This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Cefnogi dros 1000 o gyflogeion Tata Steel trwy gyllid sgiliau cyhoeddus

Mae dros fil o gyflogeion a oedd yn wynebu dyfodol ansicr o ganlyniad i benderfyniad Tata Steel UK i roi’r gorau i gynhyrchu dur yn y ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot wedi cael eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau newydd trwy raglen arloesol o ddysgu lleol.

Gyda chyllid a ddarparwyr yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru ac a ddarperir ers mis Awst 2024 gan Medr, y corff newydd sy’n gyfrifol am gyllido a rheoleiddio’r sector trydyddol* yng Nghymru, mae niferoedd sylweddol wedi manteisio ar y cynllun Cyfrifon Dysgu Personol (PLA), ac mewn llawer o achosion mae’r cynllun wedi bod yn arfogi dysgwyr yn gyflym â’r sgiliau ar gyfer cyflogaeth amgen. 

Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn unig, mae’r Cyfrifon Dysgu Personol sy’n rhan o’r ymyriad ar gyfer gweithlu Tata Steel wedi cynorthwyo 800 o weithwyr i wneud 995 o gyrsiau Cyfrifon Dysgu Personol, ac mae 215 o ddysgwyr eraill sydd wedi bod yn gwneud ymhell dros 300 o gyrsiau wedi cael eu cefnogi dros y misoedd diwethaf.

Roedd Ben, sy’n 40 oed ac yn dad i ddau o blant yn eu harddegau, wedi bod yn gweithio yn Tata Steel am 24 mlynedd, ac mae’n un o’r cyn-gyflogeion sydd wedi cael budd o Gyfrif Dysgu Personol. Ar ôl adnabod a chwblhau cyrsiau lluosog gyda Choleg Castell-nedd, mae bellach wedi dod o hyd i gyflogaeth amgen. 

Meddai Ben: “Fe ddewisais i’r cyrsiau am mai’r rheiny oedd yn gweddu orau i mi fel ffordd o atgyfnerthu ac adeiladu ar fy mhrofiadau a’m hyfforddiant yn Tata, nad oedd wastad yn cael ei achredu’n swyddogol gan gyrff allanol. A minnau heb gael rhyw lawer o lwyddiant yn y farchnad swyddi ar gyfer y rolau yr oedd gennyf ddiddordeb ynddynt, mae wedi bod yn agoriad llygad go iawn cael gweld effaith yr achrediadau yr wyf wedi eu hennill.

“Ers hynny dangoswyd diddordeb ynof ar gyfer rolau a chan gwmnïau lluosog ac yn ddiweddar rwyf wedi derbyn swydd ar brosiect ynni mawr ar lefel y DU nid nepell o Bort Talbot. Rwyf wir yn ei mwynhau.’

Eglurodd Simon Pirotte, Prif Weithredwr Medr: “Yn amlwg, mae digwyddiadau diweddar ym Mhort Talbot wedi ei gwneud yn ofynnol i nifer o gyflogeion a busnesau yn y gadwyn gyflenwi ystyried eu dyfodol o’r newydd.

“Yr hyn yr ydym ni, a Llywodraeth Cymru o’n blaenau, wedi llwyddo i’w wneud trwy dargedu cyllid i ddiwallu anghenion penodol y rhai sy’n gallu cael mynediad ato, yw gweithio gyda’n colegau, darparwyr hyfforddiant a busnesau lleol nid dim ond i roi optimistiaeth ynglŷn â chyflogaeth amgen i lawer ond, mewn nifer o achosion, darparu’r sgiliau sydd wedi helpu i gyflawni union hynny.

“Rwyf wrth fy modd i gadarnhau y bydd yr ymyriad hwn sydd wedi’i glustnodi, yn dilyn ei lwyddiannau, yn parhau yn ystod 2025/2026.”

Meddai’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: “Rydym wedi gwneud ymrwymiad i’r gymuned gyfan ym Mhort Talbot na fyddent yn cael eu gadael ar ôl o ganlyniad i benderfyniad Tata i newid gweithrediadau yn y gwaith dur yn gyflym ac mae’r Cyfrifon Dysgu Personol pwrpasol hyn yn enghraifft ardderchog o sut yr ydym ni, gan weithio gyda Medr a phartneriaid, yn darparu ymyriadau sy’n cael effaith fawr i ailsgilio pobl a’u cynorthwyo i gael cyflogaeth leol amgen.

“Mae’n dda iawn gennyf weld Medr yn parhau â’r ymyriad hwn yn ystod 2026 a byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys ac nad yw wedi cael mynediad ato eto i ystyried sut y gallai fod o fudd iddynt hwy.”

Nod y rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol yw helpu unigolion i uwchsgilio neu ailsgilio mewn sectorau sy’n flaenoriaeth, yn enwedig y rhai sy’n ennill llai na’r ffigwr blynyddol gros canolrifol ar gyfer oedolion sy’n gweithio’n llawn-amser yng Nghymru. Trwy ganolbwyntio ar sectorau sy’n flaenoriaeth genedlaethol, mae’r rhaglen yn gwella potensial cyfranogwyr i ddilyn gyrfaoedd ac ennill cyflog. Mae Cyfrifon Dysgu Personol Tata yn dileu rhai o’r rhwystrau mynediad er mwyn teilwra’r cymorth yn fwy i anghenion gwahanol y gweithlu.

Gall unigolion ymgeisio naill ai’n uniongyrchol i’r colegau neu drwy Cymru’n Gweithio. Bydd yr holl sefydliadau’n sicrhau bod ganddynt broses ar waith i gefnogi ceisiadau am Gyfrifon Dysgu Personol, cynnal yr asesiad cychwynnol a phrosesu cofrestriadau.

Nodiadau

*Mae’r sector trydyddol yn ymwneud ag addysg ar gyfer pobl uwchlaw oedran ysgol gorfodol – gan gynnwys, ymhlith eraill, colegau, prifysgolion a lleoliadau galwedigaethol.

Mae ymyriad a dargedir ar gyfer gweithlu Tata wedi bod yn weithredol ers 1 Ebrill 2024, Ers hynny, mae’r rhai a gyflogwyd yn uniongyrchol gan Tata Steel UK a chadwyn gyflenwi’r cwmni yng Nghymru wedi bod yn gymwys ar gyfer Cyfrif Dysgu Personol (PLA), gan roi’r cymorth hyblyg sy’n angenrheidiol i ailhyfforddi a newid gyrfa.

Hefyd, rhaid i’r holl ymgeiswyr gael cynnig cymorth cyflogadwyedd trwy Raglen Camau i Gyflogaeth Gyrfa Cymru. Lle mae unigolion wedi cadarnhau y byddent yn croesawu cymorth ychwanegol, rhaid i’r sefydliadau Addysg Bellach amcanu at ddarparu’r offer y mae eu hangen arnynt.

Mae’r cyllid a’r ymyriad hwn yn ychwanegol at gyllid a gyhoeddwyd gan Fwrdd Pontio Tata.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio