Cyhoeddiadau
Medr/2025/08: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid
12 Aug 2025
Cyflwyniad
1. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Y Ddeddf), Adran 5 yn nodi bod rhaid i Medr hybu gwelliant parhaus yn ansawdd addysg drydyddol Gymreig ac, wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhoi sylw:
a) i bwysigrwydd sicrhau bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn gallu darparu addysg drydyddol o ansawdd uchel; a
b) i ofynion rhesymol aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol am ddatblygiad proffesiynol parhaus.
2. SMae Adran 5 (3) yn nodi bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn golygu:
a) athrawon personau sy’n cael addysg drydyddol,
b) personau sy’n darparu cymorth i’r athrawon hynny, ac
c) personau sy’n darparu cymorth i ddysgwyr i gymryd rhan mewn addysg drydyddol.
3. I roi cymorth i gyflawni’r ddyletswydd hon, mae dysgu proffesiynol wedi’i gynnwys yng Nghynllun Strategol Medr dan Nod Strategol 3.
Nod Strategol 3 Sicrhau bod dysgwyr yn cael darpariaeth o’r ansawdd gorau mewn system addysg drydyddol sy’n ymegnïo i wella’n barhaus. |
Ymrwymiad twf Byddwn yn cynorthwyo’r gweithlu addysg drydyddol i gael mynediad at ddysgu proffesiynol effeithiol ac yn archwilio ffyrdd o rannu arfer gorau, gan estyn addysgeg effeithiol ar draws y sector cyfan. |
4. Gall dysgu proffesiynol yn y cyd-destun hwn gynnwys hyfforddiant gorfodol, datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), gwybodaeth bynciol a diwydiannol, cymwysterau proffesiynol, ymchwil weithredu ac ymholi proffesiynol.
Defnyddio’r Gronfa Dysgu Proffesiynol
5. Mae llythyr cyllid Llywodraeth Cymru i Medr ar gyfer 2025/26 yn cynnwys £5 miliwn i gefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol y gweithlu addysg bellach. Dyrannwyd cyllid i sefydliadau AB yn seiliedig ar faint y sefydliad fel dirprwy ar gyfer nifer y staff. Nodir y dyraniadau yn Atodiad A.
6. Mae’r cyllid a ddyrennir gan Medr ar gael gyda’r amodau cyffredinol ar gyfer talu arian a nodir yn Nhelerau ac Amodau Cyllid Medr.
7. Bydd cyllid yn cefnogi dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr a staff cymorth dysgu a gellir ei ddefnyddio i alluogi sefydliadau i ddarparu neu gomisiynu dysgu proffesiynol sy’n cyd-fynd â’r themâu a amlinellir yn y canllawiau hyn. Dylai’r cyllid gael ei ddefnyddio dim ond i ddatblygu staff sy’n rhan o ddarparu dysgu ac addysgu mewn AB.
8. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau unigol pob sefydliad, yn seiliedig ar ei bolisïau ei hun a’r anghenion a adnabuwyd ar gyfer ei staff. Anogir sefydliadau hefyd i ddefnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgarwch cydweithredol a gallant ddewis “cyfuno” cyfran o’r cyllid hwn i gefnogi prosiectau cydweithredol.
9. Wrth lunio ceisiadau ar gyfer defnyddio cyllid, rydym yn disgwyl i’r holl sefydliadau ystyried:
- Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon AB, ymarferwyr dysgu seiliedig-ar-waith ac ymarferwyr addysg oedolion/Addysgwyr Cymru.
- Cydweithio ar draws y sector i wella effeithlonrwydd, cymorth gan gymheiriaid a rhannu arfer da.
- Dysgu blaenorol i adeiladu ar y gwaith a ddatblygwyd mewn blynyddoedd blaenorol a gwreiddio’r gwaith hwnnw.
- Taro cydbwysedd rhwng anghenion dysgu’r sefydliad (DPP) a’r penderfyniadau y mae ymarferwyr yn eu gwneud ynglŷn â’u hanghenion a’u diddordebau dysgu proffesiynol hwy eu hunain.
- Datblygu sgiliau staff i gefnogi anghenion cymhleth a blaenoriaethau o ran sgiliau.
- Lle mae sefydliadau’n gwneud dysgu proffesiynol mewn perthynas â darpariaeth ddigidol, byddwn yn gofyn iddynt ddefnyddio’r Safonau Proffesiynol Digidol a ddatblygwyd gan Jisc fel rhan o’n gwaith Digidol 2030.
10. Rhaid i geisiadau ganolbwyntio ar y themâu cymwys a restrir isod. Mae’r rhestr isod yn cwmpasu themâu gorfodol y mae’n rhaid eu cynnwys a themâu dewisol.
Themâu gorfodol
- Datblygu’r Gymraeg.
- Dysgu proffesiynol sy’n ofynnol i greu a chefnogi diwylliant gwrth-hiliol.
Themâu dewisol
- Dysgu digidol.
- Strategaethau dysgu ac addysgu, gan gynnwys dysgu gwahaniaethol.
- Llythrennedd a rhifedd.
- Gwella sgiliau diwydiannol sy’n gysylltiedig ag anghenion y farchnad lafur (gan gynnwys capasiti i ddarparu cymwysterau lefel uchel).
- Cryfhau addysgeg Safon Uwch a galwedigaethol.
- Ymchwil weithredu.
- Dysgu proffesiynol ar gyfer staff addysgu a staff cymorth arbenigol i weithio gyda dysgwyr ag anghenion cymhleth.
- Darparu gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i gyflymu a chynyddu arbenigedd staff a fydd yn cynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu’r dysgwr.
11. Bydd disgwyl i sefydliadau adrodd yn erbyn pob gweithgaredd fel rhan o’r gofynion adrodd interim a therfynol.
Materion a dulliau gweithio allweddol
12. Wrth baratoi ceisiadau, dylai sefydliadau ystyried polisïau a ffyrdd o weithio trawsbynciol eraill. Rhaid i’r rhain gynnwys:
- Partneriaeth Gymdeithasol
Mae disgwyl i SABau ddatblygu eu cynigion gan ddefnyddio egwyddorion partneriaeth gymdeithasol, i sicrhau bod eu hundebau llafur cydnabyddedig yn cael eu cynnwys yn llawn yn y broses o gynllunio, gwneud penderfyniadau, a gweithredu newidiadau a fydd yn effeithio ar staff. - Cymru Wrth-hiliol
Dylai unigolion a sefydliadau gymryd cyfrifoldeb am greu diwylliant gwrth-hiliol a llywio newid cadarnhaol parhaus ac, wrth wneud hynny, byddem yn disgwyl i chi ystyried y dysgu proffesiynol sy’n ofynnol o fewn eich sefydliad i helpu i wireddu’r uchelgais i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030. - Creu Cymru ddwyieithog
Mae gan Medr rôl o ran cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae dyletswydd arno i annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg. Rydym felly’n disgwyl i chi ystyried hyn wrth baratoi eich ceisiadau.
Strategaethau Dysgu Proffesiynol
13. Fel un o’r amodau cyllid, bydd Medr yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl sefydliadau gyflwyno strategaeth dysgu proffesiynol ffurfiol. Gall sefydliadau naill ai adolygu strategaeth bresennol neu ddatblygu un newydd. Gellir defnyddio’r Cyllid Dysgu Proffesiynol i ariannu’r amser rhyddhau staff i ddatblygu a gwerthuso strategaethau, a/neu i ddod ag arbenigedd allanol i mewn i gefnogi’r broses os oes angen. Bydd angen cyflwyno strategaethau i Medr gyda’u hadroddiadau interim ym mis Chwefror 2026.
Gweithgareddau cymwys
14. Gellir defnyddio cyllid i wneud y canlynol:
- Gwneud cymwysterau addysgu achrededig.
- Gwneud modiwlau neu unedau hyfforddi penodol i wella sgiliau addysgu (e.e. modiwlau MA).
- Diweddaru a gwella sgiliau diwydiannol/galwedigaethol staff.
- Prynu hyfforddiant pwrpasol, gan gynnwys costau hyfforddwyr neu hwyluswyr allanol.
- Prynu neu ddatblygu pecynnau e-ddysgu.
- Talu costau cefnlenwi ar gyfer staff sy’n gwneud hyfforddiant proffesiynol.
- Gwneud ymchwil gan gynnwys ymchwil weithredu.
- Dylunio a darparu dysgu proffesiynol a datblygiad arweinwyr yn gydweithredol, gan gynnwys hyfforddiant ar y cyd ar sail ranbarthol.
- Datblygu adnoddau a chanllawiau dysgu proffesiynol dwyieithog er budd y sector cyfan, gan gynnwys mewn dysgu seiliedig-ar-waith ac addysg oedolion.
- Dysgu proffesiynol ar gyfer staff addysgu a staff cymorth arbenigol i weithio gyda dysgwyr ag anghenion cymhleth.
- Darparu gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i gyflymu a chynyddu arbenigedd ar gyfer staff a fydd yn cynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu’r dysgwr.
15. Ni ellir defnyddio’r cyllid i brynu offer neu feddalwedd cyfalaf nac i ddatblygu cyrsiau ar gyfer dysgwyr.
16. Os ydych yn ansicr a yw eich defnydd arfaethedig o’r cyllid yn gymwys cysylltwch â [email protected].
Meini prawf gwerthuso
17. Rhaid i gynigion wneud y canlynol:
- Darparu dysgu proffesiynol yn unol â’r Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon AB, ymarferwyr dysgu seiliedig-ar-waith ac ymarferwyr addysg oedolion/Addysgwyr Cymru.
- Adnabod manteision eglur a dangos sut y bydd effaith yn cael ei gwerthuso.
- Cyd-fynd â’r themâu a restrir yn y canllawiau hyn.
- Cynnwys gweithgareddau sydd o gymorth i ddatblygu’r Gymraeg
- Dangos dysgu proffesiynol a fydd yn creu ac yn ategu diwylliant gwrth-hiliol.
- Dangos rhesymeg eglur sy’n adlewyrchu anghenion dysgu proffesiynol a adnabuwyd ar gyfer staff y sefydliad.
Sut i ymgeisio
18. Mae’n ofynnol i bob sefydliad gwblhau a dychwelyd copi wedi’i lofnodi o’r ffurflen yn Atodiad C er mwyn:
- Cadarnhau’n ffurfiol bod eich sefydliad yn derbyn y cyllid.
- Enwebu unigolyn priodol yn eich sefydliad fel y cyswllt arweiniol mewn perthynas â’r cyllid hwn.
- Amlinellu’n fras beth yw eich bwriadau ar gyfer defnyddio’r cyllid hwn.
19. Dylid dychwelyd ffurflenni wedi’u llofnodi i [email protected] erbyn 30 Mehefin 2025.
20. Rhowch wybod i Medr ar y cyfle cynharaf os ydych yn rhagweld na fyddwch yn gallu gwario eich dyraniad yn llawn. Os yw cyllid yn cael ei ryddhau gan sefydliadau unigol, bydd Medr yn ystyried a yw’n ddichonadwy ailddyrannu’r cyllid hwn.
Monitro a thalu cyllid
21. Ym amodol ar ddychwelyd Atodiad C, bydd taliad interim (65% o ddyraniad cyllid eich sefydliad) yn cael ei amserlennu yn ystod mis Chwefror 2026.
22. Bydd yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth am wariant erbyn 31 Gorffennaf 2026 i ryddhau’r taliad terfynol. Dim ond yn erbyn gwariant gwirioneddol a gafwyd erbyn 31 Gorffennaf 2026 y dylech hawlio. Bydd swm y taliad terfynol hwn yn cael ei addasu yn unol â’r gwariant gwirioneddol a gafwyd, hyd at gyfanswm gwerth dyraniad eich sefydliad.
23. Bydd templedi ar gyfer adroddiadau interim a therfynol ynghyd â gwybodaeth am wariant ar ddiwedd y flwyddyn yn cael eu hychwanegu fel Atodiad D. Bydd arweinwyr cyllid enwebedig yn cael eu hysbysu pan fydd y ffurflenni hyn ar gael.
24. Mae cadarnhau’r dyraniad yn amodol ar gymeradwyo gweithgareddau gan Medr.
Rhagor o wybodaeth
25. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y canllawiau hyn a’r ddogfennaeth ategol at Karron Williams yn [email protected].
Medr/2025/08: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid
Dyddiad: 12 Awst 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/08
At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach (SABau) yng Nghymru; Arweinwyr dysgu proffesiynol SABau
Ymateb erbyn: Ceisiadau i’w cyflwyno erbyn canol dydd 7 Gorffennaf 2025
Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi’r dyraniadau cyllid refeniw dysgu proffesiynol (PLF) i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Mae’r ddogfen yn darparu canllawiau ynghylch gwariant cymwys ac anghymwys a thempledi ar gyfer ceisiadau a chostau.
Cyhoeddwyd canllawiau drafft i ddarparwyr ar 9 Mehefin ac mae ymatebion wedi’u derbyn.
Ceir rhagor o wybodaeth yn yr Atodiadau canlynol wrth y canllawiau hyn.
Medr/2025/08 Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllidDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio