This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025

Mae boddhad myfyrwyr ymhlith israddedigion mewn colegau a phrifysgolion wedi codi yng Nghymru, gydag 82% o fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf yn dweud eu bod yn fodlon ar eu cwrs eleni.

Mae hyn yn gynnydd o gymharu ag 80% o foddhad cyffredinol yn 2024.

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) ar agor i fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf gyda darparwyr addysg uwch yng ngwledydd y DU.

Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddodd Medr ei Gynllun Strategol ar gyfer 2025-2030, gan amlinellu ei nod i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn darpariaeth o’r ansawdd uchaf mewn sector addysg drydyddol sy’n ymdrechu i wella’n barhaus.

Yr NSS yw un o brif ddangosyddion boddhad myfyrwyr ar gyfer Medr a’r sector addysg drydyddol, gan gasglu adborth cynhwysfawr gan fyfyrwyr addysg uwch israddedig sydd ar eu blwyddyn olaf ar agweddau allweddol ar eu profiad addysgol – o ansawdd yr addysgu a threfniadau cyrsiau hyd at effeithiolrwydd sefydliadau wrth wrando ar leisiau dysgwyr.

Roedd yr arolwg ar agor o 11 Ionawr hyd at 30 Ebrill 2025.

Yn ôl Simon Pirotte OBE, Prif Weithredwr Medr:

“Rydym yn falch o weld gwelliannau ar draws pob canlyniad cwestiwn ar gyfer Cymru yn yr NSS 2025 o’i gymharu â’r NSS 2024. Mae’n galonogol nodi hefyd fod perfformiad Cymru yn parhau i fod yn gyson ar y cyfan â sgoriau’r DU gyfan, gan ragori ar y sgoriau hynny mewn themâu fel cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu, llais y myfyrwyr, a’r cwestiwn ynglŷn ag undebau myfyrwyr. Mae’r canlyniadau hyn yn tystio i’r gwaith dylanwadol sy’n digwydd ar draws sefydliadau yng Nghymru.

“Drwy gydol y flwyddyn mae wedi bod yn galonogol gweld y modd y mae sefydliadau ac undebau myfyrwyr wedi cydweithio i wella profiad y myfyrwyr a chefnogi eu llwyddiant. Llongyfarchiadau i bawb ar eu cyflawniadau.

“Mae sefydliadau Cymru yn cymryd canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr o ddifrif ac wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a’u cynrychiolwyr i sbarduno gwelliannau i ansawdd a gwelliant parhaus. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd ein hail ymgynghoriad ar amodau cofrestru a chyllid yn cynnwys y rhai sy’n ymwneud â chyfle cyfartal, lles staff a myfyrwyr, y Gymraeg ac ymgysylltiad dysgwyr. Byddwn hefyd yn datblygu fframwaith cyffredin ar gyfer iechyd, iechyd meddwl a lles myfyrwyr.

“Wrth inni edrych ymlaen at flwyddyn academaidd 2025/26, mae profiad myfyrwyr yn parhau i fod yn gryfder sy’n diffinio addysg uwch yng Nghymru. Rydym yn croesawu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr y dyfodol yn gynnes i astudio yma — a gallant ddisgwyl cyrsiau gradd o ansawdd uchel, cymunedau cefnogol, a phrofiad prifysgol sy’n cyfoethogi eu bywyd yn wirioneddol.”

Canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2025: Data cymharol ar gyfer pob cwestiwn a drafodir yn yr arolwg
CwestiwnY DU 2024 (sgôr positifrwydd %)Y DU 2025 (sgôr positifrwydd %)Cymru 2024 (sgôr positifrwydd %)Cymru 2025 (sgôr positifrwydd %)
1Pa mor dda yw’r staff am egluro pethau?91939293
2Pa mor aml y mae staff addysgu’n gwneud y pwnc yn ddiddorol?81838283
3Pa mor aml y mae’r cwrs yn ysgogol yn ddeallusol?85868586
4Pa mor aml y mae eich cwrs yn eich herio i gyflawni eich gwaith gorau?85878587
5I ba raddau ydych chi wedi cael y cyfle i archwilio syniadau a chysyniadau yn fanwl?84858385
6Pa mor dda y mae eich cwrs yn cyflwyno pynciau a sgiliau mewn ffordd sy’n adeiladu ar yr hyn yr ydych eisoes wedi’i ddysgu?85878687
7I ba raddau ydych chi wedi cael y cyfle i ddod â syniadau a gwybodaeth ynghyd o wahanol destunau?84858385
8I ba raddau y mae eich cwrs yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng astudio dan gyfarwyddyd ac astudio annibynnol?77797880
9Pa mor dda mae eich cwrs wedi datblygu gwybodaeth a sgiliau yr ydych yn meddwl y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y dyfodol?83858386
10Pa mor eglur oedd y meini prawf marcio a ddefnyddiwyd i asesu eich gwaith?76787880
11Pa mor deg fu’r marcio a’r asesu ar eich cwrs?81848385
12Pa mor dda y mae’r asesiadau wedi eich galluogi i ddangos yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu?82848284
13Pa mor aml ydych chi wedi cael adborth asesu ar amser?80838385
14Pa mor aml y mae adborth yn eich helpu i wella eich gwaith?73757475
15Pa mor hawdd oedd hi i gysylltu â staff addysgu pan oedd angen i chi wneud hynny?86888689
16Pa mor dda y mae’r staff addysgu wedi cefnogi eich dysgu?86888789
17Pa mor dda y mae eich cwrs wedi’i drefnu?74777579
18Pa mor dda oedd unrhyw newidiadau i addysgu ar eich cwrs yn cael eu cyfleu?76807780
19Pa mor dda y mae’r adnoddau a chyfleusterau TG wedi cefnogi eich dysgu?85878487
20Pa mor dda y mae’r adnoddau llyfrgell (e.e. llyfrau, gwasanaethau ar-lein a mannau dysgu) wedi cefnogi eich dysgu?90909090
21Pa mor hawdd yw hi i gael gafael ar adnoddau pwnc-benodol (e.e. offer, cyfleusterau, meddalwedd) pan fo’u hangen arnoch?86888688
22I ba raddau ydych chi’n cael y cyfleoedd cywir i roi adborth ar eich cwrs?82858385
23I ba raddau mae barn myfyrwyr ynglŷn â’r cwrs yn cael ei gwerthfawrogi gan staff?77807881
24Pa mor eglur yw hi y gweithredir ar adborth myfyrwyr ar y cwrs?63686669
25Pa mor dda y mae undeb (cymdeithas neu urdd) y myfyrwyr yn cynrychioli buddiannau academaidd myfyrwyr?73767578
26Pa mor dda gafodd gwybodaeth am wasanaethau cymorth lles meddyliol eich prifysgol/coleg ei chyfleu?79827479
28Ar y cyfan, rwy’n fodlon ar ansawdd y cwrsN/AN/A8082

Mae gan bob cwestiwn ddau opsiwn i ymateb yn gadarnhaol – e.e. fel arfer “i raddau helaeth” neu “i ryw raddau”; neu “yn aml iawn” neu “yn weddol aml” – a dau opsiwn i ymateb yn negyddol, gyda phumed opsiwn ‘Nid yw hyn yn berthnasol i mi’. Sgôr positifrwydd yw canran yr ymatebwyr a atebodd gan ddefnyddio un o’r ddau opsiwn cadarnhaol.

Nid oes sgôr y DU ar gyfer cwestiwn 28. Gofynnwyd cwestiwn 28 i fyfyrwyr yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn unig ac nid i fyfyrwyr yn Lloegr.

Nodiadau

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn cynnwys y rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn olaf sy’n astudio ar gyfer cymwysterau addysg uwch (AU) yn:

  • yr holl brifysgolion a cholegau addysg uwch a gyllidir ag arian cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon;
  • sefydliadau addysg bellach yng Nghymru â myfyrwyr addysg uwch a gyllidir yn uniongyrchol;
  • colegau addysg bellach yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Caiff yr arolwg, a gynhelir gan Ipsos, ei gyllido gan y pedwar corff cyllido a rheoleiddio addysg uwch yn y DU (Medr, y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS), Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon).

Mae’r canlyniadau llawn ar gael ar wefan yr OfS. Cyhoeddir y data ar y wefan Darganfod Prifysgol  yn ddiweddarach, gan ddarparu gwybodaeth i oleuo dewisiadau myfyrwyr posibl ynghylch ble i astudio a beth i’w astudio.

Y trothwy ar gyfer cyhoeddi ar lefel sefydliad yw bod rhaid bod o leiaf 10 o fyfyrwyr wedi ymateb, ac y dylai’r rhain gynrychioli o leiaf hanner y myfyrwyr a oedd yn gymwys i gyfranogi.

Fe ymatebodd mwy na 357,000 o fyfyrwyr ar draws y DU i’r arolwg, cyfradd ymateb o 71.5%.

Mae data boddhad myfyrwyr ar gyfer y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi’i gynnwys yn y ffigyrau ar gyfer y Brifysgol Agored (er bod y data ar gyfer y DU gyfan, fe’i rhestrir fel ‘SAUau Lloegr’).

Mae canlyniadau blaenorol yr NSS wedi’u rhestru ar wefan yr OfS o dan “archif o ddata”.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio