This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Blwyddyn o dwf: Medr yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf

Mae Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol a’i gyfrifon cyntaf, gan gofnodi uchafbwyntiau a llwyddiant ei wyth mis cyntaf o weithredu.

Dros y cyfnod adrodd, mae Medr, a ddaeth yn weithredol ym mis Awst 2024, wedi cyflawni’r canlynol:

  • Buddsoddi dros £686 miliwn yn y sector addysg drydyddol ac ymchwil, gan sicrhau cefnogaeth ariannol a sefydlogrwydd i ddarparwyr a dysgwyr.
  • Cwblhau trosglwyddiad sefydliadol llyfn, gan sicrhau ei fod yn parhau â’i oruchwyliaeth reoleiddiol ar gyfer y sector addysg drydyddol drwy gydol cyfnod o newid sylweddol.
  • Meithrin perthnasoedd cryf â darparwyr a rhanddeiliaid, a hyrwyddo cydweithio ar draws y sector.
  • Cyflwyno ei weledigaeth hirdymor ar gyfer y sector trydyddol drwy ei Gynllun Strategol cyntaf, yn dilyn ymgynghori helaeth â dysgwyr a rhanddeiliaid.
  • Gosod y sylfeini ar gyfer sefydliad cryf sydd â safonau uchel o atebolrwydd a chyfrifoldeb dros arian cyhoeddus; yn blaenoriaethu dysgwyr a gweithio ar y cyd; ac yn cefnogi ac yn datblygu ei staff.

Yn ôl James Owen Prif Weithredwr Medr:

“Roedd hon yn flwyddyn gyntaf enfawr i’n sefydliad arloesol lle cawsom y cyfle i sefydlu llwybr deinamig ar gyfer dyfodol dysgwyr, cymunedau a’n heconomi.

“Mae’r ffaith ein bod wedi cefnogi’r sector yn effeithiol gyda bron i £700 miliwn yn ein wyth mis cyntaf, gan gynnal ein goruchwyliaeth reoleiddiol, yn tystio i’n staff proffesiynol, galluog a chydweithredol.

“Mae sicrhau ein bod yn cefnogi sector cynhwysol, cydgysylltiedig sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr presennol a dysgwyr y dyfodol gyrraedd eu potensial wedi bod yn allweddol inni o’r cychwyn cyntaf, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld effaith ein Cynllun Strategol – sy’n eiriol dros sector addysg drydyddol ac ymchwil cryf – dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”

Cyflwynwyd adroddiad blynyddol Medr ar gyfer y cyfnod Awst 2024 – Mawrth 2025 gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2025 ac mae ar gael ar wefan Medr.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024-25

Cynllun Strategol Medr 2025-2030

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio