This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2025/25: Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllid

Cefndir

1. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (‘Y Ddeddf’) yn nodi’r gofynion o ran system reoleiddio newydd ar gyfer darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad hwn i ateb y gofynion canlynol yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022:

  • 27 (5) Amodau Cofrestru Cychwynnol;
  • 28 (7) Amodau Cofrestru Parhaus Cyffredinol;
  • 40 (2) Darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau o dan adran 39;
  • 50 (4) Fframwaith Sicrhau Ansawdd;
  • 81 (3) Datganiad ar Swyddogaethau Ymyrryd;
  • 126 (6) Cynlluniau Diogelu Dysgwyr, a;
  • 129 (5) Cod Ymgysylltu â Dysgwyr.

Trosolwg

2. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ynglŷn â’r canlynol a gynigir gan Medr:

  • Datganiad o Bwerau Ymyrryd, sy’n egluro’r pwerau ymyrryd statudol a amlinellir yn y Ddeddf (Atodiad A);
  • Fframwaith Rheoleiddio sy’n nodi ein dull rheoleiddiol, ein dull o fonitro a’r set lawn o Amodau Cofrestru ac Amodau Cyllid drafft a’r broses y mae’n rhaid ei dilyn i adrodd wrth Medr am ddigwyddiadau a pha fathau o ddigwyddiadau y mae’n rhaid adrodd wrth Medr amdanyn (Atodiad B);
  • Fframwaith Ansawdd, sy’n tanategu gofynion yr amodau a’r trefniadau monitro mewn perthynas ag ansawdd (Atodiad C);
  • Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, sy’n cynorthwyo darparwyr a Medr i sicrhau bod y sector addysg drydyddol yn canolbwyntio ar anghenion y dysgwr a sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael cyfleoedd i ymgysylltu â phrosesau penderfynu eu darparwr (Atodiad D);
  • Dogfen Cwestiynau Cyffredin sy’n nodi rhai o’r ymholiadau cyffredin yr ydym wedi’u cael yn ystod gweithgarwch ymgysylltu a gwaith ymgynghori ffurfiol (Atodiad E); and
  • Rhestr termau ar gyfer y dogfennau ymgynghori (Atodiad F).

Dull ymgynghori

3. Gwahoddir ymatebion i’r ymgynghoriad trwy ein harolwg ar-lein. Mae’r cwestiynau a amlinellir yn y ddogfen ymgynghoriad (cyhoeddiad Medr/2025/25) yn darparu amlinelliad o strwythur bras yr arolwg. Bydd rhai agweddau ar yr arolwg yn fwy perthnasol i wahanol fathau o ddarparwr yn y sector trydyddol – bydd y cwestiynau’n eich tywys trwy hyn, a bydd gan ddysgwyr y gallu i gadw eu hymatebion a dychwelyd atynt.

Digwyddiadau

4. Yn ystod y cyfnod ymgynghori byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad yn y cnawd a fydd yn rhoi cyfle i glywed gan ein staff am ddatblygiad y system newydd a’r cwestiynau allweddol yr ydym yn eu gofyn i’r holl ddarparwyr a rhanddeiliaid yn ein hymgynghoriad.

  • Digwyddiad 1 (De Cymru): 20 Tachwedd 2025 – lleoliad i’w gadarnhau
  • Digwyddiad 2 (Gogledd Cymru): 27 Tachwedd 2025 – lleoliad i’w gadarnhau

Byddwn yn cadarnhau’r lleoliadau ar gyfer y digwyddiadau ymhen ychydig, a byddwch yn gallu archebu eich lle trwy ein tudalen Eventbrite.

Amserlen

5. Gwahoddir rhanddeiliaid i gyflwyno eu hymatebion i’r ymgynghoriad trwy ein harolwg erbyn 17.00 ar 17 Rhagfyr 2025.

6. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

Medr/2025/25: Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllid

Dyddiad:  22 Hydref 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/25

At:  Holl randdeiliaid addysg drydyddol yng Nghymru

Ymateb erbyn: 17 Rhagfyr 2025

Crynodeb: Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ynglŷn â’r system reoleiddio newydd ar gyfer darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru. Bydd y system newydd yn cael ei rhoi ar waith yn 2026.

Medr/2025/25 Ymgynghoriad ar system reoleiddio newydd gan gynnwys amodau cofrestru a chyllid

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio