Medr yn lansio platfform digidol newydd – Adnoddau Medr

Mae Medr wedi lansio platfform gwybodaeth newydd heddiw ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn lleoliadau trydyddol yng Nghymru.

Bydd Adnoddau Medr yn gweithredu ochr yn ochr â gwefan Medr, ac yn caniatáu i weithwyr addysg proffesiynol gael mynediad at ddeunydd ategol fel pecynnau cymorth, astudiaethau achos a chanllawiau ymarferol.

Gellir cael at ddeunydd digidol sy’n ymwneud â phynciau fel cydraddoldeb, addysg awyr agored, dysgu digidol, iechyd meddwl a mwy trwy’r platfform.

I ddechrau, bydd y platfform hwn yn rhoi mynediad i ddefnyddwyr at ddeunydd a oedd ar gael ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru yn flaenorol, ac sy’n fwyaf perthnasol i staff sy’n gweithio ym meysydd addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned.

Dyma gam cyntaf newidiadau i’r ffordd y mae staff addysg drydyddol yn cael at ddeunydd proffesiynol gan Medr, a bydd yr ystod o ddeunyddiau yn cael ei datblygu dros amser.

Cynhelir Adnoddau Medr gan blatfform dysgu a datblygu digidol Thinqi. Mae’r holl ddeunydd ar gael yn gyhoeddus ar hyn o bryd, ac nid oes angen i ddefnyddwyr gofrestru na chreu cyfrif i gael at y cynnwys.

  • Adnoddau Medr ar gyfer adnoddau digidol i weithwyr addysg proffesiynol sy’n gweithio yn y sector trydyddol.
  • Hwb yw platfform Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector ysgolion o hyd, ac mae’n cefnogi cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Disgwylir i blatfform newydd Hwb gael ei lansio ar 27 Hydref.

Notes

Hwb is the Welsh Government’s education platform for schools in Wales, to support delivery of the Curriculum for Wales. The platform is designed for the maintained schools sector in Wales, providing access to content, online resources, digital tools and services. 

The Hwb platform was previously used as a repository for vocational and post-16 professional resources. This material is now hosted on Adnoddau Medr.

The initial collection in Adnoddau Medr gives Medr a foundation from which to develop its approach to sharing digital resources with the tertiary education and research sector in future.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Cyhoeddi pecyn cymorth newydd i hybu cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy mewn addysg uwch yng Nghymru

Mae pecyn cymorth ymarferol newydd sydd wedi’i fwriadu i helpu sefydliadau addysg uwch i wreiddio cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy fel rhan o’u haddysgu, eu darpariaeth gyrfaoedd a’u hymarfer sefydliadol wedi cael ei gyhoeddi, a hwnnw wedi’i gyllido gan Medr a’i olygu gan Advance HE.

Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy wedi deillio o gydweithio ar lefel Cymru gyfan a oedd yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, y Brifysgol Agored, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam. Mae’r pecyn cymorth, a ddatblygwyd dros 18 mis trwy Gymuned Ymarfer Cyflogadwyedd Cymru, yn tynnu ar astudiaethau achos ac arbenigedd ar draws sector addysg uwch Cymru ac mae wedi’i fwriadu i fod o ddefnydd ymarferol i unrhyw un sy’n gweithio mewn addysg drydyddol a sydd â chyfrifoldeb am ddarpariaeth cyflogadwyedd, neu ddiddordeb yn hynny.

Mae astudiaethau achos sydd wedi’u cynnwys yn y pecyn cymorth yn enghreifftio sut y mae cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy eisoes yn cael ei wireddu’n ymarferol ar draws prifysgolion Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys menter Marchnata Er Daioni Prifysgol Abertawe, lle mae myfyrwyr yn cymhwyso sgiliau marchnata digidol i brosiectau byw ar gyfer sefydliadau fel Ambiwlans Awyr Cymru; ‘Cynaliadwyathon’ y Brifysgol Agored, her wythnos o hyd sy’n ymdrin â phroblemau cynaliadwyedd go iawn; a rhaglen Lleoedd Newid Hinsawdd Prifysgol Bangor, sy’n cyfuno seminarau, gweithdai ac interniaethau â ffocws ar weithredu ar yr hinsawdd.

Croesawyd y cyhoeddiad gan Emma Mock, Pennaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn Medr:

“Mae’r pecyn cymorth hwn yn gam arwyddocaol ymlaen i gyflogadwyedd mewn addysg uwch yng Nghymru. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Medr i gynorthwyo’r sector addysg drydyddol i arfogi graddedigion â’r sgiliau a’r gwerthoedd y mae eu hangen ar gyfer byd gwaith sy’n newid yn gyflym, a gobeithio y bydd yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau ledled Cymru a’r tu hwnt..”

Meddai Stuart Norton, Pennaeth Rhagoriaeth Addysgol yn Advance HE, a arweiniodd y gwaith i ddatblygu’r pecyn cymorth:

“Mae hwn yn adnodd gwirioneddol ymarferol, wedi’i seilio’n uniongyrchol ar arbenigedd a phrofiad cydweithwyr ar draws chwe phrifysgol yng Nghymru, ac rwy’n ddiolchgar i bob un ohonynt am eu cyfraniadau. Mae graddedigion yn gynyddol yn ceisio gwaith sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd, ac mae ar sefydliadau angen offer i ymateb i’r newid hwnnw. Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy’n rhoi i addysgwyr a gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol fframwaith strwythuredig, y gellir ei addasu i wneud union hynny a gobeithio y bydd yn parhau i dyfu wrth i ragor o sefydliadau ychwanegu eu henghreifftiau hwy eu hunain o ymarfer.”

Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy

Nodiadau

Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy ar gael yn awr. Gwahoddir sefydliadau sy’n dymuno cyfrannu rhagor o astudiaethau achos neu enghreifftiau o ymarfer i gysylltu â [email protected].

Mae’r pecyn cymorth yn cynnig fframwaith eglur ac iddo bum cam – Archwilio, Adnabod a Chadarnhau, Tyfu neu Leihau yn Unol â’r Anghenion, Gweithredu a Gwerthuso, a Chyfrannu – i helpu sefydliadau i asesu eu darpariaeth gyfredol o ran Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy a’i datblygu ymhellach. Mae wedi’i wreiddio yn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan adlewyrchu ymrwymiad deddfwriaethol unigryw Cymru i feddwl am yr hirdymor lle mae pobl, cymunedau a’r blaned yn y cwestiwn.

Er bod yr astudiaethau achos yn dod o sefydliadau yng Nghymru, mae’r pecyn cymorth wedi’i fwriadu i fod yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan rychwantu dysgu ac addysgu, ymchwil, gwasanaethau gyrfaoedd a menter.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/46: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC)

Cyflwyniad

1. Mae’r Gyfalaf Ymchwil Addysg Uwch wedi bod yn cael ei darparu i sefydliadau cymwys yng Nghymru ers 2011. Mae’r cyhoeddiad hwn yn hysbysu sefydliadau addysg uwch (SAU) am y dyraniadau ar gyfer 2026-2027 ac yn darparu canllawiau ar y gofynion adrodd a monitro cysylltiedig.

Cefndir

2. Mae’r Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach (yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg gynt) wedi cadarnhau y bydd yn darparu cyllid HERC i’r pedwar corff ariannu addysg uwch (AU) yn y DU yn 2026-2027. Bydd yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach yn darparu cefnogaeth o £3,985,554 yng Nghymru gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu arian cyfatebol, a fydd yn dod â chyfanswm y gronfa i £7,971,108.

Newidiadau i gyllid HERC

3. Ym mis Mawrth 2026, cadarnhaodd Gweinidog Gwyddoniaeth y DU mewn llythyr at Lywodraeth Cymru y byddai cyllid HERC i Gymru yn gostwng yn raddol rhwng 2026/27 a 2029/30, yn gysylltiedig â diwygiadau ehangach i gyllid cyfalaf Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI). Ar ôl 2026/27, bydd cyllid cyfalaf UKRI a ddarperir drwy Research England yn canolbwyntio ar gynnal cyfleusterau presennol, gyda chyllid ar gyfer offer a seilwaith newydd yn cael ei ddarparu drwy alwadau cystadleuol ledled y DU o dan arweiniad cynghorau ymchwil UKRI.

4. Disgwylir i ddyraniadau dangosol HERC yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach i Gymru leihau dros gyfnod yr adolygiad gwariant, o £3.99 miliwn yn 2026/27 i £2.44 miliwn erbyn 2029/30.

5. Er mwyn rhoi amser i Lywodraeth Cymru, Medr a’r SAU addasu i’r newidiadau hyn, mae’r Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach wedi sicrhau swm atodol at ddyraniadau HERC i Gymru am amser cyfyngedig. Mae’r cyllid ychwanegol hwn wedi’i gynnwys yn y dyraniadau ar gyfer 2026-2027, gan ganiatáu gostyngiad arafach er mwyn cefnogi’r cyfnod pontio.

6. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd HERC yn cael ei gyfyngu i waith cynnal a chadw yn unig; bydd SAU yng Nghymru yn parhau i fod â’r hyblygrwydd i wneud penderfyniadau strategol ynghylch sut i fuddsoddi HERC yn eu seilwaith ymchwil.

Defnyddio cyllid

7. Mae’r cyllid a ddarperir o dan HERC yng Nghymru wedi’i fwriadu ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn y seilwaith ffisegol ar gyfer ymchwil yn unig. Mae ymchwil yn cynnwys ‘ymchwil gwyddonol’ (sef ymchwil a datblygiad mewn unrhyw un o’r gwyddorau, gan gynnwys gwyddorau cymdeithasol neu dechnoleg (adran 6(1) o Ddeddf Gwyddoniaeth a Thechnoleg 1965)) ac ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau.

8. Wrth benderfynu sut i ddefnyddio’r dyryniadau, dylai sefydliadau ystyried y blaenoriaethau a’r uchelgeisiau a nodir yng Nghynllun Strategol Medr 2025-2030, Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru sydd ar ddod (i’w chyhoeddi yn hydref 2026) a’r Strategaeth Arloesi (Cymru’n Arloesi), a Fframwaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Strategaeth Ddiwydiannol a Strategaeth UKRI Llywodraeth y DU. Dylid ystyried hefyd sut y caiff cyllid ei ddefnyddio i gefnogi uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dyraniadau

9. Caiff cyllid Yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach a Llywodraeth Cymru eu dyrannu ar wahân:

  1. Dyrennir elfen Yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach o’r cyllid gan ddefnyddio data tair blynedd mwyaf diweddaraf yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar incwm Cyngor Ymchwil UKRI. Yn unol â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach gyda Medr a Llywodraeth Cymru, dylai cyllid ganolbwyntio ar gynnal adrannau rhagorol sydd â màs critigol i gystadlu’n fyd-eang a’r arbenigedd i weithio’n agos gyda busnesau, elusennau a gwasanaethau cyhoeddus.
  2. Caiff elfen Llywodraeth Cymru o’r grant ei dyrannu pro-rata i gyfuniad o’r dyraniadau ymchwil cysylltiedig ag ansawdd rheolaidd diweddaraf ynghyd ag incwm ymchwil arall a adroddwyd i gofnod cyllid HESA gan y darparwr yn 2022/23, 2023/24, a 2024/25.  Defnyddiwyd y dyraniad ymchwil cysylltiedig ag ansawdd ar gyfer 2026/27 yn y fformiwla ariannu ar gyfer HERC 2026-27.

Trothwy ariannu

10. Er mwyn bodloni gofyniad yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach bod y gronfa’n cefnogi rhagoriaeth ac yn meithrin màs critigol, mae’r fformiwla’n cynnwys trothwy isaf o £100,000. Sefydliadau a gyfrifir i fod â dyraniadau sydd uwchlaw’r trothwy cymhwysedd hwn yn unig a fydd yn derbyn cyllid yn 2026-2027.

11. Gellir gweld y dyraniadau cyllid ar gyfer sefydliadau cymwys yn 2026-2027 yn Atodiad A.

Trefniadau monitro

12. Ym mis Chwefror 2026, cyflwynodd sefydliadau fanylion am eu blaenoriaethau ariannu HERC yn y dyfodol ar gyfer 2026-2027. Dylid cadarnhau’r buddsoddiadau hyn a chynlluniau posibl ar gyfer y dyfodol ar gyfer 2026-2027 drwy lenwi a chyflwyno’r ffurflen brisio yn Atodiad B.

  • Dylai Rhan 1 o’r ffurflen brisio adrodd ar y defnydd o gyllid a gadarnhawyd yn 2026-2027, gan gynnwys cyfanswm costau buddsoddiadau mawr a ddefnyddiodd gyllid HERC fel cyfraniad. Dylai sefydliadau ddangos lle mae cyllid HERC wedi galluogi a chymell capasiti ymchwil, wedi datblygu blaenoriaethau strategol, ac wedi caniatáu i sefydliadau gystadlu am gyllid ymchwil ac arloesi allanol yn fwy effeithiol.
  • Dylid defnyddio Rhan 2 o’r ffurflen brisio i amlinellu blaenoriaethau gwariant ar gyfer 2027-2028 yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd rhagor o gyllid HERC ar gael.
  • Rhaid dychwelyd Atodiad B i Medr erbyn 12 Chwefror 2027 fan bellaf.

13. Er mwyn cadarnhau bod HERC wedi’i wario’n llawn, gofynnir i sefydliadau cymwys gyflwyno’r ffurflen brisio Cadarnhau Gwariant yn Atodiad C erbyn 23 Ebrill 2027. Dylai sefydliadau sicrhau eu bod yn ei gwneud yn glir a oes unrhyw gyllid nad yw wedi’i wario wedi’i ymrwymo’n llawn ac, os felly, erbyn pa ddyddiad y bydd yn cael ei wario’n llawn. Gall Medr hawlio cyllid nad yw wedi’i wario sydd heb ei ymrwymo yn ôl.

14. Bydd yr wybodaeth a gyflwynir gan SAU yn yr adroddiadau hyn yn sail i ofynion adrodd Medr ar gyfer Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2027 a’r Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach ym mis Mai 2027. Gallai methiant i ddarparu manylion digonol am brosiectau a gwariant ohirio cadarnhad o ddyraniadau cyllid yn y dyfodol, neu ddangos diffyg effaith bosibl ar gyfer buddsoddiad HERC yng Nghymru a allai wanhau’r ddadl dros barhau i ariannu.

Trefniadau talu

15. Fel y nodwyd yn Atodiad A, bydd cyllid yn cael ei ddosbarthu ar ffurf dau daliad ym mis Medi 2026 ac ym mis Ionawr 2027.

Gwybodaeth/ymatebion pellach

16. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).

Asesu effaith ein polisïau

17. Rydym yn sgrinio asesiadau effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu ac er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb.Rydym hefyd yn ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg, y ddarpariaeth Gymraeg o fewn y sector AU yng Nghymru ac effeithiau posibl ar y nodau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys ein Hamcanion Llesiant. Cysylltwch â [email protected] am ragor o wybodaeth am asesiadau effaith.

Medr/2026/46: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC)

Dyddiad: 14 Medi 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/46

At: Penaethiaid sefydliadau addysg uwch

Ymateb erbyn:  12 Chwefror 2027 a 23 Ebrill 2027

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu manylion am ddyraniadau 2026-2027 ar gyfer sefydliadau sy’n gymwys i dderbyn cyllid Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch.

Medr/2026/46 Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2026-27

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/48: Ymgynghoriad pellach ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau

Cefndir

1. Ers 2025, mae Medr wedi bod yn cynnal ‘adolygiad dwfn’ o’r sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau, ochr yn ochr â chynnal adolygiad o’r fframweithiau prentisiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Yr amcan oedd pennu addasrwydd y Fframweithiau Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau, h.y. a ydynt yn diwallu angen y diwydiant ac yn diwallu anghenion sgiliau perthnasol sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau Cymru.

2. Bu ymgysylltu a chydweithio helaeth gyda darparwyr prentisiaethau, cyflogwyr, Cymwysterau Cymru a CITB (Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu) yn ystod pob cam o’r broses hon.

Yr ymgynghoriad

3. Lansiodd Medr ymgynghoriad ar 1 Gorffennaf 2026 (Medr/2026/31: Ymgynghoriad ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu). Rydym bellach yn ceisio sylwadau ar lwybr pellach, sef Gwaith Tir/Gweithrediadau Adeiladu (Atodiad A), a fydd yn rhan o’r Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu.

4. Nid oes cwestiynau gosod mewn perthynas â’r llwybrau eu hunain, gan yr hoffem i ymatebwyr rannu eich meddyliau’n rhydd, heb unrhyw gyfyngiadau ar yr ystod o faterion yr hoffech wneud sylwadau arnynt.

5. Yn fwy eang, dylai ymatebwyr ystyried y meysydd canlynol hefyd:

Y Gymraeg

6. A ellid newid y llwybrau newydd arfaethedig i gynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau andwyol, ar y canlynol:

  • Cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
  • Peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Effaith ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

7. A ellid newid y llwybrau newydd arfaethedig i gynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau andwyol, ar y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?

Effaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

8. A yw’r llwybrau newydd arfaethedig yn achosi unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol, neu ganlyniadau anfwriadol, o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant?

Ymatebion

9. Dylid e-bostio ymatebion i [email protected] erbyn 14 Hydref 2026.

Medr/2026/48: Ymgynghoriad pellach ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau

Dyddiad:  30 Medi 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/48

To: Yr holl ddarparwyr prentisiaethau yn y sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau yng Nghymru; Yr holl gyflogwyr yn y sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau yng Nghymru. 

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn prentisiaid cyfredol neu flaenorol.

Croesewir sylwadau gan ddarparwyr, cyflogwyr ac unigolion y tu allan i’r sector hwn hefyd.

Ymateb erbyn: 14 Hydref 2026

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyhoeddi ymgynghoriad pellach ar y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau. Y llwybr dan sylw yw Gwaith Tir/ Gweithrediadau Adeiladu.

Medr/2026/48 Ymgynghoriad pellach ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

O osod y sylfeini i gyflawni: Medr yn cyhoeddi adroddiad blynyddol 2025–26

2025–26 oedd blwyddyn lawn gyntaf Medr ar waith, gan nodi newid o bwys o’r sefydlu i gyflawni.

Dros y flwyddyn, buddsoddodd Medr fwy na £1 biliwn ar draws y sector addysg drydyddol ac ymchwil, gan gefnogi dros 320,000 o ddysgwyr ledled Cymru.

Ymhlith y cyflawniadau allweddol roedd:

  • Lansio fframwaith rheoleiddio Cymru ar gyfer y sector addysg drydyddol cyfan, y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, gan ddod â disgwyliadau o ran ansawdd, ymgysylltu â dysgwyr, llesiant, cydraddoldeb, darpariaeth Gymraeg, llywodraethu a chynaliadwyedd ariannol ynghyd mewn un system.
  • Arwain ymgynghoriad cenedlaethol ar ddyfodol prentisiaethau, gan ymgysylltu â dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr, a phennu blaenoriaethau clir ar gyfer rhaglen brentisiaethau fwy hyblyg, cynhwysol ac ymatebol.
  • Ehangu darpariaeth Prentisiaethau Iau ledled Cymru, gyda chymorth buddsoddiad o £600,000, gan helpu mwy o bobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio i fanteisio ar lwybrau galwedigaethol a gwella eu presenoldeb, eu hyder a’u cyfleoedd i symud ymlaen.
  • Cyhoeddi’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a chryfhau rôl llais dysgwyr ar draws y sector addysg drydyddol, gan sicrhau bod dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i gyfrannu’n ystyrlon at benderfyniadau a llywio eu profiadau dysgu eu hunain.
  • Buddsoddi £5 miliwn drwy’r Gronfa Datblygu Strategol, gan gefnogi 12 prosiect cydweithredol sy’n cwmpasu sgiliau, arloesi cwricwlwm, ynni glân, gallu digidol, gweithgynhyrchu uwch, a datblygu economaidd rhanbarthol.
  • Cryfhau’r sylfaen dystiolaeth a’r gallu i ddadansoddi, gan gynnwys cyhoeddi adroddiad cyntaf Medr ar gynaliadwyedd ariannol addysg uwch yng Nghymru a dadansoddiad newydd ar draws y system gyfan o’r galw am bynciau a’r ddarpariaeth ohonynt.
  • Ennill cydnabyddiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, a ddaeth i’r casgliad fod Medr wedi sefydlu sylfaen gadarn fel cynhyrchydd newydd o ystadegau swyddogol, ac a nododd enghreifftiau o arferion da. Roedd hyn yn gymeradwyaeth bwysig i allu’r sefydliad ym maes dadansoddi a data.
  • Bwrw ymlaen â blaenoriaethau strategol o ran tegwch, llesiant a’r Gymraeg, gan gynnwys amodau rheoleiddio newydd sy’n ymwneud â chyfle cyfartal, lles dysgwyr a staff, a darpariaeth Gymraeg ar draws y sector addysg drydyddol.

Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Mae hon wedi bod yn flwyddyn nodedig i Medr wrth inni symud o osod sylfeini sefydliad newydd i sicrhau canlyniadau ystyrlon i ddysgwyr, darparwyr a chyflogwyr.

“Gan gydweithio’n agos â’n partneriaid, rydym wedi buddsoddi mwy na £1 biliwn yn y sector addysg drydyddol ac ymchwil, wedi cyflwyno fframwaith rheoleiddio newydd, wedi cryfhau’r broses o ymgysylltu â dysgwyr, ac wedi helpu i lunio cyfeiriad prentisiaethau yn y dyfodol.

“Gyda’i gilydd, mae’r cyflawniadau hyn yn helpu i greu system addysg drydyddol fwy cydgysylltiedig, cynhwysol a chynaliadwy sy’n hybu cyfleoedd, arloesedd a ffyniant yng Nghymru.”

Gosodwyd adroddiad blynyddol Medr ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026 gerbron y Senedd ar 29 Medi 2026.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Medr 2025-26

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Adolygiad Estyn o bresenoldeb a chyfranogiad ôl-16: ymateb Medr

Mae’r adroddiad yn cyd-fynd ag ymrwymiad Medr i gefnogi system addysg drydyddol o ansawdd da, ac yn tynnu sylw at sawl maes lle y gall gweithredu ar y cyd drwy’r sector cyfan atgyfnerthu lefelau ymgysylltu dysgwyr a gwella deilliannau.

Yn benodol, nodwn ganfyddiadau’r adroddiad ynglŷn â’r amrywiol ddulliau a ddefnyddir i gofnodi presenoldeb ac adrodd arno, yr heriau sy’n gysylltiedig â meincnodi data presenoldeb, a’r berthynas gref rhwng presenoldeb, llesiant a llwyddiant dysgwyr

Ymateb i’r prif ganfyddiadau

Mae Medr yn cydnabod casgliad yr adroddiad bod presenoldeb yn dal yn her sylweddol mewn darpariaeth addysg ôl-16, a bod amrywiaeth gymhleth o ffactorau sy’n rhyngberthyn yn dylanwadu ar bresenoldeb, gan gynnwys llesiant dysgwyr, hygyrchedd cludiant, pwysau ariannol, cyflogaeth ran-amser a pherthnasedd cwricwla.

Cawn ein calonogi gan yr enghreifftiau o arferion effeithiol a nodir yn yr adroddiad, gan gynnwys datblygu rolau cymorth bugeiliol arbenigol, ymyriadau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, a’r defnydd cynyddol o ddata presenoldeb ochr yn ochr â dulliau ehangach o fesur cynnydd a llesiant dysgwyr. Mae’r dulliau hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd ystyried presenoldeb o fewn fframwaith ehangach sy’n ymwneud â lefelau ymgysylltu dysgwyr.

Ymateb i’r argymhellion ar gyfer Medr

Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion fel y maent yn berthnasol i Medr ac yn cydnabod y cyfle i atgyfnerthu trefniadau cenedlaethol ar gyfer presenoldeb a chyfranogiad drwy’r sector addysg drydyddol cyfan. Bydd Medr yn ystyried sut y gallem gyfrannu yn y maes hwn yn sgil yr adolygiad arfaethedig o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.

Bydd Medr yn gweithio gyda darparwyr, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol yn y sector i archwilio opsiynau ar gyfer datblygu mwy o gysondeb mewn adroddiadau presenoldeb a chyfranogiad. Gallai hyn gynnwys ystyried diffiniadau cyffredin, codau presenoldeb a threfniadau adrodd er mwyn helpu i sicrhau gwell cymharedd a dealltwriaeth drwy’r sector cyfan. Bydd angen i unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol fod yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth, a chael eu datblygu ar y cyd â darparwyr.

Rydym yn cydnabod argymhelliad yr adroddiad ynghylch cyhoeddi data presenoldeb ôl-16 cenedlaethol, ond hefyd yn cydnabod yr her sy’n gysylltiedig â hyn. Mae’n debygol mai uchelgais hirdymor fyddai hyn, ac y byddai angen buddsoddiad parhaus o ran amser ac adnoddau i’w wireddu. Bydd Medr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr i ystyried dichonoldeb, manteision a goblygiadau ymarferol sefydlu setiau data a threfniadau adrodd cenedlaethol ar gyfer presenoldeb sy’n cefnogi prosesau meincnodi, hunanwerthuso a gwelliant parhaus gan sicrhau cyn lleied â phosibl o faich diangen ar ddarparwyr ar yr un pryd.

Mae Medr yn cydnabod y cryfderau sylweddol sydd eisoes yn bodoli ledled Cymru. Byddwn yn parhau i hwyluso cyfleoedd i ddarparwyr rannu arferion effeithiol, yn enwedig mewn perthynas â monitro presenoldeb, cymorth i ddysgwyr, ymyriadau llesiant a dulliau sy’n atgyfnerthu lefelau ymgysylltu a chyfranogi.

Y camau nesaf

Mae Medr yn croesawu’r adroddiad hwn, sy’n cynnig sylfaen glir ar gyfer trafodaethau pellach ym mhob rhan o’r sector. Mae’r canfyddiadau’n atgyfnerthu’r ffaith bod angen ymateb drwy’r system gyfan er mwyn gwella presenoldeb.

Mae Medr yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion, colegau a rhanddeiliaid eraill i ystyried yr argymhellion yn fanwl a chefnogi gwelliant parhaus mewn lefelau ymgysylltu, presenoldeb, llesiant a deilliannau dysgwyr ledled Cymru.

Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag [email protected].

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/49: Cyllid ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2026-27

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi cynnydd yn y cyllid a ddyfarnwyd i Medr gan Llywodraeth Cymru ar gyfer Prentisiaethau Iau yn y flwyddyn ariannol 2026-27. Mae’r buddsoddiad ychwanegol i gydnabod mwy o ddarpariaeth a chyfranogiad ledled Cymru.

2. Mae’r cyllid ychwanegol a ddyfarnwyd i Medr yn £135,000.

3. Cyhoeddir dogfen ar wahân yn dilyn blwyddyn academaidd 2026/27 yn nodi dyraniadau unigol SAB.

Medr/2026/49: Cyllid ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2026-27

Dyddiad:  30 Medi 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/49

At: Brifathrawon sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol

Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad yma yn cadarnhau cyllid ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau yn 2026-27.

Medr/2026/49 Cyllid ychwanegol ar gyfer Prentisiaethau Iau 2026-27

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Llunio dyfodol Cwricwla Lleol 16 i 18 yng Nghymru

Mae’r blynyddoedd rhwng 16 a 18 oed ymhlith y rhai pwysicaf yn nhaith addysg dysgwr. Mae’n amser pan fydd pobl ifanc yn dechrau arbenigo, archwilio’u diddordebau a chymryd y camau nesaf tuag at addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth.

I gefnogi hyn, mae angen i ddysgwyr gael at amrywiaeth eang o gyfleoedd o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu eu dyheadau ac anghenion eu cymunedau lleol. Dyma ddiben Cwricwla Lleol 16 i 18.

Gan fod cyfrifoldeb am lunio cwricwla lleol wedi trosglwyddo i Medr, mae cyfle i gryfhau cydweithio ar draws Cymru a sicrhau bod pob dysgwr yn gallu elwa o gynigion cwricwlwm cynaliadwy, cynhwysol, sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.

Mae Cwricwlwm Lleol 16 i 18 yn amrediad cyfunol o gyrsiau a chyfleoedd dysgu sydd ar gael i bobl ifanc o fewn ardal awdurdod lleol.

Gall y cyfleoedd hyn gael eu darparu gan ysgolion, sefydliadau addysg bellach, neu drwy drefniadau cydweithredol rhwng darparwyr. Y nod yw sicrhau bod dysgwyr yn gallu manteisio ar ddewis eang o lwybrau academaidd a galwedigaethol sy’n cefnogi dilyniant i’w dewis gamau nesaf.

Yn ei hanfod, mae cynllunio cwricwlwm lleol yn ymwneud â dysgwyr. Mae’n ymwneud â deall beth mae ar bobl ifanc ei angen, pa gyfleoedd sydd ar gael, a sut gall partneriaid weithio gyda’i gilydd i sicrhau’r dewis mwyaf a chefnogi deilliannau llwyddiannus.

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn rhoi cyfrifoldeb am lunio Cwricwla Lleol 16 i 18 i Medr, gan greu un sefydliad sy’n gyfrifol am oruchwylio addysg ôl-orfodol yng Nghymru yn strategol.

Yn rhan o’r rôl hon, bydd Medr yn gweithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion, colegau a phartneriaid ehangach i:

  • Ddatblygu trefniadau cwricwlwm lleol ar draws Cymru.
  • Defnyddio data, tystiolaeth a deallusrwydd i lywio cynllunio a phenderfyniadau.
  • Cefnogi cynigion y cwricwlwm sy’n adlewyrchu galw dysgwyr a blaenoriaethau lleol.
  • Hyrwyddo darpariaeth gynaliadwy a llwybrau dilyniant ystyrlon.
  • Cefnogi cyfleoedd am ddysgu a chyfranogi trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Cydweithio â phartneriaid i ddatblygu dulliau ymarferol a chymesur sy’n adlewyrchu amgylchiadau lleol.

Mae cwricwla lleol effeithiol yn dibynnu ar bartneriaethau cryf a chyd-berchnogaeth. Mae Medr yn chwarae rôl gydweithredol, gan ddod â phartneriaid ynghyd ar draws y system.

Mae awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth lunio cwricwla lleol.

Mae eu gwybodaeth leol a’u dealltwriaeth o ddysgwyr, cymunedau a darpariaeth yn hanfodol i gynllunio effeithiol. Hefyd, maent yn bartneriaid allweddol o ran helpu i wneud y mwyaf o argaeledd cyrsiau a sicrhau bod dysgwyr yn gallu manteisio ar gynnig cwricwlwm eang a chytbwys.

Mae hyn yn cynnwys ystyried:

  • Buddiannau a dyheadau dysgwyr.
  • Cyfleoedd dilyniant i ddysgu a chyflogaeth bellach.
  • Deallusrwydd am y farchnad lafur leol a rhanbarthol.
  • Darpariaeth cyfrwng Cymraeg a pharhad ieithyddol.
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
  • Realiti ymarferol cyflwyno cwricwlwm eang a chynaliadwy.

Trwy ddwyn goruchwyliaeth genedlaethol ac arbenigedd lleol ynghyd, gall partneriaid greu cynigion cwricwlwm sy’n bodloni anghenion amrywiol dysgwyr a chymunedau ar draws Cymru.

Mae cydweithredu bob amser wedi bod yn ganolog i gynllunio cwricwlwm lleol yn llwyddiannus.

Mae’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau yn cydnabod na all yr un sefydliad unigol ddarparu pob cyfle yr hoffai dysgwyr fanteisio arnynt. Felly, caiff ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol eu hannog i gydweithio er mwyn gwneud y mwyaf o ddewis dysgwyr a chreu cynigion cwricwlwm cynaliadwy.

Gall cydweithredu helpu partneriaid i:

  • Ehangu’r amrediad o gyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr.
  • Lleihau dyblygu’r ddarpariaeth yn ddiangen.
  • Gwneud y defnydd gorau o adnoddau sydd ar gael.
  • Cryfhau llwybrau dilyniant dysgwyr.
  • Cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg a mwy o gyfranogiad cyfrwng Cymraeg.
  • Ymateb i anghenion sgiliau a’r farchnad lafur leol.

Yn y pen draw, mae cwricwla lleol llwyddiannus wedi’u hadeiladu ar sail cyd-gyfrifoldeb, deialog agored, ac ymrwymiad cyfunol i roi dysgwyr yn gyntaf.

I gefnogi partneriaid wrth i’r gwaith hwn ddatblygu, bydd Medr yn cynnal dwy webinar sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad Cwricwla Lleol 16 i 18 yng Nghymru yn y dyfodol.

Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i ddeall y canlynol yn well:

  • Ymagwedd Medr at Gwricwla Lleol 16 i 18.
  • Rolau a chyfrifoldebau ysgolion, colegau, awdurdodau lleol, Medr a Llywodraeth Cymru.
  • Sut bydd data a thystiolaeth yn ategu cynllunio’r cwricwlwm a gwneud penderfyniadau.
  • Y cysylltiadau rhwng cynllunio’r cwricwlwm, dilyniant dysgwyr, digonoldeb y cwricwlwm a darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
  • Sut gall partneriaid gydweithio i ddatblygu atebion lleol ymarferol.
  • Canllawiau, cymorth a chyfleoedd ymgysylltu yn y dyfodol.

Mae cofrestru bellach ar agor trwy Eventbrite.

Rydym yn annog cydweithwyr o ysgolion, dosbarthiadau chwech, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach a sefydliadau partner i fynychu a chyfrannu at lunio dyfodol Cwricwla Lleol 16 i 18 yng Nghymru.

Trwy gydweithio, gallwn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu manteisio ar gynnig cwricwlwm eang, cynaliadwy ac ystyrlon, sy’n eu cefnogi i ffynnu mewn addysg, cyflogaeth a bywyd.

Am rhagor or wybodaeth, cysylltwch â [email protected].

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio

Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil yn atgyfnerthu cymunedau ymchwil ledled Cymru

Mae Medr a Chymdeithas Ddysgedig Cymru wedi mynd ati ar y cyd i lansio ail flwyddyn y cynllun Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil (RCNG), sy’n helpu ymchwilwyr, gweithwyr ymchwil proffesiynol a chymunedau ymchwil i gydweithio â’i gilydd i fynd i’r afael â heriau ac atgyfnerthu diwylliant ymchwil ledled Cymru.

Mewn cydnabyddiaeth i werth y mentrau llawr gwlad hyn, buddsoddodd Medr yn y cynllun yn 2025/26 drwy Gronfa Gydweithredol Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC) i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Gronfa Gydweithredol yn rhan o Gronfa WREC ehangach, sy’n cefnogi diwylliant ymchwil drwy ddulliau a arweinir gan sefydliadau a chymunedau. Er y caiff cyfran sylweddol o gyllid WREC ei dyrannu’n uniongyrchol i sefydliadau addysg uwch er mwyn cefnogi gweithgarwch strategol ar lefel sefydliadau cyfan, mae cynllun RCNG yn cynnig dull cydategol o’r gwaelod i fyny drwy fuddsoddi mewn rhwydweithiau a arweinir gan ymchwilwyr/gweithwyr ymchwil proffesiynol.

Mae’r cynllun, sy’n cynnig grantiau gwerth hyd at £3,000, wedi galluogi rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli a rhwydweithiau sy’n datblygu ledled Cymru i fynd i’r afael â heriau a nodwyd gan eu cymunedau eu hunain, gan feithrin cydweithio, cynhwysiant ac arloesedd ar lawr gwlad. Gyda’i gilydd, gall y dulliau hyn o’r brig i lawr ac o’r gwaelod i fyny helpu i greu diwylliant ymchwil mwy cysylltiedig, cefnogol a gwydn ledled Cymru, gan sicrhau y caiff ymchwilwyr ar bob cam gyrfa eu grymuso i ffynnu, cydweithio a gwneud gwaith ymchwil o ansawdd da sy’n arwain at fuddiannau ystyrlon i gymdeithas.

Yn y flwyddyn gyntaf, rhoddwyd cyllid i 14 o rwydweithiau a oedd yn cynnwys prifysgolion, sefydliadau iechyd a chanolfannau ymchwil ledled Cymru. Caiff y prosiectau a gafodd gyllid eu harwain gan ymchwilwyr a gweithwyr ymchwil proffesiynol, gan gynnwys technegwyr a staff cymorth arbenigol, ar amrywiaeth o gamau gyrfa. Mae’r rhwydweithiau’n cynnwys ymchwilwyr gyrfa gynnar, academyddion sydd wedi ennill eu plwyf a chydweithwyr mewn gwasanaethau proffesiynol sy’n gweithio gyda’i gilydd i atgyfnerthu cymunedau ymchwil a gwella’r amgylchedd ymchwil. Mae pum prosiect yn sefydlu rhwydweithiau newydd sbon, ac mae eraill yn canolbwyntio ar dyfu cymunedau sydd eisoes yn datblygu neu gynnal mentrau sydd eisoes ar waith.

Aeth y prosiectau i’r afael ag amrywiaeth eang o heriau sy’n ymwneud â diwylliant ymchwil, gan gynnwys ynysigrwydd ymhlith ymchwilwyr, prinder amser wedi’i neilltuo ar gyfer gwaith ymchwil ac ysgrifennu, hyder a syndrom y ffugiwr, rhwystrau rhag cydweithio, a heriau sy’n wynebu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae sawl menter yn cefnogi menywod, ymchwilwyr anneuaidd a chymunedau ethnig leiafrifiedig yn benodol, ac mae eraill yn canolbwyntio ar atgyfnerthu partneriaethau traws-sector ac ymgysylltu â chymunedau.

Rydym eisoes yn gweld effaith gadarnhaol y rhwydweithiau hyn ar ymchwilwyr ym mhob rhan o’r sector yng Nghymru. Mae cyfranogwyr wedi rhoi gwybod am fwy o amlygrwydd i faterion pwysig sy’n ymwneud â diwylliant ymchwil, gwell cymorth gan gymheiriaid a chyfleoedd newydd i gydweithio. Cafodd un prosiect, sef Rhaglen Fentora Breswyl Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Rhyngwladol Abertawe (SIREN), fwy na 100 o geisiadau am ddim ond 20 o leoedd ac, ers hynny, mae wedi sicrhau cyllid sefydliadol ychwanegol i ehangu ei gweithgareddau a datblygu rhwydwaith cenedlaethol ehangach.

Mae’r rhaglen hefyd wedi cefnogi amrywiaeth o fentrau arloesol, gan gynnwys encilion ysgrifennu i academyddion benywaidd sydd â chyfrifoldebau gofalu (Write Now!), cymunedau ymarfer ar gyfer gweithwyr fferylliaeth proffesiynol, rhwydweithiau ar gyfer gweithwyr technegol proffesiynol ym maes ymchwil, a phartneriaethau sy’n canolbwyntio ar iechyd menywod, newid hinsawdd, academia’r gyfraith a gwaith ymchwil yn y sector gwirfoddol.

Mae’r gwersi cychwynnol sydd wedi cael eu dysgu o’r cynllun yn tynnu sylw at bwysigrwydd parhaus gweithgareddau ar lawr gwlad er mwyn creu amgylcheddau ymchwil cynhwysol a chefnogol. Ymhlith y themâu cyffredin y mae arweinwyr rhwydweithiau wedi eu nodi mae’r angen am fwy o fentora a chymorth gan gymheiriaid, mwy o gyfleoedd i gydweithio rhwng disgyblaethau a sefydliadau, cydnabyddiaeth i fathau amrywiol o arbenigedd, a chysylltiadau cryfach rhwng gwaith ymchwil academaidd a chymunedau ehangach.

Er bod cyllid ar gael ar gyfer 14 o brosiectau, cawsom 72 o geisiadau yn y cylch cyllido cyntaf, sy’n dangos pa mor sylweddol oedd y galw am y cynllun a’r awydd ymhlith ymchwilwyr a gweithwyr ymchwil proffesiynol i ddatblygu diwylliannau ymchwil mwy cysylltiedig, cynhwysol a gwydn ledled Cymru.

Bydd y cylch cyllido newydd, a lansiwyd ar 9 Medi, yn galluogi rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli i adeiladu ar eu cynnydd gan gefnogi cymunedau a syniadau newydd sy’n harneisio brwdfrydedd ac uchelgais y sector i greu ecosystem ymchwil gryfach ar gyfer Cymru ar yr un pryd.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/47: Model Cyllido Prentisiaethau: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad

Crynodeb

Nod Cynllun Strategol Medr yw ‘creu system addysg drydyddol hyblyg a chydgysylltiedig lle gall pawb ddysgu’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy’n newid’. Rydym wedi ymrwymo i ddylunio darpariaeth prentisiaethau ar gyfer y dyfodol mewn ffordd sy’n ymateb i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sgiliau a bodloni anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi. Mae prentisiaethau’n ysgogiad sylweddol i gynyddu cynhyrchiant a helpu i dyfu gweithlu medrus ac amrywiol.

Bydd y rhaglen brentisiaethau newydd yn dechrau ar 1 Awst 2027 a bydd yn fwy ymatebol a hyblyg er mwyn ymateb i’r newidiadau yn ein heconomi.

Ym mis Mai 2026, cynhaliom ymgynghoriad ar ddull cyllido arfaethedig ar gyfer y rhaglen brentisiaethau newydd sy’n arwain at gymwysterau rheoleiddiedig ar lefelau 2-5, a oedd yn cynnwys ymgysylltu â darparwyr addysg drydyddol, cyrff diwydiant, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill.

Gofynnom am safbwyntiau ar y canlynol:

  • Egwyddorion lefel uchel y model cyllido newydd
  • Manteision y model cyllido newydd
  • Canlyniadau anfwriadol rhoi’r model cyllido newydd ar waith
  • Costau ychwanegol prentisiaethau

Bu clywed gan randdeiliaid yn allweddol i helpu Medr i lunio’r model cyllido newydd ac ystyried yn llawn y canlyniadau anfwriadol a nodwyd.

Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o themâu allweddol o’r ymatebion i gwestiynau’r ymgynghoriad a sut rydym wedi penderfynu ymateb wrth gadarnhau’r model cyllido newydd.

Mae Atodiad A yn darparu dadansoddiad manylach o adborth yr ymgynghoriad.

Medr/2026/47: Model Cyllido Prentisiaethau: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad

Dyddiad:  14 Medi2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/47

At:  Benaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr prentisiaethau presennol yng Nghymru / Deiliaid contractau prentisiaethau wedi’u comisiynu; Cyrff cynrychioli dysgwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y model cyllido newydd ar gyfer y Rhaglen Brentisiaethau (sy’n arwain at gymwysterau rheoleiddiedig ar lefelau 2-5) o 1 Awst 2027 ymlaen, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2026.

Medr/2026/47 Model Cyllido Prentisiaethau: Crynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Medr/2026/45: Biwroau Cyflogaeth a Menter: canllawiau a chyllid 2026/27

Crynodeb o’r cyhoeddiad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion a threfniadau cyllido Medr ar gyfer gweithgarwch Biwroau Cyflogaeth a Menter (EEB) yn 2026/27. Mae’n cadarnhau trefniadau monitro, llinellau amser ac yn atodi templedi monitro.

2. Nod y Biwroau Cyflogaeth a Menter yw cyflawni deilliannau cyflogaeth a hunangyflogaeth cadarnhaol ar gyfer myfyrwyr, trwy ddarparu pecyn o gymorth i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, menter ac entrepreneuraidd dysgwyr. Dylid rhoi’r cymorth hwn trwy gydweithio gyda chyflogwyr, Gyrfa Cymru, y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, a phartneriaid allweddol eraill i ddatblygu cyfleoedd i ddysgwyr yn eu rhanbarthau.

3. Dylid defnyddio’r cyllid i barhau i integreiddio darpariaeth menter ac entrepreneuriaeth o fewn y Biwroau Cyflogaeth a Menter, gan amcanu at gynyddu’r cyfleoedd hunangyflogaeth sydd ar gael i ddysgwyr ac ymadawyr, yn ogystal â hybu’r arfer o wreiddio cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth o fewn y cwricwlwm er budd dysgwyr.

Cyllid 2026/27

4. Mae cyfanswm y gyllideb sydd ar gael i gefnogi’r Biwroau Cyflogaeth a Menter rhwng 1 Awst 2026 a 31 Gorffennaf 2027 yn £1,320,000. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £960,000 o gyllid Medr a £360,000 gan Busnes Cymru, y mae’n rhaid ei ddefnyddio i gefnogi’r elfen Menter ac Entrepreneuriaeth o weithgarwch y Biwroau Cyflogaeth a Menter mewn Sefydliadau Addysg Bellach (SABau) yng Nghymru. Bydd cyfanswm y dyraniad yn parhau i gael ei rannu’n gyfartal ar draws 12 SAB yng Nghymru fel bod pob SAB yn cael cyfanswm dyraniad o £110,000 yn 2026/27.

Monitro a ffrâm amser

5. Mae’n ofynnol i SABau gyflwyno adroddiad monitro interim a diwedd blwyddyn, gan ddefnyddio’r templedi yn Atodiad A a B, i Medr erbyn y dyddiadau a nodir yn y llinell amser ym mharagraff 24. Gan bod y cyllid menter ar gyfer 2026/27 yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, bydd gwybodaeth yr adroddir arni wrth Medr yn erbyn y gofynion hynny’n cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru fel y gellir monitro effaith ei chyllid.

Cam GweithreduCyfrifoldebDyddiad
Taliad cyntaf o £83,600 i Fiwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2026/27MedrMedi 2026
Cyflwyno adroddiad interim i MedrBiwroau Cyflogaeth a Menter29 Ionawr 2027
Taliad olaf o £26,400 i Fiwroau Cyflogaeth a Menter ar gyfer 2026/27MedrEbrill 2027
Cyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn i MedrBiwroau Cyflogaeth a Menter30 Gorffennaf 2027
Cyflwyno Datganiad o Wariant i MedrBiwroau Cyflogaeth a Menter31 Awst 2027

Medr/2026/45: Biwroau Cyflogaeth a Menter: canllawiau a chyllid 2026/27

Dyddiad:  08 Medi 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/45

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg bellach

Ymateb erbyn: Cyflwyno adroddiad interim – 29 Ionawr 2027;  Cyflwyno adroddiad diwedd blwyddyn – 30 Gorffennaf 2027

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi gofynion a threfniadau cyllido Medr ar gyfer gweithgarwch Biwroau Cyflogaeth a Menter (EEB) yn 2026/27. Mae’n cadarnhau trefniadau monitro, llinellau amser ac yn atodi templedi monitro.

Medr/2026/45 Biwroau Cyflogaeth a Menter: canllawiau a chyllid 2026/27 v2

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio

Llwybrau prentisiaeth adeiladu newydd ar gael nawr yng Nghymru

Mae fframweithiau prentisiaeth Lefel 2 newydd ar gael nawr yng Nghymru o fewn y sector adeiladu yn dilyn newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a Medr ar 11 Chwefror 2026.

Bydd y cyfleoedd hyn yn gwella amrywiaeth y llwybrau i mewn i’r sector hwn gan greu cyfleoedd newydd i gyflogwyr ddatblygu talent fedrus. Bwriedir iddynt alluogi prentisiaid i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwysedd y bydd eu hangen arnynt i ymuno â’r sector a chamu ymlaen ynddo. Mae’r llwybrau newydd ar gael ar Lefel 2 mewn gosod brics a gwaith saer ar safle ac ar Lefel 3 mewn gorchuddio lloriau ac oeri, aerdymheru a phympiau gwres.

Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Bydd y llwybrau newydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i ddysgwyr a chyflogwyr ar gyfer datblygu sgiliau mewn galwedigaethau adeiladu allweddol. Rydyn ni’n falch o fod wedi gallu cefnogi llwybrau mwy hygyrch er mwyn helpu dysgwyr i ddechrau ar eu gyrfaoedd yn y sector pwysig hwn sy’n tyfu.”

Nodiadau:

  • Caiff y fframweithiau prentisiaeth Lefel 3 presennol mewn gosod brics a gwaith saer ar safle eu diddymu ar 31 Hydref 2026.
  • Caiff llwybrau prentisiaeth Lefel 3 newydd mewn crefft gosod brics a chrefft gwaith saer ar safle eu cyflwyno ym mis Awst 2027, gan gynnig cyfleoedd i gamu ymlaen i’r dysgwyr hynny sy’n cwblhau un o’r prentisiaethau sylfaen Lefel 2 newydd yn y galwedigaethau hyn yn llwyddiannus.
  • Dylai dysgwyr sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i ddilyn prentisiaeth gysylltu â’u coleg addysg bellach neu eu darparwr prentisiaethau lleol.
  • Mae prentisiaethau sylfaen newydd mewn gweithrediadau gwella adeiladau ac mewn sgaffaldio wrthi’n cael eu datblygu a byddant ar gael ar ddechrau 2027.
Rhagor o wybodaeth am fframweithiau prentisiaeth Pwyntiau cyswllt darparwyr prentisiaethau

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio