Newyddion
Mae pob un o wyth prifysgol Cymru wedi ennill Gwobr Efydd Cydraddoldeb Hiliol
29 Jul 2025
Mae prifysgolion yn cefnogi gwaith ei gilydd i wella cynrychiolaeth, profiad, dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr lleiafrifiedig ym maes addysg uwch.
Mae pob un o’r wyth prifysgol yng Nghymru – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Wrecsam – wedi cydweithio i ennill gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Cenhadaeth y Siarter Cydraddoldeb Hiliol yw gwella cynrychiolaeth, profiad, dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr lleiafrifiedig ym maes addysg uwch. Mae’n cynnig fframwaith trylwyr a chadarn y mae sefydliadau’n ei ddefnyddio fel sail i fyfyrio’n feirniadol a gweithredu ar rwystrau sefydliadol a diwylliannol sy’n rhwystro eu cynnydd a’u llwyddiant.
Yn ôl Anne Mwangi, Pennaeth y Siarter Cydraddoldeb Hiliol: “Mae’r cyflawniad hwn mewn tair blynedd yn eithriadol ac yn ganlyniad gwych i addysg drydyddol yng Nghymru, gan ddangos yr ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Mae gwobr Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hiliol yn gydnabyddiaeth o sylfaen gadarn sefydliad ar gyfer dileu anghydraddoldebau hiliol, datblygu diwylliannau cynhwysol a symud o ddangos ymrwymiad i weithredu’n gadarn ac yn uchelgeisiol mewn modd cynaliadwy ac integredig.
“Mae’r prifysgolion wedi cydweithio drwy gydol y broses, gan rannu arferion gorau a dulliau arloesol sydd wedi cyfoethogi eu cynlluniau gweithredu unigol, bob un wedi’i deilwra’n ofalus i’w cyd-destun sefydliadol penodol. Mae’r gwobrau hyn yn dilyn adolygiadau cyfoedion annibynnol trylwyr o bob cais ar wahân. Daw’r adolygwyr i gyd o’r sector.
“Mae AU Ymlaen yn edrych ymlaen at gefnogi’r sefydliadau hyn wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau gweithredu i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol.”
Meddai Kieron Rees, Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr yn Medr: “Mae hwn yn gyflawniad arwyddocaol gan brifysgolion Cymru. Rydyn ni, fel ein corff rhagflaenol CCAUC, yn falch o fod wedi gallu cefnogi prifysgolion yn y gwaith pwysig hwn. Hoffem dalu teyrnged i waith caled y staff wrth sicrhau’r gydnabyddiaeth hon.
“Gwyddom y bydd prifysgolion yn parhau â’u cynnydd yn y maes hwn, gan adeiladu ar y sylfeini cryf o fod wedi cyflawni Gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hiliol AU Ymlaen.” Byddwn ninnau hefyd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, y sector addysg drydyddol ac ymchwil, a phartneriaid allweddol yn y sector i wneud cynnydd tuag at gyflawni Cymru wrth-hiliol a sicrhau amgylcheddau dysgu a gwaith cynhwysol i bawb.”
Meddai’r Athro Paul Boyle, Cadeirydd Prifysgolion Cymru: “Mae’r cyflawniad nodedig hwn gan brifysgolion Cymru yn dyst i ymrwymiad parhaus y sector i greu amgylcheddau dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol i staff a myfyrwyr. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio a phwrpas cyffredin.”
Mae’r gwobrau yng Nghymru yn cyd-daro â degfed pen-blwydd Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Gwelwyd gwelliannau mewn cynrychiolaeth ar gyfer staff lleiafrifiedig yn y deng mlynedd yn y DU ers sefydlu’r Siarter:
- Mae cyfran yr academyddion lleiafrifiedig wedi cynyddu 9.6 pwynt canran o 12.8% yn 2012/13 i 22.4% yn 2022/23
- Mae cyfran yr athrawon lleiafrifiedig wedi cynyddu 4.4 pwynt canran o 8.4% o athrawon yn 2012/13 i 12.8% o athrawon yn 2022/23
- Mae cyfran penaethiaid lleiafrifiedig sefydliadau wedi cynyddu 10.5 pwynt canran o 0% yn 2012/13 i 10.5% yn 2022/23.
Bydd AU Ymlaen yn cefnogi pob un o’r wyth prifysgol wrth iddynt weithio i roi eu cynlluniau gweithredu ar waith a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol mewn addysg uwch yng Nghymru, yn union fel y mae wedi gwneud yn ystod y gwaith a wnaed i ennill y gwobrau hyn.
Nodiadau
Medr
- Darparwyd cyllid yn wreiddiol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) W22/05HE: Ymgynghoriad ar gyllid i gefnogi cydraddoldeb hiliol mewn addysg uwch i fynd i’r afael â hiliaeth a chefnogi newid diwylliant mewn addysg uwch, yn unol â datblygiadau polisi hil, mynediad a llwyddiant a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Roedd y cyhoeddiad cychwynnol yn cynnwys amodau cyllid cyfatebol a’r disgwyliad y byddai prifysgolion yn cyflawni gwobr siarter cydraddoldeb hiliol erbyn 2024/25. Cadarnhaodd pob prifysgol i CCAUC eu bwriad i gyflawni’r ymrwymiad hwn erbyn diwedd 2025.
AU Ymlaen
- Mae eleni hefyd yn nodi ugeinfed pen-blwydd Siarter Athena Swan, fframwaith i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb rhywiol mewn addysg uwch (AU) ac ymchwil. Mae Siarteri Cydraddoldeb AU Ymlaen yn gatalyddion ar gyfer newid – gan gefnogi sefydliadau addysg uwch a sefydliadau ymchwil yn eu gwaith i drawsnewid eu diwylliannau a chael effaith ar fywydau staff a myfyrwyr.
- Ym mis Ionawr 2026, byddwn yn lansio’r Fframwaith Sefydliadau Cynhwysol, a gynlluniwyd i helpu sefydliadau i alinio ac ymgorffori eu blaenoriaethau ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant, ehangu cyfranogiad a mynediad. Rhagor o wybodaeth.
Cyhoeddwyd yr eitem newydd hon yn wreiddiol gan Advance HE: Mae pob un o wyth prifysgol Cymru wedi ennill Gwobr Efydd Cydraddoldeb Hiliol.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio