Ar gyfer dysgwyr

Mae Medr wedi’i greu i roi’r dysgwr wrth galon popeth a wnawn. 

Os ydych chi’n dysgwr neu fyfyriwr mewn addysg bellach neu uwch, yn ddisgybl chweched dosbarth neu’n brentis, ein nod yw rhoi’r sgiliau i ddysgwyr ddechrau a pharhau â’u taith drwy addysg drydyddol a thu hwnt, er mwyn ichi allu llwyddo mewn bywyd ac mewn gwaith. 

Cynnwys dysgwyr 

Cod Ymgysylltu â Dysgwyr

Bydd Medr yn datblygu Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, gyda’r bwriad o sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn cael eu cynrychioli, eu bod yn cael y cyfle i fynegi barn wrth ddarparwyr am yr addysg a’r hyfforddiant y maent yn ei dderbyn, a’u bod yn gallu cymryd rhan mewn penderfyniadau.

Bydd yn ofynnol i ddarparwyr cofrestredig, a’r rhai a gyllidir gan Medr, gydymffurfio â’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, ynghyd â’r chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.

Mae’r Rhestr chwarae Ymgysylltu â Dysgwyr ar Hwb yn cyflwyno drafft cychwynnol o’r weledigaeth a’r egwyddorion ar gyfer y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, a luniwyd ar y cyd â’r dysgwyr. Ceir esboniad hefyd o’r cefndir o ran sut y cawsant eu datblygu. Bydd hyn yn sail i ddatblygu’r Cod.

Partneriaeth â’r Myfyriwr / Dysgwr 

Roedd Y Bartneriaeth â Myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng Nghymru yn amlygu nifer o agweddau ar arfer da, fel integreiddio’r bartneriaeth â myfyrwyr i benderfyniadau strategol ac ymwreiddio dulliau manylach o gasglu safbwyntiau myfyrwyr.

Mae llais y myfyriwr/dysgwr yn llywio gwaith cyrff llywodraethu ar draws yr holl sefydliadau sy’n darparu addysg uwch a phellach ac yn helpu i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir gan gyrff llywodraethu yn ystyried anghenion y corff amrywiol o fyfyrwyr.

Mae myfyrwyr-lywodraethwyr yn gwneud cyfraniad arbennig i brifysgolion a cholegau bob blwyddyn, ac yn cyflwyno cyd-destun a phersbectif hynod werthfawr i’w sefydliadau ac i’r ffordd y cânt eu cynnal. Mae’r Canllaw i fyfyrwyr sy’n llywodraethwyr yng Nghymru, a luniwyd gan AU Ymlaen wedi’i anelu at fyfyrwyr-lywodraethwyr i’w cefnogi yn eu rôl.

Mae’r blaenoriaethau strategol ar gyfer Medr, fel y’u nodwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys rhoi’r dysgwr wrth galon y system, drwy ganolbwyntio ar brofiadau a llesiant dysgwyr mewn addysg drydyddol. Bydd Medr yn bwrw ymlaen â hyn yn ei gynllun strategol, a fydd yn cynnwys ei waith ar fframwaith ansawdd ar gyfer addysg drydyddol a hyfforddiant, a’r cod ymgysylltu â dysgwyr.

Mae ymgysylltu â myfyrwyr yn rhan allweddol o adolygiadau ansawdd allanol ar gyfer darparwyr addysg uwch, ac mae’r elfen honno wedi’i chynnwys yn rhan o arolygiadau Estyn ar gyfer yr holl sectorau trydyddol eraill.

Cynlluniau Diogelu Dysgwyr

Bydd disgwyl i ddarparwyr addysg drydyddol (ac eithrio chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol) baratoi Cynllun Diogelu Dysgwyr, a hwnnw’n nodi sut y byddant yn diogelu buddiannau dysgwyr os bydd cwrs yn cau neu’r darparwr yn methu, a pha fecanweithiau sydd ganddynt i gefnogi dysgwyr sy’n dymuno trosglwyddo rhwng cyrsiau.

Cwynion

Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol yw’r corff sy’n gyfrifol am adolygu cwynion myfyrwyr am ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru ac yn Lloegr.

Gall dysgwyr hefyd wneud cwyn i Medr am broblemau systematig yn gysylltiedig ag ansawdd a safonau o fewn eu darparwr, fel arfer ar ôl mynd drwy weithdrefnau cwyno’r darparwr hwnnw.

Siarteri Myfyrwyr

Dylai sefydliadau addysg uwch weithio gyda’r corff o fyfyrwyr i baratoi Siarteri Myfyrwyr (cylchlythyr CCAUC W22/20HE) sy’n nodi disgwyliadau, hawliau a chyfrifoldebau sefydliadau a’u myfyrwyr y naill i’r llall. Dylai’r rheiny fod wedi’u cynllunio i gefnogi profiad dysgu’r myfyriwr, gan gynnwys dolenni priodol i wybodaeth bellach. Cyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ganllawiau ar sut y dylai darparwyr addysg uwch fynd ati i ddatblygu siarteri myfyrwyr ac mae’r disgwyliadau hyn wedi’u cynnwys yn Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru.

Ariannu undebau myfyrwyr effeithiol

Cyhoeddodd CCAUC gyfarwyddyd (cylchlythyr CCAUC W14/06HE) ar arfer da mewn cyllido undebau myfyrwyr effeithiol a democrataidd, a chynrychiolaeth myfyrwyr ar gyfer ymgynghoriad.

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

Mae gan ddarpar fyfyrwyr fynediad at wybodaeth gyhoeddus, sy’n cynnwys canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS), y wefan Darganfod Prifysgol a Setiau Gwybodaeth Allweddol (KIS). Setiau Gwybodaeth Allweddol (KIS). Amlinellir yr wybodaeth y dylid ei darparu i fyfyrwyr ac i ddarpar fyfyrwyr gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yn casglu adborth ar fodlonrwydd myfyrwyr israddedig â’u cwrs. Mae data’r NSS ar gael ar wefan Office for Students (OfS). Mae canlyniadau manylach o’r NSS ar gael i sefydliadau ac undebau myfyrwyr i ddibenion mewnol. Mae Medr yn bwriadu gwneud gwaith i gasglu safbwyntiau dysgwyr mewn rhannau eraill o addysg drydyddol.

Myfyrwyr Ôl-radd

Mae ymchwil wedi’i chyhoeddi sy’n nodi anghenion gwybodaeth penodol ar gyfer myfyrwyr ôl-radd a addysgir, gan gynnwys argymhellion i sefydliadau addysg uwch wella’r wybodaeth ar gyfer cynulleidfa amrywiol o ddarpar fyfyrwyr ôl-radd.

Yn 2022, cyhoeddodd CCAUC adroddiad gan AU Ymlaen, a gomisiynwyd gan CCAUC, ar adolygu polisi ac arfer yn gysylltiedig â chefnogi myfyrwyr ôl-radd sy’n addysgu.

Yn 2023, cyhoeddodd CCAUC adroddiad gan Ymchwil Arad, a luniwyd ar ran CCAUC, ar brofiad ehangach myfyrwyr ymchwil ôl-radd.

Cewch wybodaeth am ystod o gyfleoedd dysgu drwy:

Gyrfa Cymru: cyfleoedd yn y chweched dosbarth a’r coleg a phrentisiaethau yng Nghymru.

Cymru’n Gweithio: cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd yn rhad ac am ddim i bobl 16 oed neu’n hŷn.

Astudio yng Nghymru: addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru.

Darganfod Prifysgol: cymharu gwybodaeth a data ar gyrsiau addysg uwch israddedig ledled y DU.

Prospects: cyfleoedd astudio ôl-raddedig ar draws y DU.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Taith: cyfleoedd cyfnewid rhyngwladol i ddysgwyr yng Nghymru.

Cyngor y DU dros Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol: gwybodaeth a chyngor i fyfyrwyr rhyngwladol

Cyllid Myfyrwyr Cymru: cyllid ar gyfer dysgwyr addysg bellach, israddedigion ac ôl-raddedigion.

Addysgwyr Cymru: cymwysterau ymarfer dysgu.

Canllawiau ar gyfer cymhelliad hyfforddi addysg bellach Medr.

Gwefan Llywodraeth Cymru am gymhellion i hyfforddi i addysgu mewn ysgolion.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio