylltiedig yn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer 2025/26 lle bo hynny’n briodol.
7. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Cymru. Mae Medr yn annog pob darparwr addysg uwch i gymryd rhan yn y Gymuned Ymarfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio a chyfrannu ati.
Llesiant emosiynol a meddyliol, ac ystyriaethau ehangach sy’n ymwneud â chydraddoldeb a chroestoriadedd
8. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr ystyried effeithiau croestoriadol ar lesiant emosiynol a meddyliol dysgwyr a staff. Felly, dylai darparwyr ystyried sut mae’r cyllid iechyd meddwl a llesiant yn cyfrannu at y cynlluniau cydraddoldeb canlynol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyhoeddi:
- Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
- Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru;
- Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026 a’r ddogfen gysylltiedig Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: cynllun gweithredu lefel uchel y glasbrint;
- Cynllun Hawliau Pobl Anabl: 2025 i 2035 sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.
Er nad yw’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft wedi’i gymeradwyo’n derfynol eto, rydym yn annog darparwyr i ystyried ei flaenoriaethau a’i egwyddorion arfaethedig, lle bo hynny’n briodol.
9. Rhaid i ddarparwyr addysg uwch ddefnyddio canfyddiadau a chasgliad yr asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i lywio cynlluniau, polisïau a gweithdrefnau er mwyn dangos bod camau gweithredu’n seiliedig ar dystiolaeth.
Cyllid ar gyfer strategaethau llesiant ac iechyd a chyllid ar gyfer cynlluniau gweithredu 2025/26 (£2,300,000 i brifysgolion yn unig)
10. Rydym yn disgwyl i gynlluniau gweithredu yn 2025/26 barhau i ddilyn ‘dull prifysgol gyfan’, gan helpu i ddiwallu anghenion staff a myfyrwyr ac ystyried pob agwedd ar fywyd prifysgol, gan gynnwys bywyd cymdeithasol a gwaith. Os bydd prifysgolion yn dewis ariannu gweithgareddau a gwasanaethau llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, gan ddefnyddio cyllid o ffynonellau heblaw Medr, dylech gynnwys y gweithgareddau a’r gwasanaethau hyn a ffynonellau’r cyllid yn y cynlluniau.
11. Yn 2025/26, rhaid i bob prifysgol adolygu ei dull strategol o atal hunanladdiad a rhoi cam(au) lliniaru ar waith yn ei chynllun gweithredu Diogelu rhag Hunanladdiad.
12. Dylai darparwyr ystyried y canllawiau ar atal hunanladdiad sydd wedi’u lanlwytho i gymuned ymarfer atal hunanladdiad addysg uwch ac addysg bellach Padlet. Dylent hefyd ystyried y goblygiadau yn sgil yr Adolygiad Cenedlaethol o Hunanladdiadau Ymhlith Myfyrwyr Addysg Uwch ac ystyried camau gweithredu sy’n mynd i’r afael â’r argymhellion.
13. Dylai cynlluniau gweithredu ar gyfer 2025/26 ystyried dyraniadau cyllid y brifysgol ar gyfer 2025/26 (£2,300,000 ar gyfer strategaethau a £2m o gyllid ychwanegol) ac unrhyw adnoddau ychwanegol a ddarperir o ffynonellau heblaw Medr a chynnwys:
- amcanion/bwriadau strategaeth llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, a gaiff eu blaenoriaethu yn 2025/26;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer yr amcanion/bwriadau, gan gynnwys dyddiadau ar gyfer sefydlu a/neu gwblhau gweithgareddau, gwasanaethau ac adnoddau sy’n newydd neu’n parhau;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau a ddarperir yn ddwyieithog a/neu ar wahân yn Gymraeg;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau gan gynnwys dysgwyr mewn sefydliadau breiniol/partner;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer dysgwyr ôl-raddedig;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer dysgwyr rhyngwladol;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau er mwyn sicrhau llesiant ac iechyd staff a dysgwyr, gan gynnwys effeithiau ar iechyd yn sgil aflonyddu, casineb a chamymddwyn a thrais rhywiol, waeth beth fo hunaniaeth yr unigolion dan sylw;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau a ddarperir yn benodol i staff a dysgwyr â nodweddion gwarchodedig, neu roi gwybodaeth am gefnogi staff a dysgwyr o’r fath;
- estyn, gwella neu ddarparu cymhorthdal ar gyfer cynhyrchion urddas mislif a hylendid personol a/neu wasanaethau golchi dillad i fyfyrwyr;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau sy’n ystyried canfyddiadau ac argymhellion hunanasesu adroddiad Stepchange: mentally healthy universities Universities UK (UUK);
- camau gweithredu amlwg i fynd i’r afael â bylchau, blaenoriaethau neu argymhellion a nodwyd o ganlyniad i adolygiad y brifysgol gan ddefnyddio adnodd hunanasesu UUK;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau sy’n ystyried Fframwaith Diogelu rhag Hunanladdiad a chanllawiau ategol Universities UK (UUK);
- cadarnhad o’r ffordd y caiff cynnydd tuag at gyflawni’r cynllun gweithredu ei fonitro a’i fesur;
- esboniad o’r ffordd y mae amrywiaeth gynrychiadol o fyfyrwyr, staff a phartïon â diddordeb wedi bod yn rhan o’r broses o ddatblygu’r cynllun;
- esboniad o’r ffordd y mae canfyddiadau asesiadau effaith wedi llywio’r amcanion/bwriadau, gweithgareddau a gwasanaethau i’w cyflawni;
- esboniad o’r ffordd yr adroddir ar drefniadau monitro ac adolygu’r cynllun gweithredu i strwythurau llywodraethu’r brifysgol a thrwyddynt.
Cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi dysgwyr yn 2025/26 (£2m i brifysgolion a ddarparwyr addysg bellach sy’n cynnig addysg uwch)
14. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau pob sefydliad unigol, yn seiliedig ar ei bolisïau ei hun a’r anghenion cymorth sydd wedi’u nodi ar gyfer ei ddysgwyr, ar sail ei ddata a’i dystiolaeth ei hun.
15. Gall cymorth ariannol gynnwys:
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, ar gyfer dysgwyr;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau a ddarperir yn ddwyieithog a/neu ar wahân yn Gymraeg;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau gan gynnwys dysgwyr mewn sefydliadau breiniol/partner;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer dysgwyr ôl-raddedig;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer dysgwyr rhyngwladol;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau er mwyn sicrhau llesiant ac iechyd dysgwyr, gan gynnwys effeithiau ar iechyd yn sgil aflonyddu, casineb a chamymddwyn a thrais rhywiol, waeth beth fo hunaniaeth yr unigolion dan sylw;
- gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau a ddarperir yn benodol i ddysgwyr â nodweddion gwarchodedig, neu roi gwybodaeth am gefnogi dysgwyr o’r fath.
16. Rhaid i brifysgolion a cholegau sicrhau bod cymorth i ddysgwyr yn seiliedig ar asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.
17. Rydym yn annog prifysgolion a cholegau’n gryf, gan weithio gyda’u Hundebau Myfyrwyr neu gorff cyfatebol. Dylai’r holl ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr ôl-radd a rhyngwladol, gael eu hystyried ar gyfer cymorth, yn amodol ar angen.
Prosiect(au) addysg uwch cenedlaethol
18. Yn 2025/26, bydd Medr yn dyrannu swm ychwanegol o £400,000 i sefydliadau addysg uwch er mwyn cefnogi mentrau llesiant emosiynol a meddyliol ar gyfer staff a dysgwyr addysg uwch ar lefel genedlaethol. Bydd Medr yn ymgysylltu â’r sector er mwyn penderfynu pa brosiect(au) cenedlaethol a ddatblygir ymhellach.
Cyllid ychwanegol ar gyfer addysg bellach ac uwch yn 2025/26
19. Yn 2025/26, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol i Medr er mwyn cefnogi darparwyr addysg bellach ac uwch. Mae Medr yn bwriadu dyrannu £350,000 i brifysgolion drwy gyllid fformiwla fel y nodir ym mharagraffau 10 a 13 ac ariannu’r prosiectau addysg bellach ac uwch cenedlaethol canlynol:
- Parhau i ariannu rhaglen y bartneriaeth genedlaethol iechyd meddwl myfyrwyr a arweinir gan Brifysgol Caerdydd ac adeiladu ar waith peilot a ariannwyd yn wreiddiol gan HEFCW a Llywodraeth Cymru. Yn 2025/26, mae Medr yn darparu cyllid er mwyn parhau i helpu i ddatblygu ateb storio data, parhau i gyflwyno mynegai difrifoldeb iechyd meddwl, archwilio a datblygu protocolau rhannu gwybodaeth a chynnal gwerthusiad allanol o’r rhaglen (£950,000).
- Myf.Cymru a arweinir gan Brifysgol Bangor er mwyn darparu adnoddau llesiant dysgwyr a rhwydwaith ymarferwyr Cymraeg ar gyfer addysg bellach ac uwch (£150,000).
Dyraniadau cyllid prifysgolion a darparwyr addysg bellach sy’n cael cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr
Prifysgolion
20. Caiff y cyllid ar gyfer strategaethau a chynlluniau gweithredu llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, yn 2025/26 ei ddyrannu mewn un taliad, yn seiliedig ar niferoedd myfyrwyr, fel y nodir yn Atodiad A.
21. Caiff y cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi dysgwyr yn 2025/26 ei ddyrannu mewn un taliad, yn seiliedig ar niferoedd dysgwyr, fel y nodir yn Atodiad B.
22. Yn 2025/26, byddwn yn dyrannu cyllid Atodiad A ac Atodiad B mewn taliad un gyfran ym mis Rhagfyr 2025 yn amodol ar y canlynol:
- cyflwyno cynlluniau gweithredu llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, 2025/26 (gweler y templed yn Atodiad C ac Atodiad C1). Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r rhain yw 1 Rhagfyr 2025.
23. Rydym yn disgwyl i brifysgolion reoli a gwario eu dyraniadau ar gyfer 2025/26 yn llawn yn ystod y flwyddyn.
24. Byddwn yn adhawlio unrhyw danwariant heb ei ymrwymo ar ddiwedd 2025/26, oni fydd amgylchiadau eithriadol, a byddwn yn adhawlio cyllid yn y dyfodol neu’n ei gadw’n ôl os bydd adroddiadau anfoddhaol neu gyfyngedig yn erbyn ein gofynion monitro.
Darparwyr addysg bellach sy’n cael cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr
25. Caiff y cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi dysgwyr yn 2025/26 ei ddyrannu mewn un taliad, yn seiliedig ar niferoedd dysgwyr, fel y nodir yn Atodiad B.
26. Yn 2025/26, byddwn yn dyrannu cyllid Atodiad B mewn taliad un gyfran ym mis Rhagfyr 2025 yn amodol ar y canlynol:
- cyflwyno cynlluniau gweithredu 2025/26 ar gyfer cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi dysgwyr (gweler y templed yn Atodiad D). Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r rhain yw 1 Rhagfyr 2025.
27. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr addysg bellach sy’n cael cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr reoli a gwario eu dyraniadau ar gyfer 2025/26 yn llawn yn ystod y flwyddyn.
28. Byddwn yn adhawlio unrhyw danwariant heb ei ymrwymo ar ddiwedd 2025/26, oni fydd amgylchiadau eithriadol, a byddwn yn adhawlio cyllid yn y dyfodol neu’n ei gadw’n ôl os bydd adroddiadau anfoddhaol neu gyfyngedig yn erbyn ein gofynion monitro.
Monitro prifysgolion a ddarparwyr addysg bellach sy’n cael cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr
29. Caiff templedi monitro cyllid llesiant ac iechyd eu dosbarthu ym mis Tachwedd 2025.
Amserlen
30. Mae Tabl 1 isod yn nodi’r dyddiadau cau i brifysgolion a ddarparwyr addysg bellach sy’n cael cyllid addysg uwch yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer cyflwyno ac adrodd.
Tabl 1
| Gofynion cyflwyno ac adrodd | Dyddiad cyflwyno |
|---|---|
| Cyhoeddi canllawiau | Tachwedd 2025 |
| Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynllun gweithredu 2025/26 ar gyfer llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl | 01 Rhagfyr2025 |
| Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynllun gweithredu 2025/26 ar gyfer cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi dysgwyr | 01 Rhagfyr2025 |
| Taliad untro | Rhagfyr2025 |
| Cyflwyno adroddiad monitro terfynol | 01 Gorffennaf 2026 |
Further information / responses to
31. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Ryan Stokes ([email protected]).
32. Dylid cyflwyno ymatebion i [email protected].
Asesu effaith ein polisïau
33. Rydym wedi diweddaru ein hasesiad effaith parhaus i ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Gwnaethom hefyd ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg a darpariaeth Gymraeg yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru, a’r effeithiau posibl ar y nodau sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
34. Mae canfyddiadau ein hasesiad effaith yn cynnwys:
- canfod effeithiau cadarnhaol tebygol ar y nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol. Ni chanfuwyd dim effeithiau negyddol.
- cadarnhau bod y cyllid yn cefnogi pump o’r saith nod llesiant ac yn ystyried y pum ffordd o weithio sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
- nodi bod y cyllid a’r trefniadau monitro yn ceisio cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg.
Medr/2025/30: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2025/26
Dyddiad: 18 Tachwedd 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/30
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach a ariennir yn uniongyrchol yng Nghymru
Ymateb erbyn: Cynllun gweithredu 2025/26 ar gyfer llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, erbyn 1 Rhagfyr 2025 at [email protected]
Cynllun gweithredu 2025/26 ar gyfer cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol er mwyn cefnogi dysgwyr erbyn 1 Rhagfyr 2025 at [email protected]
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau cyllid ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer ei ddefnyddio a’i fonitro. Dyraniad cyllid Medr o £2,350,000 i brifysgolion er mwyn rhoi strategaethau llesiant ac iechyd ar waith ar gyfer 2025/26 (prifysgolion yn unig) a’r dyraniad ychwanegol o £2m yn 2025/26 ar gyfer cymorth llesiant ac iechyd ychwanegol i ddysgwyr (prifysgolion a Darparwyr Addysg Bellach sy’n cael cyllid Addysg Uwch yn uniongyrchol gan Medr).
Mae’r cyhoeddiad hefyd yn cadarnhau cyllid ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am gyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau cenedlaethol.
Medr/2025/30 Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2025/26Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio