Newyddion
Bron i £1 biliwn o ddyraniadau cyllid ar gyfer y sector trydyddol wedi’u cadarnhau gan Medr
06 Aug 2025
Mae Medr wedi cadarnhau y bydd prifysgolion, colegau a darparwyr addysg ledled Cymru yn derbyn cyfran o bron i £1 biliwn eleni, wrth rannu manylion ei ddyraniadau cyllid ar gyfer 2025/26.
Ym mis Ionawr, amlinellodd Medr y cyllid yr oedd yn bwriadu ei ddarparu i ddarparwyr addysg drydyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Yn dilyn cadarnhad terfynol o’i gyllideb gan Lywodraeth Cymru, mae Medr bellach wedi cadarnhau’r dyraniadau hynny ac wedi egluro ymhellach sut y bydd cyllidebau’n cael eu dosbarthu ar draws y sector trydyddol.
Dyma’r tro cyntaf yng Nghymru i gyfanswm cyllidebau o bob rhan o’r sector trydyddol gael eu cyflwyno ochr yn ochr â’i gilydd, ac mae’n cynnwys dadansoddiadau ar draws prentisiaethau, chweched dosbarth ysgolion awdurdodau lleol, darpariaeth awdurdodau lleol ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, addysg bellach ac addysg uwch, gan gynnwys ymchwil ac arloesi.
Yn ôl James Owen, Prif Weithredwr Medr: “Dyma garreg filltir arwyddocaol i addysg yng Nghymru. Mae cyhoeddi ein dyraniadau cyllid cyntaf yn dangos ein hymrwymiad i dryloywder a chyfleoedd addysg ac ymchwil o ansawdd uchel i bawb. Mae Medr bellach yn weithredol ers blwyddyn, ac rydym yn edrych ymlaen i weld effaith gadarnhaol y buddsoddiad hwn ar ein dysgwyr a’n cymunedau.
“Mae ein dull cynhwysfawr o ariannu, sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau yn ein Cynllun Strategol, yn cefnogi sefydliadau fel eu bod yn barod i roi’r profiadau gorau posibl i ddysgwyr yn ogystal ag ymateb i heriau’r dyfodol.”
Tabl 1: Cyfanswm y cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26
Blwyddyn Academaidd 2024/25 £ miliwn | Blwyddyn Academaidd 2025/26 £ miliwn | |
Wedi’i glustnodi | ||
Contract prentisiaethau | 134.520 | 134.520 |
Prentisiaethau iau | 0.400 | 0.600 |
Craidd | ||
Chweched dosbarth awdurdodau lleol * | 116.664 | 116.853 |
Dysgu Oedolion yn y Gymuned awdurdodau lleol * | 6.479 | 6.479 |
Addysg bellach brif ffrwd | 409.066 | 422.826 |
Cymorth Dysgu Ychwanegol ar gyfer addysg bellach | 16.741 | 16.741 |
Cronfa Ariannol Wrth Gefn addysg bellach | 7.192 | 6.880 |
Wedi’i ddal yn ôl o’r dyraniadau i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad pan geir tystiolaeth o hynny yn 2025/26. | 21.126 | |
Ymchwil ac arloesi addysg uwch ** 1 | 97.295 | 97.121 |
Cyllid addysgu addysg uwch 2 | 69.434 | 69.745 |
Prentisiaethau gradd | 9.411 | 9.411 |
Strategol | ||
Mynediad, llesiant a chynhwysiant *** | 23.962 | 28.469 |
Cyflogadwyedd a sgiliau *** | 3.320 | 3.320 |
Ymchwil ac arloesi *** | 1.733 | 2.000 |
Y myfyriwr/dysgwr a’r gweithlu *** | 8.254 | 8.254 |
Data a thechnoleg *** | 3.993 | 3.993 |
Datblygiadau strategol | 2.250 | 3.500 |
Cyfalaf | ||
Addysg Uwch | 10.000 | 10.000 |
Digidol Addysg Bellach | 3.000 | 3.000 |
Cyfanswm | 923.240 | 964.536 |
Mae’n bosibl y ceir mân anghysondebau yn sgil talgrynnu
Hysbyswyd darparwyr am eu dyraniadau ymhell cyn blwyddyn academaidd 2025/26.
Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26Ym mis Ionawr 2025, ysgrifennodd Medr at ddarparwyr i roi esboniad bras o’r rhagdybiaethau cyllido a fyddai’n sail i’w gynlluniau i ddosbarthu ei gyllideb ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Cafodd Medr gadarnhad terfynol o’n cyllideb gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2025.
Rhagdybiaethau cyllido Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 (Ionawr 2025)
Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid i Medr yn flynyddol ar sail blwyddyn ariannol o 1 Ebrill i 31 Mawrth. Mae Medr yn dyrannu cyllid i’r rhan fwyaf o sefydliadau a darparwyr cymwys ar sail blwyddyn academaidd o 1 Awst i 31 Gorffennaf. Mae Medr yn defnyddio’r fformat hwn: 2025-26, i ddynodi’r flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2026, a’r fformat hwn: 2025/26, i ddynodi’r flwyddyn academaidd hyd at 31 Gorffennaf 2026.
1 Mae hyn yn cynnwys Ymchwil Cysylltiedig ag Ansawdd (QR), ymchwil ôl-radd (PGR) a Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru (CAYC).
2 Mae hyn yn cynnwys premiymau amser llawn a rhan-amser, dyraniadau ar sail credydau a dyraniadau fesul pen.
* Yn y gorffennol, byddai dyraniadau chweched dosbarth awdurdodau lleol a Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael eu pennu ar sail blwyddyn ariannol. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, cynigir bod awdurdodau lleol yn cael dyraniad 16 mis o fis Ebrill 2025 hyd at fis Gorffennaf 2026, fel bo modd i Medr symud yr holl ddarpariaeth drydyddol graidd i gylch cyllideb blwyddyn academaidd. Nid yw’r tabl uchod ond yn cynnwys yr ymrwymiad 12 mis sy’n cwmpasu’r flwyddyn academaidd.
** Ym mlwyddyn academaidd 2024/25, cymhwysodd rhagflaenydd Medr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ostyngiad pro rata untro o £11 miliwn i linellau cyllid craidd ar gyfer addysg uwch ac ymchwil i adlewyrchu gostyngiad yn y cyllid a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Gan nad yw cyllid Llywodraeth Cymru ym mlwyddyn ariannol 2025-26 yn gwrthdroi’r toriad hwnnw, mae’r ffigurau a gyflwynir yn y tabl hwn wedi’u cyfrifo ar sail y ffigurau ar ôl y gostyngiad, ar sail pro rata yn erbyn pob llinell fel bo modd cymharu.
*** Mae cyllidebau strategol yn cynnwys llinellau cyllido strategol a drosglwyddwyd i Medr o Lywodraeth Cymru a CCAUC. mae 49 o linellau cyllido strategol wedi cael eu grwpio i chwe llinell cyllideb thematig. Mae cyllideb sydd i raddau helaeth yn wastad o ran arian parod wedi galluogi sefydlogrwydd yn lefelau’r cyllid, gyda chynnydd i’r gyllideb mynediad, llesiant a chynhwysiant (£2 miliwn i gydnabod cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ynghylch cynnydd o £2 filiwn ar gyfer cymorth iechyd meddwl) a’r gyllideb ymchwil ac arloesi. Mae hyn hefyd wedi caniatáu datblygu cynigion ar gyfer tua £3.5m o gyllid sydd heb ei ddyrannu ar hyn o bryd i gynorthwyo darparwyr addysg drydyddol i gyflawni yn erbyn cynllun gweithredu Medr. Gall y grwpiau hyn newid mewn blynyddoedd dilynol ar ôl gwerthuso effaith a chanlyniadau’r buddsoddiadau strategol hyn.
Cyllid ar gyfer y chweched dosbarth mewn ysgolion awdurdod lleol
Mae cynnydd o 3.0% i’r gyfradd fesul uned wedi’i gymhwyso i’r cyfraddau cyllido fesul dysgwr. Mae’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo dyraniadau chweched dosbarth yr awdurdodau lleol wedi cael ei defnyddio ers blwyddyn ariannol 2015-16 ac fe’i diwygiwyd ychydig ym mlwyddyn ariannol 2023-24 i roi cyfrif am ostyngiad cyson yn niferoedd y disgyblion o Bl. 10 i Bl. 11. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 caiff hyn ei ddiwygio ychydig yn fwy yn sgil cyfraniad ychwanegol ar gyfer y Cynllun Pensiwn Athrawon (CPA), wedi’i ychwanegu ar gyfradd o 3.91%. Ar gyfer y fethodoleg gyllido, defnyddir cyfuniad o niferoedd dysgwyr o’r gorffennol a niferoedd dysgwyr demograffig a ragwelir ar gyfer pob awdurdod lleol, gan luosi’r rhain â chyfrifiad o werth rhaglen gyfartalog. Caiff ychwanegiadau ar gyfer amddifadedd, ardaloedd tenau eu poblogaeth a chyfrwng Cymraeg, ynghyd â 3% o lwfans awdurdod lleol a gadwir yn ganolog a’r cyfraniad CPA o 3.91% eu hadio at hyn i gyfrifo’r dyraniad terfynol. Nid oes darpariaeth chweched dosbarth mewn dau awdurdod lleol, sef Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.
Addysg bellach
Mae darpariaeth amser llawn yn cynnwys darpariaeth Safon Uwch a galwedigaethol ar draws pob lefel addysgol o lefel mynediad i lefel 4 ar gyfer tua 44,000 o ddysgwyr. Mae’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo’r dyraniadau amser llawn wedi cael ei defnyddio ers 2015-16 gan wneud mân newidiadau ym mlwyddyn academaidd 2023/24 i roi cyfrif am ostyngiad cyson yn nifer y disgyblion o Flwyddyn 10 i Flwyddyn 11. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, mae hyn wedi’i ddiwygio ychydig ymhellach, yn sgil cyfraniad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru tuag at gynnydd yng nghostau’r Cynllun Pensiwn Athrawon (CPA) i ddarparwyr AB, wedi’i ychwanegu ar gyfradd o 2.56%. Mae’r fethodoleg gyllido yn defnyddio cyfuniad o niferoedd dysgwyr o’r gorffennol a niferoedd dysgwyr demograffig a ragwelir ar gyfer pob darparydd, gan luosi’r rhain â chyfrifiad o werth rhaglen cyfartalog. At hyn, ceir ychwanegiadau ar gyfer amddifadedd, ardaloedd tenau eu poblogaeth a chyfrwng Cymraeg, ynghyd â 3% o lwfans a gadwir yn ganolog, 2% o lwfans cynnal ystadau a’r cyfraniad diweddaraf o 2.56% at y CPA er mwyn pennu’r dyraniad amser llawn terfynol. Mae cynnydd o 3.0% i’r gyfradd fesul uned wedi’i gymhwyso i’r cyfraddau cyllido fesul dysgwr.
Dyraniadau Cymorth Dysgu Ychwanegol (CDY)
Caiff cyfanswm y gyllideb Cymorth Dysgu Ychwanegol ei rannu fesul cyfran yn ôl dyraniad prif ffrwd pob coleg. Mae hyn yn cydnabod, lle bo coleg yn cynyddu/gostwng nifer ei ddysgwyr, ei bod hi’n debygol y bydd yr angen am Gymorth Ychwanegol i Ddysgwyr yn cynyddu/gostwng yn gymesur â hynny.
Addysg Uwch
Rydym wedi dyrannu cyllid strategol gwerth £650k i’r Brifysgol Agored yng Nghymru, sef yr un swm ag ym mlwyddyn academaidd 2024/25.
Mae cyllid elfen berfformio ar gyfer darpariaeth conservatoire wedi’i ddyrannu i Brifysgol De Cymru ar gyfer darpariaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, sy’n rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru. Darperir dyraniad o £585k i gefnogi datblygiadau strategol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ogystal â’r cyllid elfen berfformio a ddarperir drwy’r premiwm pynciau drud. Mae’r cyllid strategol hwn yr un swm â’r llynedd.
Mae cyllid premiwm yn cynnwys dyraniadau ar gyfer:
Darpariaeth gradd amser llawn ar gyfer:
- Pynciau drud (meddygaeth/deintyddiaeth glinigol a darpariaeth elfen berfformiad conservatoire).
- Pynciau cost uwch (meddygaeth/deintyddiaeth anghlinigol, gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, a gwyddorau mathemategol, TG a chyfrifiadura).
- Modiwlau cyfrwng Cymraeg.
Darpariaeth gradd ran-amser ar gyfer:
- Modiwlau cyfrwng Cymraeg.
- Mynediad a chadw.
Yr holl ddulliau a lefelau ar gyfer:
- Premiwm Anabledd.
Mae dyraniadau ymchwil ac arloesi yn cynnwys:
- Cyllid Ymchwil Cysylltiedig ag Ansawdd, sy’n gwobrwyo rhagoriaeth ymchwil gynaliadwy;
- Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru (CAYC), sy’n cefnogi’r ystod o weithgareddau cyfnewid gwybodaeth sy’n arwain at effaith economaidd a chymdeithasol, gan gynnwys rôl ehangach darparwyr o ran eu cenhadaeth ddinesig; a
- Hyfforddiant ymchwil ôl-radd.
Cyllidebau strategol
Etifeddodd Medr 49 o linellau cyllideb strategol gan CCAUC a Llywodraeth Cymru. Er mwyn galluogi dull strategol sy’n canolbwyntio mwy ar addysg drydyddol, mae’r tair llinell gyllideb ar wahân hyn wedi cael eu cyfuno i greu nifer llai o botiau strategol. Mae hyn yn arwydd o symudiad tuag at ymagwedd addysg drydyddol, gan chwalu rhwystrau rhwng rhannau o’r sector addysg drydyddol o ran y modd y dyrennir cyllid yn y dyfodol, yn unol â Chynllun Strategol Medr.
Yn y dyfodol bydd Medr yn ymgynghori ar bolisi cyllido a fydd yn nodi egwyddorion ar gyfer cyllido addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei lywio gan y gofrestr addysg uwch newydd, lle na fydd ond y rhai yng nghategori craidd y gofrestr yn gymwys i dderbyn cyllid addysg uwch ac ymchwil ac arloesi. Bydd y polisi hefyd yn ystyried dyletswyddau strategol Medr.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio