This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Diweddariad gan Medr: yr allu i ddilyn cyrsiau gradd arbenigol yn y celfyddydau perfformio yn Lloegr

Diweddariad gan Medr ar effaith y fframwaith dynodi cyrsiau presennol ar allu myfyrwyr sydd â’u domisil yng Nghymru i ddilyn rhai cyrsiau gradd arbenigol yn y celfyddydau perfformio a gyflwynir drwy bartneriaethau prifysgol yn Lloegr

Cafodd Medr wybod y llynedd am broblemau lle nad oedd myfyrwyr sydd â’u domisil yng Nghymru yn gallu cael cyllid myfyrwyr ar gyfer rhai cyrsiau gradd arbenigol yn y celfyddydau perfformio a gyflwynir drwy bartneriaethau prifysgol yn Lloegr. Er nad yw Medr yn rhan o’r broses awtomatig o ddynodi cyrsiau ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, rydym wedi parhau i fonitro’r sefyllfa ac wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru at effaith hyn ar ddarpar ddysgwyr a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Y llynedd, aeth Llywodraeth Cymru a Cyllid Myfyrwyr Cymru ati i adolygu’r ffordd y caiff darparwyr breiniol sefydliadau yn Lloegr sydd wedi’u cofrestru â’r Swyddfa Fyfyrwyr eu dynodi’n awtomatig. Drwy’r broses hon, daethant o hyd i nifer o achosion lle roedd darparwyr breiniol wedi cael eu lanlwytho’n anghywir i systemau’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr gan y sefydliad breinio.

Nid yw hyn yn golygu bod y ffordd y caiff cyrsiau eu dynodi wedi newid – mae’n golygu bod gwall wedi cael ei wneud gan y sefydliad breinio.

Mae’n bwysig pwysleisio mai cyfrifoldeb y sefydliad breinio yw sicrhau ei fod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr, a chyfleu hynny’n briodol. Dylid hefyd nodi bod y ddeddfwriaeth ynghylch cymorth i fyfyrwyr yn amrywio rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig ac nad yw cymhwysedd mewn un awdurdodaeth yn rhoi cymhwysedd mewn awdurdodaeth arall yn awtomatig.

Dim ond darparwyr sy’n bodloni’r meini prawf deddfwriaethol, megis bod wedi’u cofrestru â’r Swyddfa Fyfyrwyr, a gaiff eu dynodi’n awtomatig. Mae rhagor o wybodaeth am ddynodi cyrsiau addysg uwch yn awtomatig i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

Pan na fydd modd i gwrs gael ei ddynodi’n awtomatig, gall y sefydliad breinio wneud cais, ar ran ei ddarparwr breiniol, i Medr am Ddynodiad Cwrs Penodol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sydd â’u domisil yng Nghymru. Wedyn, bydd Medr yn gyfrifol am asesu ceisiadau am Ddynodiad Cwrs Penodol a chynghori Gweinidogion Cymru ar eu cymhwysedd.

Os bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi Dynodiad Cwrs Penodol, caiff y benthyciad ffioedd dysgu sydd ar gael i fyfyrwyr ei bennu ar y terfyn ffioedd isaf, sef £6,355 ar hyn o bryd (a fydd yn codi i £6,525 ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27). Rydym yn dal ar gael i drafod prosesau dynodi neu lwybrau gwneud cais gydag unrhyw sefydliad breinio neu ddarparwr sydd am gael eglurder.

Efallai ei bod hefyd yn werth nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad y llynedd ar newidiadau i’r polisi dynodi. Ar wahân i hynny, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cynnig, mewn ymgynghoriad diweddar, y bydd yn rhaid i bartneriaid cyflwyno breiniol sydd â 300 neu fwy o fyfyrwyr fod wedi’u cofrestru â’r Swyddfa Fyfyrwyr er mwyn i gyrsiau a gyflwynir ganddynt gael eu dynodi ar gyfer cyllid myfyrwyr. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i lawer o ddarparwyr gofrestru â’r Swyddfa Fyfyrwyr, a byddai’n effeithio ar eu cymhwysedd i gael eu dynodi yng Nghymru, yn enwedig yng nghyd-destun y newidiadau arfaethedig gan Lywodraeth Cymru.

Bwriedir i’r wybodaeth hon nodi’n glir beth yw rôl Medr o ran dynodi cyrsiau yn dilyn cryn dipyn o ohebiaeth â Medr yn mynegi pryder ynglŷn â’r mater hwn.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio