Dan Beard
Dan Beard
Aelod cyswllt o’r Bwrdd, cynrychiolydd y gweithlu anacademaidd
Mae Dan Beard yn gweithio ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn darparu Gwasanaethau Cymorth TG i academyddion a myfyrwyr. Mae wedi bod yn gweithio mewn Addysg Bellach ac Uwch am dros 20 mlynedd, ac yntau wedi dechrau ym Mhrifysgol Morgannwg yn 2001.
Dan yw cadeirydd Grŵp Gwasanaethau Addysg Uwch UNSAIN Cymru a bu’n gwasanaethu ar Bwyllgor Gwaith Addysg Uwch UNSAIN ar lefel y DU gyfan am dros 10 mlynedd.
Dan yw ysgrifennydd cangen UNSAIN PDC (sy’n cynnwys y Coleg Merthyr Tudful a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru) a chadeirydd Undebau Llafur ar y Cyd Grŵp PDC, gan weithredu fel y prif lefarydd wrth ymgysylltu ag uwch reolwyr y Brifysgol. Mae wedi bod yn llywodraethwr ysgol a llywodraethwr o blith y staff mewn SAUau ac roedd yn rhan o’r corff adolygu trefniadau llywodraethu a luniodd adroddiad Camm ar gyfer Llywodraethu Prifysgolion yng Nghymru fel cynrychiolydd TUC Cymru.
Mae’n frwd dros ehangu mynediad i mewn i addysg ôl-16 i alluogi symudedd cymdeithasol.