Chweched dosbarth mewn ysgolion
Sefydlwyd Medr ym mis Awst 2024, gan ddod â chyfrifoldebau dros reoleiddio a chyllido addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru ynghyd am y tro cyntaf. Mewn rhai meysydd o’n gwaith, mae hyn yn cynnwys ysgolion â chweched dosbarth a gynhelir gan awdurdodau lleol.
Daw hyn a nifer o fanteision, yn enwedig o ran sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad at addysg o ansawdd uchel cyson, pa bynnag lwybr a ddewisant.
Newidiadau sy’n effeithio ar chweched dosbarth mewn ysgolion
Rhoddir Atodlen 4 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 gyfrifoldebau cyfreithiol clir i Medr pan ddaw at newidiadau sy’n effeithio ar chweched dosbarth ysgolion, gan roi cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion yn y meysydd canlynol:
Awdurdodau lleol: crynodeb o gyfrifoldebau
- Dyrannu cyllid i’r chweched dosbarth yn unol â thelerau ac amodau cyllid Medr
- Cymeradwyo cyflwyniadau Casglu Data Ôl-16 eu hysgolion
- Cydymffurfio ag amod rheoleiddio cyllid Medr ar gyfer Ansawdd a Gwelliant Parhaus
- Gweithio gyda Medr i lunio cwricwla lleol ar gyfer
dysgwyr 16-18 oed, gan ddilyn canllawiau gan Medr pan fyddant ar gael - Ymgynghori â Medr wrth gynnig newidiadau i ddarpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir
Cyrff llywodraethu ysgolion â chweched dosbarth: crynodeb o gyfrifoldebau
- Cyflwyno’r Casgliad Data Ôl-16
- Cydymffurfio â gofynion Cod Ymgysylltu â Dysgwyr Medr
Medr a chweched dosbarth ysgolion
Mae Medr yn cyllido darpariaeth chweched dosbarth drwy awdurdodau lleol, gan ddefnyddio methodoleg gyllido benodol a fframwaith a gaiff ei gymhwyso’n gyson ar draws pob awdurdod lleol a choleg AB. Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol lofnodi Telerau ac Amodau Cyllido Medr, a mater i awdurdodau lleol unigol yw penderfynu sut i ddosbarthu’r cyllid a ddyrennir iddynt yn flynyddol ymhlith eu hysgolion unigol.
Bydd ysgolion yn cyflwyno data dysgwyr yn flynyddol bob hydref wedi i’r flwyddyn academaidd ddod i ben drwy’r Casgliad Data Ôl-16, yn dilyn cymeradwyaeth gan yr awdurdod lleol. Mae’r data yn cynnwys manylion dysgwyr unigol a’r rhaglenni a’r gweithgareddau y maent wedi’u cyflawni yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol. Defnyddir y data, ochr yn ochr â data nifer y pennau a gymerwyd o ddata CYBLD mis Ionawr, yn rhan o fethodoleg gyllido Medr ar gyfer awdurdodau lleol.
Fe’i defnyddir hefyd gan dîm ystadegau Medr ochr yn ochr â data ar nodweddion dysgwyr o’r CYBLD a chanlyniadau arholiadau o Gronfa Ddata Arholiadau Cymru, i greu darlun cynhwysfawr o ddeilliannau dysgwyr y chweched dosbarth. Caiff yr ystadegau hyn eu cyhoeddi yn flynyddol ar lefel genedlaethol, a rhennir adroddiadau ysgolion unigol ag ysgolion ac awdurdodau lleol.
As part of our regulatory framework, a new funding condition for Quality and Continuous Improvement will apply to local authority-maintained school sixth form provision from 1 August 2026. This requires local authorities to demonstrate that their sixth form provision is of good quality and engages with continuous improvement.
Mae’r Fframwaith Ansawdd yn rhoi enghreifftiau o’r modd y gellir dangos hyn. Mae Medr wedi cynhyrchu nodyn briffio ar gyfer awdurdodau lleol i’w helpu i ddeall sut y gallant fodloni’r amod hwn. Gan mai perthynas gyllido ag awdurdodau lleol sydd gan Medr yn hytrach nag ysgolion, yr awdurdod lleol fydd yn gorfod cydymffurfio â’r amod. Bydd yr amod yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau’r canlynol iddynt hwy eu hunain a’u hysgolion sydd â chweched dosbarth:
– eu bod yn derbyn canlyniadau boddhaol gan arolygwyr (h.y. ar lefel yr ysgol ac mewn arolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol);
– bod ganddynt ddata derbyniol ar berfformiad (ar lefel ysgolion a’r awdurdod lleol); ac
– nad yw Medr o’r farn eu bod yn arddangos risg i ansawdd addysg (ar lefel ysgolion a’r awdurdod lleol).
Byddwn felly’n disgwyl i awdurdodau lleol oruchwylio perfformiad eu hysgolion, yn unigol a chyda’i gilydd. Ar wahân i hyn, rydym yn ystyried gofyn i awdurdodau lleol gynhyrchu hunan-ddadansoddiad o’u darpariaeth chweched dosbarth yn 2027, fel bo modd i Medr gael mewnwelediad effeithiol i’r ddarpariaeth honno, ac asesu’r graddau y gall Medr gael sicrwydd o oruchwyliaeth awdurdodau lleol.
Mae gan Medr ddyletswydd statudol i baratoi Cod Ymgysylltu â Dysgwyr ynghylch cyfranogiad dysgwyr ym mhroses gwneud penderfyniadau eu darparydd. Dyma’r unig ran o fframwaith rheoleiddio Medr sy’n gosod gofyniad uniongyrchol ar gyrff llywodraethu ysgolion â chweched dosbarth.
O dan Adran 101 o’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, mae gan gyrff llywodraethu ddyletswydd statudol i gydymffurfio â’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr. Bydd yn ofynnol i ysgolion weithio gyda disgyblion eu chweched dosbarth i lunio ymrwymiad cyhoeddedig ynghylch ymgysylltu â dysgwyr, i adolygu’r ymrwymiad hwnnw’n rheolaidd, ac i roi tystiolaeth flynyddol i Medr o effaith ymgysylltu â disgyblion ar benderfyniadau. Gellir gwneud hyn drwy strwythurau presennol sy’n cynrychioli disgyblion, gan gynnwys cynghorau ysgol a Disgybl-Lywodraethwyr Cyswllt. Mae Medr yn paratoi nodyn briffio ar gyfer ysgolion i’w helpu i gyflawni’r ddyletswydd hon, a fydd ar gael yn haf 2026, a hefyd yn datblygu deunyddiau hyfforddi ar gyfer cyrff llywodraethu a disgyblion er mwyn helpu i weithredu’r Cod yn effeithiol.
Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb statudol dros sefydlu a goruchwylio darpariaeth cwricwla lleol ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed i Medr ar 1 Ebrill 2026 o dan y Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Mae hyn yn golygu bod Medr bellach yn gweithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau i lunio cwricwlwm eang a chytbwys ym mhob ardal awdurdod lleol. Rhaid i gwricwla lleol gynnwys cymysgedd addas o opsiynau academaidd a galwedigaethol, gan ddefnyddio’r pum parth dysgu a nodir yn Adran 33 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.
Yn y tymor byr, bydd Medr yn parhau i weithredu’n unol â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer Medr tra bod trefniadau newydd yn cael eu datblygu. Mae Medr yn bwriadu cyflwyno ei ganllawiau cwricwlwm 16-18 ei hun ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion, wedi’u llunio drwy ymgysylltu ac ymgynghori dros y 18 mis nesaf.
Fel rhan o’r broses gynllunio hon, bydd Medr yn gofyn i awdurdodau lleol a cholegau gyflwyno data blynyddol ar gynllunio’r cwricwlwm, yn gynnar yn y gwanwyn ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys amcanestyniadau a’r galw ymhlith dysgwyr, y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, argaeledd y rhaglen gyfredol, hyfywedd y cwrs a gwybodaeth am berfformiad, a thystiolaeth i ddangos sut mae’r hyn a gynigir yn lleol ym bodloni gofynion statudol ar draws y meysydd dysgu. Bydd y data yn helpu Medr i asesu a yw cwricwla lleol yn gytbwys, yn gynaliadwy ac yn cyd-fynd ag anghenion dysgwyr, blaenoriaethau lleol a chyfeiriad ehangach system addysg drydyddol Cymru.
Nid yw ysgolion â chweched dosbarth o fewn cwmpas amod rheoleiddio Medr ar gyfer y Gymraeg. Fodd bynnag, yn dilyn pasio Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, bydd ysgolion a chyrff llywodraethu, gan gynnwys rhai sydd â chweched dosbarth, yn ddarostyngedig i ofynion statudol newydd yn gysylltiedig ag addysg Gymraeg, yn rhan o fframwaith cenedlaethol ehangach ar gyfer cynllunio iaith.
Serch hynny, mae Medr yn cydnabod y bydd ysgolion â chweched dosbarth yn gwneud cyfraniad hanfodol at y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg Drydyddol, sy’n ymrwymiad yng Nghynllun Strategol Medr. Mae ysgolion yn chwarae rhan allweddol er mwyn cynnal a chryfhau sgiliau Cymraeg dysgwyr wrth iddynt drosglwyddo o addysg statudol i’r system drydyddol. Bydd angen i’r Cynllun Cenedlaethol felly adlewyrchu’r modd y mae llwybrau mewn ysgolion â chweched dosbarth yn cysylltu â’r tirlun trydyddol cyfan, ac yn cefnogi dilyniant dysgwyr i’r tirlun hwnnw.
Bydd ffurfio cwricwla lleol 16-18 yn gyswllt allweddol rhwng y Cynllun Cenedlaethol ac ysgolion ac awdurdodau lleol. Bydd Medr yn gweithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau i lunio arlwy trydyddol cyfrwng Cymraeg eang a chydlynol, yn unol â’i ddyletswyddau strategol i annog galw am addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg, a chyfranogiad ynddi, ac i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod digon o ddarpariaeth addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg i ateb y galw. Bydd alinio blaenoriaethau’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg â gwaith cynllunio’r cwricwla lleol o gymorth i sicrhau llwybrau dilyniant cydlynol a pharhad llwybrau cyfrwng Cymraeg.
Mae’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn pennu cyfrifoldebau penodol i Medr yn gysylltiedig â darpariaeth y chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir. O dan Atodlen 4 o’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil, mae gan Medr bwerau ffurfiol i gychwyn, ystyried a chefnogi cynigion sy’n ymwneud ag ad-drefnu darpariaeth y chweched dosbarth. Mae’r pwerau hyn yn berthnasol i ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol ac i ysgolion gwirfoddol neu sefydledig sy’n gweithredu darpariaeth chweched dosbarth. Yn unol â’r ddeddfwriaeth, gall Medr wneud y canlynol yn ofynnol:
- Bod awdurdod lleol yn dod a chynigion yn eu blaen i sefydlu neu gau ysgol sy’n cynnig darpariaeth chweched dosbarth yn unig, neu i ehangu neu leihau capasiti presennol y chweched dosbarth.
- Bod corff llywodraethu ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig yn cynnig newidiadau i’w darpariaeth chweched dosbarth.
Mae gan awdurdodau lleol hefyd ddyletswyddau penodol wrth ddatblygu eu cynigion eu hunain. Yn ôl y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil a’r Cod Trefniadaeth Ysgolion mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori â Medr ynghylch unrhyw newidiadau arfaethedig i ddarpariaeth y chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir. Mae hyn yn cynnwys sefydlu neu gau darpariaeth chweched dosbarth, newid dynodiad ieithyddol e.e. Cyfrwng Saesneg i gyfrwng Cymraeg, neu gynigion a fyddai’n cynyddu neu’n lleihau eu capasiti yn sylweddol.
Beth mae hyn yn ei olygu i awdurdodau lleol a’r chweched dosbarth mewn ysgolion
Yn ei rôl fel ymgynghorai statudol, bwriedir i Medr roi cefnogaeth i awdurdodau lleol, yn hytrach na rhoi cyfarwyddiadau na phennu canlyniadau ymlaen llaw. Ein nod yw cydweithio o’r cyfnod cynharaf o feddwl, fel bod unrhyw newidiadau i ddarpariaeth y chweched yn gyson â blaenoriaethau lleol ac amcanion strategol ehangach Medr am system addysg drydyddol gynaliadwy o ansawdd uchel yng Nghymru.
Ein bwriad yw rhoi cyngor adeiladol, cynnar; rhannu tystiolaeth a mewnwelediadau; a helpu i sicrhau bod unrhyw gynigion a gyflwynir yn gadarn, yn gydlynol ac yn sicrhau deilliannau cryf i ddysgwyr. Rydym am i hon fod yn broses agored a chefnogol sy’n galluogi awdurdodau lleol, ysgolion a Medr i gydweithio gydag eglurder a phwrpas cyffredin.
I helpu gyda hyn, mae Medr yn datblygu canllawiau fframwaith y bwriedir iddynt helpu awdurdodau lleol i siapio’u cynigion cyn dechrau ymgynghoriad statudol. Mae’r canllawiau hyn, a fydd yn cael eu datblygu mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, yn canolbwyntio ar sicrhau bod cynlluniau i ad-drefnu darpariaeth y chweched dosbarth yn gyson â dyletswyddau strategol, nodau, amcanion ac uchelgeisiau hirdymor Medr, eu bod yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gallu bodloni anghenion dysgwyr a chymunedau am y tymor hir.
Cysylltwch â ni
Cyflwyniadau casgliad data ôl-16
Tîm Casglu Data Llywodraeth CymruYstadegau ac adroddiadau ar gyflawniad y chweched dosbarth/ALl
Y Tîm YstadegauAnsawdd a gwelliant parhaus
Y Tîm Ansawdd a Gwelliant ParhausY Cod Ymgysylltu â Dysgwyr
Y Tîm Ymgysylltu â DysgwyrCynllunio cwricwlwm 16-18 acad-drefnu’r chweched dosbarth
Y Tîm Perfformiad a ChydlynuUnrhyw ymholiadau eraill
Ymholiadau cyffredinolRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio