Cyhoeddiadau
Medr/2026/08: Y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad
17 Feb 2026
Crynodeb
Un o Nodau Strategol Medr yw ‘creu system addysg drydyddol hyblyg a chydgysylltiedig lle gall pawb gaffael y sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy’n newid’. Rydym wedi ymrwymo i ddylunio darpariaeth brentisiaethau ar gyfer y dyfodol sy’n ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sgiliau ac sy’n diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi. Mae hyn wedi’i wreiddio yn ein dyletswydd strategol i gyfrannu at ddatblygu economi gynaliadwy ac arloesol yng Nghymru.
Mae prentisiaethau’n un o’r ysgogwyr allweddol ar gyfer cynhyrchiant a helpu i dyfu gweithlu crefftus ac amrywiol. Bydd Fframwaith Brentisiaethau newydd Cymru’n dechrau ar 1 Awst 2027.
Ym mis Medi 2025, fe gynhaliom ni ymarfer ymgynghori 6 wythnos a geisiodd farn gan randdeiliaid, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant ac addysg drydyddol, cynrychiolwyr byd diwydiant, cyflogwyr, dysgwyr ac awdurdodau lleol, i helpu i siapio’r rhaglen newydd. Fe ofynnom ni am farn pobl ynglŷn â’r canlynol:
- yr egwyddorion lefel uchel i arwain y rhaglen brentisiaethau newydd
- diffiniad o brentisiaeth
- taith dysgwr sy’n brentis
- ymgysylltiad cyflogwyr
- cyflawni hyblyg
- fframweithiau sector prentisiaethau
- ymatebolrwydd economaidd y rhaglen
- deilliannau prentisiaid
- cryfhau cyfleoedd yn y Gymraeg
- prentisiaethau cynhwysol
Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o themâu allweddol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’r camau nesaf o ran datblygu’r rhaglen newydd.
Mae Atodiad A yn darparu crynodeb manylach o’r adborth yn ystod yr ymgynghoriad a baratowyd gan Beaufort Research.
Cyflwyniad
1. Fel a nodwyd yn y ddogfen ymgynghori, mae Medr yn ymrwymedig i sicrhau bod darpariaeth brentisiaethau’n parhau i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sgiliau a diwallu anghenion esblygol dysgwyr, cyflogwyr a’r economi ehangach, fel rhan o system addysg drydyddol hyblyg a chydgysylltiedig. Wrth i ni amcanu at ddylunio rhaglen brentisiaethau newydd i Gymru, fe geisiom ni farn gan randdeiliaid allweddol i helpu i siapio arlwy sydd â ffocws ar y dyfodol, sy’n gynhwysol ac sy’n ymatebol.
2. Medr sy’n gyfrifol am ddatblygu’r rhaglen brentisiaethau newydd ledled Cymru, sydd i fod i ddechrau ym mis Awst 2027, fel a nodir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru. Rydym yn bwriadu dylunio’r rhaglen newydd i fod yn fwy ymatebol a hyblyg i ymdrin â’r blaenoriaethau o ran sgiliau i gyd-fynd â’n heconomi sy’n newid, blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sgiliau ac anghenion dysgwyr.
3. Fe gynhaliom ni ymgynghoriad 6 wythnos ym mis Medi – Hydref 2025, gan geisio barn rhanddeiliaid, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant ac addysg drydyddol, cynrychiolwyr byd diwydiant, cyflogwyr, dysgwyr ac awdurdodau lleol i helpu i siapio’r rhaglen newydd. Roedd y ddogfen ymgynghori’n darparu gwybodaeth am fodel cyfredol y rhaglen brentisiaethau, y sail resymegol dros newid, fframweithiau sector prentisiaethau a chynigion ar gyfer y rhaglen brentisiaethau newydd.
4. Roedd 26 o gwestiynau penagored wedi’u cynnwys yn y ddogfen ymgynghori, a’r rheiny’n ceisio barn pobl ynglŷn â’r canlynol:
- yr egwyddorion lefel uchel i arwain y rhaglen brentisiaethau newydd
- diffiniad o brentisiaeth
- taith dysgwr sy’n brentis
- ymgysylltiad cyflogwyr
- cyflawni hyblyg
- fframweithiau sector prentisiaethau
- ymatebolrwydd economaidd y rhaglen
- deilliannau prentisiaid
- cryfhau cyfleoedd yn y Gymraeg
- prentisiaethau cynhwysol
5. Cynhaliwyd pum digwyddiad ymgynghori yn ystod y cyfnod ymgynghori. Fe ymgysylltodd dros 350 o bobl â’r ymgynghoriad. Fe hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd, a roddodd o’u hamser i fod yn bresennol mewn digwyddiadau ymgynghori ac a gyflwynodd ymatebion i’r ymgynghoriad.
6. Mae’r adborth o’r ymgynghoriad wedi darparu peth wmbredd o wybodaeth i siapio datblygiad rhaglen brentisiaethau newydd a fydd yn cefnogi dysgu o ansawdd da, cyflogaeth ystyrlon, a thwf economaidd hirdymor ledled Cymru. Mae’r wybodaeth ac ymgysylltiad cyfoethog yma’n amhrisiadwy i sicrhau ein bod yn creu rhaglen sy’n fwy ymatebol a hyblyg i ymdrin ag anghenion dysgwyr a blaenoriaethau o ran sgiliau yn ein heconomi sy’n newid.
7. Fe wnaethom roi comisiwn i Beaufort Research i ddadansoddi’r mewnbwn o’r digwyddiadau ymgynghori a’r ymatebion ysgrifenedig a gafwyd. Mae Atodiad A yn darparu dadansoddiad manwl o’r adborth, a baratowyd gan Beaufort Research. Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o’r themâu allweddol a adnabuwyd a fydd yn goleuo datblygiad y rhaglen newydd. Mae’r adran ‘Camau Nesaf’ yn nodi cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu pellach a’r raddfa amser ar gyfer cyhoeddi manyleb y rhaglen.
Egwyddorion y Rhaglen Brentisiaethau
8. Fe ymgynghorom ni ynghylch egwyddorion lefel uchel ar gyfer y rhaglen newydd. Roedd y rhain yn datgan y dylai:
- fod yn rhaglen pob oed.
- darparu prentisiaethau o lefel 2 i lefel 6.
- ymateb i alw am sgiliau sy’n newid ar draws yr economi ac anghenion o ran sgiliau ar lefel ranbarthol.
- ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sgiliau, gan gynnwys ymateb i dechnolegau sy’n newid, a sgiliau gwyrdd.
- diwallu anghenion dysgwyr a chynorthwyo eu dilyniant trwy’r system addysg drydyddol ac i mewn i’w gyrfa ddewisol a thrwy gydol yr yrfa honno.
- bod yn ystwyth ac yn ymatebol i sicrhau bod y cymwysterau a’r sgiliau cywir yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion cyflogwyr, dysgwyr a’r economi.
- darparu prentisiaethau cynhwysol sy’n hygyrch i ddysgwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, ac sydd â nodweddion gwarchodedig.
- cynyddu cyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael yn y Gymraeg.
- cynnig darpariaeth o ansawdd da sy’n cryfhau deilliannau a chyrhaeddiad dysgwyr.
9. Roedd ymatebwyr yn fodlon at ei gilydd ar yr egwyddorion cyffredinol. Fe godwyd rhai pwyntiau penodol sydd wedi cael eu hintegreiddio yn adran Themâu Allweddol y ddogfen hon, gyda gwybodaeth fanylach yn Atodiad A.
Diffiniad o Brentisiaeth
10. Fe ymgynghorom ni ynghylch y diffiniad canlynol o brentisiaeth:
‘Swydd â thâl gyda hyfforddiant yw prentisiaeth. Mae prentisiaid yn ennill profiad, yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol wrth ennill cyflog. Diffinnir hyn drwy fframwaith prentisiaeth.’
11. Ar y cyfan, roedd adborth rhanddeiliaid ar y diffiniad o brentisiaeth yn gadarnhaol, gyda dim ond mân newidiadau’n cael eu cynnig i’w fireinio. Fodd bynnag, fe wnaeth nifer fach o sylwadau awgrymu gweledigaeth ehangach ar gyfer prentisiaethau, a honno’n adlewyrchu safbwyntiau uchelgeisiol a manwl gan ddarparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a dysgwyr. Bydd hwn yn cael ei ddatblygu a’i gyhoeddi ochr yn ochr â diffiniad cyffredinol yn y fanyleb ar gyfer y rhaglen newydd. Caiff y diffiniad diwygiedig arfaethedig ei amlinellu isod:
‘Swydd â thâl gyda hyfforddiant yw prentisiaeth yng Nghymru. Mae prentisiaid yn ennill cyflog, yn cael profiad, yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill cymwysterau a chymhwysedd a gydnabyddir gan y diwydiant (o lefel 2 i fyny i lefel gradd). Diffinnir y dysgu hwn trwy fframwaith prentisiaeth.’
Fframweithiau Sector Prentisiaethau
12. Fel a nodwyd yn yr ymgynghoriad, fe hoffem gryfhau a symleiddio perthnasedd fframweithiau sector prentisiaethau trwy weithredu strwythur newydd, symlach. Ceir 23 o fframweithiau prentisiaethau ar draws pob sector ar hyn o bryd ac fe all y rhain fod yn ddryslyd i ddysgwyr a chyflogwyr eu deall ac ymdrin â hwy. Fe gynigiom ni fireinio’r fframweithiau prentisiaethau o 23 i 18. Roedd y strwythur symlach arfaethedig a nodwyd yn yr ymgynghoriad fel a ganlyn:
- Gofal
- Iechyd a gwyddoniaeth
- Peirianneg a gweithgynhyrchu
- Creadigol, dylunio a’r cyfryngau
- Gwasanaethau busnes a rheoli
- Gwasanaethau cyhoeddus a diogelu
- Addysg a’r blynyddoedd cynnar
- Arlwyo a lletygarwch
- Adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Y gyfraith, cyllid a chyfrifyddu
- Digidol
- Gwallt a harddwch
- Amaethyddiaeth, yr amgylchedd a gofalu am anifeiliaid
- Trafnidiaeth, moduron a logisteg
- Ynni
- Bwyd a diod
- Gwasanaethau eiddo
- Chwaraeon a hamdden
13. Ar y cyfan roedd yr ymatebwyr yn fodlon ar y sectorau arfaethedig, gyda rhai newidiadau awgrymedig. Roedd y rhain yn cynnwys grwpio Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gyda’i gilydd a rhannu Peirianneg a Gweithgynhyrchu. Roedd cefnogaeth i’r syniad y dylai pob fframwaith fod â chynnwys ar ddysgu AI (deallusrwydd artiffisial), digidol a sero net/gwyrdd yn hytrach na bod â fframweithiau ar wahân ar gyfer y meysydd hyn. Fe awgrymodd ymatebwyr hefyd y dylid cynnwys disgrifiad neu ddiffiniad lefel uchel ar gyfer pob un o’r fframweithiau, a fydd yn cael ei roi ar waith. Y fframweithiau sector diwygiedig arfaethedig (Atodiad B) yn dilyn yr ymgynghoriad yw:
- Iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant
- Peirianneg
- Gweithgynhyrchu
- Creadigol, dylunio a’r cyfryngau
- Rheoli, busnes a gwasanaethau manwerthu
- Gwasanaethau cyhoeddus a diogelu
- Addysg a’r blynyddoedd cynnar
- Arlwyo a lletygarwch
- Adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
- Y gyfraith, cyllid a chyfrifyddu
- Digidol
- Gwallt a harddwch
- Amaethyddiaeth, yr amgylchedd a gofalu am anifeiliaid
- Trafnidiaeth, moduron a logisteg
- Gwyddoniaeth ac ynni
- Bwyd a diod
- Gwasanaethau eiddo
- Chwaraeon a hamdden
14. Bydd llyfrgell fframweithiau newydd yn cael ei chyflwyno a’i lansio ar gyfer dechrau’r rhaglen newydd ym mis Awst 2027. Rydym yn gweithio gyda darparwyr prentisiaethau a rhanddeiliaid eraill i ddysgu gwersi o’r llyfrgell fframweithiau gyfredol, ac ymdrin â rhwystrau a materion i’w gwneud yn bosibl rhoi llyfrgell fframweithiau symlach newydd ar waith.
Themâu Lefel Uchel
15. Daeth y themâu lefel uchel canlynol i’r amlwg o’r ymarfer ymgynghori. Caiff dadansoddiad mwy manwl o ymatebion i bob un o’r cwestiynau ei amlinellu yn Atodiad A.
Rhaglen pob oed
16. Roedd yr holl ymatebwyr yn cytuno y dylai’r rhaglen barhau i fod yn agored i bob oed, gan gefnogi datblygiad gyrfa gydol oes. Mae hyn yn cyd-fynd â’n dyletswydd strategol i hybu addysg drydyddol i bobl Cymru sy’n darparu cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn addysg drydyddol trwy gydol eu bywydau o 16 oed.
Ymgysylltu â dysgwyr a rhoi cymorth iddynt
17. Fel a nodwyd yn y ddogfen ymgynghori, elfen ganolog o’n dull yw ymrwymiad i arfogi dysgwyr â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymwysterau sy’n ofynnol i gamu ymlaen trwy’r system addysg drydyddol ac i ymgymryd â’u dewis yrfaoedd a ffynnu ynddynt.
18. Gall dysgwyr ymuno â’r rhaglen brentisiaethau ar wahanol adegau yn eu bywyd neu eu taith yrfa, gan gynnwys y rhai sydd â’u bryd ar ailhyfforddi, newid gyrfa, neu addasu i dechnolegau newydd. Mae angen i’r rhaglen brentisiaethau fod yn ddigon hyblyg ac ymatebol i gefnogi dysgwyr, fel unigolion, gan eu galluogi i ennill y sgiliau a’r cymwysterau y mae eu hangen i ddilyn gyrfa lwyddiannus a chynaliadwy mewn economi sy’n newid yn gyflym.
19. Roedd cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd annibynnol cryfach yn thema gref yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad er mwyn i ddysgwyr ddeall y cyfleoedd gyrfa eang ac amrywiol y gallai prentisiaeth eu cynnig a chyfleoedd posibl ar gyfer camu ymlaen. Mae’r wybodaeth iawn ar yr amser iawn yn allweddol i alluogi dysgwyr i wneud dewis gwybodus ynglŷn ag ymuno â byd gwaith a/neu gamu ymlaen yn eu dewis yrfa. Cafodd deunyddiau marchnata neu gyfathrebu wedi’u targedu trwy gydol y flwyddyn i ddysgwyr, cymheiriaid, dylanwadwyr, athrawon a rhieni sy’n nodi’r opsiynau hyn eu hamlygu fel cyfle i ddenu ystod fwy amrywiol o ddysgwyr. Dylai gweithgareddau hyrwyddo amlygu prentisiaethau fel llwybrau amgen dichonadwy at yrfaoedd boddhaus a dysgu ar lefel uwch. Mae angen ystyriaeth bellach i gefnogi dysgwyr trwy adegau pontio a phenderfyniadau allweddol, er enghraifft o’r ysgol, addysg bellach neu addysg uwch i mewn i brentisiaeth.
20. Mae angen cyfathrebiadau cryfach i wella dealltwriaeth dysgwyr am y rhaglen brentisiaethau. Awgrymodd ymatebwyr siop un stop i ddarparu gwybodaeth gydgysylltiedig mewn iaith syml glir sy’n hawdd i ddysgwyr a rhieni gael mynediad ati a’i deall.
21. Roedd cymorth ychwanegol i ddysgwyr tra ydynt ar y rhaglen o’r pwys mwyaf i gwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus, gan gynnwys mentora, cyflogadwyedd, sgiliau entrepreneuriaeth a llesiant. Cafwyd rhai awgrymiadau y gellid cyflwyno cymorth pellach i bobl ifanc sy’n dechrau eu prentisiaeth neu’n ymuno â byd gwaith am y tro cyntaf, gan gynnwys canllawiau ynghylch ymddygiad yn y gweithle a chymorth mwy dwys ar ddechrau prentisiaeth i leihau’r risg o adael cyn pryd. Roedd gofal bugeiliol i hybu twf personol, gan fagu hyder a sgiliau trosglwyddadwy mwy meddal (er enghraifft cyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau, llythrennedd digidol, arweinyddiaeth a llesiant) yn cael ei ystyried yn rhywbeth allweddol sydd o fudd i ddysgwyr wireddu eu potensial a dod yn aelodau gwerthfawr o gymdeithas ni waeth beth fo’u cefndir. Yn olaf, roedd cynorthwyo prentisiaid ar ôl iddynt orffen y brentisiaeth i ymgymryd â chyflogaeth gynaliadwy yn rhywbeth a amlygwyd fel elfen bwysig.
Dilyniant trwy’r lefelau ac ar draws y system drydyddol
22. Mae cyfleoedd i ddysgwyr gamu ymlaen trwy’r lefelau prentisiaeth ac ar draws addysg drydyddol o’r pwys mwyaf. Mae prentisiaid yn dysgu ar wahanol gyflymder ac mae angen i’r system fod yn hyblyg ac yn ystwyth i allu diwallu ac ymateb i anghenion gwahanol dysgwyr, gan gynnwys yr opsiynau dilyniant sydd ar gael. Mae angen llwybrau dilynant mwy eglur i ddygwyr ddeall ac ymdrin â’r ystod lawn o opsiynau gyrfa sydd ar gael iddynt ar draws y system addysg drydyddol.
Ymgysylltu â chyflogwyr a rhoi cymorth iddynt
23. Mae angen i ni gefnogi cyflogwyr trwy gydol eu hymgysylltiad â phrentisiaethau, o ddeall beth yw prentisiaeth, i recriwtio a thrwy gydol taith y prentis. Bydd hyn helpu’r rhaglen brentisiaethau i ddiwallu’r anghenion o ran sgiliau sy’n newid yn gyflym ledled Cymru.
24. Mae angen cyfathrebu cryfach i wella dealltwriaeth cyflogwyr am y rhaglen brentisiaethau. Fe awgrymodd ymatebwyr siop un stop (trwy system ddigidol wedi’i symleiddio) o wybodaeth gyson a chanolog eglur, sy’n hawdd i gyflogwyr gael mynediad ati ac sy’n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Dylai hyn gynnwys, ymhlith gwybodaeth arall, cyflogi prentis (amser, buddsoddiad ariannol ac adnoddau), proses recriwtio a chymorth trwy gydol taith y dysgwr. Gallai hyn fod trwy ganllawiau i gyflogwyr, adnoddau, pecynnau cymorth a thempledi ar gyfer rhaglenni sefydlu, cynlluniau dysgu, dogfennu hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith a siarter cyflogwyr.
25. Mae angen ehangu’r sylfaen gyflogwyr i alluogi rhagor o gyflogwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig (BBChau), i gyflogi prentis. Mae angen i ni barhau i gryfhau perthnasoedd â chyrff diwydiant a rhanddeiliaid eraill i geisio cyrraedd rhagor o gyflogwyr, gan gynnwys BBChau. Gallai ymgyrchoedd marchnata wneud gwaith ymgysylltu a dargedir a chanolbwyntio ar geisio newid cyfeiriadau meddwl cyflogwyr fel bod prentisiaid yn cael eu hystyried yn ddilys ac yn werthfawr. Gallem ystyried ble y gallai cymhellion gefnogi’r gweithgarwch hwn.
26. Byddai cyflwyno cymorth mentora mwy dwys i gyflogwyr a rheolwyr llinell a/neu greu rhwydweithiau i rannu arferion da, profiadau a chyngor, yn gwella hyder cyflogwyr ac yn gwella cyfraddau cadw prentisiaid. Gallai hyn fod gan gyflogwyr eraill sydd wedi bod trwy’r broses neu’n uniongyrchol gan ddarparwyr prentisiaethau. Gallai mentora gynnwys cymorth ar gyfer recriwtio, paratoi i brentis ddechrau neu helpu cyflogwyr i gael rhagor o wybodaeth a dealltwriaeth am roi cymorth i’r prentis trwy gydol eu cyfnod dysgu. Roedd awgrymiadau eraill gan ymatebwyr yn cynnwys hyfforddiant byr, hygyrch i fentoriaid a goruchwylwyr yn y gweithle, a hwnnw’n ymdrin â thestunau fel gosod disgwyliadau, adborth, a chefnogi llesiant.
27. Mae angen cryfhau ymgysylltiad â chyflogwyr wrth ddatblygu fframweithiau prentisiaethau gan gynnwys mecanwaith i Medr ddarparu adborth i gyflogwyr.
28. Gallai darparwyr prentisiaethau gydweithio’n agosach gyda chyflogwyr i ddeall cynnydd y dysgwr a pha ddysgu sy’n ofynnol ar ba adeg, gan gynnwys asesiadau. Gallent fynd ati ar y cyd i ddarparu dysgu, a chryfhau’r broses adrodd fisol i nodi ble y mae dysgwyr yn eu taith a pha mor agos ydynt at gwblhau i helpu cyflogwyr a dysgwyr i gynllunio’n fwy effeithiol.
Ystwyth ac ymatebol i ddiwallu anghenion cyflogwyr, dysgwyr a’r economi
29. Roedd neges glir drwy’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad bod rhaid i’r rhaglen newydd fod yn hyblyg ac yn ystwyth i ddiwallu anghenion y dysgwr a’r economi. Roedd hyn yn cynnwys bod hyd a strwythur y brentisiaeth yn canolbwyntio’n fwy ar ddysgwyr, bod cymwysterau’n ymateb i anghenion economaidd, cyflwyno microgymwysterau neu gymwysterau ategol byr, dilyniant rhwng fframweithiau, hyblygrwydd model cyllido’r fframweithiau, gofynion o ran sgiliau hanfodol a’r gallu i gydnabod dysgu blaenorol.
30. Roedd yr ymatebion yn awgrymu bod angen i ni wneud defnydd gwell o wybodaeth am y farchnad lafur i gryfhau gweithgarwch blaengynllunio ar anghenion o ran sgiliau ar draws yr economi ac fesul rhanbarth. Mae angen mwy o ystwythder wrth ddiweddaru fframweithiau i adlewyrchu anghenion a gofynion newidiol diwydiant, pa un a yw’r rhain yn cael eu diffinio gan gymwysterau ynteu gan safonau galwedigaethol.
31. Roedd gwreiddio a chyd-destunoli llythrennedd, rhifedd a digidol fel rhan o hyfforddiant galwedigaethol yn thema allweddol. Roedd galwadau am symleiddio’r asesiad ac am wneud cymwysterau sgiliau hanfodol yn ddewisol i’r dysgwyr hynny y mae eu hangen arnynt.
Dathlu llwyddiannau dysgwyr a pharch cydradd
32. Un o’r themâu a gododd drosodd a throsodd ar draws ystod o randdeiliaid oedd yr angen i ymdrin â’r diffyg parch cydradd canfyddedig rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd. Roedd awgrymiadau’n cynnwys bod prentisiaethau’n cael eu hyrwyddo, eu cydnabod a’u dathlu fel dewis sy’n gydradd â llwybrau academaidd o ran statws a chyfle, a rhannu astudiaethau achos a llwyddiannau yn barhaus. Fe awgrymodd ymatebwyr hefyd y gellid cryfhau cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd a hyrwyddo prentisiaethau fel opsiwn ac iddo statws uchel, a all fod yn ddewis cyntaf ochr yn ochr â llwybrau trydyddol eraill, yn lle bod yn ddewis eilaidd.
Deilliannau prentisiaid
33. Roedd ymatebion yn gefnogol i gryfhau deilliannau prentisiaethau. Roedd rhai enghreifftiau o sut y gellid gwneud hyn yn cynnwys:
- Bod cyflogaeth gynaliadwy’n brif ddeilliant i brentisiaid ochr yn ochr â chyflawni’r fframwaith prentisiaethau.
- Newid i fodel cyllido sy’n fwy seiliedig ar ddeilliannau.
- Dull mwy holistaidd o fesur llwyddiant mewn prentisiaethau (cwblhau/cwblhau’n amserol, cyflogaeth barhaus, dilyniant, boddhad dysgwyr/cyflogwyr, ennill cymhwysedd, parodrwydd ar gyfer gwaith ac effaith economaidd).
- Mesur meincnodau ansawdd trwy ddangosyddion cadarn. Mae Medr yn bwriadu ymgynghori ar ddangosyddion perfformiad trydyddol yn hydref 2026.
Y Gymraeg
34. Roedd cefnogaeth gan ymatebwyr i fynd ati’n fwy i hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth a allai gynyddu’r niferoedd sy’n eu gwneud yn ddwyieithog a thrwy gydol y Gymraeg, gyda hynny’n cael ei gyd-destunoli i’w sectorau. Roedd cefnogaeth lawn i archwilio opsiynau i ehangu darpariaeth brentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar bob lefel i sicrhau dewis iaith ar gyfer dysgwyr. Roedd nifer o awgrymiadau gan ymatebwyr ynglŷn â sut y gellid gwneud hyn, ac roedd y rhain yn cynnwys, ymhlith eraill:
- cynllunio strategol i fynd i’r afael â phrinderau tiwtoriaid, aseswyr a mentoriaid Cymraeg, yn enwedig mewn sectorau galwedigaethol.
- cynnwys cynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan o fframweithiau prentisiaethau a dyluniad y rhaglen fel egwyddor graidd.
- cynyddu hyder trwy ddysgu fesul tipyn.
- deunyddiau dwyieithog a deunyddiau asesu hygyrch.
- dulliau seiliedig-ar-sectorau.
Prentisiaethau cynhwysol
35. Roedd ymatebwyr yn cefnogi’r angen i harneisio talent unigolion o bob cefndir a gweithio’n rhagweithiol i ddileu unrhyw rwystrau i fynediad pobl at brentisiaethau trwy alluogi llwybrau hyblyg mwy cynhwysol. Fe adnabuwyd cymorth cymunedol ac allgymorth fel dull da i annog dysgwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n ddifreintiedig i ystyried prentisiaeth fel opsiwn gyrfa. Awgrymodd ymatebwyr eraill y gallai darparu trefn asesu hyblyg a chymorth cofleidiol gynyddu cyfranogiad a chynorthwyo dysgwyr o bob demograffeg i gwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus. Awgrymodd eraill fod angen gwaith pellach i gyd-fynd yn fwy llawn â rhaglenni cyflogadwyedd a darpariaeth profiad gwaith i alluogi dysgwyr i gamu ymlaen at brentisiaeth. Awgrymodd ymatebwyr hefyd y gellid darparu hyfforddiant i gyflogwyr i godi ymwybyddiaeth. Mae angen gwaith pellach i archwilio opsiynau ar gyfer dysgwr a allai fod yn wynebu rhwystrau eraill i fynediad at brentisiaethau y tu hwnt i gylch gwaith uniongyrchol Medr, er enghraifft iaith, cludiant a gofal plant, fel bod y system yn ei chyfanrwydd yn gallu cynnig cyfleoedd mwy hygyrch a theg.
36. Roedd consensws llethol bod Prentisiaethau â Chymorth, y Cynllun Cymell i Gyflogwyr a Chymorth Dysgu Ychwanegol yn llwyddiannus ac y dylent barhau yn y rhaglen newydd.
Gweithredu a rheoli’r rhaglen
37. Fe wnaeth ymatebion godi pwyntiau pellach a oedd yn gysylltiedig â gweithredu’r rhaglen brentisiaethau newydd a’i rheoli’n barhaus. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Cefnogi dysgwyr trwy ddefnydd gwell o dechnoleg.
- Pennu strwythurau atebolrwydd eglur a diffinio rolau.
- Gwneud trefniadau cyllido’n hyblyg ac yn ymatebol i anghenion sy’n dod i’r amlwg, gan alluogi arloesi ac addasu wrth i flaenoriaethau esblygu.
- Ymchwil seiliedig-ar-dystiolaeth i oleuo polisi ac arfer, gan sicrhau bod penderfyniadau wedi’u gwreiddio mewn dadansoddiad cadarn.
- Cynyddu argaeledd aseswyr terfynol, symleiddio prosesau dilysu, a chryfhau systemau cydnabod dysgu blaenorol.
- Cryfhau cysylltiadau rhwng addysg bellach ac addysg uwch.
Camau nesaf
38. Y camau nesaf allweddol o ran datblygu a gweithredu’r rhaglen brentisiaethau newydd erbyn 2027 yw:
| Gweithgaredd | Dyddiad |
|---|---|
| Cyhoeddi’r amserlen ar gyfer datblygu a gweithredu’r rhaglen brentisiaethau newydd gyda dyddiadau allweddol ar ymgysylltu pellach ynghylch dyluniad manyleb y rhaglen. | Chwefror 2026 |
| Ymgynghori ynghylch y model cyllido prentisiaethau newydd arfaethedig. | Mai 2026 |
| Digwyddiadau i brofi dyluniad manwl y Rhaglen Brentisiaethau newydd. | Mai 2026 |
| Ymgysylltu parhaus â chyflogwyr trwy ddigwyddiadau ac ymchwil i ddeall y galw am brentisiaethau, cyfleoedd i arloesi o ran cyflawni a dyluniad y rhaglen, sut y gallem ehangu’r sylfaen gyflogwyr i sicrhau ymgysylltu a chyfranogiad ehangach, a pha gymorth a chyfathrebu pellach y mae eu hangen i gynorthwyo cyflogwyr. | Chwefror – Ebrill 2026 |
| Ymgysylltu â dysgwyr i ddeall yn well beth sy’n gweithio’n dda a ble y ceir cyfleoedd i wella, gan gynnwys cyn eu prentisiaeth, yn ystod eu prentisiaeth ac unwaith y mae eu prentisiaeth wedi cael ei chwblhau. | Mawrth – Mai 2026 |
| Cyhoeddi manyleb y rhaglen a’r ddogfennaeth comisiynu â grant – gan wahodd darparwyr i gynnig am gyllid ar gyfer y rhaglen newydd. | Medi 2026 |
| Bydd y llyfrgell fframweithiau prentisiaethau newydd yn cael ei lansio. | Awst 2027 |
| Bydd y rhaglen brentisiaethau newydd yn dechrau. | 1 Awst 2027 |
Rhagor o wybodaeth
39. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn at Heather Davidson, Pennaeth Prentisiaethau ([email protected]).
Medr/2026/08: Y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad
Dyddiad: 17 Chwefror 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/08
At: Benaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr prentisiaethau cyfredol yng Nghymru / Deiliaid contract prentisiaeth wedi’u comisiynu; Cyrff cynrychioli cyflogwyr; Cyrff cynrychioli dysgwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ynghylch Rhaglen Brentisiaethau newydd Cymru o 1 Awst 2027, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2025.
Medr/2026/08 Y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriadDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio