Cyhoeddiadau
Sta/Medr/15/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Chwefror i Ebrill 2025 (dros dro)
21 Aug 2025
Pwyntiau allweddol
- Dechreuodd 3,895 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch3 2024/25 (p), o gymharu â 4,570 yn Ch3 2023/24.
- Ymhlith y prentisiaethau sylfaen lefel 2 y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf o gymharu â Ch3 y flwyddyn gynt, sy’n ostyngiad o 19% (p).
- Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch3 2024/25 (p) hefo 1,985 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 51% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Roedd 67% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr benywaidd yn Ch3 2024/25 (p), roedd hyn dim wedi newid o gymharu â Ch3 2023/24.
- Roedd 44% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr 25 i 39 oed yn Ch3 2024/25 (p) o gymharu â 42% yn Ch3 y flwyddyn gynt.
- Roedd 16% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch3 2024/25 (p), roedd hyn wedi cynyddu 3 pwynt canran o gymharu â Ch3 2023/24.
- Roedd 13% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch3 2024/25 (p) gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu.
- Roedd 12% o’r dysgwyr a ddechreuodd raglenni dysgu prentisiaeth yn ddysgwyr sy’n byw yn y 10% o gymdogaethau â’r mwyaf o amddifadedd yng Nghymru yn 2024/25 Ch3 (p).
- Mae 77,385 o brentisiaethau wedi’u dechrau ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau. Gan gynnwys y dysgwyr a ddechreuodd raglenni na chânt eu cyfrif fel rhan o’r mesur mwy trwyadl ar gyfer y targed, dechreuodd gyfanswm o 85,415 o ddysgwyr brentisiaethau yn ystod y cyfnod.
- Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.
Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y flwyddyn ariannol 2023-24 yn £139m ac yn £144m yn 2024-25 (Ffynhonnell: Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026).). Yn ystod blynyddoedd blaenorol, roedd cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (£43m yn 2023-24 Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026). Fe ddaeth hyn i ben erbyn y flwyddyn ariannol 2024-2025.
Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiolSta/Medr/15/2025: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Chwefror i Ebrill 2025 (dros dro)
Ystadegau Medr
Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/15/2025
Dyddiad: 21 Awst 2025
Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd.
Nodyn: Mae ffigurau gyda (p) yn dros dro.
Sta/Medr/15/2025 Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Chwefror i Ebrill 2025Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio