Cyhoeddiadau
Medr/2025/26: Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026
23 Oct 2025
Crynodeb
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys trefniadau ar gyfer Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026 (Tabl 1), a’r camau gweithredu y bydd angen i ddarparwyr eu cymryd (Tabl 2). Mae’r allrwyd yr Arolwg yn cynnwys manylion llawn am gyflwyno data.
Tabl 1: Amserlen yr Arolwg
| Date | Cam gweithredu |
|---|---|
| 22 Hydref 2025 | Ipsos i roi canllaw ar baratoi ar gyfer Arolwg 2026 a chanllaw arferion da i ddarparwyr |
| 07 Ionawr 2026 | Bydd yr Arolwg yn lansio |
| 08 Ionawr 2026 | Gwaith maes yr Arolwg yn dechrau |
| 30 Ebrill 2026 | Gwaith maes yr Arolwg yn dod i ben |
| 08 Gorffennaf 2026 | Dyddiad dros dro ar gyfer cyhoeddi’r canlyniadau |
Tabl 2: Crynodeb o’r camau gweithredu y bydd angen i ddarparwyr eu cymryd
| Date | Cam gweithredu |
|---|---|
| 28 Tachwedd 2025 | Adolygu a diweddaru manylion cyswllt ar gyfer yr Arolwg |
| 28 Tachwedd 2025 | Llenwi ffurflen ‘fy opsiynau ar gyfer yr Arolwg’ |
| 28 Tachwedd 2025 | Cyflwyno templedi enghreifftiol ar gyfer Arolwg 2026 ynghyd â manylion cyswllt myfyrwyr cymwys |
Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026
2. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau ar gyfer Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (yr Arolwg) 2026 a’r camau gweithredu y bydd angen i’r darparwyr sy’n cymryd rhan eu cymryd. Mae’r cyhoeddiad llawn a’r dogfennau cynorthwyol ar gael trwy allrwyd yr Arolwg.
3. Cynhelir yr Arolwg ledled y DU gyfan er mwyn i fyfyrwyr addysg uwch sydd yn eu blwyddyn olaf roi adborth ar eu cyrsiau. Caiff yr Arolwg ei reoli gan y Swyddfa Fyfyrwyr ar ran pedwar corff cyllido a rheoleiddio’r DU.
4. Mae’r Arolwg hefyd yn rhoi gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr er mwyn eu helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir, ac yn rhoi data i brifysgolion a cholegau er mwyn eu helpu i wella profiad myfyrwyr.
5. Caiff yr Arolwg ei gynnal ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU gan:
- Ipsos, a fydd yn gweinyddu’r Arolwg
- CACI Limited, a fydd yn cynnal y porth lledaenu data ar gyfer darparwyr
6. Mae’r Arolwg yn elfen allweddol o’r dirwedd sicrhau ansawdd a rheoleiddio ehangach yng Nghymru. Rhaid i ddarparwyr addysg uwch a reoleiddir neu a ariennir gan Medr gymryd rhan yn yr Arolwg. Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff poblogaethau myfyrwyr amrywiol eu cynrychioli, a bod darparwyr yn ystyried eu dyletswydd Dyddodiad Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus (PSED) i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal, dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, meithrin perthnasoedd da a hyrwyddo cydraddoldeb.
Arolwg 2026
7. Bydd holiadur Arolwg 2026 yr un peth â holiadur Arolwg 2025. Caiff yr Arolwg ei gynnal ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Bydd y cwestiwn ar ryddid mynegiant yn cael ei ofyn i fyfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr yn unig a bydd y cwestiwn ar foddhad cyffredinol yn cael ei ofyn i fyfyrwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn unig. Wnaeth cynghorau ariannu a rheoleiddio’r DU gymryd rhan mewn peilot gwaith maes byrrach yr Arolwg 2025 wrth ochor a’r amserlen gwaith maes safonol i brofi dull i leihau’r risg o unrhyw ostyngiad yn gyfraddau ymateb yr Arolwg. Mae OfS yn ystyried canfyddiadau’r peilot a sut i ymdrin â chyfnod gwaith arolwg byrrach yn y dyfodol. Disgwyli’r i’r cyfnod arolwg byrrach ddechrau yn ystod blwyddyn academaidd 2027-28 i bob darparwr, i gyd-fynd a dyddiad llofnodi hwyr i ddychweliad myfyrwyr. Fodd bynnag, ar gyfer yr Arolwg 2026 rydym yn parhau gyda’r amserlen gwaith maes arferol.
8. Cynhaliodd yr OfS arolwg ymddygiad rhywiol amhriodol, yn Lloegr yn unig gan ddefnyddio llwyfan yr Arolwg 2025. Cyhoeddwyd dadansoddiad o ganlyniadau’r arolwg a data ar lefel sector ym mis Medi 2025.
9. Mae’r rhestr lawn o gwestiynau Arolwg 2026 a’r graddfeydd ymateb i’w gweld ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.
10. Bydd Ipsos yn gweinyddu’r Arolwg ar ran y Swyddfa Fyfyrwyr a Medr. Bydd yn gyfrifol am gysylltu â myfyrwyr, cyfrannu at hyrwyddo’r Arolwg a rhoi data wedi’u glanhau i’r Swyddfa Fyfyrwyr a chyrff cyllido.
11. Fel rhan o’i rôl, bydd Ipsos yn cysylltu’n uniongyrchol â darparwyr ynglŷn â gweinyddu’r Arolwg, ac yn helpu i gynnal yr Arolwg drwy wneud y canlynol:
- cynnig arweiniad ar fanylion penodol rhaglen yr Arolwg, megis yr wythnos pan fydd yn dechrau, dethol cwestiynau dewisol a chwestiynau i ddarparwyr penodol
- ar gyfer darparwyr sy’n hyrwyddo’r Arolwg:
- darparu deunyddiau marchnata â brand yr Arolwg arnynt a rhoi cyngor i ddarparwyr ar lunio eu deunyddiau eu hunain.
- hwyluso cynlluniau cymhelliant darparwyr er mwyn annog myfyrwyr i gymryd rhan yn yr arolwg.
12. Ceir rhagor o wybodaeth am farchnata a hyrwyddo’r Arolwg yn y canllaw arferion da gan Ipsos.
13. Caiff darparwyr eu gwahodd i ddewis un wythnos allan o bump pan all Ipsos lansio’r Arolwg ar gyfer eu myfyrwyr. Ni fydd Ipsos yn cyfathrebu â myfyrwyr y tu allan i’r amseroedd y cytunir arnynt gyda darparwyr unigol.
Hyrwyddo’r Arolwg a monitro’r ymatebion
14. Mae’n ofynnol i ddarparwyr yng Nghymru hyrwyddo’r Arolwg i fyfyrwyr. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr sy’n hyrwyddo’r Arolwg sicrhau eu bod yn osgoi unrhyw ddylanwad amhriodol ac yn glynu wrth y canllawiau ar farchnata a hyrwyddo’r Arolwg.
15.Yn ystod gwaith maes yr Arolwg, caiff yr ymatebion eu monitro, a gwneir gwaith dilynol wedi’i dargedu er mwyn sicrhau y caiff trothwyon cyhoeddi eu cyrraedd. Ddechrau mis Mawrth, yn ogystal â’r gwaith dilynol wedi’i dargedu, caiff pob darparwr sydd mewn perygl o beidio â chyrraedd y trothwy cyhoeddi ei ychwanegu at y cyfnod hybu, a fydd yn arwain at anfon negeseuon atgoffa drwy e-bost a neges SMS ychwanegol at fyfyrwyr nad ydynt wedi ymateb. Bydd y cyfnod hybu’n dechrau’n awtomatig os bydd cyfradd ymateb darparwr yn is na 43 y cant erbyn canol mis Mawrth, a bydd yn parhau i rai tan ganol mis Ebrill. Mae’r amserlen ar gyfer y gwaith maes wedi’i nodi yng nghanllaw paratoi Ipsos i ddarparwyr, sydd ar gael ar allrwyd Ipsos ar gyfer yr Arolwg.
Costau’r arolwg
16. Bydd Medr yn talu costau’r Arolwg ar gyfer darparwyr cymwys yng Nghymru.
Amserlen yr Arolwg
17. Caiff yr Arolwg ei gynnal fel y nodir yn Nhabl 3.
Tabl 3: Amserlen yr Arolwg
| Dyddiad | Action |
|---|---|
| 22 Hydref 2025 | Ipsos i roi canllaw ar baratoi ar gyfer Arolwg 2026 a chanllaw arferion da i ddarparwyr |
| 07 Ionawr 2026 | Bydd yr Arolwg yn lansio |
| 08 Ionawr 2026 | Gwaith maes yr Arolwg yn dechrau |
| 30 Ebrill 2026 | Gwaith maes yr Arolwg yn dod i ben |
| 08 Gorffennaf 2026 | Dyddiad dros dro ar gyfer cyhoeddi’r canlyniadau |
18. Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr ar 08 Gorffennaf 2026 am 0930. Caiff canlyniadau manwl eu rhannu â darparwyr unigol drwy borth lledaenu data’r Arolwg a gynhelir gan CACI Limited ar 08 Gorffennaf 2026 am 0930. Bydd y ffordd y caiff canlyniadau Arolwg 2026 eu cyhoeddi a’u lledaenu yn dibynnu ar gytundeb terfynol gan gyrff cyllido a rheoleiddio’r DU yn dilyn yr adolygiad o ansawdd y data.
19. Caiff canlyniadau’r Arolwg ar lefel cyrsiau eu cyhoeddi ar wefan Discover Uni.
Camau gweithredu i ddarparwyr ar gyfer Arolwg 2026
20. Gofynnir i bob darparwr sy’n cymryd rhan gymryd y camau gweithredu a amlinellir yn Nhabl 4.
Tabl 4: Camau gweithredu y bydd angen i ddarparwyr eu cymryd
| Date | Action |
|---|---|
| 28 Tachwedd 2025 | Yr holl ddarparwyr cymwys i adolygu a diweddaru manylion cyswllt ar gyfer y prif bwyntiau cyswllt a’r pwyntiau cyswllt eilaidd enwebedig ar gyfer cysylltu ynglŷn â’r Arolwg. Dylid darparu’r wybodaeth gan ddefnyddio’r ffurflen ‘Fy manylion’ ar allrwyd Ipsos ar gyfer yr Arolwg. |
| 28 Tachwedd 2025 | Yr holl ddarparwyr cymwys i lenwi’r ffurflen ‘fy opsiynau ar gyfer yr Arolwg’ sy’n gofyn i ddarparwyr gadarnhau’r canlynol; * ym mha wythnos yr hoffent i’r Arolwg gael ei lansio * setiau cwestiynau dewisol * p’un a fyddant yn cymryd rhan mewn unrhyw gystadlaethau am wobrau |
| 28 Tachwedd 2025 | Yr holl ddarparwyr cymwys i gyflwyno eu templedi enghreifftiol ar gyfer Arolwg 2026 ynghyd â manylion cyswllt myfyrwyr cymwys Rhestr yw hon o’r holl fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer Arolwg 2026, yn seiliedig ar ddata myfyrwyr 2024-25. Dylid darparu’r manylion drwy’r adran ‘Lanlwytho data enghreifftiol’ ar allrwyd Ipsos ar gyfer yr Arolwg. Yn achos unrhyw gynigion i ychwanegu myfyrwyr at y rhestr darged neu ddileu enwau ohoni, dylid dilyn y broses a amlinellir gan Ipsos. |
21. Gofynnir i’r holl ddarparwyr sy’n cymryd rhan gwblhau’r camau gweithredu uchod erbyn 28 Tachwedd 2025. Mae cyfarwyddiadau ar sut i ddarparu’r wybodaeth hon wedi’u cynnwys yn y canllaw ar baratoi ar gyfer Arolwg 2026, y bydd Ipsos yn ei roi i bwyntiau cyswllt darparwyr ac sydd hefyd ar gael ar allrwyd Ipsos ar gyfer yr Arolwg. Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth am weinyddu’r Arolwg, cyfrifoldebau allweddol a dyddiadau.
22. Ceir canllawiau manwl ar Arolwg 2026 a’r camau gweithredu y gofynnir i’r holl ddarparwyr yng Nghymru eu cymryd wrth ddychwelyd data myfyrwyr i HESA ar allrwyd Arolwg Ipsos.
Cymorth pellach a phwyntiau cyswllt
Tabl 5: Pwyntiau cyswllt ar gyfer yr Arolwg
| Sefydliad | Cyfeiriad e-bost | Pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau ynghylch |
|---|---|---|
| Ipsos | [email protected] | Cynnal yr Arolwg, gan gynnwys: * Paratoi ar gyfer yr Arolwg a’i hyrwyddo * Rhestrau targed myfyrwyr * Cwestiynau dewisol * Cynlluniau cymhelliant |
| CACI Limited | Gellir cysylltu â thim cymorth yr Arolwg trwy’r ffurflen Cysylltu â Chymorth ar borth data’r Arolwg | Canlyniadau manwl darparwyr ar borth lledaenu data’r Arolwg |
| Y Swyddfa Fyfyrwyr | [email protected] [email protected] | Meysydd megis: * Polisi a datblygu’r Arolwg * Defnyddio’r canlyniadau yn y dyfodol * Honiadau o ddylanwad amhriodol |
| Medr | [email protected] | Unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â’r ffordd y caiff yr Arolwg ei gynnal yng Nghymru |
Medr/2025/26: Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026
Dyddiad: 23 Hydref 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/26
At: Cyrff llywodraethu a phenaethiaid sefydliadau addysg uwch a reoleiddir a/neu a ariennir yng Nghymru; Cyrff cynrychioli myfyrwyr ar gyfer addysg uwch yng Nghymru
Ymateb erbyn: 28 Tachwedd i Ipsos drwy allrwyd yr Arolwg
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys trefniadau ar gyfer Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026, a’r camau gweithredu y bydd angen i ddarparwyr eu cymryd. Mae’r allrwyd yr Arolwg yn cynnwys manylion llawn am gyflwyno data.
Medr/2025/26 Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio