Cyhoeddiadau
Medr/2025/12: Cyllid digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2025/26
26 Aug 2025
Cyflwyniad
1. Yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26, bydd Medr yn coladu tystiolaeth am effaith a manteision yr ‘alwad i weithredu’ flaenorol ar ddysgu digidol ar gyfer addysg bellach (AB) ac yn datblygu ein sylfaen dystiolaeth ar anghenion a blaenoriaethau ar gyfer dysgu digidol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Jisc ar ddiweddariad canol tymor i’r fframwaith strategol Digidol 2030. Bydd y gweithgareddau hyn yn goleuo gwaith cynllunio ar gyfer dull strategol Medr o ymdrin â dysgu digidol yn y sector trydyddol yn y dyfodol.
2. Mae setliad cyllid Llywodraeth Cymru i Medr ar gyfer 2025/26 yn cynnwys cyllid cyfalaf digidol o £3 miliwn ar gyfer AB. Diben y cyllid hwn yw darparu parhad ar gyfer AB ar ôl yr alwad i weithredu; cynnal y momentwm gyda chynnydd a wnaed dros y tair blynedd ddiwethaf; a helpu i ymdrin â’r pwysau penodol o ran cyllid a godwyd gan sefydliadau AB. Bydd pob sefydliad AB hefyd yn cael dyraniad refeniw digidol o £25,000 yn 2025/26.
Llinellau amser
| Amseriad | Carreg filltir neu gam gweithredu |
|---|---|
| Erbyn 24 Hydref 2025 | Pob sefydliad i amlinellu sut y mae’n bwriadu defnyddio’r cyllid (Atodiad B). |
| Rhagfyr 2025 | Bydd taliad cyfalaf interim (50% o’r dyraniad) yn cael ei brosesu yn ystod mis Rhagfyr. |
| Mawrth 2026 | Bydd y 50% sy’n weddill o’r dyraniad cyfalaf a thaliad interim o £15,000 o gyllid refeniw yn cael ei brosesu yn ystod mis Mawrth. |
| Erbyn 31 Gorffennaf 2026 | Adroddiad ar wariant a hawliad terfynol. (Bydd Atodiad C yn cael ei ychwanegu unwaith y mae taliadau interim wedi cael eu gwneud. Bydd arweinwyr cyllid enwebedig yn cael eu hysbysu pan fo’r ffurflen hon ar gael.) |
Medr/2025/12: Cyllid digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2025/26
Dyddiad: 26 Awst 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/12
At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol
Ymateb erbyn: 24 Hydref 2025
Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi dyraniadau cyllid cyfalaf a refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach ym mlwyddyn academaidd 2025/26, ac yn darparu canllawiau ynghylch gwariant cymwys ac anghymwys.
Medr/2025/12 Cyllid digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yn 2025/26Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio