Newyddion
Corff trydyddol newydd yn lansio ymgynghoriad mawr ar bwerau rheoleiddio
15 May 2025
Mae Medr wedi lansio ei ymgynghoriad cyntaf ar system newydd i reoleiddio darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant.
Mae’r ymgynghoriad yn nodi ei gynigion ar gyfer rheoleiddio mewn ffordd sy’n dryloyw, yn gymesur ac yn seiliedig ar risg.
Mae hefyd yn ceisio barn pobl ynglŷn â’r fframwaith rheoleiddio – gan gynnwys rhai amodau rheoleiddio a chyllid – pwerau ymyrryd, a’r fframwaith ansawdd.
Fe wnaeth Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 sefydlu’r fframwaith statudol newydd sy’n integreiddio trefniadau rheoleiddio darpariaeth addysg drydyddol.
Bydd y system newydd ar waith i raddau helaeth o 1 Awst 2026, gyda rhai amodau sy’n weddill ar gyfer darparwyr cofrestredig ar waith o fis Awst 2027.
Byddai angen i unrhyw ddarparwr sy’n ceisio lle ar y gofrestr – gan hwyluso mynediad at gyllid Medr neu gyllid benthyciadau i fyfyrwyr yn ôl y math o ddarparwr – ddangos ei fod yn cydymffurfio’n barhaus ag amodau penodol, megis sicrhau ansawdd y ddarpariaeth, llywodraethu a rheoli effeithiol, a dangos ei gynaliadwyedd ariannol.
Byddai amodau cyllid yn berthnasol i ddarparwyr yn y sector trydyddol ehangach hefyd, gan amlinellu’r disgwyliadau ar eu cyfer mewn perthynas â chael a rheoli cyllid gan Medr.
Byddai disgwyl hefyd i ddarparwyr cofrestredig ddangos gwelliant parhaus a darparu deilliannau sy’n gyson o ansawdd da ar gyfer dysgwyr.
Bydd gan Medr hefyd y pŵer i ymyrryd lle cyfyd materion ac i roi cyngor a chanllawiau y mae’n rhaid i ddarparwyr eu dilyn.
Meddai Simon Pirotte, Prif Weithredwr Medr: “Mae hyn yn nodi dechrau dull rheoleiddio newydd ar gyfer yr holl ddarparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru.
“Yn dilyn ein proses o bontio’n esmwyth i Medr, yn awr rydym yn cymryd y camau cyntaf tuag at wireddu ein gweledigaeth a chryfhau ein system drydyddol.
“Mae’r amgylchedd rheoleiddio’n newid yn sylweddol. Rydym yn awyddus i wneud yr uchelgeisiau ar gyfer y sector addysg drydyddol yn realiti wrth i ni ddatblygu system sy’n mynd ati’n well i ddiogelu dysgwyr, gwarchod cyllid cyhoeddus, a chynnal enw da’r sector trydyddol yng Nghymru.
“Mae mewnbwn darparwyr a rhanddeiliaid yn hollbwysig i sicrhau system reoleiddio sy’n gwireddu’r uchelgeisiau hyn, ac rydym yn croesawu ac yn annog pob ymgysylltiad yn ystod y broses hon.”
Fe lansiodd yr ymgynghoriad ar 15 Mai ac mae’n cau ar 18 Gorffennaf.
Diwedd
Nodiadau
Medr yw’r corff cyllido a rheoleiddio newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Daeth Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 â’r trefniadau ar gyfer cyllido a rheoli’r sector addysg drydyddol ac ymchwil dan un corff hyd braich am y tro cyntaf, gan sefydlu Medr yn 2024.
Dull rheoleiddio cyfredol
Ar hyn o bryd mae Medr yn rheoleiddio lefelau ffioedd mewn sefydliadau addysg uwch, yn sicrhau bod fframwaith yn ei le ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch ac yn craffu ar berfformiad darparwyr addysg drydyddol.
Mae Medr yn datblygu system reoleiddio newydd ar gyfer addysg drydyddol a ddylai fod wedi’i sefydlu i raddau helaeth erbyn mis Awst 2026, ac wedi’i sefydlu’n llawn erbyn mis Awst 2027.
Mae dyletswyddau penodol Medr mewn perthynas â rheoleiddio’n ymwneud â’r canlynol:
- monitro’r modd y mae sefydliadau rheoleiddiedig yn cydymffurfio â chynlluniau ffioedd a mynediad
- asesu ansawdd addysg
- monitro’r modd y mae sefydliadau’n cydymffurfio â’r Cod Rheolaeth Ariannol
- darparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru.
Mae Medr hefyd yn monitro’r modd y mae darparwyr trydyddol eraill yn cydymffurfio â Thelerau ac Amodau Cyllid.
Dull rheoleiddio arfaethedig
Gall yr holl ddarparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant sy’n cynnig darpariaeth addysg uwch ac sy’n gweithredu yng Nghymru ymgeisio i fod wedi’u cofrestru trwy Medr o 2026.
Mae Cynllun Strategol Medr yn amlinellu ei weledigaeth am y pum mlynedd nesaf, ac yn cynnwys ei nod sefydlu, sef “Sefydlu Medr fel sefydliad hynod effeithiol a rheoleiddiwr yr ymddiriedir ynddo”. I ategu’r nod hwn, mae ei Ddull Rheoleiddio a’i Bwerau Ymyrryd yn nodi’r egwyddorion arweiniol y bydd yn eu dilyn wrth gyflawni ei ddyletswyddau rheoleiddio, gan amcanu at alluogi: “system addysg drydyddol ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cymdeithas a’r economi, gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltu’n greiddiol iddi”.
Mae Medr yn ymrwymedig i reoleiddio mewn modd sy’n dryloyw, yn gymesur, yn gyson ac yn seiliedig ar risg, ac sy’n cyd-fynd â’i werthoedd, gan gyfuno cryfderau rheoleiddio sy’n seiliedig ar reolau (cydymffurfedd) a rheoleiddio sy’n seiliedig ar nodau (gwella’n barhaus).
Mae’r ymgynghoriad yn agor ar 15 Mai ac yn cau ar 18 Gorffennaf, ac yn cwmpasu’r canlynol:
- Dull Rheoleiddio a Phwerau Ymyrryd: Mae hyn yn amlinellu sut y mae Medr yn bwriadu gweithredu system reoleiddio gymesur, seiliedig-ar-risg, gan gyfuno dulliau sy’n seiliedig ar reolau ac sydd â ffocws ar ddeilliannau. Ein nod yw diogelu dysgwyr, gwarchod cyllid cyhoeddus, a chynnal enw da’r sector trydyddol yng Nghymru. Mae’r ddogfen yn manylu ar bwerau ymyrryd Medr, gan ddiffinio’r prosesau a’r camau’n glir – o gyngor anffurfiol i rybuddion ffurfiol, cyfarwyddydau, neu ddatgofrestru.
- Fframwaith Rheoleiddio: Mae hwn yn nodi disgwyliadau ar gyfer darparwyr cofrestredig ynghylch ansawdd, llywodraethu, cynaliadwyedd ariannol ac amodau cofrestru eraill. Hefyd, bydd amodau cyllid penodol yn berthnasol i rai darparwyr yn y sector trydyddol, gan ddiffinio’n glir beth yw’r disgwyliadau mewn perthynas â chael a rheoli arian cyhoeddus.
- Fframwaith Ansawdd: Mae’r fframwaith hwn, sy’n ganolog i’n system reoleiddio, yn pwysleisio gwelliant parhaus a deilliannau sy’n gyson o ansawdd da ar gyfer dysgwyr. Mae’n amlinellu cyfrifoldebau darparwyr am hunanwerthuso, ymgysylltu â dysgwyr, asesiadau allanol, a datblygiad proffesiynol.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio