Adnewyddu fframwaith Digidol 2030
Mae Digidol 2030 wedi sbarduno newid ers 2019, gyda’r nod o greu profiadau digidol mwy cadarnhaol i ddysgwyr a helpu staff i integreiddio offer a thechnolegau digidol yn eu harferion addysgu.
Cafodd y fframwaith gwreiddiol ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2019. Mae’n berthnasol i sefydliadau addysg bellach (colegau), darparwyr prentisiaethau craidd, a darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned.
Ymgymerodd Medr â’r cyfrifoldeb am fframwaith Digidol 2030 ym mis Awst 2024.
Pam mae dysgu digidol yn bwysig?
Mae sgiliau a chymwyseddau digidol yn dod yn gynyddol angenrheidiol mewn bywyd beunyddiol, er mwyn dod o hyd i wybodaeth a defnyddio gwasanaethau allweddol. Yn Digidol 2030, rydym yn canolbwyntio ar y ffyrdd y gellir defnyddio offer a thechnolegau digidol yn effeithiol i gyfoethogi profiadau dysgwyr.
Bydd angen i ddysgwyr ddefnyddio offer a thechnolegau digidol yn eu gweithleoedd yn y dyfodol, felly dylent gael cyfleoedd priodol i ddatblygu sgiliau a hyder digidol. Yn Digidol 2030, rydym yn ystyried y cysylltiadau rhwng sgiliau digidol a’r economi, yn unol â gwaith Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Sgiliau i Gymru.
Mae Digidol 2030 yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod dysgwyr yn datblygu cymwyseddau digidol a thechnegol ochr yn ochr â sgiliau dynol fel llythrennedd gwybodaeth, datrys problemau a meddwl yn greadigol. Dylai datblygiadau digidol gael eu harwain gan strategaeth a’u hysgogi gan addysgeg, a dylent fod yn ymatebol i anghenion dysgwyr a staff. Rydym yn cydnabod bod newid digidol llwyddiannus yr un mor ddibynnol ar bobl a diwylliant ag ydyw ar dechnoleg.
Pam rydym wedi diweddaru’r fframwaith hwn?
Roedd y fersiwn wreiddiol o Digidol 2030 a gyhoeddwyd yn 2019 yn cynnwys ymrwymiad i gynnal adolygiad canol tymor gyda’r bwriad o adnewyddu’r fframwaith. Yn y broses adnewyddu hon, ein nod oedd adlewyrchu’r ffordd y mae’r sector wedi datblygu a chydnabod newidiadau sylweddol i’r cyd-destun a’r dirwedd ar gyfer dysgu digidol, gan gynnwys:
- Y newid cyflym i ‘addysg o bell ar frys’ a oedd yn ofynnol yn ystod pandemig Covid-19 a’r cyfnod adfer dilynol (2020-2021). Tynnodd hyn sylw at bwysigrwydd dull strategol o ymdrin â dysgu digidol a datblygu’r sylfeini cadarn a chydlynol ar gyfer dulliau cyflwyno digidol.
- Argaeledd offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ers diwedd 2022, y ffaith bod diwydiant wedi’u mabwysiadu’n gyflym, a’r goblygiadau i weithgareddau addysgu, dysgu ac asesu. Mae Medr wedi ymrwymo i gyhoeddi datganiad safbwynt ar wahân ar ddeallusrwydd artiffisial mewn addysgu a dysgu erbyn mis Mawrth 2027.
- Daethom yn weithredol ym mis Awst 2024. Rydym wedi achub ar y cyfle hwn i atgyfnerthu cysondeb rhwng Digidol 2030 a’n dull strategol ehangach; yn enwedig yn unol â’n Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a’n gwaith ar hyrwyddo cydweithio ag undebau llafur.
Mae Jisc yn bartner cyflawni allweddol ar gyfer Digidol 2030, a gwnaethom ofyn iddo ymgysylltu â darparwyr dysgu, cyrff cynrychiadol a rhanddeiliaid allweddol wrth baratoi i ddiweddaru’r fframwaith. Cadarnhaodd yr adborth gan ddarparwyr fod Gweledigaeth, Nodau ac Amcanion gwreiddiol Digidol 2030 (sy’n ffurfio asgwrn cefn y fframwaith hwn) wedi’u diogelu’n ddigonol at ydyfodol yn 2019 a’u bod yn dal yn ddilys ac yn werthfawr ar y pwynt canol tymor hwn.
Beth wnaeth Jisc ei ddarganfod?
Daeth yr adolygiad o hyd i gynnydd sylweddol mewn dysgu digidol ledled Cymru, ynghyd â her barhaus i sicrhau bod cynnydd yn troi’n brofiad cadarnhaol i bob dysgwr.
Fel rhan o’r adolygiad, cynhaliodd Jisc grwpiau ffocws a sgyrsiau unigol â phobl o feysydd addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned. Ymhlith y cyfranogwyr roedd uwch-arweinwyr, rheolwr cwricwlwm ac ansawdd, arbenigwyr technoleg ddysgu, cydweithwyr ym meysydd TG a data, a’r rhai sy’n rheoli darpariaeth i oedolion a darpariaeth seiliedig ar waith.
“Rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu mor agored. Myfyriodd pobl ar y ffordd roedd dysgu digidol wedi datblygu yn eu sefydliadau, yr hyn roedden nhw wedi’i gyflawni a’r heriau maen nhw’n dal i weithio i’w goresgyn. Dangosodd eu henghreifftiau fod darparwyr yn gwella mynediad, yn addasu dulliau cyflwyno ac yn cefnogi staff, a hynny’n aml o fewn cyfyngiadau sylweddol.”
Arweinydd y Prosiect, Glyn Rogers (Jisc)
Ochr yn ochr â’r gwaith ymgysylltu hwn, roedd yr adolygiad hefyd yn seiliedig ar sylwadau a gyflwynwyd gan ddarparwyr, canfyddiadau Estyn, ac adroddiadau Dirnadaeth Profiad Digidol Jisc ar gyfer Cymru. Ar y cyfan, roedd y dystiolaeth yn dangos sylfeini digidol mwy cadarn a phrofiadau cadarnhaol o ddysgu digidol yn gyffredinol. Roedd hefyd yn dangos nad oedd arferion unigol da bob amser yn arwain at brofiad cydgysylltiedig i ddysgwyr. Gwelir hyn yn un o’r straeon defnyddwyr sy’n cyd-fynd â’r adolygiad.
Mae’r persbectif hwnnw’n bwysig am fod amgylchiadau, hyder ac anghenion cymorth dysgwyr yn amrywio. Mae rhai’n dal i ddibynnu ar ddarparwyr am offer, cysylltedd a mannau astudio. Ar y llaw arall, mae angen help ar eraill i ddefnyddio technoleg gyfarwydd wrth ddysgu neu weithio. Roedd canfyddiadau’r arolwg hefyd yn tynnu sylw at yr angen i atgyfnerthu cymorth ar gyfer dysgu digidol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd yn cymryd amser a chydgysylltu er mwyn i hyn i gyd ddigwydd. Mae gan arweinwyr canol rôl bwysig i’w chyflawni er mwyn cysylltu uchelgeisiau sefydliadol â’r hyn y mae timau’n ei wneud yn ymarferol. Mae angen i staff gael lle i ddatblygu ffyrdd o weithredu gyda’i gilydd a dysgu oddi wrth gydweithwyr. Siaradodd pobl ag ymrwymiad clir i wella dysgu digidol, gan gydnabod y ffordd roedd llwyth gwaith a phwysau o ran adnoddau yn effeithio ar yr hyn y gallent ei gynnal.
Roedd Digidol 2030 yn werthfawr i ddarparwyr fel pwynt cyfeirio cyffredin, ac roeddent yn croesawu ei hyblygrwydd ar gyfer gwahanol leoliadau. Maent yn awyddus i gael help ymarferol i roi’r uchelgeisiau hynny ar waith mewn profiadau beunyddiol. Dylai’r cam nesaf adeiladu ar y cynnydd, yr arbenigedd a’r ymrwymiad sydd eisoes i’w gweld ym mhob rhan o’r sector, gyda ffocws parhaus ar brofiad dysgu digidol sy’n gyson gadarnhaol a chynhwysol i ddysgwyr ledled Cymru.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Rydym yn gweithio gyda Jisc i ddatblygu rhaglen o weithgareddau a fydd yn ategu’r fframwaith wedi’i adnewyddu, gan ganolbwyntio ar gyfres o bynciau sydd wedi cael eu llywio gan adborth o’r sector a gwaith casglu tystiolaeth arall.
Ein huchelgais ar gyfer y tymor hwy yw gwreiddio ein dull o ymdrin â dysgu digidol yn fwy cadarn yn y dirwedd addysg drydyddol. Mae dogfen fframwaith Digidol 2030 yn nodi rhai camau cychwynnol rydym yn eu cymryd tuag at gyflawni’r nod hwn, yn ogystal â rhai ffactorau hysbys dros y blynyddoedd nesaf a fydd yn dylanwadu ar ein ffordd o weithredu yn y dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth am waith Medr ar ein tudalen Dysgu digidol.
YmholiadauRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioFersiwn wedi’i diweddaru o Fframwaith Digidol 2030 yn ymateb i gyfleoedd a heriau newydd mewn dysgu digidol
- Medr yn cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o fframwaith Digidol 2030 ar gyfer dysgu digidol wedi i’r adolygiad diweddaraf ddangos bod digidol bellach yn perthyn i’r brif ffrwd.
- Mae’r dirwedd dysgu digidol wedi newid ers 2019, yn sgîl cyflymu darpariaeth ddigidol mewn dysgu ac addysgu o ganlyniad i Covid a chyflwyno AI cynhyrchiol.
- Rhoddir gwerth uchel o hyd ar sgiliau digidol ac ar sgiliau dynol ac maent yn dal i fod yn hanfodol i economi Cymru.
Mae offer digidol a thechnoleg ddigidol bellach wedi ymwreiddio’n llawer mwy eang mewn addysg ôl-16 dros y saith mlynedd ddiwethaf ac erbyn hyn ceir diwylliant cynyddol o gydweithio ac arloesi gan ddarparwyr dysgu. I golegau yn arbennig, bu lefelau sylweddol o fuddsoddi i wella seilwaith craidd sy’n tanategu darpariaeth a gwasanaethau digidol.
Roedd hyn yn un o gasgliadau adolygiad canol cyfnod o fframwaith Digidol 2030, yn ôl Jisc, sy’n rhoi cymorth digidol i ddarparwyr addysg uwch ac addysg bellach ledled y DU.
Digidol 2030, a lansiwyd yn 2019, yw’r fframwaith strategol sy’n nodi gweledigaeth gyffredin a nodau cyffredin ar gyfer defnyddio technoleg ddigidol fel rhan annatod o ddysgu ac addysgu, i wella profiad dysgwyr mewn addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned.
Mae Digidol 2030 yn adlewyrchu’r angen i ddysgwyr ddatblygu sgiliau digidol a phrofiad o ddefnyddio offer digidol a thechnoleg ddigidol ochr yn ochr â’r sgiliau dynol, cyswllt wyneb-yn-wyneb a rhyngweithiadau â dysgwyr eraill, tiwtoriaid a staff, sy’n dal i fod yn rhan graidd o’r profiad dysgu.
Roedd adolygiad canol cyfnod Jisc yn cynnwys sgyrsiau gyda darparwyr dysgu a rhanddeiliaid allweddol i ystyried cynnydd yn erbyn uchelgais gwreiddiol Digidol 2030 a pha un a oedd angen diweddaru ei flaenoriaethau.
Canfu’r adolygiad fod cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud tuag at greu sylfaen gref ar gyfer darpariaeth ddigidol, gyda gwella cydlyniad a chysondeb arfer digidol a phrofiadau dysgwyr yn her allweddol i gam nesaf y fframwaith. Fe wnaeth yr adolygiad hefyd gadarnhau perthnasedd a gwerth parhaus cadw’r weledigaeth, y nodau a’r amcanion gwreiddiol.
Mae’r fersiwn wedi’i diweddaru o fframwaith Digidol 2030 yn adlewyrchu:
- Yr angen i wneud profiad dysgwyr yn fwy cydlynus a chyson, gan bod seilwaith digidol, offer digidol a ffyrdd digidol o weithio wedi ymwreiddio’n fwy erbyn hyn.
- Yr angen i hyrwyddo enghreifftiau o arferion da gan ddysgwyr a chanllawiau ymarferol i staff yn y sector.
- Meysydd sydd wedi cael eu blaenoriaethu ar gyfer ystyriaeth bellach neu welliant yn ystod cam nesaf y fframwaith, gan gynnwys darpariaeth ddigidol Gymraeg a dwyieithog well a chynhwysiant digidol gwell.
Meddai James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Mae dysgu digidol o bwys. Gall yr hyblygrwydd y mae’n ei gynnig helpu i leihau rhwystrau i gyfranogiad mewn gweithgareddau dysgu, a chynyddu perchnogaeth dysgwyr ar eu dysgu.
“Mae’r dirwedd ddigidol wedi esblygu’n sylweddol ers datblygu Digidol 2030 yn wreiddiol, gan greu cyfle i fyfyrio ynghylch technolegau sy’n dod i’r amlwg, disgwyliadau newidiol gan ddefnyddwyr a blaenoriaethau strategol newydd. Mae arnom eisiau i ddysgwyr ddatblygu’r galluoedd a hyder digidol a fydd yn eu helpu yn ystod eu taith ddysgu ac yn eu bywydau pob dydd, ac yn eu paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
“Rydym eisoes yn gweld y canlyniadau ymarferol o ran bod dysgwyr yn cael mynediad at fwy o gyfleoedd digidol. Dywedodd un dysgwr eu bod wedi datblygu eu sgiliau trwy fod yn rhan o weithgareddau digidol ehangach eu coleg, cyn iddynt fynd ymlaen i ymgymryd â rôl ddigidol ym myd diwydiant ar ôl cymhwyso.”
Dywedodd Rhys Daniels, Cyfarwyddwr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Jisc:
“Mae adolygiad canol tymor Digidol 2030 Jisc yn amlygu’r cynnydd sylweddol sydd wedi’i wneud gan golegau, darparwyr prentisiaethau a darparwyr dysgu cymunedol i oedolion ledled Cymru. Mae eu harweinyddiaeth, eu harloesedd a’u hymrwymiad i gydweithio wedi helpu i sicrhau bod digidol yn rhan annatod o addysgu a dysgu, ac mae’r cyflawniad hwnnw’n haeddu cael ei gydnabod.
“Wrth i Ddigidol 2030 symud i’w gyfnod nesaf, mae ein hadolygiad yn pwysleisio pwysigrwydd adeiladu ar y sylfeini hynny a sicrhau bod arfer digidol da yn arwain at brofiadau mwy cyson, cynhwysol a chydgysylltiedig i ddysgwyr. Mae hyn yn golygu rhoi cymorth ymarferol i staff ac i’r rhai sy’n arwain addysgu a dysgu, rhannu enghreifftiau o arfer effeithiol ym maes dysgu digidol, cryfhau darpariaeth Gymraeg a hygyrchedd, a helpu darparwyr i ymateb yn hyderus ac yn gyfrifol i ddatblygiadau fel AI.
Digidol 2030: Fframwaith strategol ar gyfer dysgu ôl-16 digidol yng Nghymru – wedi’i ddiweddaru yn 2026 Tudalen we dysgu digidol Medr“Mae arweiniad Medr wrth ddiweddaru Digidol 2030 yn cynnig cyfle pwysig i droi canfyddiadau adolygiad Jisc yn welliannau ystyrlon i ddysgwyr. Rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â Medr a darparwyr ar draws y sector i helpu i ddatblygu canllawiau a chymorth ymarferol sy’n cryfhau dysgu digidol ledled Cymru.”
Nodiadau
Digidol 2030 yw’r fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol mewn addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned. Fe’i lansiwyd yn wreiddiol yn 2019 gan Lywodraeth Cymru ac fe’i crëwyd ar y cyd gyda mewnbwn gan y sector. Mae Jisc yn bartner cyflawni allweddol ar gyfer Digidol 2030.
Fe ysgwyddodd Medr gyfrifoldebau am Digidol 2030 a dysgu digidol mewn amgylcheddau addysg drydyddol ym mis Awst 2024.
Mae AI bellach yn dylanwadu ar ddysgu, addysgu ac asesu o ddydd i ddydd. Mae Medr wedi cyhoeddi canfyddiadau o ddarn o waith archwiliadol ar wahân gan Jisc ochr yn ochr â’r fersiwn wedi’i diweddaru o fframwaith Digidol 2030. Mae Medr hefyd yn datblygu safbwynt ar AI mewn dysgu ac addysgu erbyn mis Mawrth 2027.
Mae Medr wedi gofyn i golegau ddatblygu cynlluniau gwariant cyfalaf digidol tair blynedd ac mae wedi canolbwyntio’r cymorth ar fuddsoddi tymor hwy, mwy strategol, gan gadw hyblygrwydd ar gyfer arloesi ac anghenion sy’n dod i’r amlwg.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/51: Cronfa Fynychu’r Gynhadledd Addysgu a Dysgu ynglŷn â Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu dyraniad untro o £13,200 i gefnogi buddsoddiad mewn datblygiad proffesiynol ar gyfer staff Dysgu Oedolion yn y Gymuned rhan-amser a/neu a delir fesul awr trwy fynychu’r Gynhadledd Addysgu a Dysgu ynglŷn â Dysgu Oedolion yn y Gymuned 2026/27.
2. Bydd hyn yn helpu Medr i gyflawni ei ddyletswydd yn unol ag adran 5 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i hyrwyddo gwelliant parhaus yn ansawdd addysg drydyddol, gan gynnwys drwy gefnogi galluogrwydd a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu addysg drydyddol.
3. At ddibenion y cyllid hwn, mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cyfeirio at ddarpariaeth a gyflwynir gan ddarparwyr y dyrannir Grant Dysgu yn y Gymuned (GDG) iddynt. Mae’r ddarpariaeth hon yn cynnig cyfleoedd dysgu rhan-amser o lefel mynediad i Lefel 2 i ddysgwyr 19 oed a hŷn ac fel arfer fe’i cyflwynir mewn lleoliadau cymunedol.
4. Yn unol â pharagraff 57 yn Medr/2026/16: Buddsoddiad Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, bydd buddsoddiad CLG ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei ddyrannu i Goleg Penybont, fel ym mlwyddyn academaidd 2025/26.
Dyraniad
5. Mae cyfanswm o £13,200 wedi’i ddyrannu’n gyfartal ar draws darparwyr sy’n darparu Dysgu Oedolion yn y Gymuned, fel y nodir yn Nhabl 1.
6. Er bod cyllid Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei ddyrannu gan ddefnyddio fformiwla, mae’r gronfa hon yn cael ei dosbarthu’n gyfartal ar draws darparwyr. Mae hyn yn adlewyrchu ei phwrpas fel ymyriad untro pan fo angen isafswm o adnoddau i alluogi gweithgaredd hyfforddi staff ystyrlon. Mae dull dyrannu cyfartal yn sicrhau cyfle cyson i gymryd rhan ac yn osgoi dyraniadau bach iawn a fyddai’n cyfyngu ar yr effaith, yn enwedig ar gyfer darparwyr llai neu ddarparwyr mewn ardaloedd mwy gwledig.
| Awdurdod lleol | Cyfanswm y dyraniad |
|---|---|
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent | £600 |
| Coleg Pen-y-bont ar Ogwr | £600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | £600 |
| Cyngor Caerdydd | £600 |
| Cyngor Sir Caerfyrddin | £600 |
| Cyngor Sir Ceredigion | £600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | £600 |
| Cyngor Sir Ddinbych | £600 |
| Cyngor Sir y Fflint | £600 |
| Cyngor Gwynedd | £600 |
| Cyngor Sir Ynys Môn | £600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful | £600 |
| Cyngor Sir Fynwy | £600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot | £600 |
| Cyngor Dinas Casnewyddl | £600 |
| Cyngor Sir Penfro | £600 |
| Cyngor Sir Powys | £600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | £600 |
| Cyngor Abertawe | £600 |
| Cyngor Bro Morgannwg | £600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | £600 |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam | £600 |
Defnyddio cyllid
7. Mae’n rhaid i’r cyllid gael ei ddefnyddio i helpu tiwtoriaid rhan-amser a/neu a delir fesul awr i fynychu’r Gynhadledd Addysgu a Dysgu ynglŷn â Dysgu Oedolion yn y Gymuned (dyddiad i’w gadarnhau).
8. Mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol a Choleg Penybont anfon neges e-bost at [email protected] erbyn 31 Gorffennaf 2027 os na ellir dyrannu’r cyllid at y dibenion a amlinellir uchod.
9. Bydd adhawliadau’n cael eu prosesu erbyn mis Hydref 2027.
Medr/2026/51: Cronfa Fynychu’r Gynhadledd Addysgu a Dysgu ynglŷn â Dysgu Oedolion yn y Gymuned
Dyddiad: 23 Hydref 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/51
At: Cyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol; Pennaeth Coleg Penybont
Ymateb erbyn: 31 Gorffennaf 2027
Crynodeb: Dyraniad untro o £13,200 i gefnogi buddsoddiad mewn datblygiad proffesiynol ar gyfer staff Dysgu Oedolion yn y Gymuned rhan-amser a/neu a delir fesul awr trwy fynychu’r Gynhadledd Addysgu a Dysgu ynglŷn â Dysgu Oedolion yn y Gymuned 2026/27.
Medr/2026/51 Cronfa Fynychu’r Gynhadledd Addysgu a Dysgu ynglŷn â Dysgu Oedolion yn y GymunedRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioSta/Medr/14/2026: Mesurau monitro cydraddoldeb hil ar gyfer addysg uwch: rhwng mis Awst 2016 a mis Gorffennaf 2025
Prif bwyntiau
Ymgeiswyr, ceisiadau a chyfraddau cynigion
- Mae cyfrannau’r ymgeiswyr a cheisiadau UCAS â’u domisil yn y DU i gyrsiau israddedig amser llawn yn narparwyr Addysg Uwch (AU) Cymru a oedd o gefndir ethnig leiafrifol wedi cynyddu ar y cyfan rhwng 2016 a 2025. Roedd hyn yn wir am bob un o’r grwpiau cefndir ethnig leiafrifol a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn (Asiaidd, Du, Cymysg ac Arall).
- Mae canran yr ymgeiswyr y gwnaed cynnig iddynt wedi bod yn gyson uwch ar gyfer y rhai o gefndir Gwyn neu gefndir ethnig Cymysg na’r rhai o gefndir Asiaidd, Du neu gefndir ethnig Arall. Roedd hyn yn wir ar gyfer ymgeiswyr 18 oed ac ymgeiswyr o bob oed.
- Mae cyfran yr ymgeiswyr a gafodd eu lleoli ar gyfer mynediad i addysg uwch (a dderbyniwyd ar gwrs) a oedd o gefndiroedd ethnig leiafrifol wedi cynyddu ar y cyfan rhwng 2016 a 2025.
Myfyrwyr
- Mae cyfran y dechreuwyr israddedig o gefndiroedd ethnig leiafrifol â’u domisil yn y DU yn narparwyr AU Cymru wedi cynyddu o 10.3% yn 2016/17 i 19.8% yn 2024/25. Ceir tuedd gyffredinol bod cyfran gynyddol o ddechreuwyr yn dod o bob un o’r grwpiau cefndir ethnig Asiaidd, Du, cefndir ethnig Cymysg a chefndir ethnig Arall, gyda’r cynnydd mwyaf ymhlith y rhai o gefndir ethnig Asiaidd.
- Rhwng 2016/17 a 2024/25, mae myfyrwyr o gefndir ethnig Gwyn yn gyson wedi bod yn fwy tebygol o gael dyfarniad gradd anrhydedd dosbarth cyntaf na myfyrwyr o unrhyw gefndir ethnig arall.
- Mae myfyrwyr o gefndir ethnig Du yn gyson wedi bod yn fwy tebygol o gael dyfarniad gradd ail ddosbarth is neu drydydd dosbarth na myfyrwyr o gefndir ethnig arall.
Staff
- Mae cyfran y staff, yn rhai academaidd ac anacademaidd, o gefndiroedd ethnig leiafrifol wedi cynyddu rhwng 2016/17 a 2024/25. Mae’r cynnydd mwyaf wedi bod ymhlith staff o gefndiroedd ethnig Asiaidd.
- Mae staff academaidd o gefndir ethnig Gwyn wedi bod yn gyson yn fwy tebygol o fod â chyflogaeth ar delerau parhaol na staff o unrhyw gefndir ethnig arall.
- Ar gyfer staff anacademaidd hwythau, y rhai o gefndir ethnig Gwyn fu fwyaf tebygol o fod â chyflogaeth ar delerau parhaol. Fodd bynnag, yn 2024/25 bu cynnydd yng nghyfrannau’r staff o gefndir ethnig Arall a chefndir Cymysg â chyflogaeth ar delerau parhaol a gostyngiad yn y gyfran o gefndir ethnig Gwyn, gan leihau’r gwahaniaeth.
- Mae staff academaidd o gefndiroedd ethnig Du wedi bod yn fwy tebygol o fod yn cael eu cyflogi ar radd ganol neu is o’i gymharu â staff o gefndir ethnig arall. Cyflogwyd cyfran uwch o staff academaidd o’r grwpiau cefndir ethnig Gwyn a chefndir ethnig Arall yn y graddau uwch, o’i gymharu â’r grwpiau cefndir ethnig arall.
- Mae gwahaniaethau rhwng cefndiroedd ethnig yng nghyfran y staff anacademaidd a gyflogir ym mhob gradd wedi lleihau rhwng 2016/17 a 2024/25.
Llywodraethwyr
- Er bod nifer y llywodraethwyr yn sector addysg uwch Cymru yn isel, cynyddodd y gyfran a oedd o gefndiroedd ethnig leiafrifol o 3.0% yn 2017/18 i 16.0% yn 2024/25.
Ystadegau Medr
Sta/Medr/14/2026: Mesurau monitro cydraddoldeb hil ar gyfer addysg uwch: rhwng mis Awst 2016 a mis Gorffennaf 2025
Dyddiad: 22 Hydref 2026
Dynodiad: Ystadegau Swyddogol
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd gan UCAS ac a gasglwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), gan roi ffocws penodol ar gefndiroedd ethnig y rhai sy’n cyflwyno cais i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru, sy’n astudio mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru a staff sy’n gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru.
Thema: Addysg uwch
Ffynhonnell: Data diwedd cylch UCAS a chofnodion Myfyrwyr a Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)
Sta/Medr/14/2026 Mesurau monitro cydraddoldeb hil ar gyfer addysg uwch: rhwng mis Awst 2016 a mis Gorffennaf 2025Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr yn lansio ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr
Mae Medr wedi lansio ei ymgynghoriad ar Fesurau Perfformiad Ansawdd newydd heddiw fel rhan o’i ddull o reoleiddio darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cyflwyno’r mesurau unigol ac yn amlinellu’r ffordd mae Medr yn cynnig eu defnyddio yng nghyd-destun ei fframwaith rheoleiddio.
Bwriedir i’r Mesurau Perfformiad Ansawdd helpu Medr i fod yn gyson wrth asesu cydymffurfiaeth y sector addysg drydyddol â’r amod rheoleiddio ansawdd a gwelliant parhaus.
Bydd y mesurau’n helpu i wneud hyn mewn ffordd gyfannol, ac yn hwyluso dealltwriaeth gyd-destunol gyffredin o berfformiad, y bydd yn ei defnyddio fel sail ar gyfer sgyrsiau â darparwyr ac er mwyn deall blaenoriaethau o ran gwelliant parhaus ym mhob rhan o’r sector.
Uchelgais Medr yw cefnogi ymdrechion darparwyr i wella’n barhaus drwy rannu’r wybodaeth hon, a bydd y mesurau hefyd yn cynnig ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth er mwyn i ddarparwyr eu hunain ddeall eu perfformiad o fewn y sector ehangach ac o fewn eu cyd-destun.
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynrychioli adeg allweddol ar ein taith reoleiddio, ac mae’n dilyn llwyddiant lansio ein fframwaith rheoleiddio ym mis Awst 2026. Rydyn ni’n anhygoel o ddiolchgar am yr ymgysylltu anffurfiol adeiladol sydd wedi bod â’n cynigion hyd yma, a’r adborth sydd wedi cael ei roi drwy ymatebion i waith ymgynghori blaenorol.
“Bydd y cynigion hyn, sy’n seiliedig ar gyngor gan ein Pwyllgor Ansawdd, yn ein galluogi i ffurfio darlun gwell o berfformiad yn y sector, gan weithio tuag at ddatblygu dull cydlynol o ystyried data a thystiolaeth yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru.
Ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar gyfer addysg drydyddol“Rydyn ni’n croesawu pob barn ar y cynigion hyn er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben ac y byddant, yn y pen draw, yn helpu Medr, darparwyr a rhanddeiliaid i ddeall beth sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sector yn well a sicrhau profiad o ansawdd da i’n dysgwyr.”
Nodiadau
Beth maen nhw’n ei gynnwys?
Mae’r mesurau arfaethedig yn adlewyrchu’r meysydd a nodir yn Fframwaith Ansawdd Medr, gan gynnwys cyfraddau cwblhau, cynnydd a chyrchfannau.
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn nodi methodoleg meincnodi Medr, sy’n rhoi meincnod ar gyfer y rhan fwyaf o’r mesurau er mwyn i ddarparwyr ddeall sut beth yw eu perfformiad cyd-destunol pan gaiff ffactorau megis lefel gweithgarwch, lefel y cymhwyster uchaf a enillwyd cyn rhaglen ddysgu, pwnc astudio, cymwysterau mynediad, ac oedran, eu hystyried.
Mae’r Mesurau Perfformiad Ansawdd yn canolbwyntio ar berfformiad ar lefel darparwyr yn y meysydd a nodir yn yr ymgynghoriad. Bydd Medr yn gwneud gwaith ar wahân i gyfleu ei uchelgeisiau hirdymor ar lefel y sector a sut y bydd yn mesur ei gynnydd tuag at gyflawni’r uchelgeisiau hynny, er enghraifft fel rhan o’r gwaith i ddatblygu y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg Drydyddol.
Sut y bydd Medr yn defnyddio’r mesurau?
Bydd Medr yn defnyddio’r mesurau fel rhan o’i waith ehangach i ddadansoddi gwybodaeth am berfformiad er mwyn llywio asesiadau o gydymffurfiaeth darparwyr â’r fframwaith rheoleiddio. Byddant hefyd yn ei helpu i ddeall blaenoriaethau o ran gwelliant parhaus ym mhob rhan o’r sector, a chanfod unrhyw faterion neu dueddiadau mewn data y gall fod angen i drafod gyda darparwr. Fel arfer, bydd unrhyw faterion y mae’n ei nodi o ran perfformiad neu dueddiadau yn arwain at sgwrs â darparwr, er mwyn ei alluogi i roi’r deilliannau yn eu cyd-destun.
Nid yw Medr yn cynnig y bydd y mesurau hyn yn hwyluso dull sy’n seiliedig ar drothwyon ond, yn hytrach na hynny, y bydd y data’n llywio ei waith i ddeall ansawdd a gwelliant parhaus ac ymwneud â’r maes hwnnw drwy’r sector cyfan.
Gan y bydd y mesurau’n cael eu cyhoeddi, bydd y cynigion yn ddefnyddiol i ddarparwyr addysg drydyddol fel sail ar gyfer eu blaenoriaethau eu hunain o ran gwelliant parhaus.
Beth fydd hyn yn ei olygu i ddysgwyr?
Bydd y wybodaeth ar gael yn gyhoeddus, sy’n golygu y bydd dysgwyr yn gallu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â’u llwybrau addysgol. Mae llais y dysgwr yn fesur allweddol a fydd yn llywio gweithgarwch Medr ym maes ansawdd a gwelliant parhaus.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/50: Ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar gyfer addysg drydyddol
Cyflwyniad
1. O dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, mae dyletswydd ar Medr i fonitro a hybu gwelliant yn ansawdd yr addysg a ddarperir gan ddarparwyr cofrestredig neu ar eu rhan, a’r addysg a gyllidir gan Medr neu a sicrheir fel arall ganddo (adran 51).
2. Mae fframwaith rheoleiddio Medr yn nodi’r Amodau Cofrestru a Chyllid y mae’n rhaid i ddarparwyr eu bodloni. Yr amodau hyn yw’r gofynion craidd ar gyfer cydymffurfio ac maent yn berthnasol ar draws y sector addysg drydyddol. Maent yn cynnwys yr amod ar gyfer ansawdd a gwelliant parhaus, sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i ddarparwyr cofrestredig a/neu a gyllidir ddangos bod eu darpariaeth, gan gynnwys yr hyn a ddarperir ar eu rhan, o ansawdd da a’u bod yn ymgysylltu â gwelliant parhaus. Mae hyn o gymorth i gyrraedd Nod Strategol 3 yng Nghynllun Strategol Medr, h.y. sicrhau bod dysgwyr yn cael darpariaeth o’r ansawdd gorau mewn system addysg drydyddol sy’n ymegnïo i wella’n barhaus.
3. Mae’r amod Ansawdd a Gwelliant Parhaus yn nodi mai un o’r gofynion cydymffurfio yw bod â data derbyniol ar berfformiad. Mae’r Fframwaith Ansawdd yn nodi bod Medr yn disgwyl, erbyn 2027, y bydd wedi adolygu trefniadau casglu data ac wedi ymgynghori ar fesurau perfformiad a’r defnydd o feincnodi. Mae’r ddogfen hon yn darparu’r ymgynghoriad hwnnw. Mae’n nodi cynigion Medr ar gyfer mesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar draws addysg drydyddol, a fydd yn rhan o’n monitro rheoleiddiol.
4. Mae’r mesurau a nodir yn y ddogfen hon wedi’u bwriadu i oleuo ein dealltwriaeth am berfformiad darparwyr mewn perthynas ag ansawdd a gwelliant parhaus.
5. Bydd y mesurau hyn yn ategu monitro ehangach ar gyfer meysydd fel cyfrwng Cymraeg, cydraddoldeb, cyfranogiad a mynediad at addysg drydyddol. Bydd Medr hefyd yn gwneud gwaith ar wahân ar nodi a mesur metrigau sefydliadol yn erbyn ein huchelgeisiau hirdymor, a fydd yn ystyried y meysydd hyn.
Nod yr ymgynghoriad a’r rhesymeg
6. 6. Nod y cynigion yw galluogi Medr i sicrhau cysondeb yn y ffordd yr ydym yn asesu cydymffurfedd y sector addysg drydyddol â’r amod ansawdd a gwelliant parhaus. Byddant yn ein cynorthwyo i wneud hyn mewn ffordd gyfannol a byddant yn ategu dealltwriaeth gyd-destunol ar y cyd am berfformiad. Lle y bo’n bosibl, bydd hyn yn disodli cyhoeddiadau presennol, er mwyn symleiddio prosesau adrodd.
7. Mae’r cynigion hefyd wedi’u bwriadu i gynorthwyo darparwyr i fynd ati i hunanwerthuso ac adnabod blaenoriaethau ar gyfer gwelliant parhaus, fel a nodir yn y Fframwaith Ansawdd. Bydd hyn yn helpu darparwyr i’w sicrhau eu hunain eu bod yn ateb gofynion yr amod Ansawdd a Gwelliant Parhaus.
8. Yn olaf, mae’r cynigion wedi’u bwriadu i sicrhau bod asesiad ansawdd allanol yn cael ei oleuo gan set o ddata sydd ar gael i bob parti.
9. Mae Atodiad A yn darparu set o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â data ar berfformiad.
Ymatebion
Gallwch ddod o hyd i gopi o’r cwestiynau ymgynghori yn Atodiad E. Ymatebwch drwy’r ffurflen ar-lein erbyn 9 Rhagfyr 2026 os gwelwch yn dda.
Rhagor o wybodaeth
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch yr ymgynghoriad hwn at [email protected].
Digwyddiadau ar-lein
Byddwn yn cynnal dwy weminar ar-lein a fydd yn galluogi rhanddeiliaid a phartïon â buddiant i glywed mwy am ein mesurau perfformiad ansawdd gyda’r cyfle i ofyn cwestiynau a chanfod rhagor o fanylion o ran sut y bydd y mesurau yn gweithredu:
Digwyddiad 1: (ar-lein) 16 Tachwedd 2026 13.00-14.00
Digwyddiad 2: (ar-lein) 17 Tachwedd 2026 13.00-14.00
Yr un yw’r sesiynau a byddant yn cael eu recordio i gydweithwyr nad ydynt yn gallu ymuno â ni.
Medr/2026/50: Ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar gyfer addysg drydyddol
Dyddiad: 20 Hydref 2026
At: Benaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr cyfredol a darparwyr posibl prentisiaethau yng Nghymru; Cyrff sy’n cynrychioli darparwyr/ cyflogwyr; Cyrff sy’n cynrychioli dysgwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned a darpariaeth chweched dosbarth; Penaethiaid chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
Ymateb erbyn: 09 Rhagfyr 2026
Crynodeb: Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ynglŷn â mesurau perfformiad ansawdd arfaethedig Medr ar gyfer darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru. Byddwn yn dechrau mabwysiadu’r Mesurau yn raddol o fis Mai 2027 ymlaen, ar sail y data sydd ar gael inni bryd hynny. Gwahoddir yr holl ddarparwyr addysg drydyddol a/neu hyfforddiant, cyrff cynrychiadol a rhanddeiliaid eraill i ymateb.
Medr/2026/50 Ymgynghoriad ar fesurau perfformiad ansawdd darparwyr ar gyfer addysg drydyddolDogfennau eraill
- Medr/2026/50 Atodiad A Cwestiynau Cyffredin
- Medr/2026/50 Atodiad B Disgrifiad technegol o sut y mae data’n cael ei echdynnu o'r ffynonellau data a'r mesurau'n cael eu cyfrifo
- Medr/2026/50 Atodiad C Methodoleg feincnodi
- Medr/2026/50 Atodiad D Data enghreifftiol
- Medr/2026/50 Atodiad E Crynodeb o'r cwestiynau ymgynghori
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr yn lansio platfform digidol newydd – Adnoddau Medr
Mae Medr wedi lansio platfform gwybodaeth newydd heddiw ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn lleoliadau trydyddol yng Nghymru.
Bydd Adnoddau Medr yn gweithredu ochr yn ochr â gwefan Medr, ac yn caniatáu i weithwyr addysg proffesiynol gael mynediad at ddeunydd ategol fel pecynnau cymorth, astudiaethau achos a chanllawiau ymarferol.
Gellir cael at ddeunydd digidol sy’n ymwneud â phynciau fel cydraddoldeb, addysg awyr agored, dysgu digidol, iechyd meddwl a mwy trwy’r platfform.
I ddechrau, bydd y platfform hwn yn rhoi mynediad i ddefnyddwyr at ddeunydd a oedd ar gael ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru yn flaenorol, ac sy’n fwyaf perthnasol i staff sy’n gweithio ym meysydd addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned.
Dyma gam cyntaf newidiadau i’r ffordd y mae staff addysg drydyddol yn cael at ddeunydd proffesiynol gan Medr, a bydd yr ystod o ddeunyddiau yn cael ei datblygu dros amser.
Cynhelir Adnoddau Medr gan blatfform dysgu a datblygu digidol Thinqi. Mae’r holl ddeunydd ar gael yn gyhoeddus ar hyn o bryd, ac nid oes angen i ddefnyddwyr gofrestru na chreu cyfrif i gael at y cynnwys.
- Adnoddau Medr ar gyfer adnoddau digidol i weithwyr addysg proffesiynol sy’n gweithio yn y sector trydyddol.
- Hwb yw platfform Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector ysgolion o hyd, ac mae’n cefnogi cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Disgwylir i blatfform newydd Hwb gael ei lansio ar 27 Hydref.
Notes
Hwb is the Welsh Government’s education platform for schools in Wales, to support delivery of the Curriculum for Wales. The platform is designed for the maintained schools sector in Wales, providing access to content, online resources, digital tools and services.
The Hwb platform was previously used as a repository for vocational and post-16 professional resources. This material is now hosted on Adnoddau Medr.
The initial collection in Adnoddau Medr gives Medr a foundation from which to develop its approach to sharing digital resources with the tertiary education and research sector in future.

Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioCyhoeddi pecyn cymorth newydd i hybu cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy mewn addysg uwch yng Nghymru
Cydweithio ar lefel Cymru gyfan ar draws chwe phrifysgol yn cynhyrchu adnodd ymarferol i addysgwyr a gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol
Mae pecyn cymorth ymarferol newydd sydd wedi’i fwriadu i helpu sefydliadau addysg uwch i wreiddio cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy fel rhan o’u haddysgu, eu darpariaeth gyrfaoedd a’u hymarfer sefydliadol wedi cael ei gyhoeddi, a hwnnw wedi’i gyllido gan Medr a’i olygu gan Advance HE.
Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy wedi deillio o gydweithio ar lefel Cymru gyfan a oedd yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, y Brifysgol Agored, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam. Mae’r pecyn cymorth, a ddatblygwyd dros 18 mis trwy Gymuned Ymarfer Cyflogadwyedd Cymru, yn tynnu ar astudiaethau achos ac arbenigedd ar draws sector addysg uwch Cymru ac mae wedi’i fwriadu i fod o ddefnydd ymarferol i unrhyw un sy’n gweithio mewn addysg drydyddol a sydd â chyfrifoldeb am ddarpariaeth cyflogadwyedd, neu ddiddordeb yn hynny.
Mae astudiaethau achos sydd wedi’u cynnwys yn y pecyn cymorth yn enghreifftio sut y mae cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy eisoes yn cael ei wireddu’n ymarferol ar draws prifysgolion Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys menter Marchnata Er Daioni Prifysgol Abertawe, lle mae myfyrwyr yn cymhwyso sgiliau marchnata digidol i brosiectau byw ar gyfer sefydliadau fel Ambiwlans Awyr Cymru; ‘Cynaliadwyathon’ y Brifysgol Agored, her wythnos o hyd sy’n ymdrin â phroblemau cynaliadwyedd go iawn; a rhaglen Lleoedd Newid Hinsawdd Prifysgol Bangor, sy’n cyfuno seminarau, gweithdai ac interniaethau â ffocws ar weithredu ar yr hinsawdd.
Croesawyd y cyhoeddiad gan Emma Mock, Pennaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn Medr:
“Mae’r pecyn cymorth hwn yn gam arwyddocaol ymlaen i gyflogadwyedd mewn addysg uwch yng Nghymru. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Medr i gynorthwyo’r sector addysg drydyddol i arfogi graddedigion â’r sgiliau a’r gwerthoedd y mae eu hangen ar gyfer byd gwaith sy’n newid yn gyflym, a gobeithio y bydd yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau ledled Cymru a’r tu hwnt..”
Meddai Stuart Norton, Pennaeth Rhagoriaeth Addysgol yn Advance HE, a arweiniodd y gwaith i ddatblygu’r pecyn cymorth:
Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy“Mae hwn yn adnodd gwirioneddol ymarferol, wedi’i seilio’n uniongyrchol ar arbenigedd a phrofiad cydweithwyr ar draws chwe phrifysgol yng Nghymru, ac rwy’n ddiolchgar i bob un ohonynt am eu cyfraniadau. Mae graddedigion yn gynyddol yn ceisio gwaith sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd, ac mae ar sefydliadau angen offer i ymateb i’r newid hwnnw. Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy’n rhoi i addysgwyr a gweithwyr gyrfaoedd proffesiynol fframwaith strwythuredig, y gellir ei addasu i wneud union hynny a gobeithio y bydd yn parhau i dyfu wrth i ragor o sefydliadau ychwanegu eu henghreifftiau hwy eu hunain o ymarfer.”
Nodiadau
Mae’r Pecyn Cymorth Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy ar gael yn awr. Gwahoddir sefydliadau sy’n dymuno cyfrannu rhagor o astudiaethau achos neu enghreifftiau o ymarfer i gysylltu â [email protected].
Mae’r pecyn cymorth yn cynnig fframwaith eglur ac iddo bum cam – Archwilio, Adnabod a Chadarnhau, Tyfu neu Leihau yn Unol â’r Anghenion, Gweithredu a Gwerthuso, a Chyfrannu – i helpu sefydliadau i asesu eu darpariaeth gyfredol o ran Cyflogadwyedd Moesegol a Chynaliadwy a’i datblygu ymhellach. Mae wedi’i wreiddio yn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan adlewyrchu ymrwymiad deddfwriaethol unigryw Cymru i feddwl am yr hirdymor lle mae pobl, cymunedau a’r blaned yn y cwestiwn.
Er bod yr astudiaethau achos yn dod o sefydliadau yng Nghymru, mae’r pecyn cymorth wedi’i fwriadu i fod yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, gan rychwantu dysgu ac addysgu, ymchwil, gwasanaethau gyrfaoedd a menter.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/46: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC)
Cyflwyniad
1. Mae’r Gyfalaf Ymchwil Addysg Uwch wedi bod yn cael ei darparu i sefydliadau cymwys yng Nghymru ers 2011. Mae’r cyhoeddiad hwn yn hysbysu sefydliadau addysg uwch (SAU) am y dyraniadau ar gyfer 2026-2027 ac yn darparu canllawiau ar y gofynion adrodd a monitro cysylltiedig.
Cefndir
2. Mae’r Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach (yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg gynt) wedi cadarnhau y bydd yn darparu cyllid HERC i’r pedwar corff ariannu addysg uwch (AU) yn y DU yn 2026-2027. Bydd yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach yn darparu cefnogaeth o £3,985,554 yng Nghymru gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu arian cyfatebol, a fydd yn dod â chyfanswm y gronfa i £7,971,108.
Newidiadau i gyllid HERC
3. Ym mis Mawrth 2026, cadarnhaodd Gweinidog Gwyddoniaeth y DU mewn llythyr at Lywodraeth Cymru y byddai cyllid HERC i Gymru yn gostwng yn raddol rhwng 2026/27 a 2029/30, yn gysylltiedig â diwygiadau ehangach i gyllid cyfalaf Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI). Ar ôl 2026/27, bydd cyllid cyfalaf UKRI a ddarperir drwy Research England yn canolbwyntio ar gynnal cyfleusterau presennol, gyda chyllid ar gyfer offer a seilwaith newydd yn cael ei ddarparu drwy alwadau cystadleuol ledled y DU o dan arweiniad cynghorau ymchwil UKRI.
4. Disgwylir i ddyraniadau dangosol HERC yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach i Gymru leihau dros gyfnod yr adolygiad gwariant, o £3.99 miliwn yn 2026/27 i £2.44 miliwn erbyn 2029/30.
5. Er mwyn rhoi amser i Lywodraeth Cymru, Medr a’r SAU addasu i’r newidiadau hyn, mae’r Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach wedi sicrhau swm atodol at ddyraniadau HERC i Gymru am amser cyfyngedig. Mae’r cyllid ychwanegol hwn wedi’i gynnwys yn y dyraniadau ar gyfer 2026-2027, gan ganiatáu gostyngiad arafach er mwyn cefnogi’r cyfnod pontio.
6. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd HERC yn cael ei gyfyngu i waith cynnal a chadw yn unig; bydd SAU yng Nghymru yn parhau i fod â’r hyblygrwydd i wneud penderfyniadau strategol ynghylch sut i fuddsoddi HERC yn eu seilwaith ymchwil.
Defnyddio cyllid
7. Mae’r cyllid a ddarperir o dan HERC yng Nghymru wedi’i fwriadu ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn y seilwaith ffisegol ar gyfer ymchwil yn unig. Mae ymchwil yn cynnwys ‘ymchwil gwyddonol’ (sef ymchwil a datblygiad mewn unrhyw un o’r gwyddorau, gan gynnwys gwyddorau cymdeithasol neu dechnoleg (adran 6(1) o Ddeddf Gwyddoniaeth a Thechnoleg 1965)) ac ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau.
8. Wrth benderfynu sut i ddefnyddio’r dyryniadau, dylai sefydliadau ystyried y blaenoriaethau a’r uchelgeisiau a nodir yng Nghynllun Strategol Medr 2025-2030, Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru sydd ar ddod (i’w chyhoeddi yn hydref 2026) a’r Strategaeth Arloesi (Cymru’n Arloesi), a Fframwaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Strategaeth Ddiwydiannol a Strategaeth UKRI Llywodraeth y DU. Dylid ystyried hefyd sut y caiff cyllid ei ddefnyddio i gefnogi uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Dyraniadau
9. Caiff cyllid Yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach a Llywodraeth Cymru eu dyrannu ar wahân:
- Dyrennir elfen Yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach o’r cyllid gan ddefnyddio data tair blynedd mwyaf diweddaraf yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar incwm Cyngor Ymchwil UKRI. Yn unol â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach gyda Medr a Llywodraeth Cymru, dylai cyllid ganolbwyntio ar gynnal adrannau rhagorol sydd â màs critigol i gystadlu’n fyd-eang a’r arbenigedd i weithio’n agos gyda busnesau, elusennau a gwasanaethau cyhoeddus.
- Caiff elfen Llywodraeth Cymru o’r grant ei dyrannu pro-rata i gyfuniad o’r dyraniadau ymchwil cysylltiedig ag ansawdd rheolaidd diweddaraf ynghyd ag incwm ymchwil arall a adroddwyd i gofnod cyllid HESA gan y darparwr yn 2022/23, 2023/24, a 2024/25. Defnyddiwyd y dyraniad ymchwil cysylltiedig ag ansawdd ar gyfer 2026/27 yn y fformiwla ariannu ar gyfer HERC 2026-27.
Trothwy ariannu
10. Er mwyn bodloni gofyniad yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach bod y gronfa’n cefnogi rhagoriaeth ac yn meithrin màs critigol, mae’r fformiwla’n cynnwys trothwy isaf o £100,000. Sefydliadau a gyfrifir i fod â dyraniadau sydd uwchlaw’r trothwy cymhwysedd hwn yn unig a fydd yn derbyn cyllid yn 2026-2027.
11. Gellir gweld y dyraniadau cyllid ar gyfer sefydliadau cymwys yn 2026-2027 yn Atodiad A.
Trefniadau monitro
12. Ym mis Chwefror 2026, cyflwynodd sefydliadau fanylion am eu blaenoriaethau ariannu HERC yn y dyfodol ar gyfer 2026-2027. Dylid cadarnhau’r buddsoddiadau hyn a chynlluniau posibl ar gyfer y dyfodol ar gyfer 2026-2027 drwy lenwi a chyflwyno’r ffurflen brisio yn Atodiad B.
- Dylai Rhan 1 o’r ffurflen brisio adrodd ar y defnydd o gyllid a gadarnhawyd yn 2026-2027, gan gynnwys cyfanswm costau buddsoddiadau mawr a ddefnyddiodd gyllid HERC fel cyfraniad. Dylai sefydliadau ddangos lle mae cyllid HERC wedi galluogi a chymell capasiti ymchwil, wedi datblygu blaenoriaethau strategol, ac wedi caniatáu i sefydliadau gystadlu am gyllid ymchwil ac arloesi allanol yn fwy effeithiol.
- Dylid defnyddio Rhan 2 o’r ffurflen brisio i amlinellu blaenoriaethau gwariant ar gyfer 2027-2028 yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd rhagor o gyllid HERC ar gael.
- Rhaid dychwelyd Atodiad B i Medr erbyn 12 Chwefror 2027 fan bellaf.
13. Er mwyn cadarnhau bod HERC wedi’i wario’n llawn, gofynnir i sefydliadau cymwys gyflwyno’r ffurflen brisio Cadarnhau Gwariant yn Atodiad C erbyn 23 Ebrill 2027. Dylai sefydliadau sicrhau eu bod yn ei gwneud yn glir a oes unrhyw gyllid nad yw wedi’i wario wedi’i ymrwymo’n llawn ac, os felly, erbyn pa ddyddiad y bydd yn cael ei wario’n llawn. Gall Medr hawlio cyllid nad yw wedi’i wario sydd heb ei ymrwymo yn ôl.
14. Bydd yr wybodaeth a gyflwynir gan SAU yn yr adroddiadau hyn yn sail i ofynion adrodd Medr ar gyfer Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2027 a’r Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach ym mis Mai 2027. Gallai methiant i ddarparu manylion digonol am brosiectau a gwariant ohirio cadarnhad o ddyraniadau cyllid yn y dyfodol, neu ddangos diffyg effaith bosibl ar gyfer buddsoddiad HERC yng Nghymru a allai wanhau’r ddadl dros barhau i ariannu.
Trefniadau talu
15. Fel y nodwyd yn Atodiad A, bydd cyllid yn cael ei ddosbarthu ar ffurf dau daliad ym mis Medi 2026 ac ym mis Ionawr 2027.
Gwybodaeth/ymatebion pellach
16. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Moss ([email protected]).
Asesu effaith ein polisïau
17. Rydym yn sgrinio asesiadau effaith er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu ac er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb.Rydym hefyd yn ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg, y ddarpariaeth Gymraeg o fewn y sector AU yng Nghymru ac effeithiau posibl ar y nodau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys ein Hamcanion Llesiant. Cysylltwch â [email protected] am ragor o wybodaeth am asesiadau effaith.
Medr/2026/46: Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC)
Dyddiad: 14 Medi 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/46
At: Penaethiaid sefydliadau addysg uwch
Ymateb erbyn: 12 Chwefror 2027 a 23 Ebrill 2027
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu manylion am ddyraniadau 2026-2027 ar gyfer sefydliadau sy’n gymwys i dderbyn cyllid Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch.
Medr/2026/46 Y Gronfa Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 2026-27Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioMedr/2026/48: Ymgynghoriad pellach ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau
Cefndir
1. Ers 2025, mae Medr wedi bod yn cynnal ‘adolygiad dwfn’ o’r sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau, ochr yn ochr â chynnal adolygiad o’r fframweithiau prentisiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Yr amcan oedd pennu addasrwydd y Fframweithiau Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau, h.y. a ydynt yn diwallu angen y diwydiant ac yn diwallu anghenion sgiliau perthnasol sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau Cymru.
2. Bu ymgysylltu a chydweithio helaeth gyda darparwyr prentisiaethau, cyflogwyr, Cymwysterau Cymru a CITB (Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu) yn ystod pob cam o’r broses hon.
Yr ymgynghoriad
3. Lansiodd Medr ymgynghoriad ar 1 Gorffennaf 2026 (Medr/2026/31: Ymgynghoriad ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu). Rydym bellach yn ceisio sylwadau ar lwybr pellach, sef Gwaith Tir/Gweithrediadau Adeiladu (Atodiad A), a fydd yn rhan o’r Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu.
4. Nid oes cwestiynau gosod mewn perthynas â’r llwybrau eu hunain, gan yr hoffem i ymatebwyr rannu eich meddyliau’n rhydd, heb unrhyw gyfyngiadau ar yr ystod o faterion yr hoffech wneud sylwadau arnynt.
5. Yn fwy eang, dylai ymatebwyr ystyried y meysydd canlynol hefyd:
Y Gymraeg
6. A ellid newid y llwybrau newydd arfaethedig i gynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau andwyol, ar y canlynol:
- Cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
- Peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
Effaith ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
7. A ellid newid y llwybrau newydd arfaethedig i gynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau andwyol, ar y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?
Effaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
8. A yw’r llwybrau newydd arfaethedig yn achosi unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol, neu ganlyniadau anfwriadol, o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant?
Ymatebion
9. Dylid e-bostio ymatebion i [email protected] erbyn 14 Hydref 2026.
Medr/2026/48: Ymgynghoriad pellach ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau
Dyddiad: 30 Medi 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/48
To: Yr holl ddarparwyr prentisiaethau yn y sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau yng Nghymru; Yr holl gyflogwyr yn y sector adeiladu a gwasanaethau adeiladau yng Nghymru.
Mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn prentisiaid cyfredol neu flaenorol.
Croesewir sylwadau gan ddarparwyr, cyflogwyr ac unigolion y tu allan i’r sector hwn hefyd.
Ymateb erbyn: 14 Hydref 2026
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyhoeddi ymgynghoriad pellach ar y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau. Y llwybr dan sylw yw Gwaith Tir/ Gweithrediadau Adeiladu.
Medr/2026/48 Ymgynghoriad pellach ynghylch y llwybrau newydd arfaethedig yn y Fframwaith Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau AdeiladauDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioO osod y sylfeini i gyflawni: Medr yn cyhoeddi adroddiad blynyddol 2025–26
2025–26 oedd blwyddyn lawn gyntaf Medr ar waith, gan nodi newid o bwys o’r sefydlu i gyflawni.
Dros y flwyddyn, buddsoddodd Medr fwy na £1 biliwn ar draws y sector addysg drydyddol ac ymchwil, gan gefnogi dros 320,000 o ddysgwyr ledled Cymru.
Ymhlith y cyflawniadau allweddol roedd:
- Lansio fframwaith rheoleiddio Cymru ar gyfer y sector addysg drydyddol cyfan, y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, gan ddod â disgwyliadau o ran ansawdd, ymgysylltu â dysgwyr, llesiant, cydraddoldeb, darpariaeth Gymraeg, llywodraethu a chynaliadwyedd ariannol ynghyd mewn un system.
- Arwain ymgynghoriad cenedlaethol ar ddyfodol prentisiaethau, gan ymgysylltu â dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr, a phennu blaenoriaethau clir ar gyfer rhaglen brentisiaethau fwy hyblyg, cynhwysol ac ymatebol.
- Ehangu darpariaeth Prentisiaethau Iau ledled Cymru, gyda chymorth buddsoddiad o £600,000, gan helpu mwy o bobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio i fanteisio ar lwybrau galwedigaethol a gwella eu presenoldeb, eu hyder a’u cyfleoedd i symud ymlaen.
- Cyhoeddi’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a chryfhau rôl llais dysgwyr ar draws y sector addysg drydyddol, gan sicrhau bod dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i gyfrannu’n ystyrlon at benderfyniadau a llywio eu profiadau dysgu eu hunain.
- Buddsoddi £5 miliwn drwy’r Gronfa Datblygu Strategol, gan gefnogi 12 prosiect cydweithredol sy’n cwmpasu sgiliau, arloesi cwricwlwm, ynni glân, gallu digidol, gweithgynhyrchu uwch, a datblygu economaidd rhanbarthol.
- Cryfhau’r sylfaen dystiolaeth a’r gallu i ddadansoddi, gan gynnwys cyhoeddi adroddiad cyntaf Medr ar gynaliadwyedd ariannol addysg uwch yng Nghymru a dadansoddiad newydd ar draws y system gyfan o’r galw am bynciau a’r ddarpariaeth ohonynt.
- Ennill cydnabyddiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, a ddaeth i’r casgliad fod Medr wedi sefydlu sylfaen gadarn fel cynhyrchydd newydd o ystadegau swyddogol, ac a nododd enghreifftiau o arferion da. Roedd hyn yn gymeradwyaeth bwysig i allu’r sefydliad ym maes dadansoddi a data.
- Bwrw ymlaen â blaenoriaethau strategol o ran tegwch, llesiant a’r Gymraeg, gan gynnwys amodau rheoleiddio newydd sy’n ymwneud â chyfle cyfartal, lles dysgwyr a staff, a darpariaeth Gymraeg ar draws y sector addysg drydyddol.
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn nodedig i Medr wrth inni symud o osod sylfeini sefydliad newydd i sicrhau canlyniadau ystyrlon i ddysgwyr, darparwyr a chyflogwyr.
“Gan gydweithio’n agos â’n partneriaid, rydym wedi buddsoddi mwy na £1 biliwn yn y sector addysg drydyddol ac ymchwil, wedi cyflwyno fframwaith rheoleiddio newydd, wedi cryfhau’r broses o ymgysylltu â dysgwyr, ac wedi helpu i lunio cyfeiriad prentisiaethau yn y dyfodol.
“Gyda’i gilydd, mae’r cyflawniadau hyn yn helpu i greu system addysg drydyddol fwy cydgysylltiedig, cynhwysol a chynaliadwy sy’n hybu cyfleoedd, arloesedd a ffyniant yng Nghymru.”
Gosodwyd adroddiad blynyddol Medr ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026 gerbron y Senedd ar 29 Medi 2026.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Medr 2025-26Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
TanysgrifioAdolygiad Estyn o bresenoldeb a chyfranogiad ôl-16: ymateb Medr
Mae Medr yn croesawu adolygiad thematig Estyn o bresenoldeb a chyfranogiad drwy’r sector addysg ôl-16 cyfan yng Nghymru (sy’n cynnwys colegau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion ledled Cymru). Mae’r adroddiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar batrymau presenoldeb presennol, y ffactorau sy’n dylanwadu ar lefelau ymgysylltu dysgwyr, a’r dulliau y mae darparwyr yn eu mabwysiadu i wella presenoldeb a chyfranogiad. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd presenoldeb fel galluogydd allweddol ar gyfer llwyddiant, cynnydd, llesiant a deilliannau cadarnhaol dysgwyr.
Mae’r adroddiad yn cyd-fynd ag ymrwymiad Medr i gefnogi system addysg drydyddol o ansawdd da, ac yn tynnu sylw at sawl maes lle y gall gweithredu ar y cyd drwy’r sector cyfan atgyfnerthu lefelau ymgysylltu dysgwyr a gwella deilliannau.
Yn benodol, nodwn ganfyddiadau’r adroddiad ynglŷn â’r amrywiol ddulliau a ddefnyddir i gofnodi presenoldeb ac adrodd arno, yr heriau sy’n gysylltiedig â meincnodi data presenoldeb, a’r berthynas gref rhwng presenoldeb, llesiant a llwyddiant dysgwyr
Ymateb i’r prif ganfyddiadau
Mae Medr yn cydnabod casgliad yr adroddiad bod presenoldeb yn dal yn her sylweddol mewn darpariaeth addysg ôl-16, a bod amrywiaeth gymhleth o ffactorau sy’n rhyngberthyn yn dylanwadu ar bresenoldeb, gan gynnwys llesiant dysgwyr, hygyrchedd cludiant, pwysau ariannol, cyflogaeth ran-amser a pherthnasedd cwricwla.
Cawn ein calonogi gan yr enghreifftiau o arferion effeithiol a nodir yn yr adroddiad, gan gynnwys datblygu rolau cymorth bugeiliol arbenigol, ymyriadau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, a’r defnydd cynyddol o ddata presenoldeb ochr yn ochr â dulliau ehangach o fesur cynnydd a llesiant dysgwyr. Mae’r dulliau hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd ystyried presenoldeb o fewn fframwaith ehangach sy’n ymwneud â lefelau ymgysylltu dysgwyr.
Ymateb i’r argymhellion ar gyfer Medr
Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion fel y maent yn berthnasol i Medr ac yn cydnabod y cyfle i atgyfnerthu trefniadau cenedlaethol ar gyfer presenoldeb a chyfranogiad drwy’r sector addysg drydyddol cyfan. Bydd Medr yn ystyried sut y gallem gyfrannu yn y maes hwn yn sgil yr adolygiad arfaethedig o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.
Safoni adroddiadau presenoldeb
Bydd Medr yn gweithio gyda darparwyr, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol yn y sector i archwilio opsiynau ar gyfer datblygu mwy o gysondeb mewn adroddiadau presenoldeb a chyfranogiad. Gallai hyn gynnwys ystyried diffiniadau cyffredin, codau presenoldeb a threfniadau adrodd er mwyn helpu i sicrhau gwell cymharedd a dealltwriaeth drwy’r sector cyfan. Bydd angen i unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol fod yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth, a chael eu datblygu ar y cyd â darparwyr.
Datblygu data presenoldeb cenedlaethol
Rydym yn cydnabod argymhelliad yr adroddiad ynghylch cyhoeddi data presenoldeb ôl-16 cenedlaethol, ond hefyd yn cydnabod yr her sy’n gysylltiedig â hyn. Mae’n debygol mai uchelgais hirdymor fyddai hyn, ac y byddai angen buddsoddiad parhaus o ran amser ac adnoddau i’w wireddu. Bydd Medr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a darparwyr i ystyried dichonoldeb, manteision a goblygiadau ymarferol sefydlu setiau data a threfniadau adrodd cenedlaethol ar gyfer presenoldeb sy’n cefnogi prosesau meincnodi, hunanwerthuso a gwelliant parhaus gan sicrhau cyn lleied â phosibl o faich diangen ar ddarparwyr ar yr un pryd.
Rhannu arferion effeithiol
Mae Medr yn cydnabod y cryfderau sylweddol sydd eisoes yn bodoli ledled Cymru. Byddwn yn parhau i hwyluso cyfleoedd i ddarparwyr rannu arferion effeithiol, yn enwedig mewn perthynas â monitro presenoldeb, cymorth i ddysgwyr, ymyriadau llesiant a dulliau sy’n atgyfnerthu lefelau ymgysylltu a chyfranogi.
Y camau nesaf
Mae Medr yn croesawu’r adroddiad hwn, sy’n cynnig sylfaen glir ar gyfer trafodaethau pellach ym mhob rhan o’r sector. Mae’r canfyddiadau’n atgyfnerthu’r ffaith bod angen ymateb drwy’r system gyfan er mwyn gwella presenoldeb.
Mae Medr yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion, colegau a rhanddeiliaid eraill i ystyried yr argymhellion yn fanwl a chefnogi gwelliant parhaus mewn lefelau ymgysylltu, presenoldeb, llesiant a deilliannau dysgwyr ledled Cymru.
Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag [email protected].
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio