This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2025/26: Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026

Crynodeb

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys trefniadau ar gyfer Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026 (Tabl 1), a’r camau gweithredu y bydd angen i ddarparwyr eu cymryd (Tabl 2). Mae’r allrwyd yr Arolwg yn cynnwys manylion llawn am gyflwyno data.

DateCam gweithredu
22 Hydref 2025Ipsos i roi canllaw ar baratoi ar gyfer Arolwg 2026 a chanllaw arferion da i ddarparwyr
07 Ionawr 2026Bydd yr Arolwg yn lansio
08 Ionawr 2026Gwaith maes yr Arolwg yn dechrau
30 Ebrill 2026Gwaith maes yr Arolwg yn dod i ben
08 Gorffennaf 2026Dyddiad dros dro ar gyfer cyhoeddi’r canlyniadau
DateCam gweithredu
28 Tachwedd 2025Adolygu a diweddaru manylion cyswllt ar gyfer yr Arolwg
28 Tachwedd 2025Llenwi ffurflen ‘fy opsiynau ar gyfer yr Arolwg’
28 Tachwedd 2025Cyflwyno templedi enghreifftiol ar gyfer Arolwg 2026 ynghyd â manylion cyswllt myfyrwyr cymwys

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026

2. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau ar gyfer Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (yr Arolwg) 2026 a’r camau gweithredu y bydd angen i’r darparwyr sy’n cymryd rhan eu cymryd. Mae’r cyhoeddiad llawn a’r dogfennau cynorthwyol ar gael trwy allrwyd yr Arolwg.

3. Cynhelir yr Arolwg ledled y DU gyfan er mwyn i fyfyrwyr addysg uwch sydd yn eu blwyddyn olaf roi adborth ar eu cyrsiau. Caiff yr Arolwg ei reoli gan y Swyddfa Fyfyrwyr ar ran pedwar corff cyllido a rheoleiddio’r DU.

4. Mae’r Arolwg hefyd yn rhoi gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr er mwyn eu helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir, ac yn rhoi data i brifysgolion a cholegau er mwyn eu helpu i wella profiad myfyrwyr.

5. Caiff yr Arolwg ei gynnal ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU gan:

  • Ipsos, a fydd yn gweinyddu’r Arolwg
  • CACI Limited, a fydd yn cynnal y porth lledaenu data ar gyfer darparwyr

6. Mae’r Arolwg yn elfen allweddol o’r dirwedd sicrhau ansawdd a rheoleiddio ehangach yng Nghymru. Rhaid i ddarparwyr addysg uwch a reoleiddir neu a ariennir gan Medr gymryd rhan yn yr Arolwg. Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff poblogaethau myfyrwyr amrywiol eu cynrychioli, a bod darparwyr yn ystyried eu dyletswydd Dyddodiad Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus (PSED) i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal, dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, meithrin perthnasoedd da a hyrwyddo cydraddoldeb.

Arolwg 2026

7. Bydd holiadur Arolwg 2026 yr un peth â holiadur Arolwg 2025. Caiff yr Arolwg ei gynnal ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Bydd y cwestiwn ar ryddid mynegiant yn cael ei ofyn i fyfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr yn unig a bydd y cwestiwn ar foddhad cyffredinol yn cael ei ofyn i fyfyrwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn unig. Wnaeth cynghorau ariannu a rheoleiddio’r DU gymryd rhan mewn peilot gwaith maes byrrach yr Arolwg 2025 wrth ochor a’r amserlen gwaith maes safonol i brofi dull i leihau’r risg o unrhyw ostyngiad yn gyfraddau ymateb yr Arolwg. Mae OfS yn ystyried canfyddiadau’r peilot a sut i ymdrin â chyfnod gwaith arolwg byrrach yn y dyfodol. Disgwyli’r i’r cyfnod arolwg byrrach ddechrau yn ystod blwyddyn academaidd 2027-28 i bob darparwr, i gyd-fynd a dyddiad llofnodi hwyr i ddychweliad myfyrwyr. Fodd bynnag, ar gyfer yr Arolwg 2026 rydym yn parhau gyda’r amserlen gwaith maes arferol.

8. Cynhaliodd yr OfS arolwg ymddygiad rhywiol amhriodol, yn Lloegr yn unig gan ddefnyddio llwyfan yr Arolwg 2025. Cyhoeddwyd dadansoddiad o ganlyniadau’r arolwg a data ar lefel sector ym mis Medi 2025.  

9. Mae’r rhestr lawn o gwestiynau Arolwg 2026 a’r graddfeydd ymateb i’w gweld ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.

10. Bydd Ipsos yn gweinyddu’r Arolwg ar ran y Swyddfa Fyfyrwyr a Medr. Bydd yn gyfrifol am gysylltu â myfyrwyr, cyfrannu at hyrwyddo’r Arolwg a rhoi data wedi’u glanhau i’r Swyddfa Fyfyrwyr a chyrff cyllido.

11. Fel rhan o’i rôl, bydd Ipsos yn cysylltu’n uniongyrchol â darparwyr ynglŷn â gweinyddu’r Arolwg, ac yn helpu i gynnal yr Arolwg drwy wneud y canlynol:

  • cynnig arweiniad ar fanylion penodol rhaglen yr Arolwg, megis yr wythnos pan fydd yn dechrau, dethol cwestiynau dewisol a chwestiynau i ddarparwyr penodol
  • ar gyfer darparwyr sy’n hyrwyddo’r Arolwg:
    • darparu deunyddiau marchnata â brand yr Arolwg arnynt a rhoi cyngor i ddarparwyr ar lunio eu deunyddiau eu hunain.
    • hwyluso cynlluniau cymhelliant darparwyr er mwyn annog myfyrwyr i gymryd rhan yn yr arolwg.

12. Ceir rhagor o wybodaeth am farchnata a hyrwyddo’r Arolwg yn y canllaw arferion da gan Ipsos.

13. Caiff darparwyr eu gwahodd i ddewis un wythnos allan o bump pan all Ipsos lansio’r Arolwg ar gyfer eu myfyrwyr. Ni fydd Ipsos yn cyfathrebu â myfyrwyr y tu allan i’r amseroedd y cytunir arnynt gyda darparwyr unigol.

Hyrwyddo’r Arolwg a monitro’r ymatebion

14. Mae’n ofynnol i ddarparwyr yng Nghymru hyrwyddo’r Arolwg i fyfyrwyr. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr sy’n hyrwyddo’r Arolwg sicrhau eu bod yn osgoi unrhyw ddylanwad amhriodol ac yn glynu wrth y canllawiau ar farchnata a hyrwyddo’r Arolwg.

15.Yn ystod gwaith maes yr Arolwg, caiff yr ymatebion eu monitro, a gwneir gwaith dilynol wedi’i dargedu er mwyn sicrhau y caiff trothwyon cyhoeddi eu cyrraedd. Ddechrau mis Mawrth, yn ogystal â’r gwaith dilynol wedi’i dargedu, caiff pob darparwr sydd mewn perygl o beidio â chyrraedd y trothwy cyhoeddi ei ychwanegu at y cyfnod hybu, a fydd yn arwain at anfon negeseuon atgoffa drwy e-bost a neges SMS ychwanegol at fyfyrwyr nad ydynt wedi ymateb. Bydd y cyfnod hybu’n dechrau’n awtomatig os bydd cyfradd ymateb darparwr yn is na 43 y cant erbyn canol mis Mawrth, a bydd yn parhau i rai tan ganol mis Ebrill. Mae’r amserlen ar gyfer y gwaith maes wedi’i nodi yng nghanllaw paratoi Ipsos i ddarparwyr, sydd ar gael ar allrwyd Ipsos ar gyfer yr Arolwg.

Costau’r arolwg

16. Bydd Medr yn talu costau’r Arolwg ar gyfer darparwyr cymwys yng Nghymru.

Amserlen yr Arolwg

17. Caiff yr Arolwg ei gynnal fel y nodir yn Nhabl 3.  

DyddiadAction
22 Hydref 2025Ipsos i roi canllaw ar baratoi ar gyfer Arolwg 2026 a chanllaw arferion da i ddarparwyr
07 Ionawr 2026Bydd yr Arolwg yn lansio
08 Ionawr 2026Gwaith maes yr Arolwg yn dechrau
30 Ebrill 2026Gwaith maes yr Arolwg yn dod i ben
08 Gorffennaf 2026Dyddiad dros dro ar gyfer cyhoeddi’r canlyniadau

18. Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr ar 08 Gorffennaf 2026 am 0930. Caiff canlyniadau manwl eu rhannu â darparwyr unigol drwy borth lledaenu data’r Arolwg a gynhelir gan CACI Limited ar 08 Gorffennaf 2026 am 0930. Bydd y ffordd y caiff canlyniadau Arolwg 2026 eu cyhoeddi a’u lledaenu yn dibynnu ar gytundeb terfynol gan gyrff cyllido a rheoleiddio’r DU yn dilyn yr adolygiad o ansawdd y data.

19. Caiff canlyniadau’r Arolwg ar lefel cyrsiau eu cyhoeddi ar wefan Discover Uni.

Camau gweithredu i ddarparwyr ar gyfer Arolwg 2026

20. Gofynnir i bob darparwr sy’n cymryd rhan gymryd y camau gweithredu a amlinellir yn Nhabl 4.

DateAction
28 Tachwedd 2025Yr holl ddarparwyr cymwys i adolygu a diweddaru manylion cyswllt ar gyfer y prif bwyntiau cyswllt a’r pwyntiau cyswllt eilaidd enwebedig ar gyfer cysylltu ynglŷn â’r Arolwg.
Dylid darparu’r wybodaeth gan ddefnyddio’r ffurflen ‘Fy manylion’ ar allrwyd Ipsos ar gyfer yr Arolwg.
28 Tachwedd 2025Yr holl ddarparwyr cymwys i lenwi’r ffurflen ‘fy opsiynau ar gyfer yr Arolwg’ sy’n gofyn i ddarparwyr gadarnhau’r canlynol;
* ym mha wythnos yr hoffent i’r Arolwg gael ei lansio
* setiau cwestiynau dewisol
* p’un a fyddant yn cymryd rhan mewn unrhyw gystadlaethau am wobrau
28 Tachwedd 2025Yr holl ddarparwyr cymwys i gyflwyno eu templedi enghreifftiol ar gyfer Arolwg 2026 ynghyd â manylion cyswllt myfyrwyr cymwys
Rhestr yw hon o’r holl fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer Arolwg 2026, yn seiliedig ar ddata myfyrwyr 2024-25.
Dylid darparu’r manylion drwy’r adran ‘Lanlwytho data enghreifftiol’ ar allrwyd Ipsos ar gyfer yr Arolwg. Yn achos unrhyw gynigion i ychwanegu myfyrwyr at y rhestr darged neu ddileu enwau ohoni, dylid dilyn y broses a amlinellir gan Ipsos.

21. Gofynnir i’r holl ddarparwyr sy’n cymryd rhan gwblhau’r camau gweithredu uchod erbyn 28 Tachwedd 2025. Mae cyfarwyddiadau ar sut i ddarparu’r wybodaeth hon wedi’u cynnwys yn y canllaw ar baratoi ar gyfer Arolwg 2026, y bydd Ipsos yn ei roi i bwyntiau cyswllt darparwyr ac sydd hefyd ar gael ar allrwyd Ipsos ar gyfer yr Arolwg. Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth am weinyddu’r Arolwg, cyfrifoldebau allweddol a dyddiadau.

22. Ceir canllawiau manwl ar Arolwg 2026 a’r camau gweithredu y gofynnir i’r holl ddarparwyr yng Nghymru eu cymryd wrth ddychwelyd data myfyrwyr i HESA ar allrwyd Arolwg Ipsos.

Cymorth pellach a phwyntiau cyswllt

SefydliadCyfeiriad e-bostPwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau ynghylch
Ipsos[email protected]Cynnal yr Arolwg, gan gynnwys:
* Paratoi ar gyfer yr Arolwg a’i hyrwyddo
* Rhestrau targed myfyrwyr
* Cwestiynau dewisol
* Cynlluniau cymhelliant
CACI LimitedGellir cysylltu â thim cymorth yr Arolwg trwy’r ffurflen Cysylltu â Chymorth ar borth data’r ArolwgCanlyniadau manwl darparwyr ar borth lledaenu data’r Arolwg
Y Swyddfa Fyfyrwyr[email protected]
[email protected]
Meysydd megis:
* Polisi a datblygu’r Arolwg
* Defnyddio’r canlyniadau yn y dyfodol
* Honiadau o ddylanwad amhriodol
Medr[email protected]Unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â’r ffordd y caiff yr Arolwg ei gynnal yng Nghymru

Medr/2025/26: Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026

Dyddiad:  23 Hydref 2025

Cyfeirnod: Medr/2025/26

At:  Cyrff llywodraethu a phenaethiaid sefydliadau addysg uwch a reoleiddir a/neu a ariennir yng Nghymru; Cyrff cynrychioli myfyrwyr ar gyfer addysg uwch yng Nghymru

Ymateb erbyn:  28 Tachwedd i Ipsos drwy allrwyd yr Arolwg

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys trefniadau ar gyfer Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026, a’r camau gweithredu y bydd angen i ddarparwyr eu cymryd. Mae’r allrwyd yr Arolwg yn cynnwys manylion llawn am gyflwyno data.

Medr/2025/26 Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio