This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Cyhoeddi gweledigaeth Medr ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru

Mae’r Cynllun, fu’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Medi a mis Hydref 2024, yn nodi uchelgeisiau Medr am sector cydweithredol sy’n darparu dysgu ac ymchwil o ansawdd uchel, gan ddiwallu anghenion yr economi a chymdeithas, gwella cyfraddau cyfranogiad mewn addysg drydyddol, a chreu llwybrau mwy hyblyg i ddysgwyr.

Rhoddodd Medr gyfle i gyflogwyr, undebau llafur a dysgwyr, ochr yn ochr â darparwyr addysg drydyddol a rhanddeiliaid eraill, gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, a ddenodd fwy na 100 o ymatebion.

Ystyriwyd yr ymatebion hyn wrth greu’r fersiwn derfynol, a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ar 25 Chwefror 2025.

Yn ôl yr Athro Fonesig Julie Lydon, Cadeirydd Medr:

“Rwy’n falch o fod yma gan fy mod yn credu yng ngrym trawsnewidiol addysg drydyddol ac ymchwil – yn wir, rwy’n gynnyrch y grym hwnnw. Rydyn ni i gyd yn uchelgeisiol ynghylch dyfodol Cymru: er budd ein pobl, ein cymunedau a’n heconomi. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y sector addysg drydyddol ac ymchwil yn chwarae ei ran.

“Er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael hyd i’w lwybr, mae angen system addysg drydyddol ac ymchwil gydlynol arnom – un sy’n gwneud y gorau o botensial ein pobl a’n darparwyr. Mae Medr yma i sicrhau bod gennym system o’r fath.

“Y Cynllun hwn yw’r cam cyntaf tuag at wireddu’r weledigaeth hirdymor uchelgeisiol honno. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i’w wireddu.”

Yn ôl Simon Pirotte OBE, Prif Weithredwr Medr:

“Rydym am i bob dysgwr yng Nghymru gael hyd i’r ddarpariaeth dysgu sydd orau iddyn nhw: y math cywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir. Rydym yn hyderus bod ein gweledigaeth yn cael ei rhannu ledled Cymru, a thrwy symud ymlaen gyda’n gilydd, fel un sector sydd wedi’i uno gan uchelgais a phwrpas cyffredin, y gallwn ddatgloi potensial system sy’n fwy na chyfanswm ei rhannau.

“Gwyddom fod cynnwys ein rhanddeiliaid a’n partneriaid mewn modd ystyrlon yn allweddol er mwyn i Medr lwyddo i sicrhau bod ein system addysg ac ymchwil drydyddol yn cyflawni er budd dysgwyr a Chymru. Dyna pam ein bod wedi ymgysylltu’n rheolaidd â phob rhan o’r system: dysgwyr, darparwyr, a sefydliadau sy’n gweithredu ar draws y sector, yn ogystal ag awdurdodau lleol, undebau llafur, Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill. Rydym hefyd wedi mynd ati’n weithredol i gynnwys ein gweithlu wrth ddatblygu’r Cynllun. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth wrth inni roi ein cynllun ar waith.

“Rydym eisoes wedi cyflawni ein hamcan byrdymor i roi’r sefydliad newydd ar waith. O’r cyfnod pontio llyfn hwn, byddwn nawr yn symud tuag at gyflawni ein gweledigaeth, ar ein cyfer ni ein hunain fel corff rheoleiddio, ac ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil. Mae’n fraint bod eraill wedi ymddiried ynof i adeiladu’r sefydliad hwn, ac i osod sylfaen gadarn er mwyn i Medr allu gwireddu ei uchelgais am sector addysg drydyddol ac ymchwil cryf.”

Yn ôl y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:

“Mae llawer o gyfleoedd ar gael i ddysgwyr ôl-16 yng Nghymru, boed y rheiny’n academaidd neu’n alwedigaethol. Rôl Medr yw helpu i siapio ac ysgogi gwelliant ar draws y sector addysg drydyddol yng Nghymru er mwyn rhoi’r gefnogaeth orau i’n dysgwyr.

“Daw cynllun Medr ar adeg bwysig iawn i addysg ôl-16. Fel llywodraeth rydym am gynyddu cyfranogiad yn y maes hwn. Bydd Medr yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith hwn i barhau i ddarparu’r addysg, y sgiliau a’r twf economaidd sydd eu hangen arnom yng Nghymru.”

Cynllun Strategol 2025-2030

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio