This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2025/23: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg bellach 2025/26

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi ein bwriadau yn 2025/26 i ddyrannu:

  • £4,050,000 o gyllid uniongyrchol i’r sector addysg bellach (AB) ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 i gefnogi mentrau iechyd meddwl a llesiant ar gyfer dysgwyr a staff;
  • 350,000 yn ychwanegol i gefnogi mentrau llesiant emosiynol a meddyliol staff a myfyrwyr AB ar lefel genedlaethol; a’r
  • cyllid iechyd a llesiant ychwanegol i gefnogi cyd-brosiectau addysg bellach ac addysg uwch.

2. Mae’r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar ganllawiau a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi nod Medr o sicrhau cyfnod pontio didrafferth i ddarparwyr a dysgwyr wrth i Medr ymgymryd â’i ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau newydd.

3. Mae dyletswydd strategol ar Medr i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn addysg drydyddol a bydd yn cyflwyno amod cofrestru sy’n ymwneud â lles staff a myfyrwyr/dysgwyr. Noda Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Memorandwm Esboniadol:

‘Bydd yr amodau cychwynnol a pharhaus yn ymwneud â chefnogaeth ar gyfer a hyrwyddo lles myfyrwyr a staff yn cyflwyno gofynion rheoleiddiol newydd i ddarparwyr y rhagwelwyd y byddent yn cwmpasu materion fel iechyd meddwl, llesiant a diogelwch dysgwyr a staff yn y darparwr. Bydd yn ofynnol i’r Comisiwn nodi a chyhoeddi gofynion y mae’n rhaid i ddarparwyr cofrestredig eu bodloni o ran eu trefniadau mewn perthynas â’r amodau cychwynnol a pharhaus. O ran lles myfyrwyr a staff, rhagwelir y byddai’r ‘trefniadau’ yn cynnwys polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau cymorth ar gyfer llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘llesiant’ yn golygu llesiant emosiynol ac iechyd meddwl ac mae ‘diogelwch’ yn golygu rhyddid rhag niwed gan gynnwys aflonyddu, camymddwyn, trais (gan gynnwys trais rhywiol), a throseddau casineb.’

4. Yn 2024, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru eu datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi sy’n cynnwys blaenoriaeth i Medr greu fframwaith cyffredin ar gyfer cymorth iechyd meddwl a llesiant ar draws addysg drydyddol.

5. Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddodd Medr ei Gynllun Strategol ar gyfer 2025-30 ac ym mis Mehefin 2025 cyhoeddodd ei gynllun gweithredol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.

6. Mae’r Cynllun Strategol yn cynnwys ymrwymiad sylfaenol i Medr ddatblygu fframwaith cyffredin ar gyfer iechyd meddwl a llesiant erbyn 1 Awst 2026, a fydd yn cadarnhau cyfle cyfartal ac a gaiff ei atgyfnerthu gan amodau rheoleiddio i gefnogi lles staff a dysgwyr.

Llesiant ac iechyd emosiynol a meddyliol addysg bellach, gan gynnwys polisi iechyd meddwl, diweddariad a’n disgwyliadau sy’n deillio ohonynt

7. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol 2025 i 2035. Mae Medr yn disgwyl i bob darparwr addysg bellach ystyried y strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol genedlaethol wrth ddatblygu a diwygio eu strategaethau llesiant ac iechyd, eu dulliau atal hunanladdiad a hunan-niwedio a’u polisïau llesiant, a chynnwys camau gweithredu cysylltiedig yn eu ceisiadau am gyllid ar gyfer 2025/26 lle bo hynny’n briodol.

8. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Cymru. Mae Medr yn annog pob darparwr addysg bellach i gymryd rhan yn y Gymuned Ymarfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwedio a chyfrannu ati.

9. Mae Medr yn croesawu gwaith y sector addysg bellach i wreiddio dull sefydliadol o ymdrin â thrawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod o fewn ei ymarfer. Rydym yn annog darparwyr addysg bellach i barhau i ddatblygu eu dulliau a rhannu’r gwersi a ddysgir, lle bo hynny’n briodol.

Adolygiadau Thematig Estyn

10. Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Estyn ei hadolygiad: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn ystyried nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ym mywydau pobl ifanc ac yn bwrw golwg dros y diwylliant a’r prosesau sy’n helpu i amddiffyn a chefnogi dysgwyr rhwng 16 ac 18 oed mewn colegau addysg bellach yng Nghymru. Mae’r adolygiad yn gwneud pum argymhelliad ar gyfer darparwyr addysg bellach.

11. Ym mis Mai 2025, cyhoeddodd Estyn ei hadolygiad: Deall, Cefnogi a Hyrwyddo Ymddygiad Cadarnhaol. Mae’r adroddiad yn cynnwys gwaith ymchwil sy’n dangos bod ymddygiad dysgwyr yn cael effaith ar lesiant staff a bod argaeledd dulliau cymorth llesiant ac emosiynol ar gyfer staff yn anghyson. Yn ogystal â hynny, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr heriau iechyd meddwl sy’n wynebu’r sector, o ganlyniad i’r cynnydd yn nifer y dysgwyr y mae angen cymorth ychwanegol arnynt ar gyfer gorbryder ac iselder. Mae’r adroddiad yn cynnwys pum argymhelliad ar gyfer darparwyr addysg bellach.

12. Mae’r adroddiadau hyn yn bwysig a dylai colegau adolygu eu polisïau, eu gweithdrefnau a’u gweithgarwch eu hunain er mwyn sicrhau eu bod yn ystyried yr argymhellion.

Llesiant emosiynol a meddyliol, ac ystyriaethau ehangach sy’n ymwneud â chydraddoldeb a chroestoriadedd

13. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr ystyried effeithiau croestoriadol ar lesiant emosiynol a meddyliol dysgwyr a staff. Felly, dylai darparwyr ystyried sut mae’r cyllid iechyd meddwl a llesiant yn cyfrannu at y cynlluniau cydraddoldeb canlynol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cyhoeddi:

  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol;
  • Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru;
  • Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026 a’r ddogfen gysylltiedig Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: cynllun gweithredu lefel uchel y glasbrint;
  • Cynllun Hawliau Pobl Anabl: 2025 i 2035 sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

Er nad yw’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft wedi’i gymeradwyo’n derfynol eto, rydym yn annog darparwyr i ystyried ei flaenoriaethau a’i egwyddorion arfaethedig, lle bo hynny’n briodol.

14. Rhaid i ddarparwyr addysg bellach ddefnyddio canfyddiadau a chasgliad yr asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i lywio cynlluniau, polisïau a gweithdrefnau er mwyn dangos bod camau gweithredu’n seiliedig ar dystiolaeth.

Colegau Cymru

15. Yn 2025/26, bydd Colegau Cymru yn cydgysylltu Rhwydwaith Iechyd Meddwl a fydd yn cynnwys cynrychiolaeth i Medr ac rydym yn annog pob coleg i gymryd rhan yn llawn.

16. Dylai darparwyr addysg bellach ystyried y Strategaeth Lles Actif a gwaith cydweithredol a gydgysylltir gan Colegau Cymru.

Cyllid uniongyrchol i sefydliadau addysg bellach 2025/26

17. Yn 2025/26, bydd £4,050,000 yn cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i sefydliadau addysg bellach, er mwyn helpu i dalu costau staffio rheng flaen ar gyfer cymorth llesiant, meithrin gallu, cwnsela i gefnogi staff a dysgwyr, a gweithgareddau llesiant ac iechyd meddwl a fydd o fudd i ddysgwyr a staff ym mhob rhan o’r sector.

18. Caiff y £4,050,000 ei ddyrannu’n seiliedig ar faint pob sefydliad fel procsi ar gyfer nifer y dysgwyr a’r staff. Ceir manylion y dyraniadau llawn yn Atodiad A.

19. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau pob sefydliad unigol, yn seiliedig ar ei bolisïau ei hun a’r anghenion cymorth sydd wedi’u nodi ar gyfer ei ddysgwyr a’i staff, ar sail ei ddata a’i dystiolaeth ei hun.

20. Fe’ch anogir i ddefnyddio eich cyllid ar gyfer gweithgarwch cydweithredol a gallwch ddewis “cydgasglu” cyllid i gefnogi prosiectau cydweithredol.

21. IYn 2025/26 rydym yn disgwyl i bob darparydd AB adeiladu ar waith y prosiect Ymwybyddiaeth Llesiant sy’n rhoi lle diogel i staff a chynrychiolwyr llesiant undebau llafur hyrwyddo a chefnogi ymgyrch am lesiant cynaliadwy. Dylai darparwyr ddyrannu cyllid ar gyfer o leiaf un cynrychiolydd llesiant undeb llafur fesul coleg, sy’n gweithio un awr yr wythnos o leiaf dros gyfnod o 33 wythnos.(Sylwer: o 2025-26 dylai’r cyllid hwn gael ei dynnu o’ch dyraniad darparydd, fel y nodir a nodir yn y cyhoeddiad hwn.)

22. Yn 2025/26, rhaid i bob darparwr addysg bellach adolygu ei ddull o atal hunanladdiad a rhoi cam/au lliniaru ar waith.

23. Dylai darparwyr ystyried y canllawiau ar atal hunanladdiad, y mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi cael eu lanlwytho i gymuned ymarfer atal hunanladdiad addysg uwch ac addysg bellach Padlet. Dylent hefyd ystyried y goblygiadau i addysg bellach yn sgil yr Adolygiad Cenedlaethol o Hunanladdiadau Ymhlith Myfyrwyr Addysg Uwch ac ystyried camau gweithredu sy’n mynd i’r afael â’r argymhellion sy’n berthnasol i’r sector addysg bellach.

Gweithgareddau cymwys

24. Gellir defnyddio’r cyllid i wneud y canlynol:

  • Cefnogi llesiant dysgwyr a staff.
  • Talu costau cyflogau staff sy’n cefnogi llesiant emosiynol a meddyliol staff neu ddysgwyr.
  • Datblygu polisïau a strategaethau llesiant ymhellach, eu rhoi ar waith a’u gwerthuso.
  • Gwneud gwaith ymchwil weithredu gyda’r bwriad y bydd y coleg yn ei gynnal drwy’r ffrwd gyllido hon.
  • Cynnal a gwreiddio prosiectau a mentrau llwyddiannus wedi’i datblygu gan y rhanbarthau.
  • Datblygu prosiectau newydd yn seiliedig ar anghenion a blaenoriaethau newidiol.
  • Datblygu, treialu a gwerthuso dulliau gweithredu.
  • Gwella’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu ar y cyd a chymorth ar gyfer cyfnodau pontio dysgwyr.
  • Datblygu modelau cwricwlwm, addysgeg ac asesu i gefnogi llesiant meddyliol staff a dysgwyr.
  • Datblygu adnoddau a chanllawiau dwyieithog er budd colegau cyfan, gan gynnwys ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion; gallai hyn hefyd gynnwys addasu a chyfieithu adnoddau sydd eisoes yn bodoli.
  • Gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â hiliaeth, camymddwyn rhywiol, a ffyrdd o ymddwyn sy’n effeithio ar lesiant ac iechyd meddwl staff a myfyrwyr.
  • Hyfforddiant i staff er mwyn cefnogi llesiant emosiynol a meddyliol.
  • Gellir defnyddio’r cyllid hefyd i ryddhau amser staff i gymryd rhan mewn gweithgareddau, caffael gwasanaethau arbenigol gan gynnwys hyfforddiant ac ymgynghoriaeth, a llunio a chyfieithu adnoddau. 

25. Nid yw gwariant cyfalaf (e.e. prynu offer) yn gymwys ar gyfer cyllid.

26. Wrth gynllunio eich darpariaeth, rydym yn disgwyl i bob sefydliad ganolbwyntio ar gyflawni deilliannau cynaliadwy ac, er ein bod yn croesawu datblygiad mentrau newydd, mae’n bwysig datblygu a gwreiddio mentrau blaenorol gan gynnwys y rhai hynny a ddatblygwyd fel rhan o’r prosiectau cenedlaethol, sy’n cynnwys:

  • Prosiect cam-drin rhwng cyfoedion;
  • Prosiect cwricwlwm gwrth-hiliol (Metafyd);
  • Lles actif;
  • Prosiect Ymwybyddiaeth Llesiant;
  • Prosiect partneriaeth genedlaethol iechyd meddwl myfyrwyr addysg bellach/uwch.

27. Rhaid i geisiadau gynnwys gweithgareddau a ddylunnir i gefnogi llesiant dysgwyr a staff.

Prosiect(au) addysg bellach cenedlaethol

28. Yn 2025/26, bydd Medr yn dyrannu swm ychwanegol o £350,000 er mwyn cefnogi mentrau llesiant emosiynol a meddyliol ar gyfer staff a myfyrwyr addysg bellach ar lefel genedlaethol. Bydd Medr yn ymgysylltu â’r sector er mwyn penderfynu pa brosiect(au) cenedlaethol a ddatblygir ymhellach.

Cyllid ychwanegol ar gyfer addysg bellach ac uwch yn 2025/26

29. Yn 2025/26, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol i Medr gefnogi darparwyr addysg bellach ac uwch. Bwriad Medr yw dyrannu £350,000 i golegau AB drwy gyllid sy’n seiliedig ar fformiwla, fel y manylir ym mharagraffau 17 a 18, ariannu datblygiad fframwaith diogelu rhag hunanladdiad sy’n benodol ar gyfer AB ac ariannu’r prosiectau AB ac AU cenedlaethol canlynol:

  • Parhau i ariannu’r rhaglen genedlaethol ar gyfer partneriaeth iechyd meddwl myfyrwyr o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ac adeiladu ar waith peilot a ariannwyd yn wreiddiol gan CCAUC a Llywodraeth Cymru.  Yn 2025/26, mae Medr yn darparu cyllid parhaus i gefnogi gwaith i ddatblygu cyfleuster storio data, parhau i gyflwyno mynegai difrifoldeb iechyd meddwl, archwilio a datblygu protocolau rhannu gwybodaeth a chynnal gwerthusiad allanol o’r rhaglen. 
  • Myf.Cymru dan arweiniad Prifysgol Bangor i ddarparu adnoddau llesiant yn Gymraeg i fyfyrwyr a rhwydwaith o ymarferwyr ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch.   

Proses dyrannu cyllid 2025/26

30. Mae Medr yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr addysg bellach gyflwyno cynllun cyllido ar gyfer 2025/26 ac mae’n rhaid i’r cynllun hwnnw:

  • gynnwys cymorth ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol dysgwyr a staff;
  • bodloni’r meini prawf cymhwysedd a restrir ym mharagraff 22;
  • ariannu cynrychiolwyr llesiant undebau llafur yn uniongyrchol, gan adeiladu ar waith prosiect Ymwybyddiaeth Llesiant (1 diwrnod yr wythnos am 30 wythnos);
  • adeiladu ar waith gan sefydliadau, gwaith cydweithredol a/neu waith ar lefel sector cyfan ar iechyd meddwl a llesiant a wnaed yn flaenorol, a gwreiddio’r gwaith hwnnw;
  • dangos sut y caiff effaith ei mesur a’i gwerthuso.

31. Mae templed cynllun cyllido ar gyfer 2025/26 wedi’i atodi yn Atodiad B. (Gweler y dyddiadau cyflwyno yn nhabl 1 isod.)

Monitro colegau a ariennir yn uniongyrchol

32. Caiff templedi ar gyfer monitro interim a therfynol ac astudiaethau achos eu cylchredeg ym mis Hydref 2025.

Amserlen

33. Mae Tabl 1 isod yn nodi’r dyddiadau cau i golegau a ariennir yn uniongyrchol ar gyfer cyflwyno ac adrodd.

Tabl 1

Gofynion cyflwyno ac adroddDyddiad cyflwyno
Canllawiau a gyhoeddwydMedi 2025
Dyddiad cau i sefydliadau AB gyflwyno cynllun cyllido24 Hydref 2025
Cyflawni’r prosiect1 Awst 2025 ymlaen
Anfon llythyrau cynnig grantTachwedd 2025  
Cyflwyno adroddiad monitro dros dro1 Mawrth 2026
1af daliadEbrill 2026
Cyflwyno’r adroddiad monitro terfynol1 Gorffennaf 2026
2il daliadGorffennaf 2026

Rhagor o wybodaeth / ymatebion i

34. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Ryan Stokes ([email protected]).

35. Dylid cyflwyno ymatebion i [email protected].

Asesu effaith ein polisïau

36. Rydym wedi diweddaru ein hasesiad effaith parhaus i ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Gwnaethom hefyd ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg a darpariaeth Gymraeg yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru, a’r effeithiau posibl ar y nodau sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

37. Mae canfyddiadau ein hasesiad effaith yn cynnwys:

  • canfod effeithiau cadarnhaol tebygol ar y nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol. Ni chanfuwyd dim effeithiau negyddol.
  • cadarnhau bod y cyllid yn cefnogi pump o’r saith nod llesiant ac yn ystyried y pum ffordd o weithio sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • nodi bod y cyllid a’r trefniadau monitro yn ceisio cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg.

Medr/2025/23: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg bellach 2025/26

Dyddiad:  13 Hydref 2025

Cyfeirnod:  Medr/2025/23

At:  Benaethiaid colegau addysg bellach

Ymateb erbyn:

Cynllun cyllido gan sefydliadau AB: 24 Hydref 2025

Adroddiad monitro dros dro: 1 Mawrth 2026

Adroddiad monitro terfynol: 1 Gorffennaf 2026

Crynodeb:

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau cyllid ac yn darparu rhagor o wybodaeth ynghylch y defnydd ohono a’r gofynion monitro ar ei gyfer. Dyraniad Medr o £4,050,000 o gyllid uniongyrchol i’r sector addysg bellach (AB) ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 i gefnogi mentrau iechyd meddwl a llesiant ar gyfer dysgwyr a staff.

Mae’r cyhoeddiad hefyd yn cadarnhau cyllid ac yn darparu rhagor o wybodaeth am gyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau cenedlaethol.

Medr/2025/23 Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg bellach 2025/26

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio