Cyhoeddiadau
Medr/2026/12: Cyllid ychwanegol i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol 2025/26
26 Mar 2026
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriadau ar gyfer cyllid ychwanegol gwerth £4,000,000 i gydnabod cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg uwch ac awdurdodau lleol ym mlwyddyn academaidd 2025/26.
2. Rhoddodd Llywodraeth Cymru y cyllid hwn fel rhan o’i chyllideb ar gyfer 2025-26 a chaiff ei ddyrannu i ddarparwyr yn ystod blwyddyn ariannol 2025-26.
3. Caiff y cyllid hwn ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ar 31 Mawrth 2026.
Sail resymegol
4. Cyfrifwyd y dyraniad o £4,000,000 ar sail pro rata rhwng yr awdurdodau lleol a’r sefydliadau addysg bellach er mwyn adlewyrchu’r hyn a gyflawnwyd yn ôl adroddiadau’r awdurdodau lleol ym mis Rhagfyr 2025 a’r hyn a gyflawnwyd yn ôl data ciplun mis Rhagfyr 2025 Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.
Symiau ac amseriadau’r cyllid ychwanegol
5. Rhoddir dyraniad o £3,642,212.57 i sefydliadau addysg bellach am gynnydd mewn cyfranogiad ym mlwyddyn academaidd 2025/26, fel y gwelir yn y tabl isod.
| Sefydliad addysg bellach | Addysg bellach | Cymorth ychwanegol ar gyfer cyllid prif ffrwd |
|---|---|
| Coleg Penybont | £280,283.87 |
| Coleg Caerdydd a’r Fro | £301,014.89 |
| Coleg Cambria | £929,602.79 |
| Coleg Gwent | £104,367.28 |
| Coleg Sir Gâr | -£258,657.33 |
| Coleg y Cymoedd | £357,784.78 |
| Coleg Gŵyr Abertawe | £226,639.89 |
| Grŵp Llandrillo Menai | £988,585.74 |
| Grŵp NPTC | £397,677.88 |
| Y Coleg Merthyr Tudful | £168,060.99 |
| Coleg Sir Benfro | £34,632.66 |
| Coleg Catholig Dewi Sant | £112,219.13 |
| Cyfanswm | £3,642,212.57 |
6. Daw’r adhawliad ar gyfer Coleg Sir Gâr yn sgil addasiad i ddyraniad blaenorol.
7. Rhoddir dyraniad o £357,787.41 i awdurdodau lleol am gynnydd mewn cyfranogiad ar gyfer cyllid prif ffrwd ym mlwyddyn academaidd 2025/26, fel y gwelir yn y tabl isod.
| Awdurdod lleol | Awdurdodau lleol | Cymorth ychwanegol ar gyfer cyllid prif ffrwd |
|---|---|
| Cyngor Sir Ynys Môn | £42,755.87 |
| Cyngor Caerdydd | £132,748.79 |
| Cyngor Sir Ddinbych | £43,596.00 |
| Cyngor Sir Fynwy | £11,708.37 |
| Cyngor Castell-nedd Port Talbot | £16,602.54 |
| Cyngor Sir Penfro | £66,853.43 |
| Cyngor Dinas a Sir Abertawe | £23,449.58 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | £10,196.21 |
| Cyngor Bro Morgannwg | £9,876.62 |
| Cyfanswm | £357,787.41 |
8. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â’r cyfnod o 1 Awst 2025 tan 31 Gorffennaf 2026. Caiff y cyllid ychwanegol hwn i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ar 31 Mawrth 2026.
Medr/2026/12: Cyllid ychwanegol i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol 2025/26
Dyddiad: 26 Mawrth 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/12
At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg awdurdodau lleol
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi’r trefniadau a’r amseriadau ar gyfer cyllid ychwanegol gwerth £4,000,000 i gydnabod cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg uwch ac awdurdodau lleol ym mlwyddyn academaidd 2025/26.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru y cyllid hwn fel rhan o’i chyllideb ar gyfer 2025-26 a chaiff ei ddyrannu i ddarparwyr yn ystod blwyddyn ariannol 2025-26.
Caiff y cyllid hwn ei dalu’n llawn mewn un rhandaliad ar 31 Mawrth 2026.
Medr/2026/12 Cyllid ychwanegol i gefnogi cynnydd mewn cyfranogiad mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol 2025/26Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio