This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Cyflwyno cyrsiau prentisiaethau newydd yn y maes adeiladu yng Nghymru

Bydd prentisiaid uchelgeisiol ledled Cymru yn gallu elwa ar brentisiaethau adeiladu newydd cyn bo hir, a fydd yn helpu i lenwi’r bylchau sgiliau a nodwyd gan y diwydiant.

Ar ôl siarad â darparwyr prentisiaethau, diwydiant a dysgwyr, bydd llwybrau prentisiaethau Lefel 2 mewn gosod brics, gwaith coed ar safleoedd, sgaffaldio a chynnal a chadw adeiladau ar gael yn nes ymlaen eleni. Mae’r cyrsiau yn cael eu cyflwyno gan Medr ar ôl cael cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Ers 2022, mae’r fframwaith adeiladu ar gyfer prentisiaid wedi dechrau ar Lefel 3. Mae’r cyrsiau Lefel 2 newydd wedi’u creu mewn cydweithrediad â Cymwysterau Cymru a byddant yn darparu dewis ehangach i ddysgwyr, gan helpu hefyd i ddiwallu gofynion sgiliau’r sector.

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:

“Mae adeiladu yn sector hanfodol i economi Cymru, gyda gorffennol hir a llwyddiannus o ddefnyddio pŵer prentisiaethau er budd cyflogwyr, dysgwyr a’r dirwedd economaidd-gymdeithasol ehangach. Rydym wedi ymrwymo i gryfhau ei weithlu a’i biblinell sgiliau i fodloni uchelgeisiau adeiladu, tai ac ôl-osod.

“Mae galw amlwg am brentisiaethau adeiladu Lefel 2 yng Nghymru, ac mae’r llwybrau newydd a gyhoeddwyd yn brawf bod ein hymrwymiad i brentisiaethau yn parhau’n gadarn. Gall y sector fod yn hyderus bod Cymru’n adeiladu system fodern, hyblyg ar gyfer prentisiaethau sy’n canolbwyntio ar y dyfodol.”

Ychwanegodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Rydym yn falch y bydd y prentisiaethau newydd hyn ar gael i ddiwallu anghenion cyflogwyr a dysgwyr ar gyfer llwybr hygyrch i yrfaoedd cynaliadwy yn y diwydiant adeiladu.

“Mae fframweithiau prentisiaethau ymatebol yn allweddol i’n huchelgeisiau i greu system drydyddol hyblyg a chydweithredol lle gall pawb gaffael y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy’n newid.”

Dywedodd Ifan Glyn, Cyfarwyddwr Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr Gwledydd y DU a Chyfarwyddwr Cymru:

“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad hwn, gan ei fod yn adlewyrchu pryderon a godwyd gan adeiladwyr bach ledled Cymru. Mae cwmnïau bach, lleol yn hyfforddi’r mwyafrif helaeth o brentisiaid Cymru, felly mae mwy o hyblygrwydd mewn llwybrau prentisiaethau yn gam cadarnhaol tuag at fynd i’r afael â’r prinder sgiliau cynyddol sy’n wynebu’r sector.

“Mae arallgyfeirio llwybrau mynediad i’r gweithlu adeiladu hefyd yn cefnogi’r hyn y mae maniffesto Senedd 2026 yn ei alw amdano, felly mae’n braf gweld Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r diwydiant yn y modd hwn.”

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio