This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Aaqil Ahmed

Aelod y Bwrdd

Yr Athro Aaqil Ahmed yw cyn Bennaeth Crefydd a Moeseg y BBC a Channel 4. Yn Channel 4, ef hefyd oedd y Pennaeth Rhaglennu Amlddiwylliannol, gan ennill nifer o wobrau gan gynnwys BAFTA, Emmy a’r Gymdeithas Deledu Frenhinol, yn ogystal â chael ei enwebu am Grierson ac Oscar.

Mae Aaqil yn Athro gwadd y Cyfryngau ym Mhrifysgol Bolton ac yn addysgu mewn nifer o brifysgolion. Mae’n awdur cyhoeddedig, yn siaradwr ac yn arweinydd ym maes y cyfryngau, crefydd, demograffeg a diwylliant.

Yn ogystal â bod yn aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae’n aelod o bwyllgor cynghori Ofcom yn Lloegr; Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Sandford St Martins, Sefydliad Rygbi’r Gynghrair Llundain a Chyfarwyddwr Anweithredol Ffilm Cymru, Elstree Film Studios a Culture Squared, sef y Cwmni Buddiannau Cymunedol sy’n cynhyrchu The Bradford Literature Festival.

Mae ei gwmni, Amplify Consulting Limited, yn arbenigo mewn cynhyrchu ar gyfer y teledu a’r cyfryngau digidol, crefydd, strategaeth a hyfforddiant y cyfryngau ac amrywiaeth, yn ogystal â chyngor a hyfforddiant ar gyfathrebu. Ar hyn o bryd y cwmni yw’r ymgynghoriaeth ddarlledu ar gyfer Bradford, Dinas Diwylliant y DU 2025.