Cyhoeddiadau
Medr/2025/18: Cyllid cyfalaf addysg uwch 2025-26
30 Sep 2025
Cyflwyniad
1. Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi y bydd £10m o gyllid Cyfalaf ar gael i’w ddyrannu ym Mlwyddyn Ariannol 2025-6. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi blaenoriaethau strategol Medr.
Sail y dyraniadau cyllid cyfalaf
2. Bydd y cyllid Cyfalaf yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar ddull fformiwläig. Gan y dylai’r cyllid gael ei ddefnyddio, o leiaf yn rhannol, i gefnogi dysgu ac addysgu, profiad myfyrwyr a’r seilwaith ar gyfer myfyrwyr, mae’r dyraniadau wedi cael eu pennu yn seiliedig ar nifer y myfyrwyr. Mae nifer y myfyrwyr mewn sefydliad yn ddull procsi rhesymol o gyfrifo maint yr ystâd a’r cyfleusterau sydd eu hangen. Mae’r dull hwn yn gyson â dyraniadau cyfalaf blaenorol.
3. Y niferoedd myfyrwyr a ddefnyddiwyd ar gyfer y dyraniad cychwynnol yw’r Niferoedd Cyfwerth ag Amser Llawn (Niferoedd CALl) o Gofnod Myfyrwyr HESA ar gyfer pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2023/24. Dyma’r un sail ag a ddefnyddiwyd i ddyrannu’r cylch blaenorol o gyllid cyfalaf.
Cymhwyso isafswm dyraniad cyllid
4. Er mwyn darparu cyllid cyfalaf a fydd yn galluogi pob sefydliad i fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn cael effaith gynaliadwy, mae isafswm gwerth dyraniad o £750,000 wedi cael ei gymhwyso. Ac ystyried ei hystâd gyfyngedig yng Nghymru, bydd trothwy isafswm y Brifysgol Agored wedi’i osod ar 50% (£375,000) i gyfrannu at brosiectau a fydd o fudd i fyfyrwyr Cymru.
5. Mae’r cyllid ar gyfer sefydliadau lle’r oedd y dyraniad gwreiddiol ar sail nifer eu myfyrwyr CALl yn is na’r gwerth hwn wedi cael ei gynyddu i’r swm hwn, a nifer y myfyrwyr CALl ar gyfer y sefydliadau hynny wedi cael eu tynnu allan o’r cyfrifiad wedi hynny. Mae gweddill y cyllid sydd ar gael wedi cael ei ddosrannu rhwng y sefydliadau eraill yn seiliedig ar y niferoedd CALl a oedd yn weddill wrth gyfrifo.
6. Mae’r dyraniadau canlyniadol ar gyfer pob sefydliad wedi’u darparu yn Atodiad A.
Cyflwyno cynlluniau
7. Bydd hi’n ofynnol i sefydliadau ddarparu eu cynlluniau buddsoddi Cyfalaf ar gyfer y cyllid hwn, ynghyd â’u strategaethau Ystadau, gan egluro sut mae’r cynlluniau buddsoddi’n gyson â’u strategaethau Ystadau. Os yw strategaethau Ystadau ar ganol cael eu diweddaru, rhaid darparu diweddariad ysgrifenedig sy’n cynnwys blaenoriaethau ar gyfer ystadau.
8. Dylai’r cynlluniau buddsoddi cyfalaf gynnwys manylion gwariant arfaethedig y sefydliad a sut y bydd yn cefnogi blaenoriaethau strategol Medr. Mae sero net ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, felly dylai sefydliadau flaenoriaethu prosiectau sy’n mynd i’r afael â hynny’n uniongyrchol. Mae’n debygol y byddai prosiectau o’r fath hefyd yn creu buddion ehangach yn gysylltiedig â materion eraill â blaenoriaeth, fel bioamrywiaeth. Dylai sefydliadau hefyd amlygu sut y bydd cynlluniau’n gwella’r gofod dysgu ac addysgu ac o fudd i brofiad myfyrwyr.
9. Bydd Swyddogion Medr yn cadarnhau bod cynlluniau buddsoddi Cyfalaf yn briodol ac yn bodloni’r meini prawf angenrheidiol.
10. Byddwn yn parhau i fonitro metrigau HESA drwy’r datganiadau data a gyhoeddir ac felly dylai sefydliadau barhau i fod yn ymwybodol o’r effaith y gallai prosiectau ei chael arnynt.
11. Mae profforma ar gyfer y cynlluniau hyn wedi’i gynnwys yn Atodiad B.
12. Os bydd gennym unrhyw bryderon ynghylch priodoldeb unrhyw brosiectau penodol, gallwn fynnu bod y cyllid yn cael ei ddargyfeirio at rai mwy addas. Gan hynny, rydym yn argymell bod sefydliadau’n darparu cynlluniau y tu hwnt i’w dyraniad i ganiatáu hyblygrwydd.
13. Os bydd sefydliad yn rhagweld na fydd yn gallu gwario’i ddyraniad llawn, dylai roi gwybod inni ar y cyfle cyntaf a bydd unrhyw arian sydd dros ben yn cael ei ailddyrannu i sefydliadau eraill drwy’r dull fformiwläig a ddisgrifiwyd yn flaenorol.
Monitro blynyddol
14. Bydd ymarfer monitro’n cael ei gynnal yn 2026 ar ddyddiad addas i sicrhau bod y cyllid wedi cael ei ddefnyddio fel y bwriadwyd ac i roi diweddariad ar effaith y buddsoddiad.
15. Disgwylir i sefydliadau roi dadansoddiad o’r gwariant cyfalaf a manylu ar unrhyw brosiectau y mae’r cyllid wedi cyfrannu atynt.
16. Gofynnir i sefydliadau roi crynodeb ansoddol o’r effeithiau cadarnhaol y mae’r cyllid hwn wedi’u cael/yn eu cael o ran cyflawni blaenoriaethau Medr a’r meini prawf a nodir uchod.
Amserlen
17. Gofynnir i ddarparwyr gadarnhau eu gallu i wario eu dyraniad llawn erbyn 30 Medi 2025.
18. Bydd Medr yn trefnu i dalu’r cyllid a ddyrannwyd i sefydliadau ar ôl derbyn y cadarnhad uchod, a hynny ym mis Hydref 2025.
19. Bydd y broses fonitro flynyddol yn digwydd yn 2026 ar ddyddiad addas.
Rhagor o wybodaeth
20. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].
Atodiad A: Modelu cyllid cyfalaf addysg uwch ychwanegol 2025/26
Sefydliad | Myfyrwyr CALl 2023/24 | Dyraniadau pro rata i (£): CALl | Canran a ddyrannwyd i bob sefydliad CALl |
---|---|---|---|
Prifysgol Abertawe | 19,009.00 | 1,514,809.31 | 15% |
Prifysgol Aberystwyth | 750,000.00 | 8% | |
Prifysgol Bangor | 750,000.00 | 8% | |
Prifysgol Caerdydd | 28,326.00 | 2,257,272.28 | 23% |
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | 11,755.00 | 936,744.88 | 9% |
Prifysgol De Cymru | 19,177.00 | 1,528,197.07 | 15% |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 10,578.00 | 842,950.86 | 8% |
Prifysgol Wrecsam | 750,000.00 | 8% | |
Y Brifysgol Agored yng Nghymru | 8,408.00 | 670,025.60 | 7% |
Cyfanswm | 97,253.00 | 10,000,000.00 | 100% |
Ffynhonnell: Cofnod myfyrwyr HESA 2023/24
Niferoedd Myfyrwyr heb eu defnyddio wrth gyfrifo: Poblogaeth gofrestru safonol HESA, pob dull, lefel a gwlad.
Myfyrwyr CALl a ddefnyddiwyd wrth gyfrifo: Poblogaeth Sesiwn HESA, pob dull, lefel a gwlad.
Sylwch fod talgrynnu wedi’i gymhwyso i werthoedd CALl ar ôl eu defnyddio mewn cyfrifiadau.
Medr/2025/18: Cyllid cyfalaf addysg uwch 2025-26
Dyddiad: 30 Medi 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/18
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch
Ymateb erbyn: 07 Hydref 2025
Crynodeb: Mae’r cylchlythyr hwn yn darparu manylion y sail ar gyfer dyrannu Cyfalaf i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2025-26, yr wybodaeth sydd ei hangen gan sefydliadau a’n dull o fonitro. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2025/26.
Medr/2025/18 Cyllid cyfalaf addysg uwch 2025-26Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio