Newyddion
System reoleiddio newydd ar gyfer y sector addysg drydyddol yn cael ei lansio
01 Apr 2026
Heddiw, mae Medr wedi lansio a chyhoeddi’n ffurfiol system reoleiddio newydd ar gyfer y sector addysg drydyddol cyfan, sef y gyntaf o’i math yn y DU.
Daw’r garreg filltir hon yn sgil gwaith ymgysylltu helaeth â phob rhan o’r sector addysg drydyddol, gan gynnwys dau gyfnod ymgynghori ffurfiol, ac mae’n gosod y sylfeini ar gyfer dull rheoleiddio cydgysylltiedig sy’n atgyfnerthu gwaith ymgysylltu â dysgwyr, yn ysgogi arferion gorau, ac yn helpu i sicrhau gwerth am arian cyhoeddus drwy’r sector cyfan.
Mae’r system reoleiddio sydd wedi’i chyhoeddi yn cynnwys:
- Dull rheoleiddio Medr
- Datganiad o bwerau ymyrryd
- Y fframwaith rheoleiddio llawn, gan gynnwys amodau cofrestru a chyllid
- Y Fframwaith Ansawdd ar gyfer addysg drydyddol
- Y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr
- Dogfen cwestiynau cyffredin sy’n nodi ymatebion i ymholiadau cyffredin a godwyd yn ystod y gwaith ymgysylltu
- Rhestr o’r termau allweddol
Ceir deunyddiau cysylltiedig sy’n amlinellu’r ffordd y mae’r system yn berthnasol i wahanol rannau o’r sector addysg drydyddol ac sy’n nodi disgwyliadau clir ar gyfer darparwyr sydd wedi’u cofrestru ac a ariennir mewn perthynas ag amrywiaeth o amodau.
Dywedodd Bethan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio a Dadansoddi Medr:
“Yn aml, gall rheoleiddio deimlo’n weithdrefnol, ond bydd y fframwaith hwn ar gyfer y sector addysg drydyddol cyfan – y cyntaf o’i fath yn y DU – yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol parhaol i bob rhan o’n sector addysg drydyddol.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y wybodaeth a’r adborth a gynigiwyd gan ddysgwyr, darparwyr a phartïon â diddordeb drwy gydol y broses hyd yma ac, er bod hyn yn garreg filltir bwysig, nid dyma ddiwedd y daith o bell ffordd. Mae’r sector yn parhau i ddatblygu, a byddwn yn adolygu ein dull rheoleiddio yn barhaus er mwyn iddo allu datblygu yn unol ag ef.
“Drwy gyhoeddi’r fframwaith rheoleiddio trylwyr a phellgyrhaeddol hwn, bydd modd i’r daith iteraidd tuag at ddull rheoleiddio tecach, mwy cyson a seiliedig ar ganlyniadau ar gyfer y sector addysg drydyddol yng Nghymru ddechrau mewn gwirionedd nawr.”
Mae Medr wrthi’n datblygu porth gwneud cais ar-lein a fydd yn galluogi darparwyr i gyflwyno’r wybodaeth y bydd ei hangen i wneud cais i gofrestru. Bydd y broses gwneud cais yn dechrau i ddarparwyr cyn bo hir, a chaiff rhagor o wybodaeth ei rhannu. Wedyn, bydd cofrestr, a fydd yn berthnasol i’r holl ddarparwyr addysg uwch, yn weithredol o fis Awst ymlaen.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd y rheoliadau newydd yn ei olygu i chi neu eich darparwr addysg i’w gweld ar ein gwefan:
Fframwaith Rheoleiddio MedrRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio