Cyhoeddiadau
Medr/2026/11: Cyllid cyfalaf addysg bellach ac Addysg Uwch 2025-26
26 Mar 2026
Cyflwyniad
1. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyllid cyfalaf ychwanegol o £26m ar gael i’w ddyrannu ym mlwyddyn ariannol 2025-26. Gellir dyrannu’r cyllid i wariant a ysgwyddir ym mlwyddyn academaidd 2025/26, yn ogystal ag ymrwymiadau ariannol a wneir erbyn 31 Gorffennaf 2026 a ategir gan gontractau neu archebion prynu. Ar gyfer colegau, bydd yr arian ychwanegol yn helpu i gynyddu cyfranogiad, yn enwedig mewn cyrsiau galwedigaethol er enghraifft drwy ehangu’r ddarpariaeth o ran gweithdai. Mae cyllid blaenorol wedi cael ei ddefnyddio gan brifysgolion i gefnogi prosiectau sy’n lleihau eu costau gweithredu ac yn gwella cyfleusterau i fyfyrwyr a staff. Ni ellir defnyddio cyllid cyfalaf i gefnogi costau staff yn uniongyrchol. Fodd bynnag, gall yr arbedion a gynhyrchir gan fuddsoddiadau cyfalaf ddod â rhywfaint o arbedion refeniw sy’n lleddfu pwysau costau. Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn cynnwys £13m ar gyfer sefydliadau addysg uwch ac £13m ar gyfer sefydliadau addysg bellach.
Sail dyraniadau cyllid cyfalaf
2. Dyrennir y cyllid cyfalaf yn seiliedig ar ddull fformwläig ac fe bennwyd y dyraniadau yn seiliedig ar y canlynol:
i) Addysg uwch: niferoedd myfyrwyr. Mae nifer y myfyrwyr mewn sefydliad yn ddirprwy rhesymol ar gyfer faint o ystâd a chyfleusterau y mae eu hangen. Daw’r niferoedd myfyrwyr a ddefnyddiwyd ar gyfer y dyraniad cychwynnol o ffigyrau Cyfwerth ag Amser Llawn (CagALl) Cofnod Myfyrwyr HESA ar gyfer pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2023/24. Cymhwyswyd isafswm dyraniad o £975,000. O ystyried ei hystâd gyfyngedig yng Nghymru, bydd trothwy isaf o 50% (£487,500) wedi’i bennu ar gyfer y Brifysgol Agored i gyfrannu at brosiectau a fydd o fudd i fyfyrwyr o Gymru. Mae hon yr un sail ag a ddefnyddiwyd i ddyrannu’r cyllid cyfalaf o £10m ym mis Hydref.
ii) Addysg bellach: Cyfanswm dyraniad2025/26. Fe bennwyd y dyraniad amser llawn cychwynnol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 gan ddefnyddio gwybodaeth am gyfrif pennau dysgwyr a gwerth rhaglenni o’r data LLWR diweddaraf ac fe’i goleuwyd gan ddata o’r CYBLD. Dosbarthwyd y dyraniad cyfalaf ychwanegol ar sail pro rata, sy’n cyd-fynd â chyfran pob darparwr o gyfanswm y dyraniad, yn seiliedig ar gyfrif pennau dysgwyr.
Dyraniadau
3. Darperir y dyraniadau canlyniadol ar gyfer pob sefydliad yn Atodiad A ar gyfer sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch.
Cadarnhau’r gallu i wario
4. O ystyried y ffrâm amser gyfyngedig i ddosbarthu’r cyllid hwn, yn lle cynlluniau wedi’u cwmpasu’n llawn rydym yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gadarnhau trwy anfon e-bost i [email protected] eu bod yn gallu defnyddio eu dyraniad yn erbyn prosiectau perthnasol ym mlwyddyn academaidd 2025/26. Sylwer bod rhaid i’r rhain fod yn ddatblygiadau yng Nghymru (neu, yn achos digidol, prosiectau a fydd o fudd yn uniongyrchol i fyfyrwyr o Gymru).
5. Os yw sefydliad yn rhagweld na fydd yn gallu defnyddio ei ddyraniad yn llawn, dylai hysbysu Medr ar y cyfle cynharaf a bydd unrhyw arian gweddillol yn cael ei ailddyrannu i sefydliadau eraill trwy’r dull fformwläig a ddisgrifiwyd yn flaenorol.
Canllawiau
6. Bydd canllawiau’n dilyn y cyhoeddiad hwn a’r rheiny’n amlinellu’r gwariant cymwys, ac felly hefyd dempled i adrodd ar wariant.
Monitro blynyddol
7. Bydd ymarfer monitro’n cael ei gynnal yn 2026 ar ddyddiad addas i sicrhau bod y cyllid wedi cael ei ddefnyddio fel a fwriadwyd ac i ddarparu diweddariad ar yr effaith y mae’r buddsoddiad wedi’i chael.
8. Bydd disgwyl i sefydliadau ddarparu dadansoddiad o’r gwariant cyfalaf a manylu ar unrhyw brosiectau y mae’r cyllid wedi cyfrannu atynt.
Amserlen
9. Bydd Medr yn trefnu bod yr arian a ddyrennir yn cael ei dalu i sefydliadau ar ôl cael y cadarnhad uchod ac ar 31 Mawrth 2026.
10. Bydd y broses fonitro flynyddol yn digwydd yn 2026 ar ddyddiad addas.
Rhagor o wybodaeth
11. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].
Atodiad A
Modelu cyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer addysg uwch yn 2025/26
| Sefydliad | Myfyrwyr CagALl 2023/24 | Dyraniadau pro rata i (£): CagALl | Canran a ddyrennir i bob sefydliad CagALl |
|---|---|---|---|
| Prifysgol De Cymru | 19,177 | £1,986,656.20 | 15% |
| Prifysgol Aberystwyth | £975,000 | 8% | |
| Prifysgol Bangor | £975,000 | 8% | |
| Prifysgol Caerdydd | 28,326 | £2,934,453.95 | 23% |
| Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant | 11,755 | £1,217,768.35 | 9% |
| Prifysgol Abertawe | 19,009 | £1,969,252.10 | 15% |
| Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 10,578 | £1,095,836.12 | 8% |
| Prifysgol Wrecsam | £975,000 | 8% | |
| Y Brifysgol Agored yng Nghymru | 8,408 | £871,033.28 | 7% |
| Cyfanswm | 97,253.00 | £13,000,000.00 | 100% |
Ffynhonnell: Cofnod myfyrwyr HESA 2023/24
- Niferoedd Myfyrwyr nas defnyddiwyd yn y cyfrifiad: Poblogaeth gofrestru safonol HESA, pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni.
- Ffigyrau CagALl a ddefnyddiwyd yn y cyfrifiad: Poblogaeth Sesiwn HESA, pob dull, lefel a gwlad y mae myfyrwyr yn hanu ohoni.
- Sylwer fod gwerthoedd CagALl wedi cael eu talgrynnu yn dilyn eu defnyddio yn y cyfrifiadau.
Modelu cyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer addysg bellach yn 2025/26
| Sefydliad | Myfyrwyr CagALl 2023/24 | Dyraniadau pro rata i (£): CagALl | Percentage allocated to each institution FTE |
|---|---|---|---|
| Coleg Penybont | 21,257,267 | £647,440.95 | 4.98% |
| Coleg Caerdydd a’r Fro | 51,838,831 | £1,578,875.68 | 12.15% |
| Coleg Cambria | 51,831,161 | £1,578,642.08 | 12.14% |
| Coleg Gwent | 59,626,840 | £1,816,078.14 | 13.97% |
| Coleg Sir Gâr | 28,960,384 | £882,057.82 | 6.79% |
| Coleg y Cymoedd | 44,337,120 | £1,350,393.11 | 10.39% |
| Coleg Gŵyr Abertawe | 36,295,608 | £1,105,469.62 | 8.50% |
| Grŵp Llandrillo Menai | 50,512,285 | £1,538,472.55 | 11.83% |
| Grŵp NPTC | 34,051,497 | £1,037,119.85 | 7.98% |
| Y Coleg Merthyr Tudful | 13,503,613 | £411,284.86 | 3.16% |
| Coleg Sir Benfro | 16,837,610 | £512,829.72 | 3.94% |
| Coleg Catholig Dewi Sant | 9,656,971 | £294,126.17 | 2.26% |
| Addysg Oedolion Cymru (ALW) | 8,116,566 | £247,209.45 | 1.90% |
| Cyfanswm | 426,825,753 | £13,000,000.00 | 100% |
Medr/2026/11: Cyllid cyfalaf addysg bellach ac addysg uwch 2025-26
Dyddiad: 26 Mawrth 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/11
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu manylion y sail ar gyfer dyrannu cyllid cyfalaf yn ystod y flwyddyn yn 2025/26 i sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru, yr wybodaeth sy’n ofynnol gan sefydliadau a’n dull o fonitro. Mae’r cyllid hwn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2025/26.
Medr/2026/11 Cyllid cyfalaf addysg bellach ac addysg uwch 2025-26Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio