Cyhoeddiadau
Medr/2025/13: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2025/26
26 Aug 2025
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch, ynghyd â dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran arian cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2025/26.
2. Darparwyd y cyllid hwn yn wreiddiol yng nghylchlythyr CCAUC W22/05HE: Ymgynghoriad ar gyllid i gefnogi cydraddoldeb hiliol mewn addysg uwch,i ymdrin â gwrth-hiliaeth a chefnogi newid diwylliant mewn addysg uwch, yn unol â datblygiadau polisi hil, mynediad a llwyddiant yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Roedd y cyhoeddiad cychwynnol yn cynnwys amodau arian cyfatebol a’r disgwyliad i brifysgolion ennill dyfarniad siarter cydraddoldeb hiliol erbyn 2024/25. Cadarnhaodd pob prifysgol wrth CCAUC eu bwriad i gyflawni’r ymrwymiad hwn erbyn diwedd 2025.
3. Dylid darllen y cyhoeddiad hwn ar y cyd â chylchlythyr CCAUC W23/06HE: Addysg uwch ddiogel a chynhwysol: cefnogi addysg cydraddoldeb ac amrywiaeth. Ym mis Hydref 2024 cyhoeddodd Medr ei ganllawiau ar gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch a sefydlodd y cyd-destun ar gyfer y sector addysg uwch.
4. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030. Yn 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn newydd o’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i sicrhau cynnydd cyflym yn erbyn camau penodol, gan gynnwys camau’n gysylltiedig ag addysg drydyddol. Rydym yn disgwyl i brifysgolion ystyried y camau gweithredu hyn a chyfrannu atynt.
5. Rydym yn croesawu’r ffaith bod gan wyth prifysgol yng Nghymru bellach Ddyfarniad Efydd y siarter cydraddoldeb hiliol. Mae prifysgolion wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gweithio tuag at gyflawni’r siarter cydraddoldeb hiliol. Mae’r siarter yn cefnogi’r broses o ddatblygu’n brifysgol wrth-hiliol. Rydym yn disgwyl i bob prifysgol barhau i gyflawni yn erbyn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer y siarter yn 2025/26.
Dyletswyddau a chyfrifoldebau Medr
6. Mae gan Medr ddyletswydd strategol i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg drydyddol, gan gynnwys y mod y mae hyn yn berthnasol i grwpiau tangynrychioledig a phobl â nodweddion gwarchodedig. Rhoddir esboniad manwl ym mharagraffau 8-11 Medr/2024/03.
7. Mae Medr wedi cyhoeddi ei gynllun strategol sy’n nodi ein hymrwymiad ariannu i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r sector i wneud cynnydd tuag at greu Cymru wrth-hiliol ac at sicrhau amgylcheddau dysgu a gwaith sy’n gynhwysol i bawb, waeth beth fo’u hunaniaeth. Mae cynllun gweithredol Medr hefyd yn egluro y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg drydyddol i gyfrannu at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys: monitro cynnydd darparwyr addysg drydyddol yn erbyn cynlluniau gweithredu ac/neu ymrwymiadau siarter, a datblygu a chyhoeddi data monitro cydraddoldeb hiliol.
8. Yn 2025/26, bydd Medr yn ymgynghori ar amodau rheoleiddio newydd ar gyfer cofrestru a chyllido a fydd yn cynnwys ei amodau ar gyfer llesiant a chyfle cyfartal i staff a dysgwyr. Mae’r amod llesiant yn cynnwys gofyniad sy’n ymwneud â diogelwch staff a dysgwyr, sydd yn y cyd-destun hwn yn golygu rhyddid rhag niwed gan gynnwys aflonyddwch, trais, camymddygiad a throseddau casineb. Bydd pwerau rheoleiddio Medr hefyd yn gosod disgwyliad ar ddarparwyr i gefnogi cyfle cyfartal i fyfyrwyr tangynrychioledig. Mae rhai sydd wedi’u tangynrychioli yn golygu’r rhai sy’n wynebu rhwystrau neu anfantais gymdeithasol, ddiwylliannol, economaidd neu sefydliadol.
9. Mae Diweddariad Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru wedi cryfhau ei bwyslais ar arweinyddiaeth a grwpiau â blaenoriaeth. Disgwylir y bydd atebolrwydd am ymrwymiad prifysgolion i wrth-hiliaeth yn cael ei oruchwylio gan yr aelodau uwch priodol o staff (fel Dirprwy Is-Gangellorion) gyda chefnogaeth cyrff llywodraethu. Disgwylir i brifysgolion hefyd wella’u hymgysylltiad â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a’u cefnogaeth i’r cymunedau hynny.
Pwrpas cyllid gwrth-hiliaeth
10. Mae’r cyllid hwn i atal anghydraddoldeb, mynd i’r afael â hiliaeth a chefnogi’r broses o ymwreiddio polisïau ac arferion gwrth-hiliol mewn prifysgolion. Mae’n cyfrannu at newid diwylliant ac at fodloni disgwyliadau’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru.
11. Er bod y cyllid hwn wedi’i fframio o ran hil ac ethnigrwydd, dylai prifysgolion fabwysiadu dull cyfannol o gydnabod sut mae hil ac ethnigrwydd yn croestorri â nodweddion gwarchodedig a grwpiau a materion eraill o fewn cymdeithas, gan gynnwys trais, cam-drin ac aflonyddu ar sail hunaniaeth, llesiant ac iechyd meddwl, ffoaduriaid a cheiswyr lloches a chrefydd a chred, ymhlith eraill.
Dyraniadau ac amodau cyllid ar gyfer 2025/26
12. Mae dyraniadau cyllid 2025/26:
- yn amodol ar ymrwymiad gan brifysgolion i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer dyraniadau (fel mewn blynyddoedd cynt, ac fel y nodir yn y tabl cyllido isod);
- yn defnyddio data myfyrwyr 2023/24 HESA sy’n seiliedig ar boblogaeth gofrestru safonol HESA, wedi’i ostwng i nifer yr unigolion, h.y. os bydd myfyriwr wedi cofrestru ar fwy nag un cwrs ni chaiff ond ei gyfrif unwaith);
- yn defnyddio data myfyrwyr sy’n cynnwys yr holl gorff o fyfyrwyr: pob dull, lefel a domisil;
- yn seiliedig ar ddata HESA 2023/24 sydd wedi’u dilysu gan y brifysgol;
- yn ôl ein harfer, mae data myfyrwyr y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama wedi’u cynnwys yn nata a dyraniad Prifysgol De Cymru; ac
- yn cael eu cyflwyno ar ffurf un taliad ym mis Hydref 2025. Os yw’r adroddiadau’n anfoddhaol neu’n gyfyngedig, rydym yn cadw’r hawl i adennill cyllid.
13. Dyma ein disgwyliadau ar gyfer defnyddio arian cyfatebol:
- na ddylai dyraniad Medr arwain at unrhyw ostyngiad yn yr adnoddau a ddarperir eisoes gan brifysgolion ar gyfer datblygiadau gwrth-hiliol, gan gynnwys eu hymrwymiad i sicrhau a dangos cynnydd ac ymrwymiad parhaus tuag at ennill eu hachrediad siarter;
- bod prifysgolion yn clustnodi adnoddau ychwanegol i gefnogi camau gwrth-hiliaeth, sy’n uwch na chyfanswm dyraniad Medr o £1m;
- lle caiff unrhyw weithgareddau neu wasanaethau gwrth-hiliaeth sy’n bodoli eisoes eu hariannu drwy gynllun mynediad a ffioedd neu o ffynonellau eraill yn 2025/26, ceir defnyddio’r cyllid a ddarperir gan Medr drwy’r canllawiau hyn neu drwy’r arian cyfatebol gwrth-hiliaeth cysylltiedig i brifysgolion er mwyn cynyddu darpariaeth y gweithgareddau a’r gwasanaethau hyn (mae cynlluniau mynediad a ffioedd yn parhau i fod yn weithredol yn 2025/26 nes bo’r broses gofrestru newydd yn weithredol o 2026/27). Yn yr achos hwn, bydd yn rhaid i’r brifysgol gyfleu’n glir ym mhob adroddiad ac mewn unrhyw waith monitro cydraddoldeb hiliol, sut ac i ba raddau y mae’r cyllid hwn wedi gwella gweithgareddau a gwasanaethau, a gallai hynny fod yn destun archwiliad gennym ni;
- ceir defnyddio arian cyfatebol neu arian Medr i dalu costau tanysgrifiadau aelodaeth perthnasol, hyfforddiant wedi’i hwyluso’n allanol neu arbenigedd arall allanol;
- rhaid i brifysgolion gyfrannu’n effeithiol at nodau a chamau gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
- bod prifysgolion yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r safonau a nodir yn y Siarter Cydraddoldeb Hiliol a’r camau yn eu cynllun gweithredu;
- bod prifysgolion yn cydweithredu’n effeithiol ar draws y sector trydyddol a chyda phartneriaid allanol, gan gynnwys rhai â phrofiad bywyd, i ddatblygu a rhannu dysgu ac ymarfer; a
- bod yr arian cyfatebol a dyraniad Medr yn arwain at gynyddu cynnydd a chyflymder y cynnydd tuag at ymdrin â hiliaeth, i ymwreiddio arferion gwrth-hiliaeth, gwella cydraddoldeb hiliol, a chynnydd tuag at ddyfarniad siarter ac/neu barhau i gyflawni dyfarniad siarter.
14. Dyma ddyraniadau 2025/26:
Sefydliad | Dyraniad Medr 2025/26 (gydag isafswm o £50K) (£) | Arian cyfatebol y sector 2025/26 (dim isafswm) (£) | 2025/26 Cyfanswm (£) |
---|---|---|---|
Prifysgol De Cymru | 160,566 | 160,566 | 321,132 |
Prifysgol Aberystwyth | 53,881 | 53,881 | 107,762 |
Prifysgol Bangor | 73,830 | 73,830 | 147,660 |
Prifysgol Caerdydd | 224,721 | 224,721 | 449,443 |
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | 106,160 | 106,160 | 212,320 |
Prifysgol Abertawe | 144,340 | 144,340 | 288,679 |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 77,948 | 77,948 | 155,896 |
Prifysgol Wrecsam | 54,345 | 54,345 | 108,689 |
Y Brifysgol Agored yng Nghymru | 104,210 | 104,210 | 208,420 |
Cyfanswm | 1,000,000 | 1,000,000 | 2,000,000 |
Adnoddau a gwybodaeth
15. Ym mis Gorffennaf 2023 cyhoeddodd Prifysgolion y DU Tackling racial harassment in higher education: progress since 2020 i adolygu effaith canllawiau 2020 ar sut mae prifysgolion yn mynd i’r afael ag aflonyddu hiliol mewn AU a sut y gallant wella ymhellach. Mae Prifysgolion y DU hefyd wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau ar newid y diwylliant ac ar grefydd a chred, gan fynd i’r afael â gwrthsemitiaeth ac islamoffobia) i ddarparu canllawiau ymarferol er mwyn llywio ystyriaethau hiliol.
16. Ym mis Mawrth 2024, lansiodd y Black Leadership Group Higher Education Anti-Racism Toolkit (HEART). Mae’n cynnwys cynllun deg pwynt i ymwreiddio gwrth-hiliaeth mewn systemau addysg uwch (Gan gynnwys strategaeth, addysgeg a phrofiadau myfyrwyr a staff). Gallai’r adnodd hwn fod yn ddefnyddiol i brifysgolion.
17. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu matrics aeddfedrwydd fel offeryn hunanasesu sy’n gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae’r matrics aeddfedrwydd wedi’i gynnwys yn Atodiad A er gwybodaeth. Gallai’r adnodd hwn fod yn ddefnyddiol i brifysgolion.
18. Wrth i Medr ddatblygu, drwy ymgynghori, ei amodau rheoleiddio a’i ganllawiau ar lesiant a chyfle cyfartal i staff a myfyrwyr, rydym yn annog prifysgolion i adolygu eu gweithgareddau gwrth-hiliaeth, gan ystyried yr amodau rheoleiddio a fydd yn berthnasol iddynt o 2026/27.
Cyflawniadau a monitro
19. Dylai gwybodaeth monitro a chyflawniadau ar gyfer 2025/26 adeiladu ar y cynlluniau ar gyfer 2024/25 a gyflwynwyd i Medr, a bod yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o broses y siarter cydraddoldeb hiliol a chanlyniadau cynlluniau gweithredu, yn ogystal â phrofiadau staff a dysgwyr. Mae templed monitro wedi cael ei ddarparu yn Atodiad B a dylai’r dogfennau a anfonir atom gynnwys:
- Cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth 2025/25 y brifysgol,
- Templed monitro’r brifysgol, gan gynnwys cynnydd a chyflawniadau hyd at fis Gorffennaf 2026; a
- Datganiad ariannu i roi cyfrif am ddyraniad Medr ac arian cyfatebol y brifysgol.
20. Os yw cynlluniau gweithredu’r prifysgolion yr un peth â’u cynlluniau gweithredu siarter cydraddoldeb hiliol, gallant gyflwyno cynllun gweithredu’r siarter er mwyn osgoi ail-wneud gwaith a lleihau’r baich o orfod adrodd yn ddiangen.
21. Os bydd Llywodraeth Cymru yn gosod disgwyliadau newydd ar addysg uwch neu’r sector trydyddol yn ystod y cyfnod cyllido, mae’n bosib y byddwn yn gofyn am friffiau gwybodaeth ychwanegol ac/neu’n gofyn fonitro ychwanegol.
Dyddiadau monitro a chyflwyno ar gyfer cyllid ac adroddiadau 2025/26
22. Y dyddiad cyflwyno ar gyfer cynlluniau gweithredu gwrth-hiliaeth prifysgolion yw Dydd Llun, 13 Hydref 2025. Cyflwynwch i [email protected].
23. Dyddiad cyflwyno templed monitro 2025/26 yw Dydd Gwener, 23 Hydref 2026. Dychwelwch y ddogfen fonitro wedi’i chwblhau (Atodiad B) i [email protected].
Asesu effaith ein polisïau
24. Rydym wedi cynnal ymarfer sgrinio asesu effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred.
25. Buom hefyd yn ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, a darpariaeth Gymraeg yn sector AU Cymru, a’r effeithiau posibl ar y nodau a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cysylltwch ag [email protected] am ragor o wybodaeth am asesiadau effaith cydraddoldeb.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau i’w cyflwyno
26. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Savanna Jones ([email protected]).
27. Cyflwynwch eich cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth i [email protected] erbyn Dydd Llun, 13 Hydref 2025.
28. Cyflwynwch eich templed monitro i [email protected] erbyn Dydd Gwener, 23 Hydref 2026.
Medr/2025/13: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2025/26
Dyddiad: 26 Awst 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/13
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch
Ymateb erbyn: 13 Hydref 2025 a 23 Hydref 2026 i [email protected]
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu canllawiau i gefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch, a dyraniadau cyllid gwrth-hiliaeth, disgwyliadau o ran arian cyfatebol, a gofynion monitro ar gyfer 2025/26.
Medr/2025/13 Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2025/26Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio