This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Blog

Fframwaith Ansawdd Medr: y camau nesaf

Roedd ymgynghoriad diweddar Medr ar y dull rheoleiddio yn cynnwys nifer o gwestiynau am ein Fframwaith Ansawdd arfaethedig. Nod y Fframwaith yw lleihau’r baich a roddir ar ddarparwyr gan sicrhau profiad dysgwyr o ansawdd da ym mhob rhan o’r sector addysg drydyddol ar yr un pryd. Ein huchelgais yw y bydd unrhyw ddysgwr, ble bynnag y bo yn y sector addysg drydyddol, yn gallu cael sicrwydd ynghylch y disgwyliadau cyffredin ar gyfer darparwyr.


Mae’r broses ddrafftio’n adlewyrchu’r darpariaethau yn y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) i Medr gyhoeddi fframwaith er mwyn nodi polisi ac arferion mewn perthynas â’r canlynol:
– Meini prawf ar gyfer asesu ansawdd
– Prosesau ar gyfer asesu ansawdd.
– Rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n asesu ansawdd a darparwyr mewn perthynas ag ansawdd.

Un o’r prif themâu a ddaeth i’r amlwg o’r ymgynghoriad oedd bod angen mwy o eglurder a dealltwriaeth ynghylch y ffordd y bwriedir i’r Fframwaith gael ei ddefnyddio a sut y byddai’n gweithio ochr yn ochr â dulliau sydd eisoes yn bodoli (megis y rhai a ddilynir gan Estyn a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA)).

Bydd ail gam ein hymgynghoriad ar reoleiddio yn dechrau yn yr hydref. Fel rhan o hyn, byddwn yn rhannu fersiwn ddiwygiedig o’r Fframwaith Ansawdd a fydd yn adlewyrchu llawer o’r pwyntiau a godwyd yn yr ymatebion. Fodd bynnag, roeddem yn awyddus i fynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau canolog nawr yn y gobaith o gynnal deialog â rhanddeiliaid a llywio’r ffordd y byddwn yn diwygio’r Fframwaith yn y dyfodol.

Sut mae’r Fframwaith yn adlewyrchu dulliau o ymdrin ag ansawdd sydd eisoes yn bodoli, neu’n rhyngweithio â nhw?

Ni fwriedir i’r Fframwaith ddyblygu’r gweithgareddau a gyflawnir gan Estyn a QAA. Yn lle hynny, bwriedir iddo egluro’r disgwyliadau cyffredin ar gyfer darparwyr ym mhob rhan o’r sector trydyddol cyfan, ac esbonio sut y bydd Medr yn asesu cydymffurfiaeth â’n hamod rheoleiddio sy’n ymwneud ag ansawdd.

Mae’r Fframwaith yn seiliedig ar gyfres o gonglfeini sy’n ymdrin â meysydd megis yr angen i arolygu neu adolygu ansawdd yn allanol, pwysigrwydd hunanwerthuso, a rôl llywodraethu mewn perthynas ag ansawdd. Mewn gwahanol rannau o’r sector trydyddol, bydd y gweithgareddau a gaiff eu ‘mapio’ ar y conglfeini hynny’n edrych yn wahanol. Er enghraifft, yn achos darparwyr addysg bellach, byddem yn disgwyl i arolygiad Estyn fodloni gofynion conglfaen Allanoldeb, ac i’r broses hunanwerthuso fodloni gofynion conglfaen Hunanwerthuso.

O edrych ar enghraifft arall, yn achos addysg uwch, byddem yn disgwyl i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr fodloni’r cynigion o dan gonglfaen Llais y Dysgwr i ddefnyddio data a deilliannau o arolygon cenedlaethol.

Mae rhai o’r conglfeini’n ymwneud â gweithgarwch ‘newydd’. Er enghraifft, mae conglfaen Ymgysylltu â Dysgwyr yn cyd-fynd â’r gofyniad arfaethedig i ddarparwyr gydymffurfio â’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr sydd ar ddod. Mae’r enghraifft benodol hon yn adlewyrchu gwaith ehangach sy’n cael ei wneud gan Medr er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau yn unol â’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Y bwriad yw y bydd cynnwys y Cod yn y Fframwaith yn sicrhau bod ein system yn gydgysylltiedig. Byddwn yn ymgynghori ar y Cod a’i amod cysylltiedig yn yr hydref.

Ymhen amser, byddem yn disgwyl i Estyn a QAA ddatblygu eu fframweithiau arolygu a’u dulliau cynnal adolygiadau gwella ansawdd mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r Fframwaith.
 
Beth yw’r cysylltiad rhwng hyn a rheoleiddio? A fyddwch yn rheoleiddio gwelliant parhaus?

Mae ein hymgynghoriad ar reoleiddio yn nodi dull rheoleiddio ehangach Medr, gan gynnwys sut y bydd ymyriadau’n gweithio a’r egwyddorion a fydd yn sail i’r ffordd y byddwn yn gweithredu.

Bydd angen i ddarparwyr gydymffurfio â’r amod sy’n ymwneud ag ansawdd p’un a ydynt ar y gofrestr ar gyfer darparu addysg uwch neu’n cael eu rheoleiddio drwy delerau ac amodau cyllid. Mae hyn yn golygu y bydd Medr yn monitro darparwyr – er enghraifft, drwy ddeilliannau arolygiadau ac adolygiadau, yn ogystal â ffurflenni data a ffynonellau eraill o wybodaeth – er mwyn gweld a ydynt yn cydymffurfio.

Fodd bynnag, mae’r dull rheoleiddio a’r datganiad ymyrryd hefyd yn nodi sut y byddem yn disgwyl i’n gweithgarwch ymgysylltu â darparwyr weithio. Er enghraifft, pe bai Medr yn credu bod risg o ddiffyg cydymffurfiaeth, yna ymgysylltu’n anffurfiol â’r darparwr er mwyn deall y cyd-destun penodol fyddai’r cam cyntaf fel arfer. Rydym yn ymrwymedig i gydnabod amrywiaeth darparwyr, a rheoleiddio mewn ffordd gymesur sy’n seiliedig ar risg.

Mae nifer o’r ymatebion yn nodi pryderon ynglŷn â chonglfaen Gwella’n Barhaus ac, yn benodol, p’un a allai fod ymyriad rheoleiddio pe na bai darparwyr yn gwella o un flwyddyn i’r llall. O’n safbwynt ni, yr hyn sy’n bwysig yw bod darparwyr yn ymgymryd â’r mathau o hunanfyfyrio, cynllunio a gweithredu sydd â’r bwriad o adnabod a datblygu meysydd ar gyfer gwella ym mhob rhan o’u darpariaeth. Byddwn yn egluro’r disgwyliadau hyn yn y Fframwaith diwygiedig a’r amod cysylltiedig.

Lle bo sefydliadau’n ymgymryd â gweithgareddau gwelliant parhaus, ni fyddem yn disgwyl ymyrryd cyn belled â bod eu perfformiad yn foddhaol.
 
Diffiniadau o fewn y Fframwaith

Cododd llawer o’r ymatebion gwestiynau ynglŷn â diffiniadau, gan gynnwys y diffiniad o ansawdd a’r diffiniad o dermau allweddol fel anghenion rhesymol a safonau trothwy.

Rydym yn ystyried sut i egluro’r diffiniad o ansawdd er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan sicrhau bod gennym hefyd ddiffiniad sy’n ddigonol i gyfleu’r ehangder o brofiadau addysgu a dysgu ym mhob rhan o’r sector trydyddol ar yr un pryd. Ein bwriad yw y bydd y diffiniad o ansawdd a chwmpas y term yn canolbwyntio ar agweddau ar y profiad dysgu sydd o fewn dylanwad y darparwr.

O ran y gyfres ehangach o ddiffiniadau, byddwn yn cyhoeddi rhestr termau a fydd yn nodi’r holl ddiffiniadau fel rhan o ymgynghoriad cam 2 yn yr hydref.
 
Pwy sy’n gyfrifol am gasglu data? Sut y caiff y data eu defnyddio?

Cododd yr ymatebion nifer o gwestiynau ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am gasglu data, eu dadansoddi, a gweithredu yn seiliedig arnynt. Mae Medr eisoes yn defnyddio amrywiaeth o ddata i lywio ein gweithgarwch parhaus i ymgysylltu â darparwyr, sy’n deillio’n bennaf o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, y Casgliad Data Ôl-16 a chofnodion HESA, yn ogystal â’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn achos addysg uwch.

Mae Medr yn ymrwymedig i ymgynghori ar ddangosyddion perfformiad yn ystod y ddwy flynedd nesaf, a byddem yn rhagweld y byddai’r ymgynghoriad hwnnw’n ystyried sut y gellid defnyddio meincnodi a/neu drothwyon. Tan hynny, byddem yn rhagweld y byddwn yn defnyddio’r mesurau presennol fel sail ar gyfer ystyried ansawdd.

A yw’r Fframwaith yn adlewyrchu amrywiaeth darparwyr?

Bwriedir i’r Fframwaith adlewyrchu amrywiaeth darparwyr yn y sector addysg drydyddol. Dyna pam y mae wedi’i strwythuro mewn ffordd sy’n golygu y gall gwahanol drefniadau mewn gwahanol rannau o’r sector gael eu hymgorffori a’u hadlewyrchu yn y conglfeini. Er bod rhai ymatebion wedi gofyn am Fframwaith mwy rhagnodol, ein barn ni yw y byddai gwneud hynny’n ei gwneud hi’n anos i ni ddarparu ar gyfer y gwahaniaethau cyd-destunol rhwng darparwyr.

Rydym yn deall ac yn cydnabod bod anghenion a disgwyliadau dysgwyr yn amrywio a, phan fyddwn yn trafod pwysigrwydd deilliannau dysgwyr, rydym yn cytuno bod dimensiwn cyd-destunol i ddeilliannau y dylid ei ystyried. Byddwn yn adlewyrchu hyn yn y Fframwaith a bydd yn llywio ein hymrwymiadau ehangach mewn perthynas â mesurau perfformiad.

Mae gennym gyfle yng Nghymru i gefnogi sector addysg drydyddol sy’n gyson o ran sicrhau profiad dysgwyr o ansawdd da ar bob cam. Bwriedir i’r Fframwaith hwn helpu i gyflawni’r nod hwnnw.

Y camau nesaf

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn ystyried deilliannau cam cyntaf yr ymgynghoriad ymhellach. Wedyn, byddwn yn cynnwys y Fframwaith Ansawdd wedi’i ddiweddaru fel rhan o’r ddogfennaeth yn ein hymgynghoriad yn yr hydref, gan roi cyfle i ddarllenwyr ystyried y ddogfennaeth yn ei chyfanrwydd.

Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o grwpiau sector. Byddem yn croesawu rhagor o ddeialog cyn cam nesaf yr ymgynghoriad.

Rydym hefyd yn bwriadu rhoi mwy o eglurder ynghylch rhai o’r pwyntiau penodol a godwyd yn yr ymgynghoriad, yn enwedig gan eu bod yn berthnasol i elfennau eraill o’n gweithgarwch dros yr wythnosau nesaf.

I gael sgwrs am y materion hyn neu unrhyw faterion eraill sy’n gysylltiedig â’r Fframwaith, e-bostiwch [email protected].

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio