This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2025/04: Cais am ragolygon 2025

Cyflwyniad

1. Mae’r cylchlythyr hwn yn gofyn i sefydliadau addysg uwch gyflwyno’r wybodaeth ganlynol:
• Rhan 1 – Amcangyfrifon ariannol ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2024/25 a rhagolygon ariannol ar gyfer 2025/26 i 2028/29
• Rhagolygon llifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at 31 Gorffennaf 2026
• Sylwebaeth naratif i gyd-fynd â’r wybodaeth
• Rhan 2 – Niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2024/25 a rhagolygon ar gyfer 2025/26 i 2028/29

Ceir canllawiau mwy manwl isod. Mae copïau o’r ffurflenni sydd i’w cyflwyno wedi eu cynnwys yn yr atodiadau wrth y cylchlythyr hwn, ynghyd â rhagor o wybodaeth dechnegol. Mae copïau electronig o rai atodiadau sydd wedi eu cwblhau rhag blaen yn cael eu hanfon at y cysylltiadau perthnasol mewn sefydliadau er mwyn dechrau’r broses o gyflwyno rhagolygon. Mae llyfr gwaith a sylwebaeth y model rhagolygon ariannol (gyda chanllawiau perthnasol ar gyfer cwblhau) wedi eu hatodi wrth y cylchlythyr hwn yn Atodiad B, yn ychwanegol at lyfr gwaith sy’n cynnwys gwiriadau dilysu sy’n cysylltu’r niferoedd myfyrwyr a ragwelir â’r incwm ffioedd a ragwelir ar gyfer myfyrwyr cartref a thramor (Atodiadau C1a, C1d a C2).

Cefndir a chynllunio strategol sefydliadol

2. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gyflwyno gwybodaeth sy’n cynnwys rhagolygon ariannol a rhagolygon niferoedd myfyrwyr yn flynyddol. Y rheswm dros hyn yw er mwyn ein galluogi i ddeall perfformiad ariannol blaenorol sefydliadau a’u perfformiad ariannol disgwyliedig yn y dyfodol, ac mae hefyd yn ffynhonnell wybodaeth bwysig i ategu Cynlluniau Ffioedd a Mynediad a gyflwynir a deialog strategol rhwng Medr a’r sefydliadau.

Cyd-destun strategol

3. Wrth ymateb i’r cylchlythyr hwn, dylai sefydliadau ystyried yr amryw gylchlythyrau a chyhoeddiadau eraill allweddol sy’n ymwneud â datblygiadau polisi, strategaeth a chyllido addysg uwch yng Nghymru. Mae ffynonellau allweddol wedi eu cynnwys isod, gyda dolenni i gyhoeddiad y flwyddyn flaenorol lle nad yw manylion 2025/26 wedi cael eu cyhoeddi ar adeg cyhoeddi. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
• Mae llythyr cyllido blynyddol y Gweinidog at Medr yn cyhoeddi cyllid a blaenoriaethau addysg uwch am y flwyddyn gyllidol.
• Mae tybiaethau Cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 wedi cael eu cyflwyno i Benaethiaid sefydliadau.
• Cylchlythyrau Medr sy’n nodi’r dyraniadau grant craidd. Cyfeiriwyd at y cylchlythyrau diweddaraf ar adeg cyhoeddi:
o Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (Medr/2024/09)

Crynodeb o’r gofynion o ran gwybodaeth

4. Rydym yn cyflwyno ffurflenni data rhagolygon ariannol a rhagolygon myfyrwyr unigoledig i bob sefydliad ar wahân. Anfonir y rhain, fel y bo’n briodol, at gyfarwyddwyr cyllid a chysylltiadau data a enwebwyd gan bennaeth y sefydliad. Dylai’r holl sefydliadau gyflwyno eu ffurflenni wedi’u cwblhau erbyn y dyddiadau a ddynodir i [email protected]. Yn ychwanegol at y dibenion penodol a amlinellir uchod, bydd yr holl wybodaeth y gofynnir amdani trwy’r cylchlythyr hwn yn darparu tystiolaeth i oleuo ein proses Adolygu Sicrwydd Sefydliadol.

5. Dylai sefydliadau nodi y byddwn yn ceisio diweddariadau lefel uchel i ragolygon ariannol a rhagolygon myfyrwyr ym mis Tachwedd 2025. Diben hyn fydd goleuo ein dadansoddiad o oblygiadau ariannol newidiadau i’r rhagolygon o ganlyniad i’r sefyllfa wedi’i diweddaru o ran recriwtio myfyrwyr ar gyfer 2025/26.

Rhan 1 – Rhagolygon ariannol ar gyfer y cyfnod o 2024/25 i 2028/29

6. Ein hamcanion wrth ofyn am ragolygon ariannol yw ein galluogi i:
• fonitro iechyd ariannol sefydliadau;
• monitro a yw rhagolygon sefydliadau’n ystyried yr amgylchedd addysg uwch sydd ohoni;
• cael sicrwydd bod trefniadau cynllunio ariannol effeithiol ar waith;
• sicrhau bod cyrff llywodraethu’n ymgysylltu’n briodol â phrosesau rhagolygon a chynllunio ariannol y sefydliad;
• gwirio bod gweithgarwch cynllunio strategol ac ariannol sefydliadau wedi eu hintegreiddio; a
• chynhyrchu gwybodaeth ar lefel gryno am dueddiadau ac iechyd ariannol cyffredinol y sector AU yng Nghymru.

7. Ar gyfer yr wybodaeth a gyflwynir ar hyn o bryd gofynnwn i sefydliadau baratoi rhagolygon ariannol pum mlynedd, sy’n cwmpasu’r cyfnod hyd at 2028/29. Er mwyn lleihau llwyth gwaith sefydliadau i’r eithaf, rydym wedi rhagboblogi colofnau ffigyrau gwirioneddol 2022/23 a 2023/24 yn y modelau, lle y bo’n bosibl, i gynorthwyo gydag adnabod unrhyw dueddiadau mewn perfformiad. Rydym hefyd wedi rhagboblogi’r rhagolwg ar gyfer y flwyddyn 2024/25 (fel y’i cyflwynwyd i ni ym mis Gorffennaf 2024). Byddwn yn disgwyl i ragolygon ariannol fod yn seiliedig ar gylchlythyrau perthnasol ar ddyraniadau cyllid a niferoedd myfyrwyr.

8. Dylid cyflwyno gwybodaeth am ragolygon ariannol i ni yn [email protected] erbyn 31 Gorffennaf 2025.

9. Wrth baratoi’r rhagolygon dylai sefydliadau gyfeirio at y tybiaethau cynllunio a amlinellir yn Atodiad A ac at y dogfennau a restrir ym mharagraff 3 uchod.

Cynnwys y rhagolygon ariannol

10. Mae ffurf a chynnwys y modelau rhagolygon ariannol 2024/25 i 2028/29 yn debyg i’r hyn a gyflwynwyd gan sefydliadau ym mis Gorffennaf 2024. Sylwer bod cwblhau’r rhagolygon pum mlynedd, y sylwebaeth a’r datganiad llifoedd arian parod misol yn orfodol ac y dylai hynny adlewyrchu gofynion Cod Rheoli Ariannol CCAUC (cylchlythyr HEFCW W17/16HE) rhwng Medr[1] a’r sefydliadau. Dylai’r rhagolygon fod yn seiliedig ar dybiaethau realistig. I roi cymorth i gymharu gwybodaeth dylent fod yn gyson ag unrhyw newidiadau i driniaeth gyfrifyddu a’r modd y cyflwynwyd gwybodaeth a’r modd y nodwyd dyraniadau cyllid yn y datganiadau ariannol diwethaf a chofnod cyllid HESA.

Ffurflenni gofynnol

11. Mae’r cylchlythyr hwn yn cynnwys nifer o atodiadau i’w dychwelyd at Medr:
(i) Y templed rhagolygon ariannol (Atodiad B1). Byddwn yn anfon y tablau sefydliad-benodol wedi’u rhaglenwi at gysylltiadau data a chyfarwyddwyr cyllid.
(ii) Mae’r sylwebaeth ar ragolygon ariannol (Atodiad B2) yn gofyn am ddadansoddiad naratif pellach o’r tablau yn y model rhagolygon.
(iii) Mae rhagfynegiadau o lifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at fis Gorffennaf 2026 yn ofynnol hefyd.

Rhoddir crynodebau o’r gofynion ar gyfer pob un isod. Rhoddir canllawiau ynghylch cwblhau’r prif ragolwg yn Atodiad B3.

Templed rhagolygon ariannol (Atodiad B1)

12. Rydym yn disgwyl i unrhyw dwf dros ffigyrau recriwtio 2024/25 gael ei egluro’n llawn, gyda thystiolaeth ategol gadarn yn cael ei darparu.

13. Mae’r rhagolwg ariannol yn cynnwys templed ‘senarios anffafriol’ ar gyfer 2025/26. Ceir ansicrwydd sylweddol o hyd yn y sector a’r economi ehangach, ac mae’r templed hwn yn darparu sicrwydd bod eich cyrff llywodraethu wedi rhoi ystyriaeth briodol i senarios anffafriol yn ogystal â darparu data ar ein cyfer i asesu risg i’r sector:
(i) Dylid cynnwys addasiadau mewn meysydd eraill yn y rhagolwg hefyd lle nad yw twf o’r fath yn sicr neu lle mae cost yn briodoledig i dwf yn niferoedd y myfyrwyr, er enghraifft cyfleusterau a phreswylfeydd.
(ii) Tybir bod costau ar lefel eich rhagolwg ar gyfer 2025/26. Dylai camau lliniaru sy’n ofynnol gael eu nodi’n fanwl yn y naratif am y rhagolwg.

14. Rhoddir canllawiau manwl ynghylch cwblhau’r templed rhagolygon ariannol yn Atodiad B3. Caiff canllawiau ynghylch newidiadau i’r templed eu dynodi mewn glas er mwyn eu gwneud yn rhwydd cyfeirio atynt.

Sylwebaeth ar y rhagolygon ariannol (Atodiad B2)

15. Dylai sefydliadau ddarparu sylwebaeth ar y rhagolygon ariannol gan ddefnyddio’r profforma yn Atodiad B2. Mae hwn yn rhestru gofynion manwl ar gyfer gwybodaeth am nifer o agweddau allweddol ar y rhagolwg ariannol, ond y nod ar y cyfan yw bod sefydliadau’n darparu:
(i) sicrwydd bod y rhagolygon ariannol yn deillio o gynllun strategol cyfredol a strategaeth ariannol gyfredol y sefydliad a’u bod yn gyson â’r rhain a bod cysylltedd â pherfformiad ariannol diweddar yn ogystal â’r gudd-wybodaeth ddiweddaraf a allai effeithio ar ragolygon megis recriwtio myfyrwyr;
(ii) gwybodaeth ategol ychwanegol am y tybiaethau allweddol yn y rhagolygon ariannol; a
(iii) eglurhad o dueddiadau pwysig yn y niferoedd a ragwelir ar draws y cyfnod, yn enwedig mewn perthynas â’r dangosyddion allweddol megis hylifedd, llif arian parod gweithredu, gwarged gweithredu a chreu arian parod.
(iv) naratif am gynllunio wrth gefn ar gyfer y prif heriau a adnabuwyd gan y sefydliad. Dylai hyn gynnwys unrhyw effaith ar recriwtio myfyrwyr a dychwelwyr cartref a thramor, ynghyd â’r canlyniadau ariannol ar gyfer ffioedd dysgu a ffrydiau incwm cysylltiedig ar gyfer incwm, llif arian parod gweithredu net a chreu arian parod.
(v) Yn yr hinsawdd bresennol byddem yn disgwyl i’r naratif gynnwys ystyried y lefelau uwch o risg y mae’r sefydliad yn agored iddynt, oherwydd y gofyniad i arallgyfeirio incwm oddi wrth fyfyrwyr israddedig amser llawn o’r DU, ac unrhyw sensitifrwydd cysylltiedig i gostau ychwanegol a gwaith arall i fodelu’r risgiau hyn.
(vi) Ar ochr costau byddem yn disgwyl i’r naratif gynnwys ystyried y risg sy’n gysylltiedig â phwysau chwyddiannol, yn rhai sy’n ymwneud â staff ac nad ydynt yn ymwneud â staff, ac i ba raddau y mae cynlluniau’r sefydliad yn sensitif i’r rhain.
Mae newidiadau i’r gofynion o’i gymharu â 2024 wedi eu hamlygu mewn melyn.

Rhagolygon llifoedd arian parod misol

16. Rydym yn gofyn am gyflwyno rhagolygon llifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at fis Gorffennaf 2026. Mae paratoi rhagolygon arian parod ar gyfer 12 mis yn un o ofynion y Cod Rheoli Ariannol [para 83]. I hwyluso hyn, nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio fformat a ragnodir ar gyfer y ffurflenni hyn. Fodd bynnag, rydym yn ei gwneud yn ofynnol:
a. paratoi’r ffurflen yn ddigon manwl i adnabod yn glir beth yw’r prif ffrydiau incwm a gwariant;
b. bod unrhyw fuddsoddiadau neu gyfleusterau benthyca y disgwylir eu defnyddio neu eu talu’n ôl yn cael eu hadnabod yn glir;
c. dangos llif net misol arian parod i mewn / (allan);
d. dangos balansau agoriadol a chau misol arian parod yn y banc ar wahân i’r defnydd o fuddsoddiadau / cyfleusterau benthyca byrdymor; ac
e. dangos cyfanswm asedau hylifol, a chyfleusterau benthyca sydd ar gael, yn fisol. Lle y bo’n briodol dylai unrhyw arian parod cyfyngedig gael ei adnabod yn glir fel eitem ar wahân i gronfeydd wrth gefn rhydd.
f. Dylai balansau arian parod ar ddiwedd y flwyddyn fod yn gyson â’r rhagolygon a gyflwynir

17. Er y byddwn yn parhau i fonitro llifoedd arian parod gwirioneddol yn erbyn y rhagolygon hyn fel rhan o’n trafodaethau rheolaidd gyda chyfarwyddwyr cyllid, cyfrifoldeb corff llywodraethu pob sefydliad yw hysbysu Medr ynghylch digwyddiadau adroddadwy, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arian parod a ragwelir, o hyd. Hoffem dynnu eich sylw at baragraff 84 yn y Cod Rheoli Ariannol:
Rhaid i’r corff llywodraethu hysbysu CCAUC [Medr erbyn hyn] ar unwaith os, ar unrhyw adeg yn y 12 mis sydd i ddod, yw arian parod net negyddol (fel y’i diffinnir o fewn FRS 102 S(7), gan gynnwys arian parod a symiau sy’n cyfateb i arian parod) yn cael ei ragweld am fwy na 30 diwrnod olynol.

Rhan 2 – Niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2024/25 a rhagolygon ar gyfer 2025/26 i 2028/29

18. Mae’r wybodaeth ar gyfer rhagolygon incwm ffioedd myfyrwyr yn ofynnol ar wahân yn Atodiad C. Caiff yr wybodaeth am niferoedd y myfyrwyr yn Atodiad C ei phoblogi’n awtomatig o’r tablau yn Atodiad E, i roi cymorth i’w chysoni â ffioedd myfyrwyr. Ceir canllawiau ar gyfer y rhagolygon niferoedd myfyrwyr yn Atodiad D.

19. Ceir perthynas annatod rhwng tybiaethau sefydliad ynglŷn â newidiadau yn y dyfodol i’w boblogaeth fyfyrwyr a’i ragolygon ariannol. Felly mae’r rhagolygon myfyrwyr yn nodweddion pwysig sy’n tanategu cynllun strategol a rhagolygon ariannol sefydliad.

20.Gofynnir i sefydliadau gyflwyno, i [email protected], erbyn 31 Gorffennaf 2025,ragolygon o niferoedd yr holl fyfyrwyr AU (Cartref cyllidadwy, Cartref anghyllidadwy a Thramor) ar gyfer y pum mlynedd rhwng 2024/25 a 2028/29. Mae hyn yn cynnwys rhagolygon o niferoedd myfyrwyr addysg drawswladol (TNE) mewn campysau yn yr UE a thramor (y tu allan i’r UE), i’w cynnwys yn Atodiad E, SPF3 a’r incwm ffioedd cysylltiedig sydd i’w gynnwys yn nhab Atodiad C2. Mae Atodiad D yn cynnwys gwybodaeth am y tablau a chanllawiau i gynorthwyo gyda chwblhau’r ffurflenni’n gywir. Mae copi templed o’r tablau i’w cwblhau wedi ei atodi er gwybodaeth yn Atodiadau C ac E. Byddwn yn e-bostio tablau unigol sefydliadau sy’n cynnwys gwybodaeth ddilysu a chryno. Mae tablau yn nhab Atodiadau C1 ac C2 wedi eu cynnwys yn yr un llyfr gwaith â thab Atodiad E, ac mae gwiriadau hygrededd wedi cael eu cyflwyno i helpu i wirio ffurflenni niferoedd myfyrwyr ochr yn ochr â data incwm ffioedd. Y tablau hyn y mae angen eu cwblhau a’u dychwelyd.

21. Yn ychwanegol at y rhagolygon, rydym yn gofyn am wybodaeth am niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2024/25. Y rheswm dros hyn yw er mwyn sicrhau ein bod yn gallu dwyn cymariaethau rhwng y boblogaeth fyfyrwyr ddiweddaraf a’r data incwm ffioedd myfyrwyr a ddychwelir yn nhab Atodiadau C1 ac C2. Rydym yn cydnabod y bydd yn dal i gynnwys elfen o amcangyfrif gan na fydd y flwyddyn academaidd wedi gorffen ond bydd yn rhoi niferoedd mwy cywir i ni er mwyn cymharu â thybiaethau a wnaed wrth baratoi’r ffigyrau incwm ffioedd a ragwelir. Er gwybodaeth, mae ffigyrau o Dabl 1 ystadegau cynnar myfyrwyr addysg uwch (HESES) 2024/25 wedi cael eu cynnwys fel tabl atodol.

22. Yn gyffredinol, dylai’r diffiniadau sydd wedi eu cynnwys yng nghylchlythyr Medr/2024/09, arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) 2024/25 ac yng nghofnod Alltraeth Cyfanredol HESA gael eu defnyddio wrth lunio’r wybodaeth am ragolygon myfyrwyr sy’n ofynnol gan y cylchlythyr hwn. Ceir y manylion yn Atodiad D.

23. Dylai tybiaethau fod yn gyson â’r rhai a gyflwynir yn Atodiad A, ac unrhyw dybiaethau perthnasol eraill a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r rhagolygon ariannol.

24. Ceir nodiadau pellach ar gwblhau’r tablau yn Atodiad D.

Rhyddid gwybodaeth

25. Byddwn yn trin yr holl wybodaeth a ddarperir ar ein cyfer yn y cylchlythyr hwn fel gwybodaeth gyfrinachol.

26. Fel awdurdod cyhoeddus mae Medr yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl gyhoeddus i gael mynediad at unrhyw wybodaeth a ddelir gan awdurdod cyhoeddus. Gall gwybodaeth a gyflwynir i Medr gael ei datgelu ar gais dan amodau’r Ddeddf. Mae gennym gyfrifoldeb i benderfynu a ddylai ymatebion gael eu gwneud yn gyhoeddus ynteu a ddylid eu trin fel gwybodaeth gyfrinachol. Gallwn wrthod datgelu gwybodaeth dan amgylchiadau lle byddai datgelu gwybodaeth yn niweidio buddiannau masnachol neu lle darparwyd gwybodaeth yn gyfrinachol (er enghraifft, amcanestyniadau ariannol ar gyfer y dyfodol). Ceir rhagor o wybodaeth am y Ddeddf, gan gynnwys yr amgylchiadau penodol pan ellir dal gwybodaeth yn ôl, yn https://ico.org.uk/ dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Rhagor o wybodaeth

27. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn at Diane Rowland ([email protected]).



[1] Mae gofynion presennol a oedd yn eu lle dan CCAUC, gan gynnwys y Cod Rheoli Ariannol, yn dal i fod yn eu lle dan Medr nes bod fframwaith rheoleiddio newydd Medr yn ei le.

Medr/2025/04: Cais am ragolygon 2025

Dyddiad: 18 Gorffennaf 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/04

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Prif swyddogion cyllid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn:  31 Gorffennaf 2025

Mae’r cylchlythyr hwn yn gofyn i sefydliadau addysg uwch gyflwyno’r wybodaeth ganlynol:
Rhan 1 – Rhagolygon ariannol sy’n cynnwys:
• amcangyfrifon ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2024/25 a rhagolygon ariannol ar gyfer 2025/26 i 2028/29
• rhagolygon llifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at 31 Gorffennaf 2026
• sylwebaeth naratif i gyd-fynd â’r wybodaeth
Rhan 2 – Niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2024/25 a rhagolygon ar gyfer 2025/26 i 2028/29

Medr/2025/04 Cais am ragolygon 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd

Tanysgrifio