Cyhoeddiadau
Medr/2025/20: Cyllid ychwanegol er mwyn Paratoi i Weithredu Deddf a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol 2025-26
30 Sep 2025
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid ychwanegol o £700,000 i Medr ym mlwyddyn ariannol 2025-26 er mwyn cynorthwyo sefydliadau i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei dalu’n llawn mewn un swm ym mis Hydref 2025. Gellir cyflawni gweithgarwch drwy gydol y flwyddyn academaidd, ond mae Medr yn disgwyl i sefydliadau ymrwymo’r gwariant o fewn blwyddyn ariannol 2025-26.
Symiau ychwanegol o gyllid, amseriadau a dibenion
Dylai’r cyllid helpu i feithrin capasiti a gweithredu camau a fydd yn hyrwyddo dulliau effeithiol o fodloni anghenion pobl ifanc ag ADY a chyfrannu at ddarparu system addysg gwbl gynhwysol, lle caiff pob dysgwr gefnogaeth i gyrraedd ei botensial.
Bwriedir i’r cyllid ar gyfer paratoi i weithredu’r Ddeddf a’r Cod ADY ychwanegu at gyllid arall a ddyrannwyd, ac nid yw’n disodli’r brif ffynhonnell o gyllid i sefydliadau. Ni ddylai ychwaith fod yn ffactor sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i dderbyn dysgwyr ai peidio.
Rhaid i sefydliadau gadw at y Canllawiau ar gyfer Paratoi i Weithredu’r Ddeddf a’r Cod ADY ar wefan Medr.
Cyfrifir y cyllid yn seiliedig ar gyfran y sefydliad o gyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol ac fe’i tanategir â dyraniad cychwynnol o £40,000 fesul sefydliad.
| Cyfanswm dyraniad Blwyddyn Ariannol 2024/25 £ | Cyfanswm dyraniad Blwyddyn Academaidd 2025/26 £ | Gwahaniaeth o gymharu â dyraniad Blwyddyn Academaidd 2024/25 £ | Canran y gwahaniaeth % | |
|---|---|---|---|---|
| Addysg Oedolion Cymru | 43,415.00 | 43,418.00 | 3 | 0.01% |
| Coleg Penybont | 49,363.00 | 49,181.00 | (182) | -0.37% |
| Coleg Caerdydd a’r Fro | 62,176.00 | 62,443.00 | 267 | 0.43% |
| Coleg Cambria | 62,095.00 | 62,029.00 | (66) | -0.11% |
| Coleg Gwent | 66,150.00 | 65,709.00 | (441) | -0.67% |
| Coleg Sir Gâr | 51,830.00 | 51,793.00 | (37) | -0.07% |
| Coleg y Cymoedd | 57,935.00 | 59,210.00 | 1,275 | 2.20% |
| Coleg Gŵyr Abertawe | 55,950.00 | 55,665.00 | (285) | -0.51% |
| Grŵp Llandrillo Menai | 59,849.00 | 59,818.00 | (31) | -0.05% |
| Grŵp NPTC | 54,006.00 | 53,619.00 | (387) | -0.72% |
| Coleg Sir Benfro | 47,162.00 | 47,098.00 | (64) | -0.14% |
| Coleg Catholig Dewi Sant | 44,187.00 | 44,178.00 | (9) | -0.02% |
| Y Coleg Merthyr Tudful | 45,882.00 | 45,839.00 | (43) | -0.09% |
| 700,000.00 | 700,000.00 |
Gellir cyflawni gweithgarwch drwy gydol y flwyddyn academaidd, ond mae Medr yn disgwyl i sefydliadau ymrwymo’r gwariant o fewn blwyddyn ariannol 2025-26.
Medr/2025/20: Cyllid ychwanegol er mwyn Paratoi i Weithredu Deddf a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol 2025-26
Dyddiad: 30 Medi 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/20
At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau i Medr ddarparu £700,000 o gyllid ychwanegol i sefydliadau addysg bellach (AB), ac amseriad hynny. Pwrpas y cyllid yw ymestyn am flwyddyn ychwanegol y cyllid paratoi i weithredu’r Ddeddf a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn ymwreiddio gweithgareddau a gyflawnwyd mewn blynyddoedd cynt. Bydd sefydliadau’n gallu cyflawni gweithgarwch rhwng mis Ebrill 2025 a mis Gorffennaf 2026.
Medr/2025/20 Cyllid ychwanegol er mwyn Paratoi i Weithredu Deddf a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol 2025-26Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio