Chris Millward
Aelod y Bwrdd
Yr Athro Chris Millward
Aelod y Bwrdd
Mae’r Athro Chris Millward yn Athro Ymarfer mewn Polisi Addysg ym Mhrifysgol Birmingham.
Yn ychwanegol at ei rolau ym Mhrifysgol Birmingham a Medr, mae Chris yn Gyfarwyddwr Mynediad a Chyfranogiad Teg ar Fwrdd y Swyddfa Fyfyrwyr yn Lloegr, yn Gomisiynydd Ysgoloriaethau Marshall, yn un o Ymddiriedolwyr a Chymrodyr Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn un o Ymddiriedolwyr y Gymdeithas Ymchwil i Addysg Uwch.
Mae Chris hefyd wedi gweithio i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) fel Ymgynghorydd Rhanbarthol, ac yna fel Cyfarwyddwr Polisi. Roedd hefyd yn Bennaeth Rhaglenni Ymchwil ar Fwrdd Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn ystod y cyfnod o droi’n Gyngor Ymchwil o 2002 tan 2006.
Tyfodd Chris i fyny yn Stockport a mynychodd ei ysgol wladol leol cyn astudio ym mhrifysgolion Warwick a Manceinion.