Cyhoeddiadau
Medr/2025/01: Cyllid cyfalaf ychwanegol addysg uwch 2024-25
25 Mar 2025
Cefndir
1. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyllid cyfalaf ychwanegol o £18.5m ar gael i’w ddyrannu ym mlwyddyn ariannol 2024-25. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi blaenoriaethau strategol gan gynnwys Sero Net/Datgarboneiddio, gwella cyfleusterau a symud yr agenda ddigideiddio yn ei blaen.
Sail dyraniadau cyllid cyfalaf
2. Bydd y cyllid cyfalaf yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar ddull fformiwläig. Gan y dylai’r cyllid gael ei ddefnyddio, yn rhannol o leiaf, i gefnogi dysgu ac addysgu, profiad myfyrwyr a’r seilwaith ar gyfer myfyrwyr, mae’r dyraniadau wedi cael eu pennu yn seiliedig ar niferoedd myfyrwyr. Mae nifer y myfyrwyr mewn sefydliad yn ddirprwy rhesymol ar gyfer faint o ystâd a chyfleusterau y mae eu hangen. Mae’r dull hwn yn gyson â dyraniadau cyfalaf blaenorol a weinyddwyd gan CCAUC.
3. Y niferoedd myfyrwyr a ddefnyddiwyd ar gyfer y dyraniad cychwynnol yw Myfyrwyr Cyfwerth ag Amser Llawn (CagALl) Cofnod Myfyrwyr HESA ar gyfer pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2022/23. Mae hon yr un sail ag a ddefnyddiwyd i ddyrannu’r cylch blaenorol o gyllid cyfalaf.
Cymhwyso isafswm dyraniad cyllid
4. Er mwyn darparu cyllid cyfalaf a fydd yn galluogi’r holl sefydliadau i fuddsoddi mewn prosiectau a fydd yn cael effaith gynaliadwy, fe gymhwyswyd isafswm dyraniad o £1,387,500. O ystyried ei hystâd gyfyngedig yng Nghymru, bydd isafswm o 50% (£693,750) wedi ei bennu fel trothwy ar gyfer y Brifysgol Agored i gyfrannu at brosiectau a fydd o fudd i fyfyrwyr Cymru.
5. Mae’r cyllid ar gyfer sefydliadau lle gwnaeth y dyraniad gwreiddiol yn seiliedig ar eu myfyrwyr CagALl gwympo islaw’r gwerth hwn wedi cael ei gynyddu i’r swm hwn ac mae’r myfyrwyr CagALl ar gyfer y sefydliadau hynny wedi cael eu tynnu allan o’r cyfrifiad wedyn. Mae gweddill y cyllid sydd ar gael wedi cael ei ddosrannu rhwng y sefydliadau eraill yn seiliedig ar y myfyrwyr CagALl sy’n weddill yn y cyfrifiad.
6. Caiff y dyraniadau canlyniadol ar gyfer pob sefydliad eu darparu yn Atodiad A.
Cadarnhad o’r gallu i wario
7. O ystyried y ffrâm amser gyfyngedig i ddosbarthu’r cyllid hwn, yn lle cynlluniau wedi eu cwmpasu’n llawn rydym yn disgwyl i sefydliadau gadarnhau trwy anfon e-bost i [email protected] eu bod yn gallu defnyddio eu dyraniad yn erbyn prosiectau perthnasol ym mlwyddyn ariannol 2024-25. Sylwer bod rhaid i’r rhain fod yn ddatblygiadau yng Nghymru (neu, yn achos digidol, prosiectau a fydd o fudd uniongyrchol i fyfyrwyr Cymru).
8. Pe bai sefydliad yn rhagweld na fydd yn gallu defnyddio ei ddyraniad llawn, dylai hysbysu Medr ar y cyfle cynharaf a bydd unrhyw arian sy’n weddill yn cael ei ailddyrannu i sefydliadau eraill trwy’r dull fformiwläig a ddisgrifiwyd yn flaenorol.
Monitro blynyddol
9. Bydd ymarfer monitro’n cael ei gynnal yn 2025 ar ddyddiad addas (yn yr hydref mwy na thebyg) i sicrhau bod y cyllid wedi cael ei ddefnyddio fel a fwriadwyd ac i ddarparu diweddariad ar yr effaith y mae’r buddsoddiad wedi ei chael.
10. Bydd disgwyl i sefydliadau ddarparu dadansoddiad o’r gwariant cyfalaf a manylu ar unrhyw brosiectau y mae’r cyllid wedi cyfrannu atynt.
11. Byddwn yn gofyn i sefydliadau ddarparu crynodeb ansoddol o’r effeithiau cadarnhaol y mae’r cyllid hwn wedi eu cael/yn eu cael ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’r meini prawf a nodir uchod.
Amserlen
12. Byddwn yn gofyn i ddarparwyr gadarnhau eu gallu i wario eu dyraniad llawn erbyn 19 Mawrth 2025.
13. Bydd Medr yn trefnu bod yr arian a ddyrennir yn cael ei dalu i sefydliadau ar ôl cael y cadarnhad uchod ac ar 20 Mawrth 2025.
14. Bydd y broses fonitro flynyddol yn digwydd yn 2025 ar ddyddiad addas.
Rhagor o wybodaeth
15. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].
Atodiad A: Modelu cyllid cyfalaf ychwanegol addysg uwch 2024/25
Sefydliad | Niferoedd Myfyrwyr a CagALl 2022/23 | Dyraniadau pro rata i (£): CagALl | Canran a ddyrennir i bob sefydliad CagALl |
---|---|---|---|
Prifysgol De Cymru | 17,855 | 2,638,895 | 14% |
Prifysgol Aberystwyth | 1,387,500 | 8% | |
Prifysgol Bangor | 1,387,500 | 8% | |
Prifysgol Caerdydd | 28,015 | 4,140,325 | 22% |
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant | 12,600 | 1,861,787 | 10% |
Prifysgol Abertawe | 18,640 | 2,754,551 | 15% |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 11,950 | 1,765,875 | 10% |
Prifysgol Wrecsam | 1,387,500 | 8% | |
Y Brifysgol Agored | 7,960 | 1,176,067 | 6% |
Cyfanswm | 97,015 | 18,500,000 | 100% |
Ffynhonnell: Cofnod myfyrwyr HESA 2022/23
Niferoedd Myfyrwyr nas defnyddiwyd yn y cyfrifiad: Poblogaeth gofrestru safonol HESA, pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni.
Niferoedd Myfyrwyr CagALl a ddefnyddiwyd yn y cyfrifiad: Poblogaeth Sesiwn HESA, pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni.
Sylwer bod gwerthoedd CagALl wedi cael eu talgrynnu yn dilyn eu defnyddio yn y cyfrifiadau.
Medr/2025/01: Cyllid cyfalaf ychwanegol addysg uwch 2024-25
Dyddiad: 11 Mawrth 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/01
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru
Rhagor o wybodaeth: [email protected]
Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu manylion y sail a fydd yn cael ei defnyddio i ddyrannu cyfalaf ychwanegol i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2024-25, yr wybodaeth sy’n ofynnol oddi wrth sefydliadau a’n dull o fonitro.
Medr/2025/01 Cyllid cyfalaf ychwanegol addysg uwch 2024-25Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio