Cyhoeddiadau
Sta/Medr/08/2026: Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2023 i Tachwedd 2025
26 Mar 2026
Mae’r dadansoddiad hwn yn adeiladu ar yr hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol fel rhan o erthygl ystadegol Llywodraeth Cymru Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (Covid-19): Awst 2020 i Orffennaf 2021. Ei nod yw darparu darlun wedi’i ddiweddaru o ddilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol.
Mae’r carfannau Blwyddyn 11 yn y dadansoddiad hwn yn seiliedig ar yr holl ddysgwyr a oedd wedi eu cofrestru ym Mlwyddyn 11 mewn ysgolion uwchradd, canol ac arbennig a gynhelir yng Nghymru. Mae’r ffigurau ar gyfer 2025/26 yn rhai dros dro gan eu bod yn seiliedig ar ddata yn ystod y flwyddyn.
Diffinnir addysg drydyddol yn y dadansoddiad hwn fel darpariaeth sydd bellach yn cael ei chyllido a’i rheoleiddio gan Medr. Mae hyn yn cwmpasu darpariaeth a gyllidir yn gyhoeddus sy’n cael ei chyflwyno gan unedau chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir, colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau yng Nghymru.
Mae hyn yn newid o’r datganiad blaenorol lle defnyddiwyd diffiniad ychydig yn fwy eang o addysg drydyddol a oedd yn cynnwys dysgu ôl-16 mewn ysgolion arbennig a gynhelir a rhaglenni cyflogadwyedd Twf Swyddi Cymru+ / Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru.
Nid yw’r dadansoddiad yn cynnwys cyrchfannau trydyddol mewn ysgolion annibynnol, darparwyr dysgu annibynnol neu arbenigol eraill, dysgu oedolion yn y gymuned (gan gynnwys dysgu a ddarperir gan golegau), addysg drydyddol y tu allan i Gymru nac unrhyw ddarpariaeth EOTAS (Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol) ôl-16 arall.
Prif bwyntiau
- Roedd cyfran dros dro’r dysgwyr a aeth ymlaen o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol yn 85% yn 2025/26, a hithau’n ddigyfnewid ers y 2 flynedd flaenorol.
- Fe wnaeth nifer y dysgwyr sy’n camu ymlaen gynyddu’n gyson rhwng 2018/19 a 2024/25 cyn gostwng yn 2025/26, yn unol â newidiadau i feintiau carfannau Blwyddyn 11.
- O’r dysgwyr a aeth ymlaen o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol:
- Mae cyfran gynyddol yn mynd ymlaen i golegau addysg bellach, gyda gostyngiad cyfatebol yn y rhai sy’n mynd ymlaen i unedau chweched dosbarth.
- Mae cyfran y dysgwyr sy’n astudio ar lefel 3 (gan gynnwys Safon Uwch Gyfrannol) yn dal i leihau.
- Ceir gwahaniaethau mewn dilyniant rhwng gwahanol grwpiau o ddysgwyr. Roedd y gyfran a aeth ymlaen yn uwch ar gyfer dysgwyr sydd:
- Yn fenywaidd
- Yn byw yn y cymdogaethau lleiaf amddifadus
- Ddim yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim
- Ddim yn cael mynediad at ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol
- O gefndiroedd Asiaidd, Asiaidd Prydeinig neu Asiaidd Cymreig, neu Ddu, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd
- Yn gymwys neu’n rhugl ar ôl caffael Saesneg fel iaith ychwanegol
- Yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mlwyddyn 11 neu’n rhugl yn y Gymraeg.
- Roedd amrywiad sylweddol yn y math o ddarpariaeth a lefel y ddarpariaeth addysg drydyddol rhwng gwahanol grwpiau o ddysgwyr ac yn ddaearyddol.
Sta/Medr/08/2026: Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2023 i Tachwedd 2025
Ystadegau Medr
Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/08/2026
Dyddiad: 26 Mawrth 2026
Dynodiad: Ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu
Crynodeb: Dadansoddiad o gyrchfannau dysgwyr ar ôl gadael Blwyddyn 11, gyda dadansoddiadau yn ôl y math o addysg drydyddol, lefel astudio a nodweddion dysgwyr
Thema: Chweched dosbarth, addysg bellach, prentisiaethau
Sta/Medr/08/2026 Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2023 i Tachwedd 2025Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio