Cyhoeddiadau
Medr/2025/07: Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Cofrestriadau Addysg Uwch 2024/25
11 Aug 2025
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi diffiniadau a chanllawiau i sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch (a elwir ar y cyd yn ddarparwyr addysg uwch) a ariennir gan Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch. Mae’r canllawiau hefyd yn berthnasol i ddarparwyr sy’n cynnig darpariaeth cyrsiau wedi’u dynodi’n benodol, ond nad ydynt yn cael cyllid yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch, gan gynnwys rhai sefydliadau addysg bellach a rhai darparwyr amgen. Mae’r canllawiau’n ymwneud â data diwedd blwyddyn a gaiff eu hechdynnu o gofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar gyfer 2024/25 gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) er mwyn galluogi Medr i wneud y canlynol:
a). cyfrifo dyraniadau cyllid ar gyfer cyllid seiliedig ar gredydau myfyrwyr israddedig rhan-amser a’r premiwm pynciau cost uwch ar gyfer 2026/27;
b). cyfrifo unrhyw addasiadau i gyllid seiliedig ar gredydau myfyrwyr israddedig rhan-amser 2024/25;
c). monitro darpariaeth cyrsiau meddygaeth a deintyddiaeth;
d). canfod niferoedd terfynol myfyrwyr a gwerthoedd credydau darparwyr addysg uwch ar gyfer 2024/25 at ddibenion modelu cyllid a gwybodaeth.
Prif newidiadau ar gyfer 2024/25
2. Mae’r prif newidiadau a wnaed ers arolwg monitro diwedd blwyddyn 2023/24 fel a ganlyn:
a). Mae’r dull ar gyfer canfod nifer y myfyrwyr segur/sy’n ysgrifennu sydd wedi bod yn anweithredol drwy gydol y flwyddyn academaidd wedi newid. Mae Atodiad M yn cynnwys manylion y fethodoleg a ddefnyddiwyd i adnabod myfyrwyr o’r fath yn yr echdyniad data. Mae Atodiad K hefyd wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newid.
b). Mae’r ffordd y caiff credydau meddygaeth a deintyddiaeth eu dynodi i’w categorïau pynciau academaidd wedi newid ac mae’r dull bellach yn defnyddio pwnc a chyfran cymhwyster y cwrs yn hytrach na’r flwyddyn astudio. Mae’r manylion i’w gweld yn Atodiad K, paragraff 17.
c). Mae’r terfynau ffioedd uchaf ar gyfer cyrsiau israddedig a TAR amser llawn wedi cael eu diweddaru. Gweler Atodiad F.
d). Mae’r darparwyr hynny sy’n tanysgrifio i HESA er mwyn cyflwyno data sy’n ymwneud â chyrsiau wedi’u dynodi’n benodol bellach o fewn cwmpas yr echdyniad data monitro diwedd blwyddyn. Diben hyn yw cael darlun recriwtio diwedd blwyddyn ar gyfer y darparwyr hyn. Ni chaiff data eu defnyddio wrth gyfrifo cyllid ac nid oes angen iddynt gael eu cymeradwyo. Mae rhagor o fanylion i’w cael yn yr atodiadau canllaw.
Cynnwys
3. Mae’r cylchlythyr hwn yn rhoi:
a). canllawiau a diffiniadau ar gyfer yr amrywiol gategorïau a ddefnyddir i ddosbarthu myfyrwyr;
b). gwybodaeth am y meini prawf a ddefnyddir i echdynnu data monitro diwedd blwyddyn o gofnod myfyrwyr HESA 2024/25 gan ddefnyddio IRIS;
c). manylion y trefniadau cymeradwyo ar gyfer y tablau a ddarperir drwy allbynnau IRIS HESA (gweler y rhestr o dablau y mae angen eu cymeradwyo ym mharagraff 10). Noder mai dim ond i ddarparwyr addysg uwch sy’n cael cyllid gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch y mae’r broses gymeradwyo’n berthnasol. Nid yw’n ofynnol i ddarparwyr sy’n cyflwyno data i HESA am fod ganddynt gyrsiau wedi’u dynodi’n benodol gymeradwyo’r tablau monitro diwedd blwyddyn, ac mae’r daflen gymeradwyo wedi cael ei thynnu o’u hallbynnau IRIS HESA.
4. Mae cynnwys yr atodiadau fel a ganlyn:
Atodiad | Rhif tudalen | |
---|---|---|
Atodiad A | Canllaw cryno ar arolwg monitro diwedd blwyddyn 2024/25 | 5 |
Atodiad B | Diffiniad o gymhwyster addysg uwch cydnabyddedig | 13 |
Atodiad C | Dysgu o bell, campysau, is-sefydliadau, trefniadau breinio, trefniadau dilysu a threfniadau cydweithredol eraill | 14 |
Atodiad D | Diffiniad o statws preswyl a statws cyllid | 21 |
Atodiad E | Diffiniad o gategorïau pynciau academaidd | 25 |
Atodiad F | Diffiniad o ddull astudio | 27 |
Atodiad G | Diffiniad o lefel astudio | 30 |
Atodiad H | Rheolau ar gyfer cyfrif cofrestriadau | 31 |
Atodiad I | Rheolau ar gyfer cyfrif gwerthoedd credydau | 38 |
Atodiad J | Disgrifiadau o’r tablau a’r colofnau | 43 |
Atodiad K | Mapiadau HESA/ystadegau cynnar myfyrwyr addysg uwch/monitro diwedd blwyddyn a meini prawf echdynnu data monitro diwedd blwyddyn | 47 |
Atodiad L | Defnydd o ddata gan Medr | 57 |
Atodiad M | Dosbarthiad myfyrwyr segur/sy’n ysgrifennu | 59 |
Atodiad N | Grid cyfeirio statws cyllid | 61 |
Atodiad O | Copïau enghreifftiol o dablau allbwn IRIS wedi’u hechdynnu o ddata HESA | 63 |
Addasu cyllid 2024/25
5. At ddibenion cyfrifo canlyniadau tanrecriwtio i gyllid ar gyfer 2024/25, caiff cyllid addysgu seiliedig ar gredydau myfyrwyr israddedig rhan-amser ei ailgyfrifo gan ddefnyddio data monitro diwedd blwyddyn. Caiff gwerthoedd credydau (ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser) sy’n deillio o fodiwlau y gwnaeth myfyrwyr gofrestru ar eu cyfer hyd at a chan gynnwys 1 Tachwedd 2024, ac ar ôl hynny, eu defnyddio a chaiff nifer y gwerthoedd credydau sy’n gysylltiedig â modiwlau y bydd myfyrwyr yn tynnu’n ôl ohonynt ei ddidynnu. Caiff y tablau monitro diwedd blwyddyn wedi’u cymeradwyo o echdyniad IRIS HESA eu defnyddio at y diben hwn.
Y broses ar gyfer cymeradwyo data monitro diwedd blwyddyn a data eraill a gaiff eu hechdynnu o gofnod myfyrwyr HESA
6. Rhaid i ddarparwyr addysg uwch a ariennir yn uniongyrchol gan Medr ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch gymeradwyo’r data a gyflwynir yn allbynnau IRIS terfynol cofnod myfyrwyr HESA 2024/25 fel y byddant ar ddyddiad cymeradwyo terfynol HESA, sef 5 Tachwedd 2025. Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd yr allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo i Medr fydd 5 Rhagfyr 2025. Dyma’r drydedd flwyddyn o greu allbynnau IRIS o dan gofnod myfyrwyr newydd HESA. Gwnaethom rai newidiadau y llynedd o ganlyniad i’r ymgynghoriad ar newidiadau i fonitro diwedd blwyddyn ar gyfer 2023/24, ac rydym yn gwneud rhai newidiadau ychwanegol ar gyfer 2024/25 (gweler paragraff 2). Os gwneir unrhyw ddiwygiadau i’r mapiad neu’r dull echdynnu ar ôl i’r echdyniad gael ei roi ar waith yn y lle cyntaf, byddwn yn rhoi gwybod i ddarparwyr. Dylai darparwyr hefyd roi gwybod i ni os gwelant unrhyw broblemau yn yr echdyniad, naill ai yn y ffordd y caiff yr allbynnau eu cyflwyno neu yn y mapiad a ddefnyddir.
7. Yn ystod y cyfnod gwirio ansawdd data HESA rhwng 1 Awst a 29 Hydref 2025, bydd Medr yn cynnal gwiriadau ansawdd ar y data a gyflwynir. Byddwn yn cysylltu â darparwyr tua chwe wythnos cyn y dyddiad cymeradwyo terfynol ar gyfer cofnod myfyrwyr HESA, sef 5 Tachwedd, a phan fydd darparwyr wedi cadarnhau eu bod yn barod i ni anfon unrhyw ymholiadau ymlaen, byddwn yn darparu cyfres o ymholiadau. Gall darparwyr hefyd ofyn i ni godi cwestiynau’n gynharach na chwe wythnos ymlaen llaw neu bennu dyddiad pan hoffant i ni anfon ein rhestr o ymholiadau atynt os bydd hynny’n well ganddynt, a gallant ofyn unrhyw bryd i ni edrych ar agweddau penodol ar eu data os bydd hynny’n ddefnyddiol iddynt. Diben hyn yw cynorthwyo proses gwirio ansawdd fewnol y darparwr ei hun a sicrhau bod y data’n addas i’r diben i Medr. Fel y disgrifir yn amserlen casglu Cofnodion Myfyrwyr HESA, mae’n ofynnol i ddarparwyr naill ai ailgyflwyno eu data i ddiwygio’r anghysondebau hyn, neu esbonio pam y maent yn ddilys.
8. Cyn cyflwyno’r allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo i Medr, rhaid i ddarparwyr addysg uwch fod wedi cynnal gwiriadau digonol er mwyn bod yn fodlon bod y data wedi’u hechdynnu yn gywir, a/neu wneud diwygiadau lle bo angen os na fydd y data’n gywir. Gan mai 2024/25 yw trydedd flwyddyn y cofnod myfyrwyr newydd o dan Data Futures, a chan fod rhai darparwyr yn dal i gael anawsterau wrth roi’r cofnod newydd ar waith, rydym yn parhau i ganiatáu newidiadau i’r holl allbynnau IRIS ar y cam cymeradwyo. Dylai darparwyr roi esboniad o unrhyw newidiadau a wneir. Bydd rhagor o fanylion am y broses i’w cael yn y cyhoeddiad Gofynion Data ar gyfer 2025/26, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Awst 2025.
9. Ni fydd angen i ni gael copi caled o’r allbynnau IRIS wedi’u cymeradwyo. Dylid cyflwyno’r allbynnau wedi’u cymeradwyo drwy eu hanfon drwy e-bost at Andrea Thomas yn [email protected]. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r allbynnau wedi’u cymeradwyo fydd 5 Rhagfyr 2025. Caiff manylion y broses ei hanfon drwy e-bost ar wahân at lofnodwyr awdurdodedig a chysylltiadau data ym mis Hydref 2025 i’w hatgoffa.
10. Mae gan yr allbynnau IRIS y bydd angen eu cymeradwyo ragddodiad “S” o flaen eu henwau ffeil ac maent fel a ganlyn
a). Monitro Diwedd Blwyddyn
b). Mesurau Cenedlaethol Medr
c). Dyraniadau hepgor ffioedd rhan-amser
d). Monitro hepgor ffioedd rhan-amser
e). Monitro gradd-brentisiaethau (ynghyd â’r wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani)
f). Cyllid y pen
g). Premiwm anabledd
h). Premiwm mynediad a chadw
i). Premiwm cyfrwng Cymraeg
j). Premiwm pynciau drud
k). Dyraniad hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig
l). Cyllid cydraddoldeb hil/llesiant ac iechyd meddwl
m). Cyllid Cymorth Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu
n). Cyfwerth ag amser llawn (FTE) (ar gyfer dyraniadau cyllid cyfalaf)
Archwilio data
11. Atgoffir darparwyr y gall data monitro diwedd blwyddyn, a thablau eraill fel y disgrifir ym mharagraff 10 a echdynnir o gofnod myfyrwyr HESA gan ddefnyddio IRIS, ac unrhyw ddiwygiadau a wneir i’r echdyniadau, gan gynnwys dulliau a ddefnyddir i gyfrifo unrhyw amcangyfrifon a gaiff eu cynnwys yn y diwygiadau, fod yn destun archwiliad allanol a gynhelir gan Medr neu gan gontractwyr ar ran Medr. Mae’r systemau a’r prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu’r data HESA a echdynnir o fewn cwmpas archwiliadau mewnol y sefydliad.
Rhagor o wybodaeth
12. Dylid anfon unrhyw ymholiadau at Andrea Thomas (e-bost [email protected]).
Medr/2025/07: Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Cofrestriadau Addysg Uwch 2024/25
Dyddiad: 11 Awst 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/07
At: Penaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Prifathrawon sefydliadau addysg bellach yng Nghymru sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch
Ymateb erbyn: 05 Rhagfyr 2025
Crynodeb:
Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi diffiniadau a chanllawiau i ddarparwyr addysg uwch ynglŷn â’r data diwedd blwyddyn a gaiff eu hechdynnu o gofnod myfyrwyr HESA 2024/25.
Caiff y data eu hechdynnu gan ddefnyddio Gwasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) HESA a chânt eu defnyddio i gyfrifo cyllid seiliedig ar gredydau ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser a’r premiwm pynciau cost uwch ar gyfer 2026/27, cyfrifo unrhyw addasiad i gyllid addysgu seiliedig ar gredydau myfyrwyr israddedig rhan-amser ar gyfer 2024/25, monitro darpariaeth meddygaeth a deintyddiaeth a chanfod niferoedd terfynol myfyrwyr a gwerthoedd credydau darparwyr ar gyfer 2024/25.
Medr/2025/07 Monitro Diwedd Blwyddyn ar gyfer Cofrestriadau Addysg Uwch 2024/25Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio