Newyddion
Pynciau astudio – y galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a’u dosbarthiad ar draws addysg uwch yng Nghymru
10 Feb 2026
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Medr ei adroddiad ar y galw am feysydd pwnc, y ddarpariaeth ohonynt a’u dosbarthiad ar draws addysg uwch yng Nghymru.
Mae’r dadansoddiad yn yr adroddiad yn edrych ar y pynciau y mae myfyrwyr addysg uwch yn eu hastudio, a hefyd yn edrych ar geisiadau Safon Uwch, data mynediad UCAS a data Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, fesul pwnc.
Cyflawnwyd y gwaith mewn ymateb i gais gan Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac fe’i cyflwynwyd mewn ymateb i alwad am gynigion papur tystiolaeth Cyfranogiad Trydyddol a Chynaliadwyedd.
Pynciau astudio – y galw am feysydd pwnc, eu darpariaeth a’u dosbarthiad ar draws addysg uwchRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio