Adolygiad Estyn o bresenoldeb a chyfranogiad ôl-16: ymateb Medr
Mae Medr yn croesawu adolygiad thematig Estyn o bresenoldeb a chyfranogiad drwy’r sector addysg ôl-16 cyfan yng Nghymru (sy’n cynnwys colegau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion ledled Cymru). Mae’r adroddiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar batrymau presenoldeb presennol, y ffactorau sy’n dylanwadu ar lefelau ymgysylltu dysgwyr, a’r dulliau y mae darparwyr yn eu mabwysiadu i wella presenoldeb a chyfranogiad. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd presenoldeb fel galluogydd allweddol ar gyfer llwyddiant, cynnydd, llesiant a deilliannau cadarnhaol dysgwyr.
Mae’r adroddiad yn cyd-fynd ag ymrwymiad Medr i gefnogi system addysg drydyddol o ansawdd da, ac yn tynnu sylw at sawl maes lle y gall gweithredu ar y cyd drwy’r sector cyfan atgyfnerthu lefelau ymgysylltu dysgwyr a gwella deilliannau.
Yn benodol, nodwn ganfyddiadau’r adroddiad ynglŷn â’r amrywiol ddulliau a ddefnyddir i gofnodi presenoldeb ac adrodd arno, yr heriau sy’n gysylltiedig â meincnodi data presenoldeb, a’r berthynas gref rhwng presenoldeb, llesiant a llwyddiant dysgwyr
Ymateb i’r prif ganfyddiadau
Mae Medr yn cydnabod casgliad yr adroddiad bod presenoldeb yn dal yn her sylweddol mewn darpariaeth addysg ôl-16, a bod amrywiaeth gymhleth o ffactorau sy’n rhyngberthyn yn dylanwadu ar bresenoldeb, gan gynnwys llesiant dysgwyr, hygyrchedd cludiant, pwysau ariannol, cyflogaeth ran-amser a pherthnasedd cwricwla.
Cawn ein calonogi gan yr enghreifftiau o arferion effeithiol a nodir yn yr adroddiad, gan gynnwys datblygu rolau cymorth bugeiliol arbenigol, ymyriadau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, a’r defnydd cynyddol o ddata presenoldeb ochr yn ochr â dulliau ehangach o fesur cynnydd a llesiant dysgwyr. Mae’r dulliau hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd ystyried presenoldeb o fewn fframwaith ehangach sy’n ymwneud â lefelau ymgysylltu dysgwyr.
Ymateb i’r argymhellion ar gyfer Medr
Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion fel y maent yn berthnasol i Medr ac yn cydnabod y cyfle i atgyfnerthu trefniadau cenedlaethol ar gyfer presenoldeb a chyfranogiad drwy’r sector addysg drydyddol cyfan. Bydd Medr yn ystyried sut y gallem gyfrannu yn y maes hwn yn sgil yr adolygiad arfaethedig o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.
Safoni adroddiadau presenoldeb
Bydd Medr yn gweithio gyda darparwyr, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol yn y sector i archwilio opsiynau ar gyfer datblygu mwy o gysondeb mewn adroddiadau presenoldeb a chyfranogiad. Gallai hyn gynnwys ystyried diffiniadau cyffredin, codau presenoldeb a threfniadau adrodd er mwyn helpu i sicrhau gwell cymharedd a dealltwriaeth drwy’r sector cyfan. Bydd angen i unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol fod yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth, a chael eu datblygu ar y cyd â darparwyr.
Datblygu data presenoldeb cenedlaethol
Rydym yn cydnabod argymhelliad yr adroddiad ynghylch cyhoeddi data presenoldeb ôl-16 cenedlaethol, ond hefyd yn cydnabod yr her sy’n gysylltiedig â hyn. Mae’n debygol mai uchelgais hirdymor fyddai hyn, ac y byddai angen buddsoddiad parhaus o ran amser ac adnoddau i’w wireddu. Bydd Medr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr i ystyried dichonoldeb, manteision a goblygiadau ymarferol sefydlu setiau data a threfniadau adrodd cenedlaethol ar gyfer presenoldeb sy’n cefnogi prosesau meincnodi, hunanwerthuso a gwelliant parhaus gan sicrhau cyn lleied â phosibl o faich diangen ar ddarparwyr ar yr un pryd.
Rhannu arferion effeithiol
Mae Medr yn cydnabod y cryfderau sylweddol sydd eisoes yn bodoli ledled Cymru. Byddwn yn parhau i hwyluso cyfleoedd i ddarparwyr rannu arferion effeithiol, yn enwedig mewn perthynas â monitro presenoldeb, cymorth i ddysgwyr, ymyriadau llesiant a dulliau sy’n atgyfnerthu lefelau ymgysylltu a chyfranogi.
Y camau nesaf
Mae Medr yn croesawu’r adroddiad hwn, sy’n cynnig sylfaen glir ar gyfer trafodaethau pellach ym mhob rhan o’r sector. Mae’r canfyddiadau’n atgyfnerthu’r ffaith bod angen ymateb drwy’r system gyfan er mwyn gwella presenoldeb.
Mae Medr yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion, colegau a rhanddeiliaid eraill i ystyried yr argymhellion yn fanwl a chefnogi gwelliant parhaus mewn lefelau ymgysylltu, presenoldeb, llesiant a deilliannau dysgwyr ledled Cymru.
Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag [email protected].
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/49: Cyllid ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2026-27
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi cynnydd yn y cyllid a ddyfarnwyd i Medr gan Llywodraeth Cymru ar gyfer Prentisiaethau Iau yn y flwyddyn ariannol 2026-27. Mae’r buddsoddiad ychwanegol i gydnabod mwy o ddarpariaeth a chyfranogiad ledled Cymru.
2. Mae’r cyllid ychwanegol a ddyfarnwyd i Medr yn £135,000.
3. Cyhoeddir dogfen ar wahân yn dilyn blwyddyn academaidd 2026/27 yn nodi dyraniadau unigol SAB.
Medr/2026/49: Cyllid ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2026-27
Dyddiad: 30 Medi 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/49
At: Brifathrawon sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad yma yn cadarnhau cyllid ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau yn 2026-27.
Medr/2026/49 Cyllid ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2026-27Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioLlunio dyfodol Cwricwla Lleol 16 i 18 yng Nghymru
Mae’r blynyddoedd rhwng 16 a 18 oed ymhlith y rhai pwysicaf yn nhaith addysg dysgwr. Mae’n amser pan fydd pobl ifanc yn dechrau arbenigo, archwilio’u diddordebau a chymryd y camau nesaf tuag at addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth.
I gefnogi hyn, mae angen i ddysgwyr gael at amrywiaeth eang o gyfleoedd o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu eu dyheadau ac anghenion eu cymunedau lleol. Dyma ddiben Cwricwla Lleol 16 i 18.
Gan fod cyfrifoldeb am lunio cwricwla lleol wedi trosglwyddo i Medr, mae cyfle i gryfhau cydweithio ar draws Cymru a sicrhau bod pob dysgwr yn gallu elwa o gynigion cwricwlwm cynaliadwy, cynhwysol, sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.
Beth yw Cwricwla Lleol 16 i 18?
Mae Cwricwlwm Lleol 16 i 18 yn amrediad cyfunol o gyrsiau a chyfleoedd dysgu sydd ar gael i bobl ifanc o fewn ardal awdurdod lleol.
Gall y cyfleoedd hyn gael eu darparu gan ysgolion, sefydliadau addysg bellach, neu drwy drefniadau cydweithredol rhwng darparwyr. Y nod yw sicrhau bod dysgwyr yn gallu manteisio ar ddewis eang o lwybrau academaidd a galwedigaethol sy’n cefnogi dilyniant i’w dewis gamau nesaf.
Yn ei hanfod, mae cynllunio cwricwlwm lleol yn ymwneud â dysgwyr. Mae’n ymwneud â deall beth mae ar bobl ifanc ei angen, pa gyfleoedd sydd ar gael, a sut gall partneriaid weithio gyda’i gilydd i sicrhau’r dewis mwyaf a chefnogi deilliannau llwyddiannus.
Rôl Medr
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn rhoi cyfrifoldeb am lunio Cwricwla Lleol 16 i 18 i Medr, gan greu un sefydliad sy’n gyfrifol am oruchwylio addysg ôl-orfodol yng Nghymru yn strategol.
Yn rhan o’r rôl hon, bydd Medr yn gweithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion, colegau a phartneriaid ehangach i:
- Ddatblygu trefniadau cwricwlwm lleol ar draws Cymru.
- Defnyddio data, tystiolaeth a deallusrwydd i lywio cynllunio a phenderfyniadau.
- Cefnogi cynigion y cwricwlwm sy’n adlewyrchu galw dysgwyr a blaenoriaethau lleol.
- Hyrwyddo darpariaeth gynaliadwy a llwybrau dilyniant ystyrlon.
- Cefnogi cyfleoedd am ddysgu a chyfranogi trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cydweithio â phartneriaid i ddatblygu dulliau ymarferol a chymesur sy’n adlewyrchu amgylchiadau lleol.
Mae cwricwla lleol effeithiol yn dibynnu ar bartneriaethau cryf a chyd-berchnogaeth. Mae Medr yn chwarae rôl gydweithredol, gan ddod â phartneriaid ynghyd ar draws y system.
Rôl awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau
Mae awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth lunio cwricwla lleol.
Mae eu gwybodaeth leol a’u dealltwriaeth o ddysgwyr, cymunedau a darpariaeth yn hanfodol i gynllunio effeithiol. Hefyd, maent yn bartneriaid allweddol o ran helpu i wneud y mwyaf o argaeledd cyrsiau a sicrhau bod dysgwyr yn gallu manteisio ar gynnig cwricwlwm eang a chytbwys.
Mae hyn yn cynnwys ystyried:
- Buddiannau a dyheadau dysgwyr.
- Cyfleoedd dilyniant i ddysgu a chyflogaeth bellach.
- Deallusrwydd am y farchnad lafur leol a rhanbarthol.
- Darpariaeth cyfrwng Cymraeg a pharhad ieithyddol.
- Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
- Realiti ymarferol cyflwyno cwricwlwm eang a chynaliadwy.
Trwy ddwyn goruchwyliaeth genedlaethol ac arbenigedd lleol ynghyd, gall partneriaid greu cynigion cwricwlwm sy’n bodloni anghenion amrywiol dysgwyr a chymunedau ar draws Cymru.
Pam mae cydweithredu’n bwysig
Mae cydweithredu bob amser wedi bod yn ganolog i gynllunio cwricwlwm lleol yn llwyddiannus.
Mae’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau yn cydnabod na all yr un sefydliad unigol ddarparu pob cyfle yr hoffai dysgwyr fanteisio arnynt. Felly, caiff ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol eu hannog i gydweithio er mwyn gwneud y mwyaf o ddewis dysgwyr a chreu cynigion cwricwlwm cynaliadwy.
Gall cydweithredu helpu partneriaid i:
- Ehangu’r amrediad o gyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr.
- Lleihau dyblygu’r ddarpariaeth yn ddiangen.
- Gwneud y defnydd gorau o adnoddau sydd ar gael.
- Cryfhau llwybrau dilyniant dysgwyr.
- Cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg a mwy o gyfranogiad cyfrwng Cymraeg.
- Ymateb i anghenion sgiliau a’r farchnad lafur leol.
Yn y pen draw, mae cwricwla lleol llwyddiannus wedi’u hadeiladu ar sail cyd-gyfrifoldeb, deialog agored, ac ymrwymiad cyfunol i roi dysgwyr yn gyntaf.
Ymuno â’r sgwrs
I gefnogi partneriaid wrth i’r gwaith hwn ddatblygu, bydd Medr yn cynnal dwy webinar sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad Cwricwla Lleol 16 i 18 yng Nghymru yn y dyfodol.
Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i ddeall y canlynol yn well:
- Ymagwedd Medr at Gwricwla Lleol 16 i 18.
- Rolau a chyfrifoldebau ysgolion, colegau, awdurdodau lleol, Medr a Llywodraeth Cymru.
- Sut bydd data a thystiolaeth yn ategu cynllunio’r cwricwlwm a gwneud penderfyniadau.
- Y cysylltiadau rhwng cynllunio’r cwricwlwm, dilyniant dysgwyr, digonoldeb y cwricwlwm a darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
- Sut gall partneriaid gydweithio i ddatblygu atebion lleol ymarferol.
- Canllawiau, cymorth a chyfleoedd ymgysylltu yn y dyfodol.
Dyddiadau’r gweminarau
Mae cofrestru bellach ar agor trwy Eventbrite.
Rydym yn annog cydweithwyr o ysgolion, dosbarthiadau chwech, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach a sefydliadau partner i fynychu a chyfrannu at lunio dyfodol Cwricwla Lleol 16 i 18 yng Nghymru.
Trwy gydweithio, gallwn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu manteisio ar gynnig cwricwlwm eang, cynaliadwy ac ystyrlon, sy’n eu cefnogi i ffynnu mewn addysg, cyflogaeth a bywyd.
Am rhagor or wybodaeth, cysylltwch â [email protected].
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioGrantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil yn atgyfnerthu cymunedau ymchwil ledled Cymru
Mae Medr a Chymdeithas Ddysgedig Cymru wedi mynd ati ar y cyd i lansio ail flwyddyn y cynllun Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil (RCNG), sy’n helpu ymchwilwyr, gweithwyr ymchwil proffesiynol a chymunedau ymchwil i gydweithio â’i gilydd i fynd i’r afael â heriau ac atgyfnerthu diwylliant ymchwil ledled Cymru.
Mewn cydnabyddiaeth i werth y mentrau llawr gwlad hyn, buddsoddodd Medr yn y cynllun yn 2025/26 drwy Gronfa Gydweithredol Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Gronfa Gydweithredol yn rhan o Gronfa WREC ehangach, sy’n cefnogi diwylliant ymchwil drwy ddulliau a arweinir gan sefydliadau a chymunedau. Er y caiff cyfran sylweddol o gyllid WREC ei dyrannu’n uniongyrchol i sefydliadau addysg uwch er mwyn cefnogi gweithgarwch strategol ar lefel sefydliadau cyfan, mae cynllun RCNG yn cynnig dull cydategol o’r gwaelod i fyny drwy fuddsoddi mewn rhwydweithiau a arweinir gan ymchwilwyr/gweithwyr ymchwil proffesiynol.
Mae’r cynllun, sy’n cynnig grantiau gwerth hyd at £3,000, wedi galluogi rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli a rhwydweithiau sy’n datblygu ledled Cymru i fynd i’r afael â heriau a nodwyd gan eu cymunedau eu hunain, gan feithrin cydweithio, cynhwysiant ac arloesedd ar lawr gwlad. Gyda’i gilydd, gall y dulliau hyn o’r brig i lawr ac o’r gwaelod i fyny helpu i greu diwylliant ymchwil mwy cysylltiedig, cefnogol a gwydn ledled Cymru, gan sicrhau y caiff ymchwilwyr ar bob cam gyrfa eu grymuso i ffynnu, cydweithio a gwneud gwaith ymchwil o ansawdd da sy’n arwain at fuddiannau ystyrlon i gymdeithas.
Yn y flwyddyn gyntaf, rhoddwyd cyllid i 14 o rwydweithiau a oedd yn cynnwys prifysgolion, sefydliadau iechyd a chanolfannau ymchwil ledled Cymru. Caiff y prosiectau a gafodd gyllid eu harwain gan ymchwilwyr a gweithwyr ymchwil proffesiynol, gan gynnwys technegwyr a staff cymorth arbenigol, ar amrywiaeth o gamau gyrfa. Mae’r rhwydweithiau’n cynnwys ymchwilwyr gyrfa gynnar, academyddion sydd wedi ennill eu plwyf a chydweithwyr mewn gwasanaethau proffesiynol sy’n gweithio gyda’i gilydd i atgyfnerthu cymunedau ymchwil a gwella’r amgylchedd ymchwil. Mae pum prosiect yn sefydlu rhwydweithiau newydd sbon, ac mae eraill yn canolbwyntio ar dyfu cymunedau sydd eisoes yn datblygu neu gynnal mentrau sydd eisoes ar waith.
Aeth y prosiectau i’r afael ag amrywiaeth eang o heriau sy’n ymwneud â diwylliant ymchwil, gan gynnwys ynysigrwydd ymhlith ymchwilwyr, prinder amser wedi’i neilltuo ar gyfer gwaith ymchwil ac ysgrifennu, hyder a syndrom y ffugiwr, rhwystrau rhag cydweithio, a heriau sy’n wynebu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae sawl menter yn cefnogi menywod, ymchwilwyr anneuaidd a chymunedau ethnig leiafrifiedig yn benodol, ac mae eraill yn canolbwyntio ar atgyfnerthu partneriaethau traws-sector ac ymgysylltu â chymunedau.
Rydym eisoes yn gweld effaith gadarnhaol y rhwydweithiau hyn ar ymchwilwyr ym mhob rhan o’r sector yng Nghymru. Mae cyfranogwyr wedi rhoi gwybod am fwy o amlygrwydd i faterion pwysig sy’n ymwneud â diwylliant ymchwil, gwell cymorth gan gymheiriaid a chyfleoedd newydd i gydweithio. Cafodd un prosiect, sef Rhaglen Fentora Breswyl Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Rhyngwladol Abertawe (SIREN), fwy na 100 o geisiadau am ddim ond 20 o leoedd ac, ers hynny, mae wedi sicrhau cyllid sefydliadol ychwanegol i ehangu ei gweithgareddau a datblygu rhwydwaith cenedlaethol ehangach.
Mae’r rhaglen hefyd wedi cefnogi amrywiaeth o fentrau arloesol, gan gynnwys encilion ysgrifennu i academyddion benywaidd sydd â chyfrifoldebau gofalu (Write Now!), cymunedau ymarfer ar gyfer gweithwyr fferylliaeth proffesiynol, rhwydweithiau ar gyfer gweithwyr technegol proffesiynol ym maes ymchwil, a phartneriaethau sy’n canolbwyntio ar iechyd menywod, newid hinsawdd, academia’r gyfraith a gwaith ymchwil yn y sector gwirfoddol.
Mae’r gwersi cychwynnol sydd wedi cael eu dysgu o’r cynllun yn tynnu sylw at bwysigrwydd parhaus gweithgareddau ar lawr gwlad er mwyn creu amgylcheddau ymchwil cynhwysol a chefnogol. Ymhlith y themâu cyffredin y mae arweinwyr rhwydweithiau wedi eu nodi mae’r angen am fwy o fentora a chymorth gan gymheiriaid, mwy o gyfleoedd i gydweithio rhwng disgyblaethau a sefydliadau, cydnabyddiaeth i fathau amrywiol o arbenigedd, a chysylltiadau cryfach rhwng gwaith ymchwil academaidd a chymunedau ehangach.
Er bod cyllid ar gael ar gyfer 14 o brosiectau, cawsom 72 o geisiadau yn y cylch cyllido cyntaf, sy’n dangos pa mor sylweddol oedd y galw am y cynllun a’r awydd ymhlith ymchwilwyr a gweithwyr ymchwil proffesiynol i ddatblygu diwylliannau ymchwil mwy cysylltiedig, cynhwysol a gwydn ledled Cymru.
Bydd y cylch cyllido newydd, a lansiwyd ar 9 Medi, yn galluogi rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli i adeiladu ar eu cynnydd gan gefnogi cymunedau a syniadau newydd sy’n harneisio brwdfrydedd ac uchelgais y sector i greu ecosystem ymchwil gryfach ar gyfer Cymru ar yr un pryd.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/47: Model Cyllido Prentisiaethau: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad
Crynodeb
Nod Cynllun Strategol Medr yw ‘creu system addysg drydyddol hyblyg a chydgysylltiedig lle gall pawb ddysgu’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy’n newid’. Rydym wedi ymrwymo i ddylunio darpariaeth prentisiaethau ar gyfer y dyfodol mewn ffordd sy’n ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sgiliau a bodloni anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi. Mae prentisiaethau’n ysgogiad sylweddol i gynyddu cynhyrchiant a helpu i dyfu gweithlu medrus ac amrywiol.
Bydd y rhaglen brentisiaethau newydd yn dechrau ar 1 Awst 2027 a bydd yn fwy ymatebol a hyblyg er mwyn ymateb i’r newidiadau yn ein heconomi.
Ym mis Mai 2026, cynhaliom ymgynghoriad ar ddull cyllido arfaethedig ar gyfer y rhaglen brentisiaethau newydd sy’n arwain at gymwysterau rheoleiddiedig ar lefelau 2-5, a oedd yn cynnwys ymgysylltu â darparwyr addysg drydyddol, cyrff diwydiant, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill.
Gofynnom am safbwyntiau ar y canlynol:
- Egwyddorion lefel uchel y model cyllido newydd
- Manteision y model cyllido newydd
- Canlyniadau anfwriadol rhoi’r model cyllido newydd ar waith
- Costau ychwanegol prentisiaethau
Bu clywed gan randdeiliaid yn allweddol i helpu Medr i lunio’r model cyllido newydd ac ystyried yn llawn y canlyniadau anfwriadol a nodwyd.
Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o themâu allweddol o’r ymatebion i gwestiynau’r ymgynghoriad a sut rydym wedi penderfynu ymateb wrth gadarnhau’r model cyllido newydd.
Mae Atodiad A yn darparu dadansoddiad manylach o adborth yr ymgynghoriad.
Medr/2026/47: Model Cyllido Prentisiaethau: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad
Dyddiad: 14 Medi2026
Cyfeirnod: Medr/2026/47
At: Benaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr prentisiaethau presennol yng Nghymru / Deiliaid contractau prentisiaethau wedi’u comisiynu; Cyrff cynrychioli dysgwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y model cyllido newydd ar gyfer y Rhaglen Brentisiaethau (sy’n arwain at gymwysterau rheoleiddiedig ar lefelau 2-5) o 1 Awst 2027 ymlaen, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2026.
Medr/2026/47 Model Cyllido Prentisiaethau: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriadDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/45: Biwroau Cyflogaeth a Menter: canllawiau a chyllid 2026/27
Crynodeb o’r cyhoeddiad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion a threfniadau cyllido Medr ar gyfer gweithgarwch Biwroau Cyflogaeth a Menter (EEB) yn 2026/27. Mae’n cadarnhau trefniadau monitro, llinellau amser ac yn atodi templedi monitro.
2. Nod y Biwroau Cyflogaeth a Menter yw cyflawni deilliannau cyflogaeth a hunangyflogaeth cadarnhaol ar gyfer myfyrwyr, trwy ddarparu pecyn o gymorth i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, menter ac entrepreneuraidd dysgwyr. Dylid rhoi’r cymorth hwn trwy gydweithio gyda chyflogwyr, Gyrfa Cymru, y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu cyfleoedd i ddysgwyr yn eu rhanbarthau.
3. Dylid defnyddio’r cyllid i barhau i integreiddio darpariaeth menter ac entrepreneuriaeth o fewn y Biwroau Cyflogaeth a Menter, gan amcanu at gynyddu’r cyfleoedd hunangyflogaeth sydd ar gael i ddysgwyr ac ymadawyr, yn ogystal â hybu’r arfer o wreiddio cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth o fewn y cwricwlwm er budd dysgwyr.
Cyllid 2026/27
4. Mae cyfanswm y gyllideb sydd ar gael i gefnogi’r Biwroau Cyflogaeth a Menter rhwng 1 Awst 2026 a 31 Gorffennaf 2027 yn £1,320,000. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £960,000 o gyllid Medr a £360,000 gan Busnes Cymru, y mae’n rhaid ei ddefnyddio i gefnogi’r elfen Menter ac Entrepreneuriaeth o weithgarwch y Biwroau Cyflogaeth a Menter mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru. Bydd cyfanswm y dyraniad yn parhau i gael ei rannu’n gyfartal ar draws 12 SAB yng Nghymru fel bod pob SAB yn cael cyfanswm dyraniad o £110,000 yn 2026/27.
Monitro a ffrâm amser
5. Mae’n ofynnol i SABau gyflwyno adroddiad monitro interim a diwedd blwyddyn, gan ddefnyddio’r templedi yn Atodiad A a B, i Medr erbyn y dyddiadau a nodir yn y llinell amser ym mharagraff 24. Gan bod y cyllid menter ar gyfer 2026/27 yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, bydd gwybodaeth yr adroddir arni wrth Medr yn erbyn y gofynion hynny’n cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru fel y gellir monitro effaith ei chyllid.
| Cam Gweithredu | Cyfrifoldeb | Dyddiad |
|---|---|---|
| Taliad cyntaf o £83,600 i Fiwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2026/27 | Medr | Medi 2026 |
| Cyflwyno adroddiad interim i Medr | Biwroau Cyflogaeth a Menter | 29 Ionawr 2027 |
| Taliad olaf o £26,400 i Fiwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2026/27 | Medr | Ebrill 2027 |
| Cyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn i Medr | Biwroau Cyflogaeth a Menter | 30 Gorffennaf 2027 |
| Cyflwyno Datganiad o Wariant i Medr | Biwroau Cyflogaeth a Menter | 31 Awst 2027 |
Medr/2026/45: Biwroau Cyflogaeth a Menter: canllawiau a chyllid 2026/27
Dyddiad: 08 Medi 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/45
At: Benaethiaid sefydliadau addysg bellach
Ymateb erbyn: Cyflwyno adroddiad interim – 29 Ionawr 2027; Cyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn – 30 Gorffennaf 2027
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion a threfniadau cyllido Medr ar gyfer gweithgarwch Biwroau Cyflogaeth a Menter (EEB) yn 2026/27. Mae’n cadarnhau trefniadau monitro, llinellau amser ac yn atodi templedi monitro.
Medr/2026/45 Biwroau Cyflogaeth a Menter: canllawiau a chyllid 2026/27 v2Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioLlwybrau prentisiaeth adeiladu newydd ar gael nawr yng Nghymru
Mae fframweithiau prentisiaeth Lefel 2 newydd ar gael nawr yng Nghymru o fewn y sector adeiladu yn dilyn newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a Medr ar 11 Chwefror 2026.
Bydd y cyfleoedd hyn yn gwella amrywiaeth y llwybrau i mewn i’r sector hwn gan greu cyfleoedd newydd i gyflogwyr ddatblygu talent fedrus. Bwriedir iddynt alluogi prentisiaid i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwysedd y bydd eu hangen arnynt i ymuno â’r sector a chamu ymlaen ynddo. Mae’r llwybrau newydd ar gael ar Lefel 2 mewn gosod brics a gwaith saer ar safle ac ar Lefel 3 mewn gorchuddio lloriau ac oeri, aerdymheru a phympiau gwres.
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Bydd y llwybrau newydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i ddysgwyr a chyflogwyr ar gyfer datblygu sgiliau mewn galwedigaethau adeiladu allweddol. Rydyn ni’n falch o fod wedi gallu cefnogi llwybrau mwy hygyrch er mwyn helpu dysgwyr i ddechrau ar eu gyrfaoedd yn y sector pwysig hwn sy’n tyfu.”
Nodiadau:
- Caiff y fframweithiau prentisiaeth Lefel 3 presennol mewn gosod brics a gwaith saer ar safle eu diddymu ar 31 Hydref 2026.
- Caiff llwybrau prentisiaeth Lefel 3 newydd mewn crefft gosod brics a chrefft gwaith saer ar safle eu cyflwyno ym mis Awst 2027, gan gynnig cyfleoedd i gamu ymlaen i’r dysgwyr hynny sy’n cwblhau un o’r prentisiaethau sylfaen Lefel 2 newydd yn y galwedigaethau hyn yn llwyddiannus.
- Dylai dysgwyr sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i ddilyn prentisiaeth gysylltu â’u coleg addysg bellach neu eu darparwr prentisiaethau lleol.
- Mae prentisiaethau sylfaen newydd mewn gweithrediadau gwella adeiladau ac mewn sgaffaldio wrthi’n cael eu datblygu a byddant ar gael ar ddechrau 2027.
Find out more Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr yn lansio ffordd newydd o gynnal prentisiaethau yng Nghymru
Mae Medr wedi lansio proses newydd sydd â’r nod o greu cyfleoedd newydd i gynnal prentisiaethau o fis Awst 2027 ymlaen.
Bydd y Rhaglen Brentisiaethau newydd, am y tro cyntaf erioed, yn cynnig grantiau i rwydwaith o ddarparwyr sy’n gallu cynnal prentisiaethau mewn amrywiaeth o fframweithiau sector, o Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Gofalu am Anifeiliaid i Drafnidiaeth, Moduron, Peirianneg a Logisteg.
Hefyd, caiff y Rhaglen ei hategu gan ffordd newydd o gyllido fframweithiau prentisiaeth a fydd yn cynnig llwybrau cynnydd cliriach a mwy o hyblygrwydd yn y ffordd y cânt eu cynnal.
Mae’r Rhaglen newydd wedi cael ei datblygu yn dilyn ymgysylltu ac ymgynghori helaeth â dysgwyr, cyflogwyr, cyrff diwydiant, darparwyr a phartneriaid eraill ledled Cymru, a’i nod yw creu system brentisiaethau:
- sy’n ymateb yn gyflym i anghenion o ran sgiliau a blaenoriaethau economaidd
- y gall dysgwyr a chyflogwyr ei deall a’i defnyddio’n haws
- sy’n gwella’r profiad i ddysgwyr, gan gynnig llwybrau cynnydd cliriach, gwell cymorth, mwy o hyblygrwydd, a mwy o gyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg
- sy’n cynnwys cyflogwyr yn well yn y broses o lunio fframweithiau prentisiaeth.
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Mae’r Rhaglen Brentisiaethau wedi sicrhau buddion sylweddol i ddysgwyr, i gyflogwyr ac i Gymru.
“Wrth i’r rhaglen bresennol ddirwyn i ben, mae gennym gyfle i ailddylunio’r ffordd y caiff prentisiaethau eu cynnig yng Nghymru er mwyn rhoi adlewyrchiad gwell o ofynion y gweithlu a disgwyliadau dysgwyr sy’n datblygu’n barhaus, ac achub ar y cyfleoedd y mae creu Medr wedi’u cyflwyno i’r dirwedd addysg drydyddol a sgiliau.
“Rydyn ni wedi gwrando ar yr hyn a ddywedodd dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr wrthym yn ystod ein hymgynghoriad ar ddyfodol prentisiaethau yng Nghymru. Mae’r rhaglen newydd yn adlewyrchu’r adborth hwnnw, a bydd yn fwy ymatebol i’r galw gan gyflogwyr, yn cefnogi dysgwyr drwy gydol eu gyrfaoedd, ac yn helpu Cymru i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol.
“Mae’r rhaglen newydd yn cynnig cyfleoedd newydd i ddarparwyr sy’n gallu dangos bod ganddynt y gallu sefydliadol, yr arweinyddiaeth, y gwydnwch ariannol a’r capasiti cyflwyno sy’n angenrheidiol i weithio mewn partneriaeth i gyflwyno darpariaeth prentisiaethau Cymru o 2027 ymlaen.
“I gyflogwyr, nod y rhaglen newydd yw ymateb i anghenion y gweithlu a helpu i ddatblygu sgiliau ledled Cymru.
“Gall prentisiaid y presennol a’r dyfodol fod yn hyderus y bydd hyn yn arwain at ddysgu o ansawdd da, cyfleoedd i wneud cynnydd, a chanlyniadau cadarnhaol a fydd yn eu paratoi fwyfwy ar gyfer byd gwaith sy’n newid.”
Mae manylion llawn am y broses gwneud cais i ddarpar ddarparwyr, cymhwysedd a chyllid i’w gweld ar wefan Medr:
Y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: cais am grantNodiadau
Gall amrywiaeth o sefydliadau wneud cais, gan gynnwys darparwyr presennol, newydd-ddyfodiaid, sefydliadau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch, sefydliadau elusennol, sefydliadau’r sector cyhoeddus a phartneriaethau cydweithredol.
Rhaid i ddarpar ddarparwyr gyflwyno cais cychwynnol er mwyn dangos eu bod yn bodloni amodau cyllid Medr erbyn 2 Hydref 2026.
Caiff digwyddiad gwybodaeth ar-lein ei gynnal am 11:00 ar 8 Medi 2026 ar gyfer darpar ddarparwyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais i gynnal y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru. Gellir trefnu lle yn y digwyddiad hwn drwy Eventbrite.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/44: Y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: cais am grant
Crynodeb
Mae’r ddogfen hon yn darparu gwybodaeth i sefydliadau sy’n dymuno gwneud cais am y grant Rhaglen Brentisiaethau newydd yng Nghymru, sydd i ddechrau ym mis Awst 2027.
Mae’n nodi gofynion y rhaglen, y broses ymgeisio a’r trefniadau asesu.
Bydd y grantiau cychwynnol yn cael eu dyfarnu am gyfnod o bedair blynedd.
Diben y Rhaglen Brentisiaethau newydd
Diben y Rhaglen Brentisiaethau yw sicrhau darpariaeth prentisiaethau o ansawdd uchel sy’n bodloni anghenion dysgwyr, cyflogwyr ac economi Cymru yn y presennol a’r dyfodol.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gefnogi darparwyr a all ddangos y gallu trefniadol, yr arweinyddiaeth, y gwydnwch ariannol a’r capasiti darparu sydd ei angen i weithredu fel partneriaid strategol o fewn system addysg drydyddol Cymru.
Egwyddorion dylunio
Mae dyluniad y rhaglen brentisiaethau wedi’i seilio ar ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid a gwersi a ddysgwyd o drefniadau comisiynu prentisiaethau blaenorol.
Mae sawl egwyddor allweddol wedi llywio datblygiad y rhaglen:
- Rhaglen i bob oed (16 oed a hŷn)
- Yn darparu prentisiaethau o ansawdd uchel o lefel 2 i lefel 6
- Yn ymateb i newidiadau i’r galw am sgiliau ar draws yr economi ac i anghenion rhanbarthol o ran sgiliau
- Yn ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sgiliau, gan gynnwys ymateb i dechnolegau sy’n newid a sgiliau gwyrdd
- Yn bodloni anghenion dysgwyr a chefnogi eu dilyniant drwy’r system addysg drydyddol ac i mewn i’w gyrfa ddewisol a thrwy gydol yr yrfa honno
- Hyblyg ac ymatebol, gan sicrhau bod y cymwysterau a’r sgiliau cywir yn cael eu darparu i fodloni anghenion cyflogwyr, dysgwyr a’r economi
- Yn darparu prentisiaethau cynhwysol sy’n hygyrch i ddysgwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys rhai â nodweddion gwarchodedig ac sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol
- Yn cynyddu cyfleoedd i bob prentis ddatblygu, cynnal a defnyddio eu sgiliau Cymraeg drwy gydol eu hyfforddiant a’u cyflogaeth, gan eu galluogi i gyfrannu at weithlu sy’n gynyddol ddwyieithog
- Yn cynnig darpariaeth o ansawdd uchel sy’n cryfhau deilliannau a chyrhaeddiad dysgwyr.
Sut i ymgeisio
Mae’r Rhaglen Brentisiaethau a gyllidir drwy grant wedi’i threfnu o amgylch tair elfen gyflwyno:
- Elfen 1 – Y Rhaglen Brentisiaethau Graidd – cyflwyno fframweithiau sy’n arwain at gymwysterau rheoleiddiedig ar lefelau 2-5.
- Elfen 2 – Rhaglen Prentisiaethau Gradd – cyflwyno fframweithiau sy’n arwain at raddau ar lefel 2 a ddyfernir gan brifysgolion.
- Elfen 3 – Rhaglen Prentisiaethau â Chymorth (Mae prentisiaethau â chymorth yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i brentisiaid ag anghenion cyflogaeth a dysgu cymhleth, gan eu galluogi i gwblhau eu prentisiaethau’n llwyddiannus.)
Bydd angen i ddarparwyr wneud cais ar wahân ar gyfer pob un o dair elfen y rhaglen.
Cwblhewch yr holl gwestiynau perthnasol ar y ffurflen gais yn Atodiad A.
Applications may be submitted by organisations that can demonstrate the legal, financial, governance and operational capability required to deliver apprenticeship provision within Wales.
Gall sefydliadau cymwys gynnwys:
- Sefydliadau Addysg Bellach (Elfen 1 a 3)
- Sefydliadau Addysg Uwch (Elfen 1 a 2)
- Darparwyr Hyfforddiant Annibynnol (Elfen 1 a 3)
- Sefydliadau Elusennol a Di-elw (Elfen 1 a 3)
- Sefydliadau’r Sector Cyhoeddus (Elfen 1 a 3)
- Partneriaethau Cydweithredol a Chonsortia (Elfen 1 a 3)
Dyddiad cau a rhagor o wybodaeth
Y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yw:
- Cam 1 – 02 Hydref 2026
- Cam 2 – 31 Rhagfyr 2026
Cynhelir digwyddiad gwybodaeth ar-lein am 11:00 ar 8 Medi 2026 ar gyfer darparwyr posibl sydd â diddordeb mewn cyflwyno cais i gyflwyno’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru. Gellir archebu lle yn y digwyddiad drwy Eventbrite.
Sesiwn ar-lein: 08 Medi 2026 Cwestiynau CyffredinMedr/2026/44: Y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: cais am grant
Dyddiad: 01 Medi 2026 (wedi’u ddiweddaru 01 Hydref 2026)
Cyfeirnod: Medr/2026/44
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol yng Nghymru; Darparwyr Hyfforddiant Annibynnol; Sefydliadau Elusennol a Di-elw; Sefydliadau’r Sector Cyhoeddus; Partneriaethau Cydweithredol a Chonsortia
Ymateb erbyn: Cam 1 – 02 Hydref 2026; Cam 2 – 31 Rhagfyr 2026
Wedi’u ddiweddaru 01 Hydref 2026: Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 29 Medi 2026 ynghylch dyfodol y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd, rydym yn deal y gallai fod angen i rai ymgeiswyr ddiweddaru rhywfaint o’u gwybodaeth ariannol. O ganlyniad, mae gan ddarparwyr tan 09 Hydref 2026 bellach i gyflwyno eu tystiolaeth o amodau cynaliadwyedd ariannol cyllid i Medr. Rhaid cyflwyno pob elfen arall o’r cais grant erbyn 02 Hydref 2026 o hyd.
Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn darparu gwybodaeth i sefydliadau sy’n dymuno gwneud cais am y grant Rhaglen Brentisiaethau newydd yng Nghymru, sydd i ddechrau ym mis Awst 2027.
Mae’n nodi gofynion y rhaglen, y broses ymgeisio a’r trefniadau asesu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nogfennau canllaw ategol y rhaglen.
Medr/2026/44 Y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru: cais am grant v2Dogfennau eraill
- Medr/2026/44 Atodiad A – Y Rhaglen Brentisiaethau: Cais am Grant
- Medr/2026/44 Atodiad B – Rhaglen Brentisiaethau Graidd (Elfen 1)
- Medr/2026/44 Atodiad C – Prentisiaethau Gradd: Canllaw ar Raglen (Elfen 2)
- Medr/2026/44 Atodiad D – Prentisiaethau â Chymorth: Canllaw ar y Rhaglen (Elfen 3)
- Medr/2026/44 Atodiad E – Fframwaith Asesu Grantiau a Sgorio
- Medr/2026/44 Atodiad F – Y Broses Apelio
- Medr/2026/44 Atodiad G – Fframweithiau Sector a Llwybrau Prentisiaethau
- Medr/2026/44 Atodiad H – Rhestr Termau
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioSta/Medr/13/2026: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Chwefror i Ebrill 2026 (dros dro)
Pwyntiau allweddol
Ystadegau Swyddogol a gyhoeddwyd ar 20 Awst 2026. Ceir y diweddariad nesaf ym mis Chwefror 2027.
- Dechreuodd 4,525 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch3 2025/26 (p), o gymharu â 3,915 yn Ch3 2024/25.
- Ymhlith y prentisiaethau uwch y gwelwyd y cynydd mwyaf o gymharu â Ch3 y flwyddyn gynt, sy’n cynyddu o 28% (p).
- Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch3 2025/26 (p) hefo 2,415 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 53% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Roedd 66% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr gwrywaidd yn Ch3 2025/26 (p), roedd hyn wedi gostwng 1 pwynt canran o gymharu â Ch3 2024/25.
- Roedd 46% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr 25 i 39 oed yn Ch3 2025/26 (p) o gymharu â 44% yn Ch3 y flwyddyn gynt.
- Roedd 18% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch3 2025/26 (p), roedd hyn wedi cynyddu 2 pwynt canran o gymharu â Ch3 2024/25
- Roedd 13% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch3 2025/26 (p) gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu, dim newid o gymharu â Ch3 2024/25.
- Roedd 24% o’r dysgwyr a ddechreuodd raglenni dysgu prentisiaeth yn ddysgwyr sy’n byw yn y 20% o gymdogaethau â’r mwyaf o amddifadedd yng Nghymru yn 2025/26 Ch3 (p).
- Mae 96,255 o brentisiaethau wedi’u dechrau rhwng Mai 2020 ac Ebrill 2026, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru yn y tymor Senedd blaenorol o 100,000 o brentisiaethau. Gan gynnwys y dysgwyr a ddechreuodd raglenni na chânt eu cyfrif fel rhan o’r mesur mwy trwyadl ar gyfer y targed, dechreuodd gyfanswm o 105,570 o ddysgwyr brentisiaethau yn ystod y cyfnod.
- Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n ar gyfer tymor y Senedd 2021 i 2026 wedi cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.
Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y flwyddyn ariannol 2023-24 yn £139m ac yn £144m yn 2024-25 (Ffynhonnell: Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026).). Yn ystod blynyddoedd blaenorol, roedd cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (£43m yn 2023-24 Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026). Fe ddaeth hyn i ben erbyn y flwyddyn ariannol 2024-2025.
Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiolSta/Medr/13/2026: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Chwefror i Ebrill 2026 (dros dro)
Ystadegau swyddogol
Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/13/2026
Dyddiad: 20 Awst 2026
Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data yn ôl rhanbarth cartref, math o raglen, oedran, sector, rhywedd, a blwyddyn academaidd.
Sta/Medr/13/2026 Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Chwefror i Ebrill 2026 (dros dro)Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/43: Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2026/27
Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru
1. Fel a nodir yn ein Cynllun Strategol, mae Medr yn ymrwymedig i ddatblygu amgylcheddau ymchwil â diwylliannau cadarnhaol sy’n denu ac yn cadw’r ymchwilwyr a’r arloeswyr gorau o bob rhan o’r byd. Rydym yn uchelgeisiol ar gyfer ein sector ymchwil yng Nghymru. Mae arnom eisiau i Gymru fod yn adnabyddus fel lle gwych i wneud ymchwil sydd, trwy gydweithio, yn sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.
2. Mae datblygiad a chynaliadwyedd diwylliannau ymchwil iach mewn prifysgolion yn allweddol i gefnogi ymchwil ragorol. Mae hefyd yn bwysig yn ei rinwedd ei hun. Mae arnom eisiau cefnogi’r gweithlu amrywiol sy’n cyfrannu at ymchwil, gan gynnwys staff technegol a phroffesiynol. Trwy ein cyllid, a’n gwaith gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys cyrff cyllido’r DU ar REF 2029, byddwn yn rhoi anogaeth ar gyfer amgylcheddau ymchwil sy’n ategu uniondeb, amrywiaeth, cynwysoldeb, llesiant, iechyd meddwl a pharch.
3. Mae cyllid WREC yn darparu cymorth wedi’i neilltuo ar gyfer gwella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil. Fodd bynnag, mae Medr yn disgwyl y dylai cynnal diwylliant iach fel rhan annatod o weithgarwch ymchwil ac arloesi a’i gefnogi’n chael ei gefnogi’n strategol drwy gyllid craidd ar gyfer ymchwil ac arloesi.
4. Dyrennir y bydsoddiad o £200,000 i brifysgolion Cymru i gefnogi prosiectau, rhaglenni a gweithgareddau sy’n cyfrannu’n weithredol at gefnogi neu ddatblygu diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil cadarnhaol ac iach. Gellid defnyddio’r cyllid hwn i estyn prosiectau presennol, a hefyd ar gyfer gweithgareddau a seilwaith newydd.
5. Ar gyfer y pedwerydd flwyddyn hon o gyllid, byddem yn annog sefydliadau i barhau i wreiddio ffordd werthusol o feddwl yn eu gweithgareddau i ddeall deilliannau ac effeithiau eu gweithgareddau diwylliant ymchwil. Y rheswm dros hyn yw er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau’n gwneud newidiadau pendant i ddiwylliant ymchwil neu’n esgor ar wersi ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio. Yn y flwyddyn academaidd hon mae gennym ddiddordeb yn neilliannau gwerthusiadau interim. Bydd Medr yn paratoi gwerthusiad o’r gronfa WREC yn 2027 ac mae’n bosib y byddwn yn geisio trafodaethau dilynol yn seiliedig ar eich cyflwyniadau monitro.
6. Wrth benderfynu sut i ddefnyddio dyraniadau, dylai sefydliadau barhau i gyfeirio at y tair thema a amlinellir yn y tabl isod. Mae’r rhain yn seiliedig ar themâu a ddatblygwyd trwy ymgysylltu â sectorau ymchwil Cymru a’r DU. Nid rhestr gynhwysfawr mo hon ac anogir sefydliadau i ddefnyddio’r cyllid yn hyblyg gan ystyried eu blaenoriaethau strategol, ac egwyddorion ehangach sy’n ymwneud â gwella diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil.
| Themâu | Is-feysydd posibl i gyd-fynd â hynny |
|---|---|
| Creu Diwylliant/ Diwylliannau Ymchwil Cadarnhaol | • Gwobrwyo a chydnabod ymddygiadau cadarnhaol • Adnabod sut y mae diwylliant ymchwil cadarnhaol yn edrych gan gynnwys ar gyfer llesiant ac iechyd meddwl • Gwerthfawrogi gweithgarwch ymchwil amrywiol • Datblygiad gyrfa ymchwilwyr a phroffesiynau cysylltiedig • Cymorth ar gyfer prosesau pontio gyrfaol, mandylledd gyrfaol a symudedd rhwng sectorau • Datblygu fframweithiau diwylliant ymchwil • Gwella seilwaith a chapasiti i roi cymorth i ennill mwy o grantiau ymchwil • Mynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu • Colegoldeb a pherthyn • Gwerthfawrogi’r ystod lawn o brofiadau, sgiliau a chyfraniadau gan bawb sy’n cyfrannu at ymchwil |
| Gwreiddio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant | • Deall ac ymdrin â rhwystrau i gynhwysiant ar gyfer ymgeiswyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y cyflenwad o dalent ymchwil gyda golwg ar sicrhau bod yr amgylchedd ymchwil yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn deg i bawb • Cydnabod yr holl gyfraniadau gan staff a’r fframweithiau llwybrau gyrfa ar eu cyfer, gan gynnwys ar gyfer staff â chontractau am gyfnod penodedig, staff technegol a staff sy’n galluogi ymchwil • Gwella mynediad at ymchwil a chyfranogiad mewn ymchwil o blith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol • Deall ac ymdrin â’r heriau a brofir gan y rhai a all fod yn profi anfanteision lluosog |
| Ymchwil Gyfrifol | • Uniondeb, bod yn agored a moeseg • Gwella’r modd y cynhelir ymchwil a’i atgynyrchioldeb • Asesu a diwygio ymchwil • Cydweithio a chynnull sefydliadau i rannu arfer • Atgynyrchioldeb metrigau |
Cynhwysiant
7. Mae gan y sector ymchwil rôl bwysig o ran cefnogi Cymru gynhwysol, gan gynnwys cyfleoedd i wella cymorth i staff a myfyrwyr sy’n profi anfantais ar hyn o bryd. Mae dyletswydd strategol ar Medr i hybu cyfle cyfartal ac rydym wedi nodi ymrwymiadau a chamau gweithredu i gyflawni hyn yn ein Cynlluniau Strategol a Gweithredol. Mae Medr yn datblygu system reoleiddio newydd sy’n cynnwys amodau ar les staff a myfyrwyr a chyfle cyfartal.
8. Bydd hi’n ofynnol i ddarparwyr addysg uwch gydymffurfio â’r amodau hyn, gan gynnwys fel y maent yn berthnasol i ymchwil. Mae Medr yn disgwyl i gyllid WREC gael ei ddefnyddio i ymdrin â rhwystrau i gynhwysiant ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y cyflenwad o dalent ymchwil ac i ddatblygu amgylchedd ymchwil cefnogol a chynhwysol, sy’n gwerthfawrogi cyfraniad staff academaidd, staff sy’n galluogi ymchwil a staff cymorth ymchwil, a staff gwasanaethau proffesiynol.
9. Rydym yn croesawu’n arbennig weithgareddau sy’n cynorthwyo pobl sydd â nodweddion gwarchodedig i gael mynediad cyfartal at yrfaoedd ymchwil boddhaus ac i gyfranogi mewn ymchwil fel dinasyddion, gan gyfrannu at strategaethau a chynlluniau Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb gan gynnwys, ymhlith eraill, y Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
10. Rydym hefyd yn croesawu gweithgareddau sy’n gwneud cynnydd tuag at nodau a chamau gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ac yn ystyried ymrwymiadau’r sefydliad yng nghynllun gweithredu ei siarter cydraddoldeb hil. Rydym yn disgwyl gweld myfyrwyr a staff ymchwil yn cael eu cynnwys yn strategaethau a chynlluniau gweithredu llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, sefydliadau, sy’n ofynnol trwy gyllid llesiant ac iechyd Medr: Medr/2026/33: Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2026/27.
11. Disgwylir i sefydliadau sicrhau bod myfyrwyr ymchwil a staff yn cael eu cynnwys yn strategaethau a chynlluniau gweithredu lles a iechyd y sefydliadau, gan gynnwys iechyd meddwl, sy’n ofynnol trwy arian lles ac iechyd Medr: Medr/2026/37: Cyllid llesiant ac iechyd meddwl addysg uwch 2026/27.
12. Mae Medr yn mynd ati’n frwd i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn ymchwil, nid dim ond i feithrin amgylchedd cyfoethog a chynhwysol sy’n adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol Cymru, ond hefyd gan gydnabod y dyletswyddau statudol a osodir ar sefydliadau i gefnogi’r Gymraeg a darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Gellir defnyddio cyllid WREC i gefnogi gweithgareddau i roi anogaeth ar gyfer ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhannu gwersi ac arferion da
13. Mae Medr yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio ar draws y sector i ddatblygu diwylliannau ymchwil cadarnhaol a rôl sefydliadau megis Rhwydwaith Arloesi Cymru (WIN), Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a Prifysgolion Cymru. Rydym yn gweithio trwy bartneriaethau a gyllidir gyda’r sefydliadau hyn i barhau i gefnogi cymunedau amrywiol i achosi newid. Anogir sefydliadau’n gryf i gydweithio ac adeiladu ar weithgareddau presennol sy’n cefnogi diwylliannau ymchwil cadarnhaol, er enghraifft: Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr (Cymdeithas Ddysgedig Cymru).
14. Yn ystod 2025/26, cefnogodd Medr Gymdeithas Ddysgedis Cymru trwy’r Gronfa Gydweithredol i gyflwyno’r Cynllun Grant Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil. Fel rhan o Gronfa WREC ehangach, mae’r Gronfa Gydweithredol yn hybu diwylliant ymchwil drwy gyfuniad o weithgareddau a arweinir gan sefydliadau a gweithgareddau a arweinir gan y gymuned. Bydd y cefnogaeth hon yn parhau yn 2026/27.
15. Mae diwylliant ymchwil cadarnhaol a chynhwysol yn hanfodol i ddatblygu cenhadaeth ddinesig prifysgolion yng Nghymru. Trwy feithrin amrywiaeth, tegwch, a chydweithio, mae prifysgolion yn galluogi ymchwil sy’n ymatebol yn gymdeithasol ac yn cael ei llywio gan y gymuned a honno’n dwyn manteision cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ystyrlon i Gymru a’i chymunedau. Mae amgylcheddau cynhwysol hefyd yn gallu cefnogi dulliau ymgysylltu arloesol, gan rymuso ymchwilwyr i gyd-greu gwybodaeth a datrysiadau gyda phartneriaid allanol.
Dyraniadau sefydliadol
16. Mae’r dull a ddefnyddir i ddyrannu cyllid ar gyfer 2026/27 yn seiliedig ar ddata staff a myfyrwyr HESA 2024/25:
- Nifer y staff CagALl ar gontractau ymchwil-yn-unig yn y sefydliad addysg uwch
- Nifer y staff CagALl ar gontractau addysgu ac ymchwil yn y sefydliad addysg uwch
- Nifer y myfyrwyr ymchwil ôl-radd yn y sefydliad addysg uwch
17. Defnyddir isafswm dyraniad o £5k i sicrhau bod gan bob prifysgol ddyraniad defnyddiadwy i wella eu diwylliannau ac amgylcheddau ymchwil. Mae data HESA a ddefnyddiwyd wedi cael ei wirio gan brifysgolion.
| Sefydliad | CagALl: Contractau Ymchwil | CagALl: Contractau Addysgu ac Ymchwil | CagALl: Myfyrwyr Ymchwil Ôl-radd | CagALl: Cyfanswm | CagALl: Dyraniad |
|---|---|---|---|---|---|
| Prifysgol De Cymru | 56.595 | 667.857 | 197.59 | 922 | £18,974 |
| Prifysgol Aberystwyth | 99.848 | 277.406 | 247.982 | 625 | £12,866 |
| Prifysgol Bangor | 168.63 | 276.204 | 510.625 | 955 | £19,662 |
| Prifysgol Caerdydd | 855.976 | 1,361.392 | 1,578.527 | 3796 | £78,114 |
| Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant | 33.849 | 354.494 | 347.715 | 736 | £15,147 |
| Prifysgol Abertawe | 366.817 | 602.350 | 681.284 | 1,650 | £33,964 |
| Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 28.991 | 568.069 | 169.468 | 767 | £15,774 |
| Prifysgol Wrecsam | 3.544 | 219.114 | 44.494 | 267 | £5,498 |
| Cyfanswm | 1,614.250 | 4,362.886 | 3,777.685 | 9,719 | £200,000 |
18. Mae Medr yn nodi nad yw methodoleg dyrannu cyllid WREC yn benodol yn cynnwys staff sy’n cefnogi ymchwil megis rhai o’r gymuned dechnegol, a staff gwasanaethau proffesiynol. Mae Medr yn cydnabod cyfraniadau hollbwysig yr aelodau hyn o staff i ddiwylliannau ymchwil a’r amgylchedd ymchwil.
Trefniadau Monitro Cronfa WREC
19. Bydd taliadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 yn cael eu gwneud ym mis Awst 2026. Mae Medr yn disgwyl sicrwydd ynghylch y prosiectau a’r gweithgareddau a gyflawnir trwy’r gronfa hon. Dylai dyraniadau gael eu gwario’n llawn ym mlwyddyn academaidd 2026/27.
20. Dylai sefydliadau gwblhau ffurflen fonitro cyllid WREC yn Atodiad A erbyn 24 Medi 2027:
- Rhan 1 – Cyd-destun Strategol: dynodwch gyd-destun strategol y diwylliant ymchwil yn eich sefydliad.
- Rhan 2 – Meysydd Thematig: dynodwch sut y mae’r gweithgareddau/prosiectau’n cyd-fynd â’r meysydd thematig a amlinellir ym mharagraff 7, a pha un: 1. a fyddai gweithgareddau wedi digwydd heb y cyllid, 2. a ddigwyddodd gweithgareddau trwy ddarparu cyllid WREC yn unig, ynteu 3. a allai gweithgareddau fod wedi digwydd heb y cyllid, ond i raddau llai.
- Rhan 3 – Gwerthuso: eglurwch effeithiolrwydd ac effaith y prosiectau/gweithgareddau.
- Rhan 4– Cadarnhad: cadarnhewch fod cyllid WREC wedi cael ei wario yn unol â’r wybodaeth a amlinellir yn y cyhoeddiad hwn.
21. Bydd gwybodaeth a gyflwynir gan sefydliadau yn eu hadroddiadau’n sail i dystiolaeth i ategu penderfyniadau ynghylch cyllidebau a chymorth ar gyfer y diwylliant a’r amgylchedd ymchwil ledled Cymru yn y dyfodol.
22. Rydym yn croesawu cyflwyno adroddiadau monitro yn Gymraeg.
Rhagor o wybodaeth
23. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).
Asesu effaith
24. Rydym wedi cynnal asesiad o’r effaith i helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred. Fe wnaethom hefyd ystyried effaith y polisi hwn ar y Gymraeg, darpariaeth yn y Gymraeg yn y sector AU yng Nghymru, nodweddion economaidd-gymdeithasol ac effeithiau posibl tuag at y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Medr/2026/43: Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2026/27
Dyddiad: 13 Awst 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/43
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru
Ymateb erbyn: 24 Medi 2027
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu manylion dyraniadau sefydliadol cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2026/27.
Bydd cyllid WREC yn cael ei ddyrannu i brifysgolion Cymru sy’n derbyn cyllid Ymchwil o Ansawdd (QR) (fel a nodir yn Medr/2026/16: Buddsoddiad Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27). Disgwylir i gyllid WREC barhau tan 2027/28, yn amodol ar gyllidebau yn y dyfodol. Mae dyraniadau blwyddyn academaidd 2026/27 yn seiliedig ar ddata o gofnod staff a myfyrwyr HESA 2024/25.
Medr/2026/43 Cronfa Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) 2026/27Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioBlog: Datblygu’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant
Yng Nghynllun Strategol Medr 2025-2030, fe wnaethon ni nodi ein huchelgais hirdymor i wella llesiant dysgwyr. Mae creu Medr, a’n gallu i weithio drwy’r sector addysg drydyddol ac ymchwil cyfan, yn creu cyfle unigryw i sicrhau cysondeb a chydlyniant yn y cynnig llesiant sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru, a chefnogi disgwyliadau cliriach o ran pa gymorth y gallan nhw ei ddisgwyl.
Mae cyhoeddi’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant yn gam pwysig ymlaen i ni tuag at wireddu’r uchelgais hwn.
Dechreuodd y broses o ddatblygu’r Fframwaith â’r cwestiwn: sut y gall Cymru hybu mwy o gysondeb mewn cymorth iechyd meddwl a llesiant i ddysgwyr heb greu baich diangen na’i gwneud hi’n ofynnol i ddarparwyr roi’r gorau i ffyrdd effeithiol o weithredu sydd eisoes ar waith? Fe wyddom ni o’n gwaith gyda darparwyr a rhanddeiliaid fod darparwyr addysg drydyddol yn gweithredu mewn cyd-destunau gwahanol iawn sydd ag anghenion dysgwyr, strwythurau ac adnoddau gwahanol. Roedd rhanddeiliaid yn glir bod angen i unrhyw fframwaith cyffredin ychwanegu gwerth, osgoi dyblygu a gweithio ar gyfer addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned drwyddynt draw.
Gan gydnabod yr amrywiaeth hon, fe wnaethon ni ddechrau ar ein gwaith ar y Fframwaith drwy adolygu’r dystiolaeth a oedd ar gael, arferion yn y sector a modelau gwelliant a oedd wedi ennill eu plwyf gan ddefnyddio dull damcaniaeth newid. Er bod llawer o enghreifftiau o fframweithiau iechyd meddwl a llesiant yn y sector addysg drydyddol, ni fyddai’r un fframwaith a oedd eisoes yn bodoli yn gallu cael ei fabwysiadu’n uniongyrchol. Yn lle hynny, fe wnaethon ni ddefnyddio’r fframweithiau hynny a oedd eisoes yn bodoli i brofi rhagdybiaethau, strwythuro trafodaethau gweithdai a sicrhau bod y dull a oedd yn datblygu yn adlewyrchu’r ffactorau roedden ni’n gwybod eu bod nhw’n dylanwadu ar lesiant dysgwyr, gan gynnwys dysgu, cymorth, amgylchedd, cydberthnasau ac arweinyddiaeth.
Drwy’r gweithdai, daeth sawl thema i’r amlwg yn glir:
- dylai dysgwyr allu deall ble i droi am gymorth,
- ni ddylai fod yn ofynnol i ddarparwyr ddisodli trefniadau effeithiol sydd eisoes ar waith,
- dylai cymorth fod yn gymesur â’r cyd-destun,
- a dylai’r fframwaith ganolbwyntio ar brofiad dysgwyr yn hytrach na rhagnodi modelau gwasanaeth, lefelau staffio neu strwythurau sefydliadau.
Fe wnaeth y cyfranogwyr hefyd bwysleisio pwysigrwydd ffiniau clir, gan gydnabod bod darparwyr yn cyflawni rôl bwysig o ran cefnogi llesiant, ond nad ydyn nhw’n cymryd lle’r GIG, gofal cymdeithasol na gwasanaethau statudol eraill.
Roedd y trafodaethau hyn yn sail ar gyfer drafft o’r Fframwaith y gwnaethon ni ei brofi â darparwyr, cynrychiolwyr y sector, dysgwyr, Llywodraeth Cymru, Estyn a phartneriaid eraill. Fe wnaeth ymgysylltu â dysgwyr atgyfnerthu pwysigrwydd gwybodaeth glir, iaith syml, llwybrau cymorth gweladwy a gwell dealltwriaeth o’r hyn a fydd yn digwydd ar ôl gofyn am help. Hefyd, fe wnaeth yr adborth o’r ymgynghoriad atgyfnerthu’r pwyslais ar hygyrchedd, cyd-destunau dysgu seiliedig ar waith, arferion presennol yn y sector a’r angen i sefydlu’r Fframwaith fel dull cyffredin yn hytrach na gofyniad cydymffurfio newydd.
Fe gawson ni ein cefnogi ar y daith hon gan gyngor arbenigol Grŵp y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant. Fe ddaeth y grŵp â chynrychiolwyr ynghyd o feysydd addysg uwch, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, dysgu oedolion yn y gymuned, partneriaethau iechyd meddwl dysgwyr, GIG Cymru a chyrff y sector.
Mae’r Fframwaith sydd wedi cael ei lunio yn adlewyrchu’r mewnbwn cyfunol hwnnw. Y bwriad yw y bydd yn cynnig dull cyffredin sy’n addas ar gyfer dysgwyr o fewn cysyniad arfaethedig y Map Cymorth a fydd yn gallu eistedd ochr yn ochr â threfniadau presennol darparwyr. Bydd defnyddio Mapiau Cymorth yn golygu y bydd gofyn i ddarparwyr lenwi eu cynnig presennol mewn templed a fydd ar gael i ddysgwyr er mwyn helpu dysgwyr i ddeall yn well pa gymorth sydd ar gael, a chael gafael arno’n hyderus. Yn bwysig ddigon, mae’n canolbwyntio ar brofiad dysgwyr yn hytrach na model cyflawni cyffredin, gan alluogi darparwyr i barhau i adeiladu ar yr arferion effeithiol sydd eisoes ar waith, gan gydnabod nad yw’r un darparwr yn gweithio dan yr un amgylchiadau yn union.
Nid dyma ddiwedd y broses. Mae Medr yn gweld y Fframwaith fel sylfaen ar gyfer gwelliant a chydweithio parhaus. Fe fyddwn ni’n parhau i ymgysylltu â dysgwyr, darparwyr a phartneriaid er mwyn deall sut mae’n cael ei ddefnyddio’n ymarferol, rhannu gwersi a ddysgir a mireinio’r dull dros amser. Drwy ddatblygu momentwm ar y cyd a chynnal ffocws ar brofiad dysgwyr, rydyn ni’n gobeithio y bydd y Fframwaith hwn yn cyfrannu at ffordd fwy dealladwy, hygyrch a chyson o ymdrin â chymorth iechyd meddwl a llesiant ar gyfer dysgwyr ledled Cymru.
Fe hoffai Medr ddiolch i holl aelodau Gweithgor y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant am eu hamser, eu harbenigedd a’u hymroddiad drwy gydol y broses o ddatblygu’r Fframwaith hwn:
- Anne Jones – Cambrian Training
- Beth Allender – Rhaglen Partneriaeth Iechyd Meddwl Myfyrwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch
- Chris Laity – Prifysgolion Cymru
- Emma McCutcheon – educ8training
- Dr Emma Roberts – Cynghorydd – Prifysgol Salford
- Gemma Hartnoll – educ8training
- Hannah Wenden – Rhaglen Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, Perfformiad a Gwella GIG Cymru
- Ian Munton – Prifysgol Aberystwyth / AMOSSHE Cymru
- James Donaldson – Coleg Gŵyr Abertawe
- Kay Smith – Y Sefydliad Dysgu a Gwaith
- Marcus Westmoreland – Coleg Gŵyr Abertawe
- Robert Baynham – ColegauCymru
- Sally Lambah – Prifysgol Wrecsam / AMOSSHE Cymru
- Samantha Gunnarsson – Y Coleg Merthyr Tudful / Rhwydwaith Iechyd Meddwl Addysg Bellach
- Sarah Quibell – Cyngor Sir Powys / Rhwydwaith Dysgu Oedolion yn y Gymuned
- Tamara Garnault – Addysg Oedolion Cymru
Am sgwrs sy’n ymwneud â’r Fframwaith, e-bostiwch [email protected].
Sam Bowen
Uwch Reolwr Cydraddoldeb a Lles
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio